Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Pa benderfyniad rydych yn cynnal asesiad o'i effaith?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei map llwybrau ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a fydd yn cynrychioli'r camau cyntaf tuag at gyflawni ein huchelgais i greu Cymru sy'n parchu, yn hyrwyddo ac yn hwyluso BSL, drwy gamau gweithredu byrdymor a gaiff eu cwblhau o fewn 18 mis. Bydd y camau gweithredu hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer polisïau a strategaethau yn y dyfodol a mwy o gynhwysiant i arwyddwyr BSL byddar.

Mae'r camau gweithredu yn y map llwybrau BSL wedi cael eu llywio gan yr argymhellion byrdymor a luniwyd gan y Grŵp Rhanddeiliaid BSL. Cafodd argymhellion y grŵp eu cyhoeddi ar 30 Medi 2025. 

Bydd y camau gweithredu byrdymor ym map llwybrau BSL, sydd wedi cael eu llywio gan brofiadau bywyd a gwydnwch aelodau'r grŵp BSL, yn gosod y sylfeini ar gyfer polisïau a strategaethau yn y dyfodol, er mwyn creu newid parhaol a mwy o gynhwysiant i arwyddwyr BSL byddar. 

Mae map llwybrau BSL yn cynnwys pedair thema allweddol a 10 cam gweithredu. Y pedair thema allweddol yw: 

  1. Casglu data a thystiolaeth o ran BSL
  2. Hyrwyddo BSL fel iaith 
  3. Darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru
  4. Llwybrau o fewn gwasanaethau cyhoeddus

Plant a phobl ifanc 

Mae map llwybrau BSL yn ymwneud ag arwyddwyr BSL byddar o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Wrth ddatblygu map llwybrau BSL, mae natur groestoriadol y gymuned arwyddo BSL fyddar, gan gynnwys plant a phobl ifanc, wedi cael ei hystyried ac wedi helpu i lywio'r map llwybrau.

Mae profiadau bywyd plant a phobl ifanc, drwy sefydliadau cynrychioliadol ac elusennau, wedi cael eu hystyried fel rhan o gyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL. Caiff y trafodaethau hyn eu hadlewyrchu yn yr argymhellion a luniwyd gan y grŵp a'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau. Mae'r map llwybrau yn cynnwys camau gweithredu mewn perthynas â mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar, deall sgiliau BSL y gweithlu addysg, a hyrwyddo rôl BSL yn y sector addysg.

Mae map llwybrau BSL yn cynnwys cam gweithredu arall sy'n ymwneud yn benodol â diogelu sy'n berthnasol i bob arwyddwr BSL byddar, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Caiff y camau gweithredu hyn eu hamlinellu'n fanylach isod.

Integreiddio

Mae themâu a chamau gweithredu map llwybrau BSL yn drawslywodraethol yn ogystal â chroestoriadol. Mae'r camau gweithredu yn ymwneud â hyrwyddo a chydnabod BSL fel iaith yn nifer o feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Caiff camau gweithredu trawslywodraethol sy'n ymwneud â meysydd polisi penodol, eu cyflawni fel rhan o amcanion polisi a strategaethau presennol. Bydd map llwybrau BSL yn helpu i wella canlyniadau BSL fel rhan o fentrau polisi ehangach. Nod map llwybrau BSL yw hyrwyddo, hwyluso a chryfhau BSL ym mhob maes polisi, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, plant a phobl ifanc, ym mhob gwasanaeth cyhoeddus.

Mae tîm polisi BSL Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda swyddogion polisi perthnasol ym maes Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y prif themâu a drafodwyd yng nghyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL, a thrafod yr argymhellion terfynol a luniwyd gan y grŵp. Mae'r argymhellion hyn wedi llywio'r camau gweithredu a geir ym map llwybrau BSL. Bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu wrth i'r map llwybrau gael ei roi ar waith.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Pa waith ymchwil a data ar blant a phobl ifanc sydd eisoes ar gael i lywio eich polisi penodol? 

Gwaith ymchwil

Wrth ddatblygu'r asesiadau effaith ar gyfer map llwybrau BSL, rydym wedi cynnal adolygiad tystiolaeth cyflym o ymchwil sy'n bodoli eisoes ar anghydraddoldebau a rhwystrau iaith sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar. Mae rhwystrau sy'n wynebu plant a phobl ifanc wedi cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad cyflym hwn. Ceir crynodeb lefel uchel o'r canfyddiadau isod.

Mae gwaith ymchwil i'r ddarpariaeth BSL ym maes addysg yn dangos heriau sylweddol o fewn addysg i blant a phobl ifanc byddar (Wilks ac O’Neill, 2022).

Mae ymchwil yn dangos bod yr oedran y bydd plentyn yn caffael ei iaith gyntaf, gan gynnwys BSL, yn cael effaith sylweddol ar ganlyniadau ieithyddol a gwybyddol. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud bod oedi cyn cyflwyno plant i BSL yn aml yn arwain at amddifadedd iaith, gan effeithio ar ddatblygiad gwybyddol ac emosiynol.

Mae ymchwil yn dangos bod diffyg darpariaeth BSL gynnar a diffyg amlygiad cynnar i BSL yn cyfrannu at fylchau sylweddol mewn cyrhaeddiad addysgol (Wilks ac O’Neill, 2022). Gall caffael iaith arwyddion yn gynnar helpu i atal amddifadedd iaith a hyrwyddo datblygiad gwybyddol, ieithyddol a chymdeithasol (Wilks ac O’Neill, 2025).

Mae adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at fylchau mewn cyrhaeddiad addysgol i blant a phobl ifanc fyddar, yn deillio o rwystrau iaith. Mae plant byddar yn aml yn gadael addysg orfodol â lefel ddarllen sy'n cyfateb i blentyn 8 oed (Rowley, 2023) ac maent yn llai tebygol o ennill cymwysterau TGAU o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol (Wilks ac O’Neill, 2022).

Mae ymchwil yn dangos bod cyrhaeddiad addysgol myfyrwyr byddar yn is ar y cyfan o gymharu â phlant sy'n clywed. Yn 2019, roedd dysgwyr byddar 10.7% yn llai tebygol o ennill graddau A* i C ym mhynciau craidd Cymraeg/Saesneg iaith a Mathemateg, o gymharu â'u cyfoedion sy'n clywed. Mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant byddar a'u cyfoedion sy'n clywed yng Nghyfnod Allweddol 2 yn cyfateb i oddeutu 7%. (Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar). Mae ystadegau y mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn cyfeirio atynt yn dangos mai 73% o blant byddar sy'n cyflawni Dangosydd y Cyfnod Sylfaen o gymharu â 92% o blant sy'n clywed. 

Camau gweithredu: map llwybrau BSL 

Mae trafodaethau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi adeiladu ar themâu sydd i'w gweld mewn gwaith ymchwil presennol, gan ystyried natur groestoriadol y gymuned arwyddo BSL fyddar. Edrychodd un o gyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL yn benodol ar bwnc y blynyddoedd cynnar ac addysg. Lluniodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gyfres o argymhellion â blaenoriaeth i lywio'r camau gweithredu yn y map llwybrau BSL, y mae rhai ohonynt yn ymwneud ag addysg y blynyddoedd cynnar, caffael iaith, a darpariaeth BSL ym maes addysg.

Nod map llwybrau BSL yw sicrhau bod BSL yn cael ei hyrwyddo, ei hwyluso a'i chydnabod yn well a dileu rhwystrau iaith i bob arwyddwr BSL byddar, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae'r map llwybrau yn cynnwys y camau gweithredu canlynol mewn perthynas ag addysg a'r blynyddoedd cynnar. Mae'r camau gweithredu hyn yn ymateb yn uniongyrchol i'r argymhellion byrdymor a luniwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL:

  • Sgiliau BSL yn y gweithlu addysg: fel rhan o'r gwaith o weithredu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysgu, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall faint o ymarferwyr ysgol ac athrawon ymgynghorol awdurdodau lleol sy'n gallu arwyddo BSL ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol i ddatblygu sgiliau BSL ymarferwyr ar gyfer y dyfodol.
  • Hyrwyddo rôl BSL yn y sector addysg: bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo BSL fel iaith mewn lleoliadau addysgol ac yn codi mwy o ymwybyddiaeth o hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol BSL. Dylai BSL gael ei hyrwyddo a'i chydnabod mewn lleoliadau addysgol fel iaith sydd ar wahân i adnoddau cyfathrebu a systemau arwyddion. 
  • Mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar: bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i fapio ac adolygu sut y caiff plant byddar eu nodi drwy brofion sgrinio gofal iechyd yn y blynyddoedd cynnar, a deall y llwybr cymorth a ddarperir. Bydd y gwaith hwn yn asesu'r ddarpariaeth BSL bresennol sydd ar gael, o adeg diagnosis, i alluogi plant byddar a'u teuluoedd i gaffael iaith yn gynnar, gan nodi unrhyw fylchau a rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd. 

Gan ddefnyddio'r gwaith ymchwil hwn, sut rydych chi'n rhagweld y bydd eich polisi'n effeithio ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, gan gynnwys effeithiau cadarnhaol a negyddol?

Mae cyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi ystyried gwaith ymchwil presennol, ac mae trafodaethau'r grŵp wedi adeiladu ar y prif themâu a nodwyd yn y gwaith ymchwil. Cyfrannodd y grŵp brofiadau bywyd ac arbenigedd fel rhan o'r trafodaethau hyn.

Mae'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau yn ystyried pob arwyddwr BSL byddar, gan gynnwys plant a phobl ifanc, pobl â nodweddion gwarchodedig a phobl sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel.

Bydd gwaith map llwybrau BSL hwn yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, gan gydnabod bod gan BSL ei hunaniaeth ieithyddol, hanesyddol a diwylliannol unigryw ei hun. Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â phlant, gan gynnwys mynediad amserol at BSL i fabanod a phlant byddar. Bydd camau gweithredu ym map llwybrau BSL a'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn helpu i ddatblygu gwaith tuag at ein nod o hyrwyddo a hwyluso BSL.

Canlyniad ac effaith camau gweithredu

Bydd map llwybrau BSL yn cael effaith gadarnhaol ar bob arwyddwr BSL byddar yng Nghymru, gan gynnwys babanod, plant a phobl ifanc.

Mae map llwybrau BSL yn amlinellu ein huchelgais gyffredinol: adeiladu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar, a chreu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru. Bwriedir i'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau gael eu defnyddio fel man cychwyn, i ategu'r llwybr ar gyfer datblygu polisïau a chamau gweithredu yn y dyfodol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

Drwy ganolbwyntio'n gyntaf ar gyflawni blaenoriaethau byrdymor, sy'n rhoi pwyslais ar hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth, mapio a chwmpasu, a chasglu data, gallwn adeiladu'r sylfaen ar gyfer cynnydd yn y dyfodol.

Mae'r map llwybrau yn nodi'r camau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o fewn 18 mis. Bydd y gwaith ar y camau gweithredu hyn yn dechrau pan gânt eu cyhoeddi.

Drwy ddechrau'r gweithgareddau cychwynnol hyn yn gynnar, rydym yn ceisio cynnal momentwm a sicrhau ein bod yn paratoi ar gyfer nodau hirdymor.  Mae rhoi cyfnod o 18 mis i gwblhau'r camau gweithredu byrdymor yn ein galluogi i bennu camau gweithredu mesuradwy seiliedig ar amser i sicrhau newid ystyrlon i arwyddwyr BSL byddar.

Pa waith cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc rydych chi wedi'i ddefnyddio i lywio eich polisi?

Wrth ddatblygu map llwybrau BSL, bu'n hanfodol ystyried profiadau bywyd plant a phobl ifanc, drwy sefydliadau cynrychioliadol ac elusennau.

Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL ei sefydlu ym mis Ionawr 2025. Roedd y grŵp yn cynnwys cymysgedd cynrychioliadol ac amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys mudiadau ac elusennau i bobl fyddar, a chyfrannodd pob un ohonynt arbenigedd gwerthfawr a phrofiadau bywyd. Prif iaith trafodaethau'r grŵp oedd BSL. Roedd yn cael ei gyd-gadeirio gan ddau arwyddwr BSL byddar. Roedd y strwythur hwn wedi gosod cynsail ar gyfer cydweithio cynhwysol sy'n canolbwyntio ar iaith.

Er nad oedd y grŵp yn cynnwys unrhyw blant a phobl ifanc, roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, yn ogystal â chynrychiolwyr addysgol ac addysgu. Cafodd profiadau plant a phobl ifanc eu hystyried a'u trafod yn rheolaidd gan y grŵp.

Mae cylch gorchwyl Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL yn nodi: 

Mae'r aelodau'n gyfrifol am rannu safbwyntiau aelodau eu cymunedau (fel safbwyntiau plant a phobl ifanc byddar), yn ogystal ag ymchwil/adnoddau/gwybodaeth berthnasol a fydd yn helpu'r Grŵp i gyflawni ei ddeilliannau 

Disgwylir bod aelodau sy'n cynrychioli sefydliad, yn ymgynghori â'u sefydliadau rhwng cyfarfodydd ac yn adrodd adborth i grŵp rhanddeiliaid BSL.

Aelodaeth

Roedd aelodau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL yn cynnwys:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 
  • Centre of Sign Sight Sound (COS)
  • Cofrestru Cenedlaethol o Weithwyr Cyfathrebu Proffesiynol sy'n gweithio gyda Phobl Fyddar a Dall Fyddar 
  • Cyngor Cymru ar gyfer Pobl Fyddar (WCDP)
  • Cymdeithas Athrawon ac Aseswyr Iaith Arwyddion Prydain (ABSLTA) 
  • Cymdeithas Athrawon Plant a Phobl Ifanc Byddar Prydain (BATOD) 
  • Cymdeithas Dehonglwyr Iaith Arwyddion (ASLI) 
  • Cymdeithas Menywod Ethnig Byddar 
  • Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA) 
  • Cynrychiolwyr annibynnol, gan gynnwys athrawon pobl fyddar.
  • Deaf Friendly Ltd 
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Llywodraeth Cymru 
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) 
  • Signature 
  • Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) 
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Bwriedir i'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau gael eu defnyddio fel man cychwyn, i ategu'r llwybr ar gyfer datblygu polisïau yn y dyfodol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a dechrau'r daith tuag at gyflawni ein gweledigaeth gyffredinol.

Drwy ganolbwyntio'n gyntaf ar gyflawni blaenoriaethau byrdymor, sy'n rhoi pwyslais ar godi ymwybyddiaeth, mapio a chwmpasu, a chasglu data, gallwn adeiladu'r sylfaen ar gyfer cynnydd yn y dyfodol.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i'r cynigion a'r camau gweithredu a amlinellir ym map llwybrau BSL.  Os bydd Grŵp Rhanddeiliaid BSL yn nodi y gallai camau i weithredu'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau gweithredu i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodwyd, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Wrth ddatblygu map llwybrau BSL, mae natur groestoriadol y gymuned arwyddo BSL fyddar, gan gynnwys plant a phobl ifanc, wedi cael ei hystyried ac wedi helpu i lywio'r map llwybrau. Caiff croestoriadedd, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig a chydraddoldeb, eu hystyried drwy gydol y broses o roi'r map llwybrau ar waith. Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau hefyd sy'n cynnwys rhagor o fanylion am hyn.  

Sut mae eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y nodir yn erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a'i Brotocolau Dewisol?

Erthyglau neu brotocolau dewisol CCUHP sy'n ymwneud â'n deddfwriaeth arfaethedig

Erthygl 1

Mae gan bawb dan 18 oed yr holl hawliau sydd yn y Confensiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn yr erthygl hon wrth fynd i'r afael â'r cynigion polisi a'r camau gweithredu a nodir ym map llwybrau BSL.

Statws: Yn gwella

Erthygl 2

Mae’r Confensiwn yn gymwys i bawb, beth bynnag fo'i hil, crefydd, galluoedd, beth bynnag a feddylia neu a ddywed a pha fath bynnag o deulu y daw ohono. Mae map llwybrau BSL yn dilyn yr erthygl hon ac yn cydnabod croestoriadedd, mae'r map llwybrau i bob arwyddwr BSL byddar yng Nghymru.

Statws: Yn gwella

Erthygl 3

Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn yr erthygl hon gan weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn yr erthygl hon wrth fynd i'r afael â'r cynigion polisi a'r camau gweithredu a nodir ym map llwybrau BSL. Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi cynnwys sefydliadau cynrychioliadol.

Statws: Yn gwella

Erthygl 4

Dylai llywodraethau sicrhau bod yr hawliau hyn ar gael i blant. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn yr erthygl hon wrth fynd i'r afael â'r cynigion polisi a'r camau gweithredu a nodir ym map llwybrau BSL.

Statws: Yn gwella

Erthygl 5

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn yr erthygl hon wrth fynd i'r afael â'r cynigion polisi a'r camau gweithredu a nodir ym map llwybrau BSL. Dylai llywodraethau barchu hawliau a chyfrifoldebau teuluoedd i gyfarwyddo ac arwain eu plant fel eu bod, wrth dyfu, yn dysgu sut i ddefnyddio eu hawliau’n briodol. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn yr erthygl hon wrth fynd i'r afael â'r cynigion polisi a'r camau gweithredu a nodir ym map llwybrau BSL.

Statws: Yn gwella

Erthygl 6

Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn yr erthygl hon wrth fynd i'r afael â'r cynigion polisi a'r camau gweithredu a nodir ym map llwybrau BSL.

Statws: Yn gwella

Erthygl 12

Mae gan blant yr hawl i roi eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei hystyried. Mae safbwyntiau plant a phobl ifanc wedi cael eu hystyried drwy'r sefydliadau cynrychioliadol, yr elusennau a'r sectorau sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL. Mae Grŵp Rhanddeiliaid BSL wedi ailgynnull i barhau i ymgysylltu drwy gydol y cyfnod cyflawni a gweithredu.

Statws: Yn gwella

Erthygl 15

Mae gan bob plentyn yr hawl i gwrdd â'i gilydd ac i ymuno â grwpiau a sefydliadau, ar yr amod nad yw hyn yn atal pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau. Uchelgais hirdymor map llwybrau BSL yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Statws: Yn gwella

Erthygl 23

Dylai plant sydd ag anabledd o unrhyw fath gael gofal arbennig a chefnogaeth fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol. Bydd gwaith map llwybrau BSL hwn yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, gan gydnabod bod gan BSL ei hunaniaeth ieithyddol, hanesyddol a diwylliannol unigryw ei hun. Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â phlant, gan gynnwys mynediad amserol at BSL i fabanod a phlant byddar. Bydd camau gweithredu ym map llwybrau BSL a'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn ategu ein nod o hyrwyddo a hwyluso BSL.

Statws: Yn gwella

Erthygl 24

Mae gan blant yr hawl i gael gofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân er mwyn iddyn nhw gadw’n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn. Uchelgais hirdymor map llwybrau BSL yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae map llwybrau BSL yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â gofal iechyd: mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar.

Statws: Yn gwella

Erthygl 26

Caiff cyllid ar gyfer y Cynllun hwn ei brif-ffrydio ar draws meysydd polisi; cynllun trawslywodraethol yw hwn.

Statws: Yn gwella

Erthygl 28 and 29

Mae'r erthygl hon, sef ‘Mae gan blant yr hawl i addysg’ a ‘dylai addysg ddatblygu personoliaeth ac anghenion pob plentyn yn gyflawn’, wedi cael ei hystyried fel rhan o'r gwaith o ddatblygu map llwybrau BSL ac fel rhan o drafodaethau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL.

Mae'r map llwybrau yn cynnwys nifer o gamau gweithredu sy'n ymwneud ag addysg y blynyddoedd cynnar, caffael iaith a darpariaeth BSL ym maes addysg.

Statws: Yn gwella

Erthygl 30

Mae'r erthygl hon, sef ‘Mae gan blant yr hawl i ddysgu iaith’, yn adlewyrchu'n gadarn weledigaeth gyffredinol y map llwybrau BSL. Nod map llwybrau BSL yw sicrhau bod BSL yn cael ei hyrwyddo, ei hwyluso a'i chydnabod yn well a dileu rhwystrau iaith. Mae'r map llwybrau yn cynnwys cam gweithredu sy'n ymwneud â mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar; mae hyn yn ymwneud yn benodol â darpariaeth BSL i fabanod a phobl ifanc.

Mae camau gweithredu eraill yn ymwneud â darpariaeth BSL ym maes addysg.

Statws: Yn gwella

Erthygl 31

Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau. Mae hyn wedi cael ei ystyried wrth ddatblygu'r map llwybrau ac mae'n cysylltu â rhai o'r camau gweithredu yn y map llwybrau, fel mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar.

Statws: Yn gwella

Erthygl 34

Yr erthygl hon yw ‘dylai'r Llywodraeth amddiffyn plant rhag camdriniaeth rywiol’. Mae map llwybrau BSL yn cynnwys cam gweithredu sy'n ymwneud yn benodol â diogelu sy'n berthnasol i bob arwyddwr BSL byddar, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Statws: Yn gwella

Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag  Arsylwadau Terfynol CCUHP wrth ddatblygu polisïau perthnasol. Mae argymhellion a luniwyd gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL, sydd wedi llywio'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL, yn berthnasol i'r cynnig hwn. Mae camau gweithredu ym map llwybrau BSL yn ymwneud â'r canlynol:

  • Paragraff 47 (addysg): mae'r map llwybrau yn cynnwys nifer o gamau gweithredu sy'n ymwneud ag addysg y blynyddoedd cynnar, caffael iaith a darpariaeth BSL ym maes addysg.
  • Paragraff 33 (mesurau amddiffyn arbennig): mae map llwybrau BSL yn cynnwys cam gweithredu sy'n ymwneud yn benodol â diogelu sy'n berthnasol i bob arwyddwr BSL byddar, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Mae cydraddoldeb a hawliau dynol wedi'u hymwreiddio yn y camau gweithredu a amlinellir ym map llwybrau BSL. Bydd Grŵp Rhanddeiliaid BSL a map llwybrau BSL yn helpu i gyflawni ein huchelgais gyffredinol i greu Cymru gyfartal gan roi cynhwysiant wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cymru. Mae parch at hawliau dynol sylfaenol yn ogystal â chydraddoldeb wedi'i ymwreiddio yn holl waith Llywodraeth Cymru a'r map llwybrau BSL.

Cyngor gweinidogol a phenderfyniad y gweinidog

Bydd yr holl gyngor gweinidogol mewn perthynas â map llwybrau BSL yn cadarnhau ein bod wedi ystyried CCUHP wrth ddatblygu'r polisi hwn.

Cyhoeddi'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant

Caiff yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ei gyhoeddi ochr yn ochr yn ochr â map llwybrau BSL.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i barhau i gryfhau ein gwaith ymgysylltu â'r gymuned arwyddo BSL fyddar, gan adeiladu ar fodelau o arweinyddiaeth fyddar. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â sefydliadau cynrychioliadol drwy Grŵp Rhanddeiliaid BSL sydd wedi ailgynnull, drwy gydol y gwaith o gyflawni a gweithredu map llwybrau BSL. Byddwn hefyd yn ystyried y ffyrdd gorau o rannu ein cynnydd â phlant a phobl ifanc.

Monitro ac adolygu

Ar ôl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gwblhau ei waith, mae'r grŵp wedi ailgynnull o dan Gylch Gorchwyl newydd, er mwyn helpu i gyflawni'r map llwybrau a rhoi'r camau gweithredu byrdymor ar waith. Bydd aelodau Grŵp Rhanddeiliaid BSL yn helpu i gefnogi a monitro'r gwaith ar y camau gweithredu a nodir ym map llwybrau BSL, gan gynnig eu profiadau bywyd, eu safbwyntiau a'u dadansoddiadau.

Bydd Grŵp Rhanddeiliaid BSL yn chwarae rôl hanfodol wrth lywio cyfeiriad y map llwybrau, monitro ei gynnydd, a sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf bosibl, gan weithio fel cyswllt hollbwysig rhwng arwyddwyr BSL byddar, llunwyr polisi, a darparwyr gwasanaethau. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag arwyddwyr BSL byddar a sefydliadau cynrychioliadol, yn ogystal â phartneriaid eraill, i fonitro ac adolygu ein gwaith gweithredu a'n heffaith.

Byddwn hefyd yn cael cyngor i'n helpu i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o ymgysylltu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ag arwyddwyr BSL byddar a phobl ifanc â phrofiadau bywyd er mwyn ein helpu i ddeall a ydym ni a'n partneriaid yn gwneud cynnydd wrth roi'r map llwybrau ar waith.

Bydd swyddogion polisi BSL hefyd yn adolygu'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn rheolaidd ac yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gefnogi hawliau plant wrth inni symud ymlaen i'r cyfnod gweithredu. Byddwn yn cysoni adolygiadau o'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn y dyfodol ag unrhyw adolygiadau o fap llwybrau BSL yn y dyfodol. Bydd adolygiadau parhaus o'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn llywio camau gweithredu a strategaethau yn y dyfodol.