Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n hanfodol bod gennym ddata o ansawdd uchel er mwyn deall anghenion dysgwyr, cynllunio'r ddarpariaeth yn effeithiol, cefnogi'r gweithlu, a nodi lle mae angen gwelliannau pellach. Ein huchelgais o hyd yw cryfhau'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i'r system ADY, gan sicrhau bod gwaith polisi a chyflawni yn cael ei lywio gan ddata cywir, cyson ac amserol. 

Mae hyn yn nodi cam cyntaf y gwelliannau ehangach yr ydym yn eu gwneud i systemau casglu data statudol, fel bod gennym i gyd ddata ADY perthnasol ac ystyrlon er mwyn monitro perfformiad y system, bodloni dyletswyddau deddfwriaethol, a helpu pob dysgwr ag ADY i wella deilliannau.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i'r data a gasglwn am y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad wyth wythnos, a gynhaliwyd rhwng 8 Hydref a 3 Rhagfyr, daeth 99 o ymatebion i law gan rieni a gofalwyr, y gweithlu addysg, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach. Mae'r ymgysylltiad cryf hwn yn adlewyrchu'r ymrwymiad cyffredin i sicrhau bod trefniadau casglu data ADY yn gadarn, yn gynhwysfawr ac yn ein cefnogi i sicrhau deilliannau gwell i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb.

Lluniwyd ein cynigion yn ofalus ac yn gydweithredol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r system ADY sydd ar waith yn llwyr ers mis Medi 2025, ynghyd â chyfrifoldebau ysgolion, awdurdodau lleol a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion. 

Rwy'n croesawu'r gefnogaeth eang i'r mwyafrif o'r cynigion a gyhoeddwyd gennym. Roedd yr ymatebwyr yn gwerthfawrogi'r canlynol yn arbennig:

  • eitemau data ystyrlon yn ymwneud â phenderfyniadau ADY a chynlluniau datblygu unigol (CDU)
  • cofnod cliriach a mwy cyson o feysydd angen y dysgwyr
  • gwybodaeth gryfach am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a sut y dylid ei chofnodi 
  • darlun cliriach o'r rolau yn y gweithlu addysg sy'n cefnogi dysgwyr ag ADY

Rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo i gydweithredu'n barhaus ac i ystyried y canfyddiadau hyn yn ofalus wrth inni fireinio'r newidiadau terfynol i drefniadau casglu data statudol. Bydd hyn yn ein helpu i daro'r cydbwysedd cywir rhwng y deilliannau yr hoffem eu sicrhau, ymarferoldeb y gwaith cyflawni, a'r angen i gynnal prosesau clir, hawdd eu trin ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol.

Y bwriad yw gosod y newidiadau yn ystod tymor y Senedd hon, a byddaf yn cyfathrebu ymhellach maes o law.

Mae crynodeb o'r ymatebion bellach ar gael yma ac ar wefan Llywodraeth Cymru. Diolch eto i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Mae eich lleisiau'n helpu i lunio dyfodol data ADY yng Nghymru, gan gryfhau ein gallu ar y cyd i gefnogi dysgwyr i ffynnu ac i wireddu eu potensial.