Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd statudol

Mae adran 6[1] o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (‘y Ddeddf’) yn darparu bod rhaid i adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf gael ei gwblhau erbyn 8 Medi 2026. Yn benodol, mae'r Ddeddf yn cynnwys y darpariaethau canlynol:

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a

(b) cyhoeddi casgliadau’r adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym. 

(2) Rhaid i adolygiad o dan yr adran hon gynnwys asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny.

(3) Wrth gynnal adolygiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Senedd Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

1.2 Mae'r ddogfen hon yn cyflawni dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf. Mae'r ddogfen yn nodi adolygiad Gweinidogion Cymru o'r Ddeddf a'r asesiad o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar wahân.

1.3 Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg nifer o weithgareddau ymgysylltu â chydweithwyr yn y Senedd fel rhan o'r ymgynghoriad hwn gan gynnwys Datganiad Llafar ar 16 Medi 2025[2] ar lansio'r ymgynghoriad a chyfarfod â Chadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd. Ar wahân i hynny, cyfarfu ei swyddogion â'r Pwyllgor Cyllid. Cafodd gwahoddiadau ar gyfer cyfarfodydd tebyg eu hanfon gan Ysgrifennydd y Cabinet at lefarwyr Cyllid y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru.

[1] Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

[2] Cyfarfod Llawn 16/09/2025 - Senedd Cymru

Adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf

2.1 Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022 a daeth i rym ar 9 Medi 2022. Rhaid i'r adolygiad o'r Ddeddf gael ei gwblhau o fewn pedair blynedd i'r dyddiad y daeth y Ddeddf i rym, hynny yw, erbyn 8 Medi 2026. 

2.2 Fel y noda'r Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol [3] (fel y'u diwygiwyd yng Nghyfnod 2 o hynt y Bil drwy Senedd Cymru):

1.1 Bwriedir i Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (“y Bil”) gyflwyno pŵer i alluogi i rai elfennau o ddeddfwriaeth trethi Cymru gael eu diwygio yn y dyfodol, pan fydd angen. Mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i wneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i'w galluogi i addasu Deddfau Trethi Cymru (ac is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tanynt) mewn amgylchiadau penodol. Bydd y pŵer hwn i wneud rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, yn dibynnu ar frys y rheoliadau. 

1.2 Mae'r Bil yn ceisio taro cydbwysedd rhwng rhoi mecanwaith i Weinidogion Cymru i ymateb i ddigwyddiadau allanol sy'n effeithio ar drethi datganoledig a'r refeniw cysylltiedig gan gydnabod yr un pryd rôl hanfodol Senedd Cymru (“y Senedd”) wrth graffu ar Lywodraeth Cymru a'r ddeddfwriaeth y mae'n ei chyflwyno

2.3 Cafodd y defnydd o'r pŵer i wneud rheoliadau ei gyfyngu i bedwar ysgogydd allanol penodol, a nodir yn y Memorandwm Esboniadol, sef:

3.2 Diben bwriedig Gweinidogion Cymru wrth gyflwyno'r Bil hwn yw ei gwneud yn bosibl i newidiadau gael eu gwneud i Ddeddfau Trethi Cymru drwy reoliadau pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn bod newidiadau o'r fath yn angenrheidiol neu'n briodol a phan fo'n ofynnol iddynt gael effaith ar unwaith neu'n fuan wedi hynny. Caniateir y newidiadau hynny er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol a, phan fo’n angenrheidiol mewn rhai achosion, byddant yn cael effaith ôl-weithredol hefyd. I grynhoi: 

i. i sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gorfodi lle y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; 

ii. i ddiogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru; 

iii. i ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (hynny yw, un lle mae gennym dreth ddatganoledig gyfatebol[4]) sy'n effeithio, neu a allai effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru[5], ac

iv. i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd/tribiwnlysoedd sy'n effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru, neu a allai effeithio arnynt, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt.

2.4 Yn y tair blynedd a hanner ers i'r pŵer fod ar gael i Weinidogion Cymru, nid yw wedi cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, ystyriwyd o ddifrif ei ddefnyddio i ymateb i'r penderfyniad i ddiddymu'r rhyddhad rhag treth dir y dreth stamp ar gyfer prynu anheddau lluosog (rhyddhad anheddau lluosog) a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2024 (ar ôl cael ei gyhoeddi yng nghyllideb derfynol Llywodraeth flaenorol y DU ar 6 Mawrth 2024). Bu'n bosibl i Lywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad ar ryddhadau rhag y dreth trafodiadau tir yn y cyfnod rhwng cyhoeddiad llywodraeth y DU y byddai'n diddymu'r rhyddhad rhag treth dir y dreth stamp a'r dyddiad y byddai'r diddymiad hwnnw yn dod i rym.

2.5 Fodd bynnag, ni fyddai'r cyfnod rhwng dod â'r ymgynghoriad hwnnw i ben (19 Mai 2024) wedi rhoi digon o amser i reoliadau gael eu gosod gerbron Senedd Cymru yn ddarostyngedig i'r broses gadarnhaol ddrafft er mwyn diddymu'r rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar gyfer caffaeliadau sy'n ymwneud ag anheddau lluosog ar 1 Mehefin 2024. Pan gafodd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ei phasio, rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru nifer o bwerau i Weinidogion Cymru. Un o'r pwerau hyn oedd ychwanegu, addasu neu ddileu rhyddhad. Gallai'r pŵer hwnnw fod wedi cael ei ddefnyddio, ond byddai hynny wedi golygu y byddai rheolau'r dreth trafodiadau tir wedi dod i rym yn hwyrach na rheolau treth dir y dreth stamp, gan roi negeseuon llai eglur i drethdalwyr a oedd yn prynu eiddo yng Nghymru ac yn Lloegr.

2.6 Felly, ystyriwyd gwneud rheoliadau gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed'[6] gan ddefnyddio'r pŵer yn adran 1 o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022.   Byddai hyn wedi galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn diddymu rhyddhad anheddau lluosog y dreth trafodiadau tir a allai ddod i rym ar 1 Mehefin 2024 i gyd-fynd â'r dyddiad y byddai rhyddhad anheddau lluosog treth dir y dreth stamp yn cael ei ddiddymu. 

2.7 Fel y digwyddodd, codwyd sawl mater drwy'r ymgynghoriad a oedd yn golygu mai'r farn gyffredin oedd y byddai'n well cadw'r rhyddhad ond y dylid ei addasu. Ers hynny, mae dwy set o reoliadau wedi cael eu cymeradwyo gan y Senedd er mwyn addasu'r ffordd y mae rheolau'r rhyddhad anheddau lluosog yn gweithio ym mis Chwefror 2025[7] a 2026[8] gan leihau buddiannau treth y rhyddhad a, thrwy hynny, sicrhau bod y rhyddhad yn gweithio'n decach i drethdalwyr eraill a thrigolion Cymru yn gyffredinol. Cafodd y ddwy set hynny o reoliadau eu gwneud gan ddefnyddio'r pŵer yn adran 30(6) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)[9].

2.8 Mae'r rhesymau a gyflwynwyd yn y Memorandwm Esboniadol dros Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet, Rebecca Evans AS, mewn gwrandawiadau gan Bwyllgorau neu Gyfarfodydd Llawn yn ddilys o hyd. Er na fu unrhyw amgylchiadau lle'r oedd angen defnyddio'r pŵer, mae'n amlwg y gallai amgylchiadau o'r fath godi yn y dyfodol. 

[3]Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl cyfnod 2.pdf

[4] Ar hyn o bryd, mae trethi rhagflaenol yn cyfeirio at Dreth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi – trethi'r DU sy'n cyfateb i'r trethi sydd bellach wedi'u datganoli yng Nghymru.

[5] O dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

[6] Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022– gweler adran 4(2)(b) sy'n nodi'r pŵer i wneud rheoliadau gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (gweithdrefn gadarnhau'r Senedd bellach)

[7] Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025

[8] Rhoddodd y Senedd cymeradwyaeth i'r rheoliadau ar 10 Chwefror 2026

[9] Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Dulliau gweithredu amgen

3.1 Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 8 Medi a 28 Tachwedd 2025 a darparodd wybodaeth a syniadau defnyddiol. Mae Llywodraeth Cymru yn diolch unwaith eto i'r rhai a ymatebodd. Cyhoeddwyd dogfen ymatebion i'r ymgynghoriad[10], y dylid ei darllen gyda'r ddogfen hon, ar 13 Chwefror. 

3.2 Roedd llawer o'r ymatebwyr o'r farn mai'r dull gweithredu mwyaf priodol oedd i newidiadau i drethi gael eu gwneud drwy ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol. Roedd hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfansoddiadol a'r cynseiliau sylfaenol a hirsefydlog sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd sy'n sail i gyfansoddiad y DU.

3.3 Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr hefyd yn cydnabod bod sefyllfa'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn wahanol i safbwynt llywodraeth y DU oherwydd y nifer cyfyngedig o drethi sydd wedi'u datganoli'n llawn (dim ond dwy ar hyn o bryd, sef: y dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir) ac y gall cyllid Llywodraeth Cymru gael ei newid drwy'r penderfyniadau a wneir gan lywodraeth a Senedd y DU mewn perthynas â'i threthi rhagflaenol[11]

3.4 Nododd yr ymgynghoriad nifer o ddulliau gweithredu y gellid eu mabwysiadu er mwyn gwneud newidiadau, a rhestrwyd y rhain (mewn cwestiwn) fel a ganlyn:

a. bil cyllid blynyddol i Gymru, 

b. bil trethi blynyddol (neu lai mynych) i Gymru, 

c. fersiwn newydd o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022, [neu]

d. unwaith y bydd Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 wedi cyrraedd ei phwynt machlud, dibynnu ar y pwerau gwneud rheoliadau a'r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol yn ôl yr angen

Ystyriodd yr ymgynghoriad faterion a gododd gyda phob un hefyd. Ystyrir mai'r dulliau gweithredu hyn, neu'r defnydd o'r dulliau gweithredu gyda'i gilydd, mewn perthynas â dulliau gweithredu amgen posibl, yw'r holl opsiynau sydd ar gael.  

3.5 Creodd sefydlu'r seneddau datganoledig a datganoli trethi penodol i rai o'r seneddau hynny, sefyllfa gyfansoddiadol newydd arwyddocaol i wledydd llai'r DU ac, felly, y DU ei hun. Yn ddiddorol ddigon, roedd un academydd mewn ymateb i'r ymgynghoriad o'r farn bod angen ystyried y rhesymau pam roedd codi trethi gan y deddfwrfeydd datganoledig yn cyd-fynd â chyfansoddiad y DU. Daeth i'r casgliad ei fod yn cyd-fynd â chyfansoddiad y DU, sef casgliad y byddai llywodraeth a Senedd y DU wedi'i gadarnhau wrth ddarparu'r ddeddfwriaeth a oedd yn darparu ar gyfer sefydlu trethi datganoledig.

3.6 Anogodd un academydd y Senedd a Llywodraeth Cymru i fod yn ddychmygus a pheidio â'u clymu eu hunain yn ormodol wrth brosesau llywodraeth a Senedd y DU a oedd wedi datblygu dros ddegawdau a chanrifoedd lawer. Yn arbennig, roedd yn dadlau dros beidio â mabwysiadu dull seiliedig ar Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 o wneud newidiadau sy'n dod i rym cyn i'r ddeddfwriaeth sylfaenol gysylltiedig gael y Cydsyniad Brenhinol. Gwnaeth hefyd awgrymu bod yr angen i roi newidiadau i drethi ar waith cyn i unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol gael y Cydsyniad Brenhinol yn ddull gweithredu a oedd yn bodoli yn y DU ond nad oedd i'w gael yn nulliau gweithredu rhai gwledydd eraill. 

3.7 Yn y ddadl ar fy Natganiad Llafar ar 16 Medi 2025, cododd Heledd Fychan AS y gwersi posibl y gellir eu dysgu o'r trefniadau yng Ngwlad y Basg. Dyma ffynhonnell bosibl ar gyfer dysgu gwersi i Gymru, a bydd angen ei hystyried. Fodd bynnag, bydd y trefniadau hynny'n gymhleth, yn seiliedig ar sail gyfreithiol a chyfansoddiadol wahanol i'r setliad datganoli presennol i Gymru, ac yn benodol i hanes Gwlad y Basg. Mae rhai nodweddion tebyg yn y ffaith bod ‘treth gytunedig yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth ymreolaethol’ a ‘threth gytunedig yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth y Wladwriaeth’ (sydd o bosibl yn cyfateb i'n trethi datganoledig a'n trethi a gedwir yn ôl). Bydd ystyriaeth o'r fath hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth lawn nid yn unig o'r prosesau deddfwriaethol yn Senedd Gwlad y Basg a Senedd Sbaen ond hefyd o'r Cytundeb Economaidd rhwng Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a llywodraeth ganolog Sbaen. Gellir gwneud gwaith o'r fath os bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn dymuno ystyried y maes hwn ymhellach.

[10] Ymgynhoriad Gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru

[11] Y trethi rhagflaenol yw'r dreth dirlenwi, a ddisodlwyd yng Nghymru gan y dreth gwarediadau tirlenwi, a threth dir y dreth stamp, a ddisodlwyd yng Nghymru gan y dreth trafodiadau tir.

Casgliadau

4.1 Mae'r rhesymau gwreiddiol sy'n sail i resymeg Llywodraeth Cymru dros y pŵer a ddarperir yn Neddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 yn bodoli o hyd. Mae'r posibilrwydd y bydd llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau gan ddefnyddio penderfyniadau o dan Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 yn parhau i fod yn un go iawn. Mae'n bwysig o hyd y gall Llywodraeth Cymru ymateb yn amserol, er mwyn diogelu refeniw a, lle y bo'n briodol, leihau'r baich treth ar drethdalwyr.

4.2 Mae hyn wedi bod yn arbennig o berthnasol ar gyfer cyfraddau a throthwyon y dreth trafodiadau tir. Mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud ers i'r Senedd gymeradwyo'r cyfraddau a'r trothwyon gyntaf cyn i'r trethi datganoledig ‘fynd yn fyw’ ym mis Ebrill 2018. Gwnaed y newidiadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ fel y'i darparwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a chafodd yr holl newidiadau i drethi eu cymeradwyo wedi hynny gan y Senedd.

4.3 Mae'r newidiadau i'r cyfraddau a'r trothwyon yn perthyn i ddau gategori cyffredinol, sef: newidiadau mewn ymateb i newidiadau llywodraeth y DU i dreth dir y dreth stamp, a newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni ei hamcanion polisi. Un enghraifft o'r cyntaf yw cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth trafodiadau tir a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2020 a oedd mewn ymateb i ‘wyliau’ treth dir y dreth stamp. Enghraifft arall yw'r cynnydd yng nghyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir i gyd-fynd yn fras ag elfen gordal treth dir y dreth stamp a newidiwyd ar ddiwedd 2024 (i ddilyn yn fras ordal llywodraeth y DU, sef 5%). Cyflwynwyd cyfnod gostyngiad dros dro yn y dreth trafodiadau tir yn dilyn ‘gwyliau’ treth dir y dreth stamp er mwyn rhoi sicrwydd cynnar i drethdalwyr Cymreig a sicrhau gweithrediad didrafferth y farchnad dai yng Nghymru, gan sicrhau nad oedd prynwyr yn gohirio eu trafodiadau gan obeithio neu ddisgwyl y byddai'r dreth trafodiadau tir yn cael ei gostwng yn y dyfodol agos. Ar gyfer yr olaf, roedd newidiadau i'r dreth trafodiadau tir a wnaed ym mis Rhagfyr 2020[12] yn cynnwys cynnydd mewn treth i'r trethdalwyr hynny sy'n atebol am dalu'r cyfraddau preswyl uwch (gan ddarparu, yn fras, ordal o 4% i'r dreth trafodiadau tir), yn ogystal â gostyngiad mewn treth i'r rhai sy'n talu cyfraddau amhreswyl.

4.4 Yn fy marn i, mae'r pŵer i wneud rheoliadau er mwyn rhoi newidiadau i gyfraddau trethi datganoledig Cymru (yn ogystal â throthwyon y dreth trafodiadau tir) ar waith yn hanfodol, yn enwedig am ei fod yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno newidiadau pan nad yw'r Senedd yn eistedd, pan fo angen. Ystyrir bod y dull gweithredu cymesur ac amserol a fabwysiadwyd gan Lywodraeth bresennol Cymru ar sawl achlysur yn dangos bod angen y gallu hwn. Felly, pa ddull gweithredu bynnag y bydd y Senedd nesaf yn dewis ei fabwysiadu er mwyn gwneud newidiadau yn fwy cyffredinol i Ddeddfau Trethi Cymru, argymhellaf yn gryf y dylid cadw'r pwerau hyn (a'r weithdrefn ar gyfer eu gwneud drwy gadarnhad y Senedd). 

4.5 Mae newidiadau eraill gan ddefnyddio pwerau is-ddeddfwriaeth eraill a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddfau Trethi Cymru, hefyd wedi'u gwneud ar yr adeg fwyaf priodol. O ran y dreth gwarediadau tirlenwi, roedd diwygiadau drwy reoliadau ym mis Hydref 2016 a mis Gorffennaf 2019 i ryddhadau ar gyfer adfer safleoedd ac ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli wedi'i gwneud yn bosibl i waith hanfodol ddechrau'n amserol. Yn yr un modd, ar gyfer y dreth trafodiadau tir, mae'r pŵer i wneud, addasu neu ddileu rhyddhadau wedi'i ddefnyddio nid yn unig i gyflwyno'r rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig a rhoi rhyddhad i Borthladd Rhydd cyntaf Cymru ond hefyd i roi rhyddhad i safleoedd treth arbennig eraill pan fydd y safleoedd hynny yn barod i ddechrau gweithredu. Gwnaed y rheoliadau ym mis Tachwedd 2024 a mis Ionawr 2025 a gwnaed dwy set arall ym mis Tachwedd 2025. Unwaith eto, byddwn yn argymell bod y Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru yn cadw'r pwerau hyn a phwerau is-ddeddfwriaeth eraill a ddarperir yn Neddfau Trethi Cymru er mwyn i'n dinasyddion a'n busnesau allu cael budd o newidiadau amserol y gellir eu gwneud er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ein system dreth sy'n datblygu.

4.6 Felly, mae angen ystyried lle'r pŵer a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 yn y set honno o bwerau. Mae'r adolygiad o'r defnydd o'r pŵer yn gymharol hawdd gan nad yw wedi cael ei ddefnyddio eto. Fodd bynnag, fel y'i nodwyd uchod, mae ystyriaeth wedi'i rhoi i'w ddefnyddio. Dengys hynny fod y dibenion y gellir defnyddio'r pŵer ar eu cyfer yn bodoli nid yn unig yn y gorffennol, fel y'i nodwyd yn y dogfennau ymgynghori a gyhoeddwyd mewn perthynas â'r mater hwn yn  2020[13] (a'r crynodeb o'r ymatebion[14]) a 2025[15] a'r Memorandwm Esboniadol[16] ar gyfer y Ddeddf a manylion eraill a roddwyd i'r Senedd, ond yn y dyfodol hefyd. Mae darparu'r pŵer yn dal i fod yn briodol er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, yn ddarostyngedig i'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau hynny, i ymdrin â digwyddiadau allanol annisgwyl a all gael effeithiau sylweddol ar ein trethi datganoledig.     

4.7 Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaethol sy'n ymwneud â Deddfau Trethi Cymru[17] a ddaeth i ben ar 26 Ionawr 2026. Rhestrodd yr ymgynghoriad hwnnw nifer o newidiadau posibl i Ddeddfau Trethi Cymru sy'n cael eu hystyried ac sydd wedi deillio o brofiadau Awdurdod Cyllid Cymru ers 2018 ac sydd wedi cael eu codi ar wahân gan weithwyr trethi proffesiynol. Bydd y Bil Cynhaliaeth Trethiant posibl, os bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn dewis ei gyflwyno, yn darparu rhywfaint o brofiad defnyddiol o Fil Cyllid/Trethi sy'n gwneud ystod eang o newidiadau ar draws Deddfau Trethi Cymru. Fel Bil annibynnol, ni ellir ystyried mai hwn yw'r pwynt terfyn wrth geisio'r mecanweithiau amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Bydd yn gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru drwy Fil ond, gan nad oes angen i'r un o'r meysydd a gynigiwyd ddod i rym cyn i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol, a sut bynnag gan nad oes unrhyw fecanwaith i'w rhoi ar waith mewn llawer o achosion, ni ddaw'r newidiadau i rym cyn y diwrnod y caiff y Bil y Cydsyniad Brenhinol neu'r diwrnod ar ôl hynny. Yn yr un modd, bydd y weithdrefn y bydd y Bil yn ei dilyn yr un fath â'r gweithdrefnau ar gyfer pob Bil yn y Senedd, pan allai fod yn briodol yn y dyfodol i reolau arbennig fod yn gymwys fel sy'n bodoli ar gyfer Biliau Cyllid y DU.

4.8 Wrth gyflawni'r ddyletswydd i adolygu gweithrediad ac effaith Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022, mae'n ofynnol i mi asesu mecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a'r rheoliadau a wneir o dan unrhyw un o'r Deddfau hynny. Nodir yr opsiynau rydym wedi'u hystyried ym mharagraff 3.4. 

4.9 Mae'r pedwar opsiwn i'r Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru eu hystyried. 

Adnewyddu y Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

4.10 Mae'n glir o hynt Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 drwy'r Senedd fod cryn nifer o Aelodau presennol y Senedd o bob plaid yn pryderu ynghylch y ffaith nad oes cyfle i ddiwygio'r ddeddfwriaeth trethi a gymeradwyir ganddynt. Efallai y bydd y Senedd nesaf yn teimlo yr un mor gryf. Felly, efallai y bydd y Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru am ystyried datblygu proses ar gyfer gwneud newidiadau gan ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol. Felly, rwy'n ystyried na fydd fersiwn newydd o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022, ynddi ei hun, yn fecanwaith priodol yn y dyfodol oherwydd y diffyg cefnogaeth debygol o fewn y Senedd.

4.11 Mae gan bob un o'r tri dull arall eu manteision a'u hanfanteision posibl eu hunain. Mae ymgyngoriadau blaenorol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020 a 2025 wedi nodi'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y dulliau o ran bil cyllid a threthi. Rwy'n ystyried eu bod yn dal i fod yn ddilys heddiw. Ymdriniodd ymgyngoriadau 2020 a 2025 â llawer o'r manteision a'r anfanteision sy'n deillio o fil cyllid neu drethi blynyddol i Gymru a'r cymhlethdodau pan gaiff ei ddefnyddio i ymateb i newid i dreth ragflaenol, ac mae priodoldeb dull o'r fath wedi cael sylw sawl gwaith yn y Senedd pan fo rheoliadau sy'n diwygio Deddfau Trethi Cymru wedi'u trafod.  

Bil Cyllid Blynyddol

4.12 Yn fy marn i, nid yw proses bil cyllid blynyddol yn briodol i Gymru ar hyn o bryd. Mae "Bil cyllid blynyddol" yn Fil sy'n addasu deddfwriaeth trethi, ond mae'r amserlen ar gyfer gwneud y Bil hwnnw wedi'i chysylltu â chylch y Gyllideb. Yn Senedd y DU, mae angen Deddfau Cyllid blynyddol er mwyn adnewyddu pwerau penodol sy'n dod i ben ar ddiwedd pob blwyddyn dreth (e.e. pŵer i godi treth incwm). Nid yw hyn yn wir yng Nghymru: nid yw'r dreth trafodiadau tir na'r dreth gwarediadau tirlenwi yn dod i ben bob blwyddyn. Hefyd, dim ond ystod gyfyngedig iawn o drethi sydd gennym o'i gymharu â'r DU (ac felly dulliau cymharol gyfyngedig o godi arian drwy drethi). Nid wyf yn credu bod angen cryf i Fil Trethi bob blwyddyn gael ei gysylltu mor agos â'r cylch Cyllideb blynyddol. Hefyd, efallai na fydd angen bil blynyddol o ystyried nifer y newidiadau sy'n debygol o godi ar gyfer ein trethi.

Bil Trethi yn ôl yr angen

4.13 Byddai Bil Trethi yn ôl yr angen yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i'r llywodraeth. Byddai cylch blynyddol sefydlog yn rhy anhyblyg ac yn achosi problemau pe bai awydd polisi neu angen i ymateb i unrhyw newidiadau a wneir i'r "trethi rhagflaenol" (h.y. treth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi) nad yw'n gydnaws â'r Bil cyllid blynyddol – neu i wneud newidiadau eraill i ddeddfwriaeth trethi nad oes angen eu cysylltu â chylch y Gyllideb. Hyd yn oed gyda'r lefel hon o hyblygrwydd, gall fod senarios pan na fo hyn yn ymarferol, er enghraifft pan fo effeithiolrwydd polisi yn dibynnu ar newid yn cael ei weithredu cyn gynted â phosibl neu heb rybudd (neu ar fyr rybudd iawn).

4.14 Gallai'r Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru benderfynu dychwelyd i'r sefyllfa a oedd yn bodoli cyn i Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 ddod i rym. Byddai hynny'n golygu, pe bai newid yn cael ei ystyried yn angenrheidiol, y gellid defnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau presennol i weithredu'r newid, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd, neu y gellid cyflwyno Bil pan na fo'r pwerau ar gael. Yn ddiweddar, pasiodd Llywodraeth Cymru a'r Senedd Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026 o fewn mater o ddyddiau, o'i chyflwyno i'r Ddeddf yn dod i rym (13 Ionawr 2026 - 22 Ionawr 2026), sy'n dangos pa mor gyflym y gall Llywodraeth Cymru a'r Senedd gyflawni newidiadau drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, ni allwn rag-weld rhychwant a natur yr holl bwysau gwleidyddol ac ymarferol ar fusnes y Senedd yn y dyfodol, ac mae'n ymddangos yn ddoeth yn yr achos hwnnw i wneud darpariaeth ar gyfer pob sefyllfa bosibl.

4.15 Fel rwyf wedi'i geisio mewn llawer o'm penderfyniadau, yn fy marn i, dylid ceisio dull rhesymol a phragmataidd o ymdrin â'r mater hwn ar y cam hwn yn ein taith datganoli. I mi, bydd hyn yn golygu sicrhau cydbwysedd rhwng yr anghenion a'r pwysau croes. Credaf ei bod yn bwysig y gall Gweinidogion Cymru yn y dyfodol ymateb i sefyllfaoedd wrth iddynt godi er mwyn diogelu neu gynyddu ein refeniw neu roi gostyngiadau mewn treth i'n dinasyddion a'n busnesau, fel y mae Gweinidogion Cymru yn Llywodraeth bresennol Cymru a llywodraethau blaenorol Cymru wedi'i wneud. Mewn llawer o achosion, mae'r pwerau presennol (a ddarparwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru) wedi ein galluogi i ymateb a chyflawni ein hamcanion. Rwy'n ystyried bod hyn wedi gweithio'n dda. Maent wedi sicrhau bod newidiadau wedi'u gwneud yn amserol gan sicrhau, er enghraifft, y gallai ein gweithredwyr safleoedd tirlenwi ddechrau gwaith adfer yn gynnar ac ar yr adeg iawn, bod ein porthladdoedd rhydd a'n parthau buddsoddi wedi cael rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar y dyddiad y cawsant eu dynodi, ac y gellid gwneud newidiadau i'n cyfraddau a'n bandiau treth pan fo angen (y ddau i fodloni polisi Llywodraeth Cymru, ac i ddarparu sefydlogrwydd i'n marchnad dai pan wneir newidiadau i dreth tir y dreth stamp).

Dull ‘Hybrid’

4.16 Serch hynny, rwy'n credu bod dull arall, dros y rhai a amlinellwyd yn flaenorol, y gellid ei ystyried. Byddai cynllun tebyg i Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 (PCTA) neu adran 109 o Ddeddf Cyllid 2003 mewn llawer o achosion yn taro cydbwysedd priodol, h.y. cynllun lle gwneir diwygiadau i ddeddfwriaeth drwy reoliadau neu gynnig ac y deuant i rym ar unwaith, ond eu bod yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod penodol oni bai eu bod wedi'u cynnwys mewn Deddf gan y Senedd a gyflwynir cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

4.17 Byddai'n cyfuno manteision deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth; dull 'hybrid' ar gyfer y cam rydym arno yn ein taith datganoli trethi. Gallai dull hybrid o'r fath fod yn un sy'n ceisio darparu'r hyblygrwydd angenrheidiol i Weinidogion Cymru drwy roi'r pŵer iddynt i wneud rheoliadau, sy'n cael effaith dros dro ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd, a all wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ar gyfer sefyllfaoedd pan fo angen newidiadau brys y caniateir diwygio deddfwriaeth trethi sylfaenol Cymru ar eu cyfer ar hyn o bryd drwy reoliadau o dan adran 1 o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022. Gellid ystyried hefyd a ddylid cymhwyso'r un dull i bwerau presennol eraill i ddiwygio deddfwriaeth trethi sylfaenol Cymru drwy is-ddeddfwriaeth. Byddai'r pŵer gwneud rheoliadau newydd yn ddarostyngedig i ddarpariaeth fachlud, a fyddai'n cael yr effaith o'i gwneud yn ofynnol i newidiadau dros dro a wneir gan y rheoliadau barhau i gael effaith drwy Fil gan y Senedd ar ôl diwedd y cyfnod machlud, pe bai awydd polisi i gadw'r newidiadau. Bydd dwy fantais i hyn. Yn gyntaf, bydd deddfwriaeth yn adlewyrchu'r newidiadau dros dro a wneir gan ddarparu dull llawer mwy tryloyw na'r hyn a ddarperir gan lwybr Deddf Casglu Trethi Dros Dro (sy'n nodi newidiadau i drethi mewn cynnig seneddol). Yn ail, bydd y cymal machlud a'r gofyniad i'r newidiadau gael eu cadarnhau neu eu diwygio gan Fil, yn cynnig cyfleoedd craffu i'r Senedd er mwyn iddi gadarnhau neu wella'r ddeddfwriaeth. 

4.18 Mater i'r Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru fydd datblygu dros ba gyfnod y bydd y ddarpariaeth fachlud ar waith, i ba reoliadau y bydd y ddarpariaeth fachlud yn gymwys (dim ond y rhai a wneir o dan unrhyw adran yn lle adran 1 o Ddeddf 2022 neu, efallai hyd yn oed rheoliadau trethi eraill yng Nghymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys y rhai o dan bwerau gwneud rheoliadau sefydledig) a pha newidiadau eraill y gellir eu gwneud. Yn ogystal, bydd angen ystyried a oes angen proses bil bwrpasol ar gyfer biliau sy'n ceisio cadarnhau neu ddiwygio diwygiadau a wneir i Ddeddfau Trethi sylfaenol Cymru drwy reoliadau sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau machlud. 

4.19 Efallai y bydd enghraifft yn helpu i ddangos y math o drefniadau a allai godi a thybio bod y Senedd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru dros y rhai sydd wedi'u darparu ar hyn o bryd a bod gan y pŵer newydd hwnnw ddarpariaeth fachlud. Mater i'r Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru nesaf fydd ystyried pa gyfnod sy'n briodol ar gyfer y ddarpariaeth fachlud ond gallai fod yn 12, 18, 24 neu hyd yn oed 36 mis, hynny yw, rhaid cyflwyno Bil o fewn 12, 18, 24 neu 36 mis i'r rheoliadau ddod i rym neu i'r newidiadau a roddwyd ar waith beidio â chael effaith. Gan ddefnyddio darpariaeth fachlud 24 mis, gallai hyn ddarparu'r amserlen ganlynol:

  • 1 Mawrth 2028 cadarnheir y newidiadau a ystyrir yn angenrheidiol gan Weinidogion Cymru (gydag ymgynghoriad neu hebddo, yn dibynnu ar yr amgylchiadau),
  • 14 Mawrth 2028 gosodir y rheoliadau a wnaed gerbron y Senedd drwy ddefnyddio gweithdrefn gadarnhau'r Senedd,
  • 4 Ebrill 2028 cadarnheir y rheoliadau gan y Senedd,
  • 1 Rhagfyr 2029 cyflwynir y Bil gerbron y Senedd (tua 18 mis ar ôl i reoliadau 14 Mawrth 2028 gael eu gwneud), gan gynnwys y newidiadau hyn, y rhai a wneir o dan yr un pŵer ar 1 Tachwedd 2028 a 1 Gorffennaf 2029, ynghyd â newidiadau eraill y gellir eu gwneud drwy'r Bil.
  • Aiff y Bil drwy bob un o'i gyfnodau a chaiff ei basio gan y Senedd ar 22 Gorffennaf 2030 a chaiff y Cydsyniad Brenhinol ar 5 Medi 2030. 

I bob pwrpas, bydd hyn yn darparu rheolau sy'n debygol o'i gwneud yn ofynnol i un bil trethi o leiaf gael ei gyflwyno ym mhob tymor o'r Senedd.

Estyniad i’r dyddiad dod i ben i ddefnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

4.20 Bydd angen amser ar y Senedd nesaf ac ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddatblygu'r mecanweithiau priodol ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru, a phenderfyniad iddynt hwythau fydd hyn yn y pen draw. Fodd bynnag, yn fy marn i, dylid achub ar y cyfle i estyn y pŵer yn adran 1 o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022. Darparodd y Ddeddf un cyfle i estyn dyddiad dod i ben y cymal machlud a dyddiad dod i ben pellaf i'r estyniad hwnnw, sef 30 Ebrill 2031. Bwriadaf osod rheoliadau (a fydd yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd) i ddarparu'r estyniad hwnnw er mwyn i'r Senedd newydd a Llywodraeth newydd Cymru ddefnyddio'r pŵer yn adran 1 os bydd un o'r pedwar digwyddiad allanol yn codi cyn i'r mecanweithiau newydd gael eu creu.

[12] Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir

[13] ei-gwneud-yn-bosibl-cyflwyno-newidiadau-i-ddeddfau-trethi-cymru-dogfen-ymgynghori.pdf

[14] ei-gwneud-yn-bosibl-cyflwyno-newidiadau-i-ddeddfau-trethi-cymru-crynodeb-or-ymatebion.pdf

[15] Barn ar y Mecanweithiau Priodol ar gyfer Gwneud Newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru

[16] Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl cyfnod 2.pdf

[17] Cynigion deddfwriaethol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru – Papur Gwyn