Neidio i'r prif gynnwys

Llwybr Coedwig Cymru

Rhan beilot oddeutu 80km o Lwybr Coedwig Cymru gydag arwyddbyst sy’n eich cysylltu gyda rhai o’n safleoedd Coedwig Genedlaethol yn Ne Cymru.

Fe welwch yr amrywiaeth o goetiroedd a choedwigoedd, o goed llydanddail cymysg i goedwigoedd cynhyrchiol – rhywbeth i'r teulu ei fwynhau, rhywbeth i bobl sy'n hoff o natur a'r rhai sy'n chwilio am antur ar droed, ar olwynion neu garnau! ....... mae'r daith yn dechrau nawr....

Ynglŷn â'r llwybr

Y rhan beilot hon o Lwybr Coedwig Cymru yw’r cam cyntaf yn ei ddatblygiad ehangach ar draws Cymru - prosiect uchelgeisiol i ddatblygu Llwybr coedwig sy’n cysylltu ein safleoedd Coedwig Cenedlaethol ledled Cymru.

Mae'r llwybr hwn yn dilyn Rhwydweithiau Hawliau Tramwy presennol ac yn darparu amrywiaeth o olygfeydd o'n coetiroedd a'n coed, o fod o dan orchudd canopi coed i olygfeydd anhygoel o'n tirweddau coedwigaeth.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu'r llwybr a byddwn yn parhau i ddiweddaru'r wefan hon.

Gweler y llwybr o'r uchod