Neidio i'r prif gynnwy

Yn y gyllideb ddrafft, ar 21 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i gyfraddau a bandiau cyfraddau preswyl uwch, ac amhreswyl Treth Trafodiadau Tir (TTT). Bydd y cynnydd dros dro i fand cyfradd sero TTT ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newidiadau ar gyfer eiddo preswyl cyfraddau uwch

Bydd cyfraddau preswyl uwch TTT yn cynyddu 1% ar draws pob band ar 22 Rhagfyr 2020.

Os byddwch yn cwblhau prynu eiddo:

  • cyn 22 Rhagfyr byddwch yn talu'r cyfraddau treth blaenorol
  • ar neu ar ôl 22 Rhagfyr byddwch yn talu'r cyfraddau treth newydd

Yn y rhan fwyaf o achosion pan fyddwch eisoes wedi cyfnewid contractau, ond heb gwblhau byddwch yn gallu defnyddio'r cyfraddau uwch blaenorol.

Rydym wedi diweddaru ein canllaw cyflym cyfraddau uwch.

Newidiadau ar gyfer eiddo amhreswyl

Ar 22 Rhagfyr 2020:

  • bydd band cyfradd sero’r dreth a godir am bremiymau ac aseiniadau lesoedd, a throsglwyddiadau eiddo rhydd-ddaliadol yn cynyddu o £150,000 i £225,000
  • bydd band cyfradd sero’r dreth a godir ar elfen rent lesoedd amhreswyl yn cynyddu o £150,000 i £225,000

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cynyddu swm y 'rhent perthnasol' ar gyfer elfen rent flynyddol rhenti amhreswyl o £9,000 i £13,500 ym mis Chwefror 2021.

Diwedd cyfnod y gostyngiad dros dro

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cynnydd dros dro i fand cyfradd sero TTT ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021. Mae hyn yn golygu ar 1 Ebrill 2021, y bydd y cyfraddau hyn yn dychwelyd i'r cyfraddau gwreiddiol a'r trothwy cychwynnol o £180,000. Rhaid i chi gwblhau eich pryniant cyn y dyddiad hwn er mwyn defnyddio'r cyfraddau gostyngol dros dro.

Cyfraddau a bandiau

Rydym wedi diweddaru'r dudalen cyfraddau a bandiau a'n cyfrifiannell dreth swyddogol i gynnwys y cyfraddau newydd a ddaw i rym ar 22 Rhagfyr 2020. Mae'r dyddiad y byddwch yn nodi yn y gyfrifiannell yn pennu pa gyfraddau a bandiau y bydd yn eu defnyddio. 

Cymorth a gwybodaeth

Rydym wedi diweddaru ein canllawiau a’n gwasanaethau TTT. Os oes gennych ymholiad ynglŷn â thrafodiad, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Bydd ein llinellau ffôn desg gymorth ar gau o 3pm ddydd Mercher 23 Rhagfyr 2020 hyd 10am ddydd Llun 4 Ionawr 2021.

Defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ar ôl i ni ailagor ar 4 Ionawr.

Os ydych yn weithiwr treth proffesiynol, gweler ein canllawiau ar y newidiadau i gyfraddau a bandiau TTT a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.