Cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 21 Mai 2025
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 21 Mai 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Members
Ruth Glazzard, Cadeirydd
Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr (Dros Dro)
Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
Mary Champion, Aelod Anweithredol
Jim Scopes, Aelod Anweithredol
Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
Agor y Cyfarfod
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedyddion o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
- Cytunwyd bod cofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod blaenorol (Mawrth 2024) yn gofnodion cywir o’r trafodaethau.
- Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd ar gyfer ail hanner y cyfarfod, a chadeiriwyd gan y Dirprwy bryd hynny. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan gydymaith y bwrdd ar gyfer ail hanner y cyfarfod.
Adroddiadau
Adroddiad ar Berfformiad
- Hwn fyddai’r adroddiad olaf ar sail y dangosyddion cyfredol, gan y bydd ACC yn canolbwyntio ar ddangosyddion newydd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol (CP) newydd. Dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol blaenorol mae'r dangosyddion wedi gwella yn gyffredinol.
- Wedi'i olygu
Adroddiad SDLG
- Rhannodd cadeirydd newydd y Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau (SDLG) eu myfyrdodau ar y chwarter diwethaf.
- Wedi'i olygu
- O ystyried y strwythur llywodraethiant mewnol newydd, roedd yr SDLG newydd, gyda'i gylch gwaith newydd, wedi cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mai. Trafodwyd dulliau gweithio’r grŵp, a chynhelir gweithdy ym mis Mehefin er mwyn llunio’u cofrestr risg – i asesu pa risgiau sy'n newydd, pa rai sy'n cael eu hetifeddu a'u cadw o fewn y grŵp, a pha rai sy'n cael eu dirprwyo/uwchgyfeirio.
- Bydd fformatau adrodd newydd ar gyfer yr SDLG, y Grŵp Arwain Cyflawni Corfforaethol (CDLG), a Tîm Arwain (TA) yn cael eu datblygu ar gyfer cyfarfod adrodd nesaf y bwrdd.
Cyllid ac Adroddiad y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
Adroddiad y Prif Weithredwr
Adroddiad Trysorlys Cymru
Trafodaeth y Bwrdd
Safonau’r Gymraeg
- Ym mis Chwefror, pasiwyd diwygiadau i reoliadau Safonau'r Gymraeg yn y Senedd. Cynhaliodd swyddfa'r Comisiynydd ddigwyddiad ddiwedd mis Mawrth, ac roedd ACC yn bresennol. Roedd yn fuddiol cael dod i adnabod unigolion er mwyn dod i ddeall y disgwyliadau ar y ddwy ochr, yn ogystal â rhannu arfer da gyda’r sefydliadau eraill sy'n dod o dan y safonau ar yr un pryd.
- Mae ACC wedi cael holiadur a fydd yn llywio eu hysbysiad cydymffurfio drafft (i'w gyflwyno ym mis Mehefin). Mae'r drafft hwn wedi'i rannu gydag arweinwyr tîm er mwyn ceisio’u barn.
- Rhannwyd yr amserlen ddangosol ar gyfer dod yn ddarostyngedig i’r safonau hefyd. Disgwylir i'r hysbysiad cydymffurfio terfynol gyrraedd ym mis Tachwedd, ac y bydd ACC yn cydymffurfio'n ffurfiol ym mis Mai 2026.
- Rhannwyd crynodeb o’r gweithgarwch o fewn y sefydliad hefyd, e.e. pa sgiliau Cymraeg y mae ACC eu hangen, sut mae ymgorffori'r strategaeth ymhellach, a thrafodaethau ynghylch gweledigaeth hirdymor ACC.
Aelod Staff Etholedig (SEM)
Cyflwynwyd yr amserlen, y broses ethol, a'r argymhellion arfaethedig i'r bwrdd, a chymeradwywyd pob argymhelliad gan yr aelodau anweithredol. Cytunwyd na ddylai enwebiadau fod yn ddi-enw (am y rhesymau a nodir yn y papur), ac na fyddai 'SEM amgen' yn cael ei gynnwys yn y dull yn y dyfodol; dylai pob aelod o staff gael cyfle cyfartal i ymgeisio pryd bynnag fo swydd yn wag.
Cau’r Cyfarfod
- Rhannodd yr aelodau eu meddyliau ar drafodaethau'r dydd, a oedd yn cynnwys myfyrio ar gau chwarter olaf y flwyddyn ariannol, ac edrych ymlaen tuag at bennod newydd yn hanes ACC: gyda chynllun corfforaethol newydd, mesurau newydd, a gwaith Rhaglen Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol yn cyd-fynd â’r amserlen, mae ymdeimlad o hyder ar drothwy’r newidiadau hyn.
- Nodwyd pwysigrwydd ymgysylltu â’n rhanddeiliaid presennol a rhai newydd o bosibl, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl yn deall Ein Dull. Mae diwylliant y sefydliad yn dal i fod yn gryf – mae hyn yn gryfder ac yn sylfaen cadarnhaol i adeiladu arno.
- Gofynnwyd a fydd y rhagolwg yn cynnwys cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn galendr dreigl lawn.
- Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 24 Mehefin.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.
