Neidio i'r prif gynnwy
Hensol Forest

Coedwig Hensol i Goedwig Llantrisant

Gallwch archwilio cymysgedd o goetiroedd gwledig a threfol, gyda phob un yn cynnig rhywbeth unigryw ar hyd y llwybr.

Hyd y llwybr

12.6 km

Safleoedd Coedwig Genedlaethol ar hyd y llwybr hwn

  • Coetiroedd Caerdydd a Bro Morgannwg (Coedwig Hensol)
  • Coedwig Gellihir 
  • Coetiroedd Pont-y-clun (Coed Ifor, Taith Gerdded Glan yr Afon a thir yn Hollies)
  • Coetiroedd Caerdydd a Bro Morgannwg (Coed Trecastell) 
  • Coetiroedd Caerdydd a Bro Morgannwg (Ynysmaerdy a Choedwig Llantrisant) 

Llwybr

Gan ddechrau yng Nghoedwig Hensol, gallwch barcio yn y prif faes parcio (gweler y map rhyngweithiol). Dilynwch lwybr y goedwig i'r dwyrain i ymuno â Llwybr Coedwig Cymru. 

Mae’r llwybr yn mynd trwy gymysgedd o goetir conwydd a llydanddail. Ceir cynlluniau i adfer rhostir a choetir hynafol. Gan adael Coedwig Hensol, mae'r llwybr yn dilyn ymyl Coed Leision, sef coetir llydanddail cymysg sy'n eiddo preifat.

Gan barhau tua’r Gogledd, byddwch yn mynd heibio Coed Llwyn Rhyddid, un o warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur. Mae’r coetir hwn yn cynnwys cymysgedd o goed Derw, Ynn, Ffawydd a chonwydd cymysg. Wrth i chi fynd heibio Gwesty'r Vale fe welwch lawer o goed llydanddail aeddfed ac ardaloedd bach o goetir. 

Mae'r llwybr yn parhau ar hyd yr ymyl ac yna i mewn i Goed Llwyn gan droi tua’r gogledd i ddilyn ffin Fforest Fawr ac i mewn i'r coetir llydanddail a chonwydd cymysg hwn. Dilynwch lwybrau troed nes gadael y goedwig ac ewch ymlaen i danffordd yr M4.

Mae'r llwybr yn mynd â chi ochr yn ochr â choetir llydanddail, gan ffurfio coridor i'r M4, cyn mynd i mewn i safle nesaf Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae Coedwig Gellihir yn goetir llydanddail, ac mae'r llwybr yn dilyn ymyl y coetir a Nant Dyfrgi. Mae llawer o gofnodion bywyd gwyllt ar gyfer y safle hwn sy’n cael ei reoli’n weithredol i wella bioamrywiaeth.

Gan adael Coedwig Gellihir, mae'r llwybr yn mynd â chi i Bont-y-clun lle mae amrywiaeth o siopau, caffis a bwytai yn ogystal â lleoedd parcio, safleoedd bws a gorsaf drenau sy'n eich galluogi i gael mynediad i'r llwybr o'r ganolfan drafnidiaeth hon.

Ceir cyfle i fwynhau safle Coedwig Genedlaethol Cymru arall ger canol y dref. Coetiroedd Pont-y-clun (Coed Ifor, Taith Gerdded Glan yr Afon a thir yn Hollies), edrychwch ar ein map rhyngweithiol i ddarganfod mwy.

Gan adael canol tref Pont-y-clun heibio'r orsaf drenau, dilynwch afon Trelái, trwy goetiroedd llydanddail cymysg nes i chi gyrraedd Coedwig Ynysmaerdy, rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r llwybr yn mynd â chi ar hyd yr afon lle byddwch yn ymuno â'r hen reilffordd a llwybr gwastad tua'r gogledd, ar hyd ffin Coedwig Llantrisant. Mae'n bosibl parcio a chael mynediad i amwynderau yn Nhonysguboriau gerllaw ac mae maes parcio bach a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoed Garthmaelwg. Yma gallwch ddilyn ffyrdd coedwig a hawliau tramwy i archwilio Coedwig Llantrisant a chael mynediad i Lwybr Coedwig Cymru.

Map o’r llwybr

Efallai na fydd y map yn hygyrch i bob defnyddiwr. Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r map hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru.

Allwedd y map

Ni fydd eitemau sydd wedi'u marcio â seren* yn weladwy nes eu bod wedi'u chwyddo i mewn ar y map.

Llwybr Coedwig Cymru Trail
Image
Hensol to Llantrisant Forest
Coedwig Hensol i Goedwig Llantrisant
Image
National Forest
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Image
Llwybr Coedwig Cymru Trail Section Start / End
Llwybr Coedwig Cymru: dechrau / diwedd adran  
Teithio
Image
Car park
Maes parcio
Image
Bus or coach stop
Safle Bws / Coets 
Image
train station
Gorsaf Drenau
Image
Ferry
Terfynell Fferi
Image
Airport
Ardal Awyrennau  
Cyfleusterau
Image
Public toilet
Toiled Cyhoeddus
Image
Pub / restaurant
Tafarn / Bwyty*
Image
Cafe
Caffi*
Image
Hotel / accomodation
Gwesty / Lletya / Tŷ Llety*
Image
Campsite
Gwyliau / Safle Gwersylla*  

Ynglŷn â safleoedd y Goedwig Genedlaethol yn yr adran hon

Coedwig Hensol

Mae Coedwig Hensol yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae'n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Mae’r llwybr yn mynd trwy’r coetiroedd cymysg hyn sy’n cynnwys cyfran uchel o blanhigfeydd conwydd masnachol. Mae prosiect cydweithredol yn mynd rhagddo i adfer ardal o rostir prin, ac mae ardaloedd eraill wedi’u clustnodi ar gyfer gwaith yn y dyfodol i adfer rhai o’r safleoedd Coetir Hynafol yn raddol. Mae’n bosibl crwydro drwy Goedwig Hensol ar droed, ar gefn ceffyl neu ar feic.

Coedwig Gellihir

Mae llwybr Coedwig Cymru yn mynd â chi ar hyd ymylon deheuol a gorllewinol y coetir llydanddail cymysg amrywiol hwn. 

Mae'r llwybr yn dilyn llwybrau coetir naturiol, lle gellir gweld olion treftadaeth y coetir. Cadwch lygad am dystiolaeth o'r hen odyn galch a'r chwarel galchfaen wrth i'r llwybr ddilyn ffin ddeheuol y coetir.

Mae’r coetir llydanddail hwn yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys Derw, Bedw ac Ynn, ac mae’r llwybr hefyd yn eich tywys heibio bonion coed cyll. 

Coetiroedd Pont-y-clun (Coed Ifor)

Mae Coed Ifor, sy’n cael ei reoli gan Gyngor Tref Pont-y-clun, wedi bodoli ers dechrau’r 1800au. Enillodd y coetir statws Coedwig Genedlaethol ym mis Mehefin 2025. Cafodd y coetir ei gydnabod am ei hygyrchedd gwych yn agos i’r gymuned gyda llwybrau gydag arwyddbyst. Cysylltedd - mae’n cysylltu â'r rhwydwaith coetir ehangach gan gynnwys Coedwig Gellihir. Cefnogaeth gan y gymuned - mae’r safle’n cael ei gefnogi gan wirfoddolwyr o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys: cartref seibiant lleol, Cymdeithas y Cerddwyr a Grŵp Amgylchedd Pont-y-clun. 

Mae'r coed yng nghanol y goedwig yn cynnwys coed Ynn yn bennaf, y credir eu bod wedi’u plannu tua’r 1920au. Mae'r coed ar yr ymylon yn hŷn ac yn fwy amrywiol gan gynnwys Ffawydd, Derw a Sycamorwydd.

Coetiroedd Caerdydd a Bro Morgannwg (Ynysmaerdy a Choedwig Llantrisant)

Mae Ynysmaerdy a Choedwig Llantrisant yn cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae'n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r coetiroedd hyn yn blanhigfeydd conwydd yn bennaf gydag ardaloedd bach o ffawydd hynafol a safleoedd coetir hynafol a fydd yn cael eu cadw a'u hadfer yn raddol. Mae’n bosibl crwydro drwy Goedwig Llantrisant ar droed, ar gefn ceffyl neu ar feic. Mae maes parcio bach ar gael yng Nghoed Garthmaelwg.

Eisiau gwybod mwy?

Mae Llwybr Coedwig Cymru yn cynnwys 4 adran wahanol. 

Mae pob un ohonynt yn llwybrau hardd trwy safleoedd y Goedwig Genedlaethol.