Egwyddorion ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd yng Nghymru
Elfennau sylfaenol y dylai pob ysgol eu hymgorffori wrth addysgu iaith a llythrennedd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Egwyddorion ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd yng Nghymru
Mae'r egwyddorion hyn yn nodi'r elfennau sylfaenol y dylai pob ysgol eu hymgorffori wrth addysgu iaith a llythrennedd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed. Maent yn seiliedig ar ymrwymiad i ddathlu, hyrwyddo ac annog llythrennedd dwyieithog ac amlieithog. Mae'r egwyddorion wedi cael eu llywio gan dystiolaeth, maent yn canolbwyntio ar ymarfer addysg, a’u nod yw:
- llywio disgwyliadau clir ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu'r sgiliau hyn yn effeithiol
- cefnogi mwy o gysondeb a gwelliant ar gyfer iaith a llythrennedd ar draws y system
- arwain y gwaith o ddatblygu rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol i sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at ddysgu proffesiynol, cymorth a strategaethau o ansawdd uchel i addysgu ac asesu sgiliau iaith a llythrennedd dysgwyr
- llywio rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon i sicrhau bod pob ymarferydd newydd yn deall sut i addysgu ac asesu sgiliau iaith a llythrennedd yn effeithiol
- cefnogi'r adolygiad o'r Fframwaith Llythrennedd
Mae'r Panel Arbenigol Llythrennedd wedi nodi pum egwyddor ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd yng Nghymru:
- Mae sylfaen gref mewn iaith lafar yn hanfodol er mwyn datblygu iaith a llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus ar bob cam.
- Dylai’r dull addysgu llythrennedd fod yn systematig, yn strwythuredig ac yn benodol.
- Mae creu cysylltiadau rhwng gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i ddysgu, cyfathrebu a chreu ystyr.
- Mae addysgu iaith a llythrennedd yn effeithiol yn galluogi dysgwyr i brofi mwynhad, llwyddiant a chymhelliant.
- Mae asesu pwrpasol yn hanfodol i gefnogi addysgu iaith a llythrennedd mewn ffordd wybodus ac ymatebol.
Ceir rhagor o wybodaeth am bob egwyddor isod, gyda datganiadau ategol i ddisgrifio’r hyn maent yn ei olygu i ysgolion a lleoliadau.
Sut gall ysgolion a lleoliadau roi'r egwyddorion ar waith
1. Mae sylfaen gref mewn iaith lafar yn hanfodol er mwyn datblygu iaith a llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus ar bob cam
Dylai ysgolion a lleoliadau:
- ddarparu amgylcheddau dysgu sy'n llawn iaith a llythrennedd lle mae’r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio’n ystyrlon ar gyfer cyfathrebu, creadigrwydd a dysgu
- cefnogi cyfathrebu a lleferydd dysgwyr drwy fodelu iaith yn benodol, gan gynnwys defnyddio iaith rythmig
- defnyddio amrywiaeth o gyd-destunau go iawn a dychmygus, y tu mewn a’r tu allan, i ddatblygu ac ymestyn gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dysgwyr
- addysgu sgiliau gwrando a siarad yn benodol
- darparu cyfleoedd rheolaidd, wedi'u cynllunio a'u strwythuro, i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am eirfa a’u dealltwriaeth ohoni, fel rhan annatod o ddysgu iaith
- sicrhau bod cysyniadau a sgiliau yn cronni’n raddol i gefnogi datblygu iaith a llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus
- gweithio gyda theuluoedd, cymunedau ac asiantaethau allanol i ddeall yr amrywiaeth eang o ffactorau, gan gynnwys cyd-destunau ieithyddol a diwylliannol, sy’n dylanwadu ar ddatblygiad iaith a llythrennedd plant
2. Dylai’r dull addysgu llythrennedd fod yn systematig, yn strwythuredig ac yn benodol
Dylai ysgolion a lleoliadau:
- ddefnyddio hyfforddiant systematig a phenodol i roi i ddysgwyr yr amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a strategaethau y mae arnynt ei hangen i ddatblygu defnydd effeithiol o iaith
- datblygu ymwybyddiaeth ffonolegol, megis trwy ganeuon a rhigymau
- sicrhau bod pob dysgwr yn gwybod sut i fynd ati i ddadgodio geiriau nad ydynt yn eu gwybod yn effeithiol drwy addysgu ffoneg mewn ffordd systematig, strwythuredig a phenodol
- cydnabod y dulliau addysgegol gwahanol sy'n ofynnol ar gyfer pob iaith, a chynllunio ar eu cyfer, gan gynnwys gwahaniaethau mewn cyfatebiaeth sain-symbol, morffoleg a chystrawen
- datblygu gallu dysgwyr i ddarllen yn rhugl gyda goslef a chyflymder priodol i gyfleu ystyr testun wrth ddarllen yn uchel
- datblygu sgiliau dysgwyr o ran casglu, canfod, dadansoddi, dehongli, gwerthuso, crynholi, syntheseiddio, chymharu a gwerthfawrogi testunau
- cefnogi datblygiad sgiliau ysgrifennu dysgwyr drwy fynd ati’n benodol i addysgu sut i ffurfio llythrennau, llunio brawddegau, atalnodi a sillafu mewn cyd-destunau ystyrlon
- defnyddio dull systematig a strwythuredig o addysgu sillafu
- defnyddio dulliau sy'n cael eu llywio gan dystiolaeth i ddatblygu iaith a llythrennedd, gan integreiddio strategaethau sydd wedi dangos effaith gadarnhaol ar gynnydd dysgwyr
I gefnogi'r gwaith hwn, mae'r Panel wedi ysgrifennu Datganiad o fwriad ar addysgu sgiliau darllen cynnar, gan gynnwys addysgu ffoneg.
3. Mae creu cysylltiadau rhwng gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i ddysgu, cyfathrebu a chreu ystyr
Dylai ysgolion a lleoliadau:
- annog cydweithio ar draws addysgu Cymraeg, Saesneg ac amlieithog i ddarparu cyfleoedd teg a phwrpasol a sicrhau cysondeb o ran disgwyliadau a llwybrau cynnydd
- helpu dysgwyr i gysylltu'r hyn maent yn ei glywed a'i ddarllen â'u profiadau eu hunain ac adeiladu gwybodaeth gefndirol yn systematig er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth
- cynllunio cyfleoedd systematig i ddatblygu gallu dysgwyr i siarad a’u meistrolaeth ar iaith ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion, gan gynnal deialog â nhw i’w hannog i feddwl am sut maent yn cyfathrebu a sut gallant wella
- defnyddio modelu ac arddangosiadau i ddatblygu gallu dysgwyr i ddeall a defnyddio iaith yn effeithiol
- addysgu dysgwyr i gynllunio, drafftio, adolygu a mireinio eu syniadau llafar ac ysgrifenedig, ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb am wirio, cywiro ac ailddrafftio eu gwaith ysgrifenedig fel eu bod yn cyfleu syniadau a gwybodaeth yn gydlynol ac yn effeithiol
- galluogi dysgwyr i ddeall gwahanol ffurfiau a genres
- cynllunio cyfleoedd pwrpasol i ddysgwyr ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith a llythrennedd ar draws ac o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad
4. Mae addysgu iaith a llythrennedd yn effeithiol yn galluogi dysgwyr i brofi mwynhad, llwyddiant a chymhelliant
Dylai ysgolion a lleoliadau:
- greu diwylliant o ddisgwyliadau uchel a herio pwrpasol i gymell dysgwyr a meithrin hyder wrth ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd
- annog cymhelliant drwy ddylunio a dewis adnoddau, profiadau a gweithgareddau o ansawdd uchel i ennyn diddordeb dysgwyr
- cydbwyso gweithgareddau dan gyfarwyddyd oedolion â dysgu annibynnol, gan ddatblygu ymreolaeth drwy ganiatáu i ddysgwyr ddewis pynciau a thestunau ar gyfer astudio’n unigol neu mewn grŵp
- datblygu sgiliau iaith a llythrennedd disgyblaethol i gryfhau cymhelliant ac ymgysylltiad dysgwyr ar draws eu pynciau
- cefnogi dysgwyr i fyfyrio'n rheolaidd ar y strategaethau maent yn eu defnyddio a'r cynnydd maent yn ei wneud
- datblygu diwylliant o ddarllen sy'n meithrin darllen er pleser, sy’n cynnwys cyfleoedd rheolaidd i wrando ar oedolion yn darllen yn uchel, ac sy’n hyrwyddo arferion darllen cadarnhaol
- cefnogi dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth ddiwylliannol drwy eu defnydd o iaith
5. Mae asesu pwrpasol yn hanfodol i gefnogi addysgu iaith a llythrennedd mewn ffordd wybodus ac ymatebol
Dylai ysgolion a lleoliadau:
- ddefnyddio asesu parhaus i nodi cryfderau ac anghenion dysgwyr, addasu’r ddarpariaeth a darparu cymorth wedi’i dargedu
- rhoi adborth manwl ac anogaeth i ddysgwyr yn rheolaidd, yn briodol i'w cam datblygu, er mwyn arwain a chymell gwelliant pellach mewn sgiliau iaith a llythrennedd
- sicrhau bod dulliau asesu yn briodol yn ddatblygiadol, yn gynhwysol ac yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
- defnyddio strategaethau addysgu ac ymyrraeth sy’n ymateb i broffiliau iaith dysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, Saesneg fel iaith ychwanegol, ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu
- defnyddio modelau cymorth hyblyg, gan gynnwys darpariaeth un-i-un ac mewn grwpiau bach, i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr yn effeithiol
- cefnogi ymarfer sy'n seiliedig ar ymholi, lle mae ymarferwyr yn gwerthuso effaith eu strategaethau addysgu ar ganlyniadau dysgwyr ac yn addasu ar sail tystiolaeth
