Cyfleoedd cyfoethogi ysgolion: cyllid
Mae £2m o gyllid ar gael i awdurdodau lleol i helpu i gefnogi ysgolion drwy ddarparu cyfleoedd cyfoethogi i ddysgwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Beth yw pwrpas y cyllid
Mae £2m o gyllid ar gael i awdurdodau lleol i helpu i gefnogi ysgolion drwy ddarparu cyfleoedd cyfoethogi i ddysgwyr.
Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau cymdeithasol, diwylliannol, creadigol a chorfforol y tu allan i'r cyd-destun dysgu ffurfiol, gan gynnwys chwarae. Gallai hyn fod yn ystod y diwrnod ysgol a bob pen iddo, a (neu) yn ystod gwyliau ysgol.
Darperir y cyllid i alluogi ysgolion i:
- ddarparu cyfres o weithgareddau a chyfleoedd i ddysgwyr sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol, sy'n briodol i'w hoedran
- cefnogi gweithgareddau sy'n annog dysgwyr i fynychu'r ysgol ac sy'n mynd i'r afael â dadrithiad a (neu) ymddieithrio
- cefnogi gweithgareddau sy'n hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol drwy gynnig mwy o fynediad at brofiadau creadigol, diwylliannol a chwaraeon yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys cyfleoedd i chwarae
- cefnogi mynediad cyfartal i ddysgwyr, gallai hyn olygu teilwra neu gynyddu rhai gwasanaethau i fynd i'r afael ag anfanteision cynhenid neu i sicrhau bod gweithgareddau yn gynhwysol ac ar gael i bob dysgwr yn yr ysgol
- cefnogi darpariaeth yn ystod y diwrnod ysgol a bob pen iddo, a (neu) yn ystod gwyliau ysgol, fel y bo'n briodol
- helpu ysgolion i fod yn ganolfannau i'w cymunedau, nid dim ond yn lleoliadau addysg
- cefnogi partneriaethau â chyrff gwirfoddoli, elusennau lleol, grwpiau ffydd a sefydliadau cymunedol, a sicrhau y gall cymunedau ffynnu fel canolfannau cymdeithasol, hamdden, chwaraeon a diwylliant
- cyllido mentrau presennol neu fentrau newydd (gall amrywiaeth o ddarparwyr mewnol neu drydydd parti ddarparu'r mentrau hyn)
- gwrthbwyso unrhyw gostau blaenorol (o fewn yr amserlen a nodir yn y canllawiau) y mae ysgolion wedi'u hysgwyddo wrth gynnig darpariaeth debyg
- prynu defnyddiau traul, talu partneriaid cyflawni trydydd parti a chefnogi partneriaid cyflawni sy'n gweithio yn yr ysgol
Gall awdurdodau lleol benderfynu sut i ddefnyddio'r cyllid yn unol â'r meysydd gweithgareddau hyn a darperir y cyllid drwy Grant Addysg Awdurdodau Lleol.
Partneriaid cyflawni
Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau yn dymuno gweithio gyda phartneriaid cyflawni, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
- awdurdodau lleol
- darparwyr addysg
- darparwyr gweithgareddau diwylliannol, (er enghraifft, drama, cerddoriaeth, celf)
- gwasanaethau ieuenctid
- darparwyr gofal plant a gwaith chwarae
- gwasanaethau teuluol
- darparwyr chwaraeon a hamdden
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yma: Ysgolion.CyfoethogiAcYmgysylltu@llyw.cymru.
