Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae mudo yn parhau i chwarae rhan hanfodol ym mywiogrwydd diwylliannol, cryfder economaidd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ein gwlad yn eithaf clir: poblogaeth yn heneiddio, prinder sgiliau parhaus, ac esblygiad yng ngofynion economi fodern ac arloesol. Mae’r pwysau hyn yn cael eu teimlo, a byddant yn parhau i gael eu teimlo, ymhob rhan o’n cymunedau, ein busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae’n hanfodol sicrhau bod Cymru’n gallu cael mynediad at y bobl iawn a’r sgiliau iawn ar yr adeg iawn er mwyn i ni ffynnu fel gwlad yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at Gam 2 adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Fudo o’r Rhestr Prinder Dros Dro. Er ein bod yn cefnogi uchelgais Llywodraeth y DU i gryfhau sgiliau domestig ac annog buddsoddiad hirdymor yn y gweithlu, mae yr un mor bwysig fod system mewnfudo’r DU yn adlewyrchu’r realiti mewn gwahanol wledydd a rhanbarthau. Mae marchnad lafur Cymru yn unigryw. Mae wedi cael ei siapio gan ein demograffeg, ein treftadaeth ddiwydiannol, ac anghenion sectorau sy’n hanfodol i’n cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r adolygiad hwn yn cael ei gynnal ar adeg pan fo sectorau sylfaenol fel iechyd, gofal cymdeithasol, lletygarwch, amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yn wynebu prinder difrifol yn y gweithlu. Mae’r sectorau hyn, llawer ohonynt yn dibynnu’n drwm ar recriwtio rhyngwladol, yn hanfodol i weithrediad cymdeithas Cymru o ddydd i ddydd. Mae perygl y bydd cyfyngu ar lwybrau mudo yn y meysydd hyn yn gwaethygu’r pwysau presennol ar wasanaethau cyhoeddus, cymunedau a busnesau. Rhaid i ni sicrhau bod system fewnfudo’r DU yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion sectorau uchel eu twf sydd o bwys strategol, a’r sectorau sylfaenol sy’n cynnal ein heconomi a’n llesiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gryfhau ein gweithlu domestig drwy fuddsoddi mewn sgiliau, prentisiaethau a dysgu gydol oes. Fodd bynnag, mae’r mesurau hyn yn cymryd amser, ac yn y tymor byr i ganolig, mae recriwtio rhyngwladol yn rhan bwysig ac angenrheidiol o’n strategaeth ar gyfer y gweithlu. Mae’n hanfodol fod y Rhestr Prinder Dros Dro, a’r system fewnfudo yn ehangach, yn cefnogi datblygiad marchnad lafur gynaliadwy yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r Pwyllgor Cynghori ar Fudo i sicrhau bod polisi mudo yn y dyfodol yn adlewyrchu anghenion ein heconomi, ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus. Mae system deg ac ymatebol sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn hanfodol os ydym am sicrhau twf economaidd cynaliadwy, gwella cynhyrchiant, a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn wlad groesawgar a ffyniannus.

Wrth ddatblygu ein hymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu ystadegau, adroddiadau academaidd ac wedi ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru. Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid sydd wedi cyfrannu at ymateb Llywodraeth Cymru ac wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Pwyllgor Cynghori ar Fudo a Llywodraeth y DU.

Jane Hutt AS

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cefndir

Ar 12 Mai 2025, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fewnfudo o’r enw “Restoring Control over the Immigration System”. Roedd hwn yn amlinellu strategaeth y llywodraeth ar gyfer sefydlu system fewnfudo sy’n meithrin twf economaidd ac yn sicrhau rheolaeth briodol.

Yn y cyd-destun hwn, ac yn benodol yn dilyn y cynnydd yn y trothwy sgiliau ar gyfer y fisa Gweithiwr Medrus, y cyflwynwyd y Rhestr Prinder Dros Dro. Bwriad y Rhestr Prinder Dros Dro oedd caniatáu mynediad i’r system fewnfudo ar gyfer “rhestr gyfyng o alwedigaethau lle mae prinder difrifol... ochr yn ochr â strategaethau ar gyfer y gweithlu i gynyddu cyfraddau hyfforddi a chyfranogi yn y DU.” Mae’r Papur Gwyn ar Fewnfudo hefyd wedi sefydlu profion pwysig y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i alwedigaeth 3 i 5 y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (FfCRh) gael ei gosod ar y Rhestr:

  • A yw’r alwedigaeth yn hanfodol i’r Strategaeth Ddiwydiannol neu i seilwaith hanfodol? (Ystyriaeth Cam 1).
  • A yw’r alwedigaeth yn brin, nawr neu yn y dyfodol agos? (Ystyriaeth Cam 2).
  • A yw’n synhwyrol i fudo gyfrannu at leihau’r prinder? (Ystyriaeth Cam 2).
  • A oes gan y sectorau sy’n dibynnu ar yr alwedigaeth hon gynlluniau credadwy i wneud y defnydd gorau posibl o’r gweithlu domestig? (Ystyriaeth Cam 2).

Mae’r Rhestr Prinder Dros Dro wedi cael ei chynllunio’n benodol i ddarparu mynediad â chyfyngiad amser i’r system fewnfudo ar gyfer y galwedigaethau FfCRh 3 i 5 lle nodwyd prinder hirdymor, ac y barnwyd eu bod yn hanfodol i gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol y DU neu seilwaith hanfodol. 

Oni bai ei fod yn cael ei roi ar y Rhestr Prinder Dros Dro (neu’r Rhestr Gyflogau Mewnfudo wedi’i diweddaru sy’n parhau tan 31 Rhagfyr 2026), ni fydd galwedigaethau’r FfCRh 3 i 5 yn cael mynediad mwyach at y system fewnfudo. Felly, gellir ystyried bod y Rhestr Prinder Dros Dro yn cyfrannu mewn modd allweddol at ddarparu mynediad at fudo medrus ar gyfer galwedigaethau yr ystyrir eu bod yn hanfodol i Strategaeth Ddiwydiannol ac agenda twf y llywodraeth.

Ni fydd unrhyw alwedigaethau islaw Lefel 6 y FfCRh yn cael mynediad at fisâu gwaith o hyn ymlaen, ac eithrio grŵp o alwedigaethau sgiliau canolig a fydd yn cael mynediad amser cyfyngedig oherwydd eu bod:

  1. yn hanfodol i’r Strategaeth Ddiwydiannol neu i seilwaith hanfodol a
  2. mae’r sectorau wedi dangos prinder gweithlu a’r camau y maent yn eu cymryd i ddefnyddio gweithwyr domestig, yn buddsoddi mewn hyfforddiant, ac yn mynd ati’n effeithiol i reoli risgiau camfanteisio

Yr Adolygiad o’r Rhestr Prinder Dros Dro

Ar 2 Gorffennaf 2025, roedd Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth y DU wedi comisiynu’r Pwyllgor Cynghori ar Fudo i gynnal adolygiad manwl o ofynion cyflog ar gyfer fisâu gwaith ac wedi gofyn am gyngor ar y Rhestr newydd.

Gofynnodd yr Ysgrifennydd Cartref am gyngor ar dri phrif faes:

  • Y galwedigaethau sy’n hanfodol i gyflawni’r Strategaeth Ddiwydiannol neu i seilwaith hanfodol
  • Pa rai o’r galwedigaethau hynny y dylid eu cynnwys ar y Rhestr, gan gynnwys asesiad o strategaethau gweithlu sectorau er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o’r gweithlu domestig
  • Telerau ac amodau’r fisa ar gyfer y Rhestr, gan gynnwys capiau fisâu a hyd fisâu

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ymateb i Lywodraeth y DU o fewn 12 mis i’r comisiwn.

Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu cynnal yr adolygiad mewn dau gam. Yng Ngham 1 (sydd bellach wedi’i gwblhau, cafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi ar 9 Hydref 2025) roedd y Pwyllgor wedi nodi'r galwedigaethau sy’n gymwys i’w cynnwys ar y Rhestr, a ddiffinnir fel rhai a allai fod yn hanfodol i gyflawni’r Strategaeth Ddiwydiannol neu seilwaith hanfodol.

Mae Cam 2 yn rhedeg o lansiad y cais am dystiolaeth ar 5 Tachwedd tan fis Gorffennaf 2026.

Fel rhan o Gam 2, mae’r Pwyllgor yn gofyn am ragor o dystiolaeth am y galwedigaethau a basiodd Gam 1 er mwyn nodi pa rai o’r galwedigaethau hyn y maent yn argymell eu hychwanegu at y Rhestr, ac mae’r ymateb hwn yn ymwneud â hynny. Rhaid cyflwyno’r holl ymatebion i’r Pwyllgor erbyn y dyddiad cau, sef 2 Chwefror 2026.

Canfyddiadau Cam 1

Cyhoeddwyd adroddiad Cam 1 ar y Rhestr gan y Pwyllgor ar 9 Hydref 2025, ac mae’n nodi pa alwedigaethau a ddylai symud ymlaen i Gam 2 i’w hadolygu ymhellach. Mae’r adroddiad yn cynnwys 82 o alwedigaethau ar lefelau FfCRh 3 i 5, wedi’u dewis ar sail eu pwysigrwydd strategol i Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth a’u cyfraniad at seilwaith hanfodol y DU. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod galwedigaethau’n aros ar y rhestr am 3 blynedd er mwyn galluogi sectorau i fynd i’r afael â phrinder dros dro a datblygu strategaethau gweithlu domestig. Mae’r Rhestr yn disodli’r Rhestr Cyflogau Mewnfudo flaenorol ac yn creu llwybr i weithwyr medrus lenwi swyddi ar lefelau FfCRh 3 i 5 lle mae prinder llafur gwirioneddol yn bodoli. Darllenwch wybodaeth ar y galwedigaethau a nodir yn yr adroddiad cam 1 ar GOV.UK.

Ein hymateb i’r adolygiad o’r Rhestr Prinder Dros Dro

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y Rhestr wedi cael ei chreu yng nghyd-destun cymell cwmnïau i gyflogi a buddsoddi mewn gweithwyr domestig fel ffordd o fynd i’r afael â phrinder, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar yr agenda hon. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig, gan gynnwys drwy Grŵp Tystiolaeth y Farchnad Lafur (LMEG) sydd newydd gael ei greu, i gasglu a rhannu tystiolaeth am sefyllfa’r gweithlu, lefelau hyfforddiant a chyfranogiad y farchnad lafur ddomestig.

Fodd bynnag, mae cyfyngiadau data ar hyn o bryd yn ei gwneud yn anodd i’r Llywodraethau Datganoledig gyfrannu’n llawn at drafodaethau a thystiolaeth ar faterion yn ymwneud â’r farchnad lafur a dibyniaeth ar weithwyr tramor. Felly, mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar roi trosolwg o dirlun economaidd a demograffig Cymru, gyda dadansoddiad lefel uchel o’n sectorau pwysig ochr yn ochr â thystiolaeth o rai o’r bylchau sgiliau a nodwyd. Oherwydd y cyfyngiadau mewn data galwedigaethol ar lefel ddatganoledig, cydnabyddir mai cyfyngedig braidd yw ein gallu i ddylanwadu ar y galwedigaethau ar y Rhestr.

Demograffeg Cymru 

Rhaid i’r Pwyllgor a Llywodraeth y DU ystyried demograffeg Cymru wrth ystyried y Rhestr yng nghyd-destun y cyflenwad llafur ehangach a ffyniant economaidd.

Ar hyn o bryd, Cymru sydd â’r gyfran uchaf o bobl 65 oed a hŷn o blith holl wledydd y DU, ac mae ein poblogaeth yn parhau i heneiddio. Dros y degawd yn arwain at 2019, roedd cyfran y bobl yng Nghymru o oedran gweithio (rhwng 16 a 64 oed) wedi gostwng yn raddol. Ers hynny, mae’r duedd honno wedi lefelu. Yn 2024, 61.1% o’r boblogaeth oedd o oedran gweithio, a rhagwelir y bydd y gyfran hon yn parhau i ostwng dros y 25 mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r gostyngiad ym mhoblogaeth yng Nghymru yn anochel, a’i bod yn agored i ymyriadau polisi amrywiol. Rydym eisoes yn cymryd camau trawslywodraethol i wneud Cymru yn wlad deniadol i fyw, i weithio ac i astudio ynddi, ond byddai system fewnfudo sy’n cydnabod gwahaniaethau demograffig a daearyddol yn lleddfu rhai pwysau yng Nghymru.

Fodd bynnag, pe bai’r tueddiadau a nodwyd yn parhau, a mudo net yn gostwng, byddai hyn yn creu risg o weithlu llai o faint yng Nghymru yn y dyfodol, yn effeithio ar sylfaen drethu Cymru ac yn arwain at oblygiadau ehangach i berfformiad economaidd cymharol yn ogystal ag i gymdeithas Cymru yn y dyfodol. Bydd Rhestr Prinder Dros Dro sy’n canolbwyntio ar alwedigaethau sy’n gysylltiedig â Strategaeth Ddiwydiannol y DU a throthwyon cyflog uwch yn sicr o olygu y bydd sectorau yng Nghymru sy’n ddibynnol ar weithwyr rhyngwladol yn llwyr, oherwydd materion demograffig, yn ei chael yn fwyfwy anodd recriwtio yn y dyfodol.

Ystadegau mudo Cymru

Ar 27 Tachwedd, roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi ei bwletin diweddaraf ar Long-term international migration, provisional year ending June 2025. Ar gyfer y DU y mae’r amcangyfrifon hyn. Nid yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon mudo rhyngwladol hirdymor ar gyfer Cymru ar hyn o bryd. 

Mae'r prif ganfyddiadau’n cael eu hamlinellu isod:

Mudo net

  • Mae mudo rhyngwladol net hirdymor yn parhau i ostwng ar gyfer y DU, gydag amcangyfrif dros dro fod mudo net tua 204,000 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, sef dwy ran o dair yn is na’r flwyddyn flaenorol (649,000 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024). 
  • Mae’r gostyngiad mewn mudo net yn cael ei sbarduno gan lai o wladolion o’r tu allan i’r UE+ yn cyrraedd am resymau sy’n ymwneud â gwaith ac astudio, a chynnydd graddol parhaus mewn lefelau allfudo.
  • Mudo o’r tu allan i’r UE+ sydd wedi bod yn gyrru’r duedd gyffredinol ers 2021. Yr amcangyfrif mudo net dros dro ar gyfer gwladolion nad ydynt o’r UE+ oedd 383,000 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, gan barhau â’r duedd am i lawr ers 2022. 
  • I’r gwrthwyneb, roedd grwpiau o wladolion yr UE+ a Phrydain wedi gweld mwy o bobl yn gadael y DU nag yn cyrraedd. Amcangyfrifir dros dro fod mudo net gwladolion yr UE+ yn 70,000 negyddol, gan barhau â’r duedd am i lawr ers y refferendwm yn 2016 ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, a 109,000 negyddol ar gyfer gwladolion Prydain, gan aros yn weddol sefydlog.

Mewnfudo

  • Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, amcangyfrifwyd dros dro fod mewnfudo hirdymor i’r DU yn 898,000, sef gostyngiad o 401,000 o’r amcangyfrif o 1,299,000 ar gyfer y flwyddyn wedi’i diweddaru a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024. Mae hyn yn parhau’n duedd am i lawr o’r uchafbwynt o 1,469,000 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.
  • Roedd y rhan fwyaf o bobl a gyrhaeddodd y DU yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 yn wladolion o’r tu allan i’r UE+, ac amcangyfrifir bod 670,000 ohonynt, sy’n ostyngiad o’r 1,063,000 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024. 
  • Mae’r gostyngiad hwn wedi digwydd yn bennaf oherwydd bod llai o bobl yn cyrraedd ar fisâu sy’n dibynnu ar waith ac astudio, lle bu gostyngiad o tua 70%.

Allfudo

  • Yr amcangyfrif dros dro o nifer y bobl sy’n allfudo o’r DU yn y tymor hir ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 oedd tua 693,000. Mae hyn 43,000 yn uwch na’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024.
  • Roedd y rhan fwyaf o bobl a adawodd y DU yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 yn wladolion o’r tu allan i’r UE+ (286,000), gydag oddeutu hanner y rhai a adawodd yn wreiddiol yn cyrraedd ar fisâu sy’n gysylltiedig ag astudio.
  • Mae nifer y gwladolion Prydeinig a allfudodd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 (252,000) bellach ar lefelau tebyg i allfudo o’r tu allan i’r UE+.

Er bod yr ystadegau hyn yn cynrychioli data ar lefel y DU, mae modd er hynny i wneud rhagdybiaethau fod nifer y mudwyr sy’n teithio i Gymru i weithio neu i astudio yn parhau i fynd ar lwybr am i lawr. Bydd y llwybr hwn, ynghyd â phoblogaeth sy’n gostwng ac yn heneiddio a lefel cyflog blynyddol is na chyfartaledd y DU, yn sicr o arwain at brinder llafur ar draws nifer o sectorau yng Nghymru, nid dim ond y rhai sy’n cyflawni ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol y DU.

Dadansoddiad Lefel Uchel o Sectorau Twf y Strategaeth Ddiwydiannol yng Nghymru 

Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fewnfudo yn nodi’n glir mai nod y diwygiadau mewnfudo arfaethedig, ymysg pethau eraill, yw cefnogi anghenion sgiliau a chyflenwad llafur Strategaeth Ddiwydiannol y DU sydd wrthi’n datblygu. 

Rydym yn croesawu cynnwys amrywiaeth o alwedigaethau a fydd yn hanfodol i dwf sectorau allweddol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r tablau isod yn dangos lle mae cyflogaeth wedi tyfu’n gyflymach o’i gymharu â Phrydain. Nodir mai’r sectorau twf sydd wedi’u nodi yng Nghymru yw Gweithgynhyrchu Uwch, Ynni Glân, Amddiffyn, Digidol a Thechnolegau, Gwyddorau Bywyd a’r Diwydiannau Creadigol, felly byddem yn disgwyl i’r sectorau hyn yn arbennig dyfu yn y dyfodol.

Newid mewn Cyflogaeth ar gyfer Sectorau Twf y Strategaeth Ddiwydiannol yng Nghymru 2018 i 2024
Diwydiant20182024Newid% y newidTwf uwch na Phrydain?
Gweithgynhyrchu Uwch.39,00036,000-3,000-7.7%No
Ynni Glân (Diffiniad LlC)74,00092,00018,00024.3%Nac oes
Diwydiannau creadigol28,00027,000-1,000-3.6%Oes
Amddiffyniad4001,000600150.0%Nac oes
Digidol a Thechnoleg55,00055,00000.0%Oes
Gwasanaethau Ariannol33,00034,0001,0003.0%Nac oes
Gwyddorau Bywyd6,0007,0001,00016.7%Oes
Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes124,000111,000-13,000-10.5%Oes
Pob diwydiant1,339,0001,349,00010,0000.7%Nac oes

Ffynhonnell: Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth (ONS/NOMIS).

Mae’r tabl isod yn rhoi rhestr o is-sectorau penodol mewn gwasanaethau ariannol a gweithgynhyrchu sy’n tyfu’n gyflym a lle rydym yn debygol o weld cynnydd yn y galw am alwedigaethau allweddol yn y tymor byr i ganolig.

Newid Cyflogaeth ar gyfer Is-sectorau Dethol yng Nghymru 2018 i 2024
Diwydiant2024% y Newid 2018/2024Twf uwch na Phrydain?
64: Gweithgareddau Gwasanaethau Ariannol, ac eithrio yswiriant a chyllid pensiwn14,0007.7%Oes
24: Gweithgynhyrchu Metelau sylfaenol11,000+10%Oes
26: Gweithgynhyrchu cynnyrch cyfrifiadurol, electronig ac optegol7,00016.7%Oes
27: Gweithgynhyrchu Cyfarpar Trydanol6,00050%Oes
33: Atgyweirio a gosod peiriannau a chyfarpar8,000+14.3%Oes
64: Gweithgareddau Gwasanaethau Ariannol, ac eithrio yswiriant a chyllid pensiwn14,0007.7%Oes
66: Gweithgareddau ategol i wasanaethau ariannol a gweithgareddau yswiriant17,00070%Oes

Ffynhonnell: Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth (ONS/NOMIS).

Mae’r rhestr isod yn dangos ffigurau cyflogaeth ar gyfer sectorau pwysig yn economi Cymru rhwng 2018 a 2024, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi gweld twf mewn cyflogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn dangos bod y sectorau hyn yn ganran sylweddol o’r economi yng Nghymru. Nodir hefyd bod cyfansoddiad demograffig Cymru yn golygu bod lefelau cyflogaeth uwch yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol o’i gymharu ag economi ehangach y DU. Mae’n anochel y bydd newidiadau i batrymau mudo yn y dyfodol yn golygu y bydd bylchau sgiliau yn y dyfodol yn cynyddu ac y bydd yn yn dod yn fwy heriol llenwi swyddi gwag yn y sectorau allweddol hyn yn y dyfodol.

Newid Cyflogaeth ar gyfer Is-sectorau Dethol yng Nghymru 2018 i 2024

Codau SIC

 

Sectorau Allweddol

 

2024 Cyflogaeth % o’r holl gyflogaeth yng Nghymru% Twf
2018-2024
01Cynhyrchu cnydau ac anifeiliaid, hela a gweithgareddau gwasanaethau cysylltiedig38,0002.8%2.7
10Gweithgynhyrchu bwydydd23,0001.7%0%
45Cyfanwerthu a manwerthu masnach ac atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur25,0004.2%1.9%
55Llety29,0002.1%7.4
56Gweithgareddau gwasanaethau bwyd a diod83,0006.2%3.8
86Gweithgareddau iechyd pobl135,00010%8.0
88Gweithgareddau gwaith cymdeithasol heb lety49,0003.6%11.4

Ffynhonnell: Y Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (ONS/NOMIS).

Sectorau eraill heb gael eu nodi yn y Strategaeth Ddiwydiannol

Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fewnfudo yn nodi’n glir mai nod y diwygiadau mewnfudo arfaethedig, ymysg pethau eraill, yw cefnogi anghenion sgiliau a chyflenwad llafur Strategaeth Ddiwydiannol y DU sydd wrthi’n datblygu. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd Strategaeth Ddiwydiannol y DU, nid yw anghenion sgiliau Cymru o reidrwydd yn gyfystyr â rhai Lloegr na gweddill y DU yn anffodus, ac mae hyn yn golygu bod galwedigaethau a sectorau sy’n ddibynnol ar weithwyr rhyngwladol ac a fydd bellach y tu allan i gylch gwaith y Rhestr Prinder Dros Dro; galwedigaethau sy’n arwyddocaol i economi a diwylliant Cymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Mae cyfyngu cwmpas yr adolygiad o’r Rhestr Prinder Dros Dro i alwedigaethau yr ystyrir eu bod yn arwyddocaol o ran cyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi golygu nad yw nifer o sectorau yng Nghymru wedi cael cyfle i gyflwyno tystiolaeth ar gyfer galwedigaethau y maent yn cael trafferth eu llenwi ar hyn o bryd.

Manwerthu, Amaethyddiaeth, Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gweithgynhyrchu Bwyd a Lletygarwch yw rhai o nifer o sectorau yng Nghymru sy’n dibynnu ar weithwyr rhyngwladol â sgiliau is am nifer o resymau arwyddocaol. Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod yr un mor bwysig rhoi adborth ar wybodaeth am yr 81 o alwedigaethau a nodwyd yng nghyhoeddiad Cam 1 y Pwyllgor, yn ogystal â galwedigaethau eraill sy’n arwyddocaol i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Ystadegau cyflog ar gyfer Cymru

Yn ei adolygiad diweddar o’r Rhestr Prinder Dros Dro a gyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2025, roedd y Pwyllgor wedi argymell y dylid gosod y trothwy cyffredinol ar gyfer y Rhestr o leiaf cyn uched â 30ain canradd dosbarthiad enillion blynyddol llawn-amser y DU (tua £30,900), gan sicrhau bod mudwyr yn cael cyflog sy’n rhoi safon byw resymol. 

Bydd y gallu sydd gan Gymru i ddenu talent i weithio mewn galwedigaethau allweddol yn y diwydiannau twf a nodir yn y Strategaeth Ddiwydiannol yn ffactor pwysig o ran llwyddo i sicrhau buddsoddiad a gwella lefelau cynhyrchiant yng Nghymru.  Er nad yw’r Pwyllgor o blaid gwahaniaeth rhanbarthol yn y trothwyon, maent yn cynnig y dylai galwedigaethau ar y Rhestr Prinder Dros Dro barhau i fod â throthwyon cyflog sy’n benodol i alwedigaeth ar y canolrif ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r dull hwnnw yn absenoldeb amrywiad rhanbarthol.

Bylchau/llifau sgiliau

Yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (ESS) 2024 yw’r seithfed mewn cyfres o arolygon mawr dros y ffôn yn y DU sy’n darparu gwybodaeth am y farchnad lafur ar yr heriau sgiliau sy’n wynebu cyflogwyr. Yn 2024, roedd Arolwg 2024 wedi cynnwys 22,712 o gyfweliadau â chyflogwyr yn y DU, gan gynnwys 5,605 o gyflogwyr yng Nghymru. Mae canfyddiadau Arolwg Sgiliau Cyflogwyr ar gyfer Cymru yn awgrymu’r canlynol:

  • mae cyflogwyr yng Nghymru yn wynebu mwy o heriau yn 2024 o ran recriwtio’r sgiliau angenrheidiol o’i gymharu â blynyddoedd cynharach (2011 i 2017)
  • nodwyd bod dros chwarter (28%) yr holl swyddi gwag yng Nghymru yn anodd eu llenwi oherwydd nad yw ymgeiswyr yn meddu ar y sgiliau, y profiad na’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyflogwyr (h.y. swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau), gan ostwng o 35% yn 2024, ond yn uwch nag yn 2011 i 2017 (18% i 27%). Roedd y ffigur hwn yn debyg ar draws y gwledydd yn 2024, er ei fod ar ei uchaf yng Nghymru
  • roedd swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn effeithio fwyaf ar y sectorau Gweithgynhyrchu ac Adeiladu yng Nghymru, gyda mwy na hanner y swyddi gwag yn cael eu nodi gan gyflogwyr fel swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau ym mhob un (54% ar gyfer Gweithgynhyrchu a 53% ar gyfer Adeiladu)

Mae dros chwarter cyflogwyr Cymru wedi recriwtio, neu wedi ceisio recriwtio, gwladolion o’r tu allan i’r DU i lenwi swyddi gwag anodd eu llenwi. Er mai dyma’r gyfran isaf ymysg gwledydd y DU, roedd cyflogwyr Gweithgynhyrchu ac Iechyd a Gwaith Cymdeithasol yn fwy dibynnol ar recriwtio gwladolion o’r tu allan i’r DU:

  • Mae 27 (27%) o gyflogwyr yng Nghymru wedi recriwtio, neu wedi ceisio recriwtio, gweithwyr sy’n wladolion o’r tu allan i’r DU i lenwi swyddi gwag anodd eu llenwi; 20% ohonynt yn wladolion o’r tu allan i’r DU sydd eisoes yn byw yn y DU, 6% wedi symud / wedi bwriadu symud i’r DU ar gyfer y swydd, ac 1% wedi parhau / am barhau i fyw dramor). Y ffigurau hyn oedd y gyfran isaf ymysg gwledydd y DU.
  • Er nad oes data ar gael ar gyfer pob sector yng Nghymru oherwydd cyfyngiadau maint y sampl, cyflogwyr yn y sectorau Gweithgynhyrchu (53%) ac Iechyd a Gwaith Cymdeithasol (48%) oedd fwyaf tebygol o recriwtio neu geisio recriwtio pobl o’r tu allan i’r DU i lenwi swyddi gwag anodd eu llenwi.

Cyflogwyr yn y sector Iechyd a Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru sydd fwyaf dibynnol ar staff sy’n gweithio yn y DU ar fisa:

  • Dywedodd 6 (6%) o gyflogwyr yng Nghymru fod ganddynt staff sy’n preswylio fel arfer y tu allan i’r DU ac sy’n gweithio yn y DU ar fisa ar hyn o bryd. Ni ofynnwyd y cwestiwn hwn i wledydd eraill y DU felly nid oes modd cymharu. Ymysg y cyflogwyr hyn yng Nghymru, dywedodd tua thraean (34%) eu bod wrthi’n noddi fisâu ar gyfer unrhyw aelod o’u staff sy’n dod o’r tu allan i’r DU. 
  • Roedd cyflogwyr Iechyd a Gwaith Cymdeithasol (25%) yng Nghymru dros ddwywaith yn fwy tebygol o fod â staff ar fisa na chyflogwyr mewn sectorau eraill, ac yna Gwestai a Bwytai (12%) a Gweithgynhyrchu (8%).
  • Roedd y tebygolrwydd o gael unrhyw staff yn y DU ar fisa yn cynyddu gyda maint y safle yng Nghymru. Dywedodd bron i hanner (45%) y safleoedd mwyaf sydd â 100 neu fwy o weithwyr fod ganddynt staff yn gweithio yn y DU ar fisa, o’i gymharu â 2% o’r safleoedd lleiaf sydd â rhwng 2 a 4 o weithwyr.

Amcanestyniad cyflogaeth

Mae’r Skills Imperative 2035 yn bartneriaeth ymchwil strategol sy’n cael ei harwain gan y National Foundation for Educational Research ac yn cael ei hariannu gan Sefydliad Nuffield i geisio canfod y sgiliau cyflogaeth hanfodol y bydd pobl eu hangen i weithio erbyn 2035. Mae’r Skills Imperative yn cynnwys amcanestyniadau cyflogaeth hyd at 2035, gan gynnwys amcanestyniadau ar gyfer Cymru.

  • Rhagwelir y bydd cyflogaeth yng Nghymru yn tyfu 5.4% rhwng 2020 a 2035, sy’n cyfateb i gynnydd o tua 78,400 yn fwy o bobl mewn cyflogaeth. Mae’r cynnydd a amcanestynnir yn llai na’r amcanestyniad ar gyfer y DU (7.4%) dros yr un cyfnod.
  • Gan edrych ar amcanestyniadau yn ôl sector busnes, y sector sydd â’r cynnydd disgwyliedig mwyaf mewn cyflogaeth rhwng 2020 a 2035 yw Iechyd a Gwaith Cymdeithasol, sydd â chynnydd amcanestynedig o 38,200, sy’n cyfateb i gynnydd o 17.4%. Hwn oedd y sector mwyaf yn 2020, ac amcanestynnir y bydd yn parhau felly yn 2035, gan dyfu’n llawer cyflymach na’r ail sector mwyaf, sef Masnach Cyfanwerthu a Manwerthu (amcanestyniad o dwf o 3,200 neu 1.5%). Mae’r amcanestyniadau hyn yn dangos y posibilrwydd o alw cynyddol yn y dyfodol mewn Iechyd a Gwaith Cymdeithasol, ac oherwydd dibyniaeth gyfredol y sector ar wladolion nad ydynt o’r DU a staff ar nawdd fisa (fel y nodir yn yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024, uchod) maent yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau cyflenwad cynaliadwy o weithwyr medrus.
  • Y tu ôl i Iechyd a Gwaith Cymdeithasol, mae’r cynnydd amcanestynedig mwyaf yn y nifer a gyflogir i'w weld mewn Addysg (11,900), Llety a Bwyd (10,700), Gwasanaethau Proffesiynol (9,500) a Gwasanaethau Cefnogol (9,500). 
  • Mae amcanestyniadau twf sectoraidd yn tueddu i fynd i’r un cyfeiriad ar gyfer Cymru a’r DU, gydag ambell eithriad. Mae’r rhain yn cynnwys Cyllid ac Yswiriant, y rhagwelir y bydd yn cynyddu yng Nghymru ond yn gostwng yn y DU; Eiddo Tirol, y rhagwelir y bydd yn gostwng yng Nghymru ond yn tyfu yn y DU; a Gwasanaethau Eraill, y rhagwelir y byddant yn gostwng yng Nghymru ac yn aros yn gymharol ddigyfnewid yn y DU.
  • Gellir gweld bod cymwysterau lefel uwch yn dal i ehangu ymhlith y rhai sydd mewn gwaith. Rhwng 2020 a 2035, amcanestynnir y bydd cyfran y rhai mewn cyflogaeth sydd wedi cymhwyso ar lefel 6 neu uwch yn y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig yn cynyddu o 31.6% i 43.9%
  • Yr effaith groes sydd i’w gweld ar gyfer y rhai sydd â chymwysterau lefel is neu sydd heb gymwysterau. Amcanestynnir gostyngiadau mawr yng nghyfran y rhai mewn cyflogaeth yng Nghymru sy’n meddu ar FfCRh Lefel 2 (25.6% i 16.4%) a FfCRh Lefel 1 (11.7% i 6.8%), tra rhagwelir gostyngiadau mwy cymedrol yng nghyfran y bobl gyflogedig sy’n meddu ar FfCRh Lefel 3 (19.8% i 17.9%) ac nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau (4.0% i 3.5%).

Ymatebion sy’n benodol i’r sector yng Nghymru

Awyrenneg

Mae pryder cyffredinol na all ac na fydd modd i’r galwedigaethau sy’n gysylltiedig â pheirianneg awyrenegol yn y dyfodol gael eu llenwi gan gyflenwad llafur y DU yn unig. Mae nifer o alwedigaethau wedi’u rhestru ar y Rhestr sy’n bwysig i’r sector yn y DU a Chymru, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) technegwyr peirianneg, dadansoddwyr data, technegwyr trydanol ac electronig, technegwyr gwyddoniaeth, peirianneg a chynhyrchu. Mae’r sector wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ei bod yn bwysig fod y galwedigaethau hyn yn aros ar y rhestr er mwyn ein galluogi i barhau i weithredu yng Nghymru a’r DU yn ehangach ac y byddant, yn eu tro, yn sicrhau twf ar gyfer y DU gyfan ac, yn bwysig iawn, yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Strategaeth Ddiwydiannol y DU. 

Iechyd

Yn GIG Cymru, mae rolau SOC 3132 yn rhan annatod o dimau cymorth digidol a TG lleol a chenedlaethol, gan sicrhau bod staff clinigol a gweinyddol yn gallu cael mynediad dibynadwy, diogel ac amserol at systemau digidol hanfodol. Mae’r rolau hyn yn parhau i wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff, gan adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y farchnad lafur mewn proffesiynau digidol a TG. 

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wrthi’n datblygu gallu domestig drwy’r Strategaeth Ddigidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gwreiddio sgiliau digidol a data ar draws y gweithlu, ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cryfhau cymorth digidol arbenigol.

Felly, rydym yn croesawu cynnwys SOC 3132 ar y Rhestr i helpu gwasanaethau i barhau tra bydd mentrau datblygu hirdymor ar gyfer y gweithlu yn dod i rym. 

Gofal cymdeithasol

Mae rolau gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, naill ai y tu allan i’r cwmpas neu’n anghymwys i’w cynnwys ar y Rhestr Prinder Dros Dro. Mae hyn yn peri pryder oherwydd bod y ddibyniaeth ar weithwyr tramor ym maes gofal cymdeithasol yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru, gyda rhai darparwyr yn dibynnu’n fawr ar weithwyr tramor i gynnal gwasanaethau. Mae gweithwyr tramor wedi helpu i lenwi bylchau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hebddynt, byddai llawer o wasanaethau’n ei chael hi’n anodd gweithredu, gan arwain at oedi mewn gofal a mwy o bwysau ar awdurdodau lleol a darparwyr. Oherwydd diffyg data ar lefel ddatganoledig, nid oes gennym niferoedd cywir o weithwyr tramor yng Nghymru. Fodd bynnag, mae adborth gan ddarparwyr ac undebau llafur yng Nghymru yn nodi’n glir fod recriwtio rhyngwladol yn hanfodol yn y sector hwn. 

Yn y cyfnod rhwng cyfrifiad 2011 a chyfrifiad 2021, roedd canran y boblogaeth 65 oed a hŷn yng Nghymru wedi codi i 21.5%, o’i gymharu ag 18.6% yn Lloegr. Mae hyn yn golygu bod y galw am ofal yn cynyddu, tra bo’r sector yn parhau i wynebu heriau parhaus o ran recriwtio a chadw staff, heb ddigon yn y gweithlu i ddiwallu’r angen cynyddol hwn. Mae newidiadau Llywodraeth y DU i fewnfudo eisoes wedi creu ansicrwydd sylweddol ar draws y sector, gyda’r atal ar recriwtio dramor i rolau gofal cymdeithasol a’r cynnydd yn y trothwy ar gyfer isafswm cyflogau. Gallai’r mesurau hyn waethygu’r prinder presennol yn y gweithlu, gan roi pwysau ychwanegol ar ddarparwyr ac awdurdodau lleol, a chael effaith uniongyrchol ar y system iechyd yn ehangach. Gall oedi wrth drefnu pecynnau gofal atal pobl rhag gadael yr ysbyty, gan greu straen ychwanegol ar gapasiti’r GIG a llif cleifion. 

Yn ogystal ag eithrio o’r Rhestr, mae’r newidiadau hyn yn golygu ein bod yn paratoi ar gyfer dyfodol heb unrhyw weithwyr tramor newydd yn cael eu recriwtio i ofal cymdeithasol. Er bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynlluniau hyfforddi a recriwtio a chadw domestig, mae’r rhain yn cymryd amser ac adnoddau. Heb system hyblyg ac opsiynau recriwtio eraill, fel recriwtio dramor, mae gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu risgiau difrifol i gynaliadwyedd y gweithlu, a bydd hyn yn effeithio ar bobl a chymunedau agored i niwed.

Y celfyddydau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn croesawu cynnwys galwedigaethau sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau ar y Rhestr Prinder Dros Dro.

Mae dawns a cherddoriaeth yn benodol mor rhyngwladol o ran y gweithlu, mae angen iddynt wneud yn siŵr bod y sector yng Nghymru a’r DU yn gallu cael gafael ar y doniau gorau. Mae’r trothwyon cyflog presennol ar gyfer fisâu eraill, ynghyd â gofynion eraill system bwyntiau’r DU, yn golygu ei bod yn anodd i artistiaid fodloni’r gofynion. Bod ar y Rhestr yw un o’r unig ffyrdd y gall y sector gael gafael ar y doniau sydd eu hangen i barhau. 

Mae sefydliadau fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a NoFit State Circus i gyd yn cyflogi artistiaid, cerddorion, actorion, dawnswyr, coreograffwyr ac ati rhyngwladol, ac mae angen iddynt fod yn gallu cael gafael ar y doniau gorau o bob cwr o’r byd. Darllenwch adroddiad Canolfan Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol

Mae cwmnïau dawns yng Nghymru yn poeni am yr anawsterau y byddai tynnu dawnswyr a choreograffwyr oddi ar y rhestr yn eu hachosi i’r sector. 

Addysg uwch

Mae sector addysg uwch ac ymchwil y DU yn dibynnu ar weithlu technegol medrus iawn. Mae gweithwyr technegol proffesiynol yn sail i ymchwil, addysg ac arloesedd o’r radd flaenaf, e.e. maent yn gweithredu a chynnal cyfarpar datblygedig i hyfforddi myfyrwyr ac ymchwilwyr mewn sgiliau beirniadol. Heb y gallu i recriwtio a chadw’r gweithlu hwn, bydd uchelgeisiau’r DU ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a gweithgynhyrchu uchel eu gwerth, fel yr amlinellwyd yn y Strategaeth Ddiwydiannol ddiweddar, yn cael eu tanseilio.

Heb dechnegwyr, ni all prifysgolion a sefydliadau ymchwil ddarparu ymchwil, addysg nac arloesedd o’r radd flaenaf. Felly, rhaid i bolisi mewnfudo fod yn rhan o’r ateb i’r prinder presennol o weithwyr medrus sy’n byw yng Nghymru i lenwi’r galwedigaethau hyn.

Heb y gallu i recriwtio a chadw’r gweithlu hwn, bydd uchelgeisiau’r DU ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, fel yr amlinellwyd yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yn cael eu tanseilio. Mae’r rhain yn rolau nad ydynt yn hawdd eu llenwi gan y farchnad lafur ddomestig, ac nid ydynt ychwaith yn feysydd lle mae’n hawdd uwchsgilio’n gyflym. Mae’n hanfodol fod Sefydliadau Addysg Uwch yn gallu llenwi swyddi yn FfCRh 3 i 5 sy’n cefnogi eu seilwaith academaidd a gweithredol, a byddai cynnwys y rolau hynny ar y Rhestr yn cefnogi hynny.

Cafodd yr Ymrwymiad i Dechnegwyr, a gafodd ei harwain gan y Sefydliad ar gyfer Sgiliau a Strategaeth Dechnegol a’i lansio yn 2017, ei dylunio i fynd i’r afael â heriau recriwtio systemig. Mae dros 130 o brifysgolion, sefydliadau ymchwil a sefydliadau sector wedi llofnodi’r Ymrwymiad ac yn cymryd camau pendant. Fodd bynnag, bydd yn cymryd amser i adeiladu llif domestig cynaliadwy. Wrth i brentisiaethau, addysg a mentrau datblygu gyrfa gael eu hehangu, rhaid i’r sector allu parhau i recriwtio’n fyd-eang yn y tymor byr i ganolig.

Mae prifysgolion a sefydliadau ymchwil yn chwarae rhan ddeuol fel prif gyflogwyr technegwyr ac fel hyfforddwyr gweithlu’r dyfodol, ond yn y tymor byr rhaid i’r DU allu recriwtio’n fyd-eang er mwyn parhau’n gystadleuol.

Mae’r sector wedi galw am flaenoriaethu rolau technegol ar y Rhestr, gan alluogi prifysgolion a sefydliadau ymchwil i barhau i recriwtio’n rhyngwladol.

Mae prifysgolion wedi cymryd camau rhagweithiol drwy’r Ymrwymiad i Dechnegwyr i gryfhau llif y gweithlu ond mae’n anochel y bydd cynaliadwyedd yn cymryd amser. Felly, rhaid i’r polisi mewnfudo gefnogi anghenion recriwtio uniongyrchol drwy gydnabod bod y rolau technegol canlynol yn rhai medrus a’u rhoi ar y Rhestr Prinder Dros Dro:

  • 3111: Technegwyr labordy
  • 3119: Technegwyr gwyddoniaeth, peirianneg a chynhyrchu n.e.c.
  • 3131: Technegwyr gweithrediadau TG
  • 2132: Technegwyr cymorth i ddefnyddwyr TG
  • 3133: Gweinyddwyr cronfeydd data a thechnegwyr cynnwys y we
  • 3533: Technegwyr ariannol a chyfrifyddu

Cyflogaeth yn y trydydd sector

Mae sefydliadau trydydd sector yng Nghymru wedi mynegi pryderon fod nifer o alwedigaethau sy’n berthnasol iawn i anghenion economaidd Cymru, llwybrau cyflogaeth mudwyr a chynllunio gweithlu sefydliadol wedi cael eu nodi “Tu Allan i’r Cwmpas” yn yr adolygiad o’r Rhestr Prinder Dros Dro, gan gynnwys:

  • rheolwyr elusennau a’r sector gwirfoddol (cyfres SOC 1241, 1250)
  • gweithwyr ieuenctid a chymunedol (SOC 3231)
  • rheolwyr busnes, prosiect a gweithrediadau mewn lleoliadau trydydd sector (SOC 1135)
  • galwedigaethau gyrru (gan gynnwys dosbarthu, gyrru fan, tacsis/cerbydau hurio preifat, logisteg)
  • rolau mynediad a lletygarwch lefel ganolradd
  • rolau cefnogi’r blynyddoedd cynnar (is na FfCRh 6)

Mae’r dosbarthiad arfaethedig yn creu dwy her sylweddol, sef y bydd yn cyfyngu ar nawdd dilys gan gyflogwyr ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector, yn enwedig cyflogwyr sy’n cael eu harwain gan fudwyr, sy’n mynd ati i gefnogi staff a gwirfoddolwyr i symud ymlaen o statws mewnfudo ansicr i gyflogaeth sefydlog, hirdymor.

Nid yw ychwaith yn cynnwys y rhan fwyaf o lwybrau cyflogaeth realistig ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau sy’n fudwyr, lle mae data’n dangos mai’r rolau mwyaf cyffredin a wneir gan fudwyr yw:

  • galwedigaethau gyrru (danfon, tacsis, logisteg)
  • rolau lletygarwch (cegin, gweini, blaen tŷ, bar)
  • rolau cymorth gofal is na lefel rheolwyr
  • rolau sy’n wynebu’r gymuned
  • rolau glanhau a chyfleusterau
  • rolau diogelwch

Mae’r rhan fwyaf o’r rhain naill ai y Tu Allan i’r Cwmpas neu’n Anghymwys i’w hystyried ar gyfer y Rhestr er eu bod yn adlewyrchu’r profiadau byw sydd gan fudwyr o gyflogaeth. Yr alwad gan y trydydd sector yw sicrhau bod y system fewnfudo yn adlewyrchu patrymau cyflogaeth realistig mudwyr; nid proffesiynau lefel gradd neu reoli yn unig a phan nad yw galwedigaethau’n cael eu cydnabod yn yr adolygiad o’r Rhestr , rhaid eu cydnabod mewn rhannau eraill o’r system fewnfudo.

Gweithgynhyrchu yng Nghymru

Mae gan gwmnïau gweithgynhyrchu bryderon ynghylch problemau gyda sgiliau, ymgeiswyr cymwys ar draws ‘Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth’ (amddiffyn, gofod, awyrofod, modurol, gwyddorau bywyd, prosesu bwyd) a sut i ddenu’r genhedlaeth nesaf i’r hyn y gellir ei ystyried yn rolau gweithgynhyrchu traddodiadol. 

Ynni glân

Os ydym am gyflawni ein huchelgais i gynyddu ynni glân yng Nghymru, bydd angen i ni gynyddu ein gweithlu’n sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i ganfod y bylchau mewn sgiliau ac anghenion y gweithlu ar gyfer y sectorau ynni glân. Gyda llif datblygu sylweddol ar gyfer gwynt ar y tir ac ar y môr yng Nghymru, mae dadansoddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer Cyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr (OWIC) a Renewable UK yn dangos bod dadansoddiad manwl o rolau swyddi yn nodi mai Technegwyr Tyrbinau Gwynt yw’r alwedigaeth y mae mwyaf o alw amdani, gydag anghenion sylweddol hefyd yn cael eu rhagweld ar gyfer arbenigwyr ar geblau Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth ,peirianwyr gosod, arbenigwyr creu, swyddogion cynllunio a rheolwyr technegol.

Rydym wedi nodi camau drwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar Môr. Er mwyn cyflawni dros Gymru, rhaid i bolisi sgiliau, mecanweithiau cyllido a systemau cynllunio weithio ar y cyd â’r diwydiant i ragweld anghenion sgiliau ac ymateb yn effeithiol iddynt. Mae angen hyder a chymorth ar ddarparwyr hyfforddiant i fuddsoddi cyn y galw, a rhaid cymell diwydiant i weithio gyda sefydliadau yng Nghymru i gyd-ddylunio llwybrau hyfforddi. Hanfodol yw mwy o hyblygrwydd o ran sut mae rhaglenni’n cael eu hariannu a’u darparu, yn enwedig i gefnogi arbenigeddau carfannau isel, modelau digidol a chyfunol, a mynediad mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig.

Sector lled-ddargludyddion Cymru

Mae Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn nodi lled-ddargludyddion fel diwydiant sydd ar flaen y gad yn y sector twf Digidol a Thechnolegau. Mae De Cymru yn gartref i glwstwr eithriadol o gryf ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei allu datblygiedig o ran dylunio a gweithgynhyrchu uwch.

O fewn Llywodraeth Cymru, mae tîm y Rhaglen Lled-ddargludyddion yn arwain ymdrechion i sicrhau mewnfuddsoddiad gan fusnesau cyfredol a denu buddsoddwyr rhyngwladol newydd. Er y gallwn ddarparu cymorth ymarferol, mae’n bwysig nodi nad yw strategaethau lled-ddargludyddion y DU yn cael adnoddau ar yr un lefel â’r “Chips Acts” mewn rhanbarthau byd-eang eraill; ni allwn gystadlu ar gymorthdaliadau. Fodd bynnag, mae Cymru’n dal yn gyrchfan ddeniadol ar gyfer buddsoddi diolch i enw da’r clwstwr hynod arbenigol hwn a’i seilwaith mynediad agored.

Ffactor allweddol i fuddsoddwyr yw mynediad at weithlu medrus. Rydym yn gweithio’n rhagweithiol gyda diwydiant a darparwyr hyfforddiant i ddarparu hyfforddiant perthnasol, hyrwyddo cyfleoedd gyrfa, a chynnal llif sgiliau iach. Serch hynny, mae mynediad at weithwyr medrus drwy’r Rhestr Prinder Dros Dro yn parhau i gyfrannu mewn modd pwysig at ddarparu gweithlu parhaus ac yn y dyfodol.

Er nad oes modd rhagweld ar hyn o bryd pa swyddi penodol y bydd eu hangen ar fuddsoddwyr yn y dyfodol, maent yn debygol o gyd-fynd â’r rhai y mae galw amdanynt ar hyn o bryd yn y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yn fras, mae’r galwedigaethau hyn ar FfCRh Lefel 3 i 5 yn perthyn i 3 chategori:

  1. Lled-ddargludyddion: technegwyr prosesau ar gyfer prosesau cemegol arbenigol ym maes creu wafferi a dyfeisiau.
  2. Peirianneg: technegwyr electroneg a thechnegwyr peirianneg ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu, cynnal a chadw cyfarpar, profi a sicrhau ansawdd.
  3. TG a Meddalwedd: technegwyr rheoli prosesau a datblygwyr meddalwedd ar gyfer dylunio a dilysu digidol.

Casgliad

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at Gam 2 adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Fudo o’r Rhestr Prinder Dros Dro. Er ein bod yn cydnabod bod angen system fewnfudo sy’n cefnogi Strategaeth Ddiwydiannol y DU ac yn annog buddsoddiad yn y gweithlu domestig, mae’n dal yn hanfodol fod y system hefyd yn adlewyrchu’r realiti unigryw yng Nghymru o ran demograffig, yr economi a’r farchnad lafur.

Mae Cymru’n parhau i brofi poblogaeth sy’n heneiddio, lefelau cyflog cyfartalog is, prinder sgiliau parhaus, a dibyniaeth sectoraidd ar weithwyr rhyngwladol ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau, nad yw pob un ohonynt yn dod o fewn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae’r pwysau demograffig a strwythurol hyn yn golygu bod angen dull mwy hyblyg o ymdrin â mudo er mwyn sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn wydn a bod sectorau sy’n dod i’r amlwg a sectorau sylfaenol yn parhau i dyfu.

Rydym yn croesawu cynnwys nifer o alwedigaethau FfCRh 3 i 5 sydd o bwys strategol i economi Cymru yng Ngham 1 yr adolygiad o’r Rhestr, yn enwedig y rhai sy’n cefnogi gweithgynhyrchu uwch, technolegau digidol, ynni glân, y diwydiannau creadigol, ac addysg uwch. Fodd bynnag, mae rhagor o dystiolaeth a ddarparwyd gan bartneriaid yng Nghymru yn dangos pwysigrwydd hanfodol cynnal llwybrau mudo ar gyfer rolau cymorth technegol, digidol, peirianyddol a gwyddonol ar y lefelau hyn. Mae’r rolau hyn yn sail i ymchwil, arloesi a thwf economaidd ac maent yn hanfodol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol mewn meysydd fel lled-ddargludyddion, gwynt ar y môr ac awyrofod.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal yn bryderus nad yw ffocws cyfyng y Rhestr yn cynnwys galwedigaethau sy’n hanfodol i lesiant cymdeithasol ac economaidd Cymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch, amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu bwyd, a gwasanaethau’r trydydd sector. Mae llawer o’r sectorau hyn yn wynebu heriau difrifol o ran recriwtio, oherwydd pwysau demograffig a phrinder hirsefydlog yn y gweithlu. Mae perygl y bydd dileu llwybrau mudo ar gyfer y rolau hyn yn gwaethygu’r bylchau presennol, yn cynyddu’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn tanseilio ymdrechion i gefnogi cymunedau agored i niwed – yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, lle mae’r ddibyniaeth ar weithwyr tramor yn dal yn sylweddol.

Nodwn hefyd fod cyfyngiadau mewn data galwedigaethol ar lefel ddatganoledig yn cyfyngu ar allu Cymru i ddarparu tystiolaeth lawn o brinder llafur. Bydd mynediad gwell at ddata’r farchnad lafur ranbarthol drwy gydweithio’n agosach â Llywodraeth y DU a Grŵp Tystiolaeth y Farchnad Lafur yn hanfodol i adolygiadau yn y dyfodol.

Er bod Cymru wedi ymrwymo i gryfhau llifau sgiliau domestig drwy fuddsoddi mewn prentisiaethau, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu, mae’r ymyriadau hyn yn cymryd amser i aeddfedu. Yn y tymor byr i ganolig, mae recriwtio rhyngwladol yn parhau i fod yn rhan  angenrheidiol ac ymarferol o sicrhau sefydlogrwydd i wasanaethau, cyflawni twf sectoraidd rhagamcanol, a chynnal cystadleurwydd economaidd ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog y Pwyllgor i wneud y canlynol:

  • parhau i gynnwys rolau technegol a sgiliau canolig allweddol sydd o bwys strategol i Gymru ar y Rhestr
  • cydnabod yr heriau unigryw o ran demograffeg a’r farchnad lafur sy’n wynebu Cymru, yn enwedig yn y sectorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a sylfaenol
  • sicrhau bod galwedigaethau sy’n hanfodol i les economaidd a chymdeithasol Cymru, ond sydd y tu allan i gwmpas Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yn cael eu cynnwys mewn rhannau eraill o’r system fewnfudo
  • gweithio gyda’r llywodraethau datganoledig i wella mynediad at ddata rhanbarthol am y gweithlu a mudo er mwyn cefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y dyfodol

Mae system fudo sy’n cefnogi blaenoriaethau strategol y DU ac anghenion penodol ei Gwledydd yn hanfodol. Mae angen i Gymru gael dull sy’n ymdrin â mudo mewn ffordd sy’n galluogi twf cynaliadwy yn y boblogaeth, sy’n cefnogi sectorau economaidd allweddol, ac sy’n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn parhau i gael eu darparu. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i barhau i gydweithio â’r Pwyllgor a Llywodraeth y DU i ddatblygu system sy’n cyflawni’r canlyniadau hyn.

Cyfeiriadau