Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Heddiw mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r adolygiad o'r berthynas rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).
Mae'r adolygiad hwn yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth amgylchedd hanesyddol cynaliadwy o ansawdd uchel i Gymru a hyrwyddo ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.
Cynhaliwyd Gweithgor traws-sefydliadol, yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o Cadw, CBHC, swyddogion Llywodraeth Cymru, undebau llafur, a Carole Souter CBE, arbenigwr treftadaeth annibynnol. Bu’r Gweithgor yn ystyried tri opsiwn ar gyfer y berthynas yn y dyfodol: cynnal y trefniadau presennol, cydweithio strategol agosach, ac uno a fyddai’n dod â gwaith Cadw a’r CBHC ynghyd i greu gwasanaeth amgylchedd hanesyddol integredig ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd eu gwaith yn cynnwys ymgysylltu'n helaeth â staff a rhanddeiliaid, ac ymgynghori â phartneriaid megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru.
O’r opsiynau a gynigiwyd, daeth y Gweithgor i'r casgliad mai uno oedd yr opsiwn â’r potensial mwyaf i ddarparu manteision hirdymor cynaliadwy i'r sector ac i bobl Cymru, ond mae angen rhagor o waith manwl— yn enwedig i nodi'r manteision strategol a'r costau o'u cyflawni, a sefydlu mesurau i ddiogelu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef yr archif genedlaethol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Mae Comisiynwyr CBHC wedi nodi eu bod yn cydnabod y cyfleoedd a fyddai'n cael eu darparu drwy greu gwasanaeth integredig, yn amodol ar ganlyniad y gwaith pellach hwn.
Rwy'n croesawu'r canfyddiadau hyn. Mae'r Gweithgor wedi nodi'r manteision cadarnhaol y gellid eu cyflawni drwy ddod â gwaith Cadw a’r CBHC ynghyd i greu gwasanaeth integredig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd Hanesyddol. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio'n agos ac ar y cyd â CBHC i archwilio'r opsiwn hwn a'r sicrwydd sydd ei angen yn fanylach.
Yn y cyfamser, mae Cadw a CBHC yn parhau i gydweithio i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Law yn llaw â gwaith arloesol ar enwau lleoedd hanesyddol, mae'r sefydliadau hefyd yn gweithio gyda'i gilydd i gynnal cofnodion treftadaeth cenedlaethol a rennir, ac i gydlynu gwaith arolygu a chofnodi ym meysydd archaeoleg, adeiladau, tirweddau a gweddillion morwrol, gan sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei gofnodi’n helaeth ac mewn modd hygyrch.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio’r ymgysylltiad cadarnhaol a gafwyd gan staff Cadw a CBHC, yn ogystal ag o’r undebau llafur, drwy gydol yr adolygiad. Hoffwn hefyd gydnabod y sylwadau niferus a fynegwyd gan randdeiliaid ynghylch y lefel uchel o arbenigedd, proffesiynoldeb ac ymrwymiad gan staff yn y ddau sefydliad i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf ar gyfer hyrwyddo gofal, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’n hamgylchedd hanesyddol. Bydd cyfranogiad parhaus staff yn parhau i fod yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen, wrth iddynt gefnogi'r gwaith sydd ei angen ar y llwybr i sefydlu gwasanaeth integredig.
Hoffwn ddiolch i'r Gweithgor, Carole Souter, a'r holl sefydliadau ac unigolion a gymerodd ran yn yr ymarfer hwn. Mae eu harbenigedd, eu hymrwymiad a'u hymgysylltiad adeiladol wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio'r adolygiad a'i argymhellion.
Mae'r adroddiad llawn ar gael: Adolygiad o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Cadw: crynodeb gweithredol
