Mae'r ymchwil yn archwilio'r ffyrdd y mae’r Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 wedi effeithio ar gyflawni gwasanaethau gyda phlant a theuluoedd.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Data monitro ar gyfer Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
Nod yr ymchwil oedd edrych ar sut mae cyflwyno'r Ddeddf wedi effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen gyda phlant a theuluoedd.
Roedd ymwybyddiaeth o'r Ddeddf yn uchel ymhlith gweithwyr proffesiynol. Croesawodd llawer yr eglurder y mae'r Ddeddf yn ei ddarparu, gan ddileu amwysedd a chryfhau eu hawdurdod i amddiffyn hawliau plant.
Roedd ymwybyddiaeth o arweiniad proffesiynol yn gymysg. Er bod llawer o weithwyr proffesiynol yn cofio'r ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a anelwyd at y cyhoedd yn gyffredinol, roedd ymwybyddiaeth llai cyson o ddeunyddiau a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol.Lle defnyddiwyd canllawiau, roeddent eu heglurder a'u haddasrwydd yn cael eu gwerthfawrogi.
Mynegodd y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol hyder yn y dulliau a ddefnyddir i adnabod achosion o gosb gorfforol. Fe wnaethant dynnu sylw at werth staff profiadol a chymwys, a chryfder y berthnas rhwng asiantaethau, fel ffactorau sy'n sail i ymarfer effeithiol.
Mae'r Ddeddf wedi cael effaith anghyson ar lwyth gwaith gweithwyr proffesiynol. Adroddodd rhai gweithwyr proffesiynol nad oedd eu llwythi gwaith wedi newid ers cyflwyno'r Ddeddf, gan ei bod yn cyd-fynd â chyfrifoldebau diogelu presennol. Lle adroddwyd bod llwyth gwaith wedi cynyddu, nododd llawer fod prosesau wedi'u mireinio dros amser, sydd wedi helpu i liniaru'r cynnydd hwn.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 660 KB
Cyswllt
Ymchwil plant a theuluoedd
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
