Llwybr Coedwig Cymru: Coedwig Llantrisant i Nant y Moel
Coedwig Llantrisant i Nant y Moel
Darn o’r llwybr sy’n addas i feiciau gan ddilyn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 ac 883.
Safleoedd Coedwig Genedlaethol ar hyd y llwybr hwn
- CCoetiroedd Caerdydd a Bro Morgannwg (Ynysmaerdy a Choedwig Llantrisant)
- Coed Bach Dimbath
- Coetiroedd Bach (Nant y Moel) oddi ar y llwybr.
- Coedwig Ogwr (Nant y Moel)
Llwybr
Gan ddechrau yng Nghoedwig Llantrisant, mae mannau parcio ar gael yng Nghoed Garthmaelwg neu Donysguboriau gerllaw. Ymunwch â llwybr Coedwig Cymru drwy Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 4.
Mae'r rhan 18km hon o'r llwybr yn dilyn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 nes i chi gyrraedd Melin Ifan Ddu, lle mae'r llwybr yn parhau ar Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 883.
Wrth i'r llwybr fynd tua'r gogledd o Goedwig Llantrisant, cewch olygfeydd o'r coed ffynidwydd Douglas aeddfed, yr amcangyfrifir eu bod tua 100 mlwydd oed.
Mae'r llwybr oddi ar y ffordd yn parhau ochr yn ochr ag ardaloedd coediog i Thomastown, lle mae'r llwybr wedyn yn troi i'r gorllewin tuag at y Felin Ifan Ddu gan ddilyn dyffryn coediog Nant Llanilid a Chwm Ogwr Fach.
Wrth i chi fynd i mewn i Felin Ifan Ddu, byddwch yn mynd heibio'r fynedfa i Goed Bach Dimbath; safle Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r coetir llydanddail cymysg 2.3 hectar hwn yn cael ei reoli gan Cymoedd i’r Arfordir ar gyfer y gymuned leol. Gallwch gael mynediad at amwynderau lleol ym Melin Ifan Ddu, gan gynnwys parcio a gwasanaethau bysiau.
O'r fan hon, mae'r llwybr yn parhau oddi ar y ffordd tua'r gogledd i Nant y Moel gan ddilyn ardaloedd o goetir llydanddail ar hyd Ogwr Fawr, gyda golygfeydd i Goedwig Ogwr, coedwig weithredol gydag ardaloedd eang o gonwydd yn cael eu cynaeafu yn fasnachol. Mae'r llwybr yn mynd trwy Olchfeydd Ogwr; ardal goetir gymunedol, lle gallech weld adar coetir fel y Dringwr Bach.
Mae'r llwybr yn mynd trwy Fro Ogwr, gan barhau ar hyd y dyffryn coediog nes i chi gyrraedd Nant y Moel, lle gallwch gamu oddi ar y llwybr i ymweld â Choetiroedd Bach Nant y Moel. Mae’r coetir hwn a blannwyd yn 2021 yn cynnwys 25 rhywogaeth o goed brodorol.
Yn Nant y Moel mae'r llwybr yn gwyro oddi wrth Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 883 i ddilyn llwybrau troed i goedwig Nant y Moel. Mae coedwig Nant y Moel yn rhan o Goedwig Ogwr, sy’n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Map o’r llwybr
Efallai na fydd y map yn hygyrch i bob defnyddiwr. Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r map hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru.
Allwedd y map
Ni fydd eitemau sydd wedi'u marcio â seren* yn weladwy nes eu bod wedi'u chwyddo i mewn ar y map.
Llwybr Coedwig Cymru Trail
Image
| Coedwig Llantrisant i Nant y Moel | Image
| Coedwig Genedlaethol i Gymru |
Image
| Llwybr Coedwig Cymru: dechrau / diwedd adran |
Teithio
Image
| Maes parcio | Image
| Safle Bws / Coets |
Image
| Gorsaf Drenau | Image
| Terfynell Fferi |
Image
| Ardal Awyrennau |
Cyfleusterau
Image
| Toiled Cyhoeddus | Image
| Tafarn / Bwyty* |
Image
| Caffi* | Image
| Gwesty / Lletya / Tŷ Llety* |
Image
| Gwyliau / Safle Gwersylla* |
Ynglŷn â safleoedd y Goedwig Genedlaethol yn yr adran hon
Eisiau gwybod mwy?
Mae Llwybr Coedwig Cymru yn cynnwys 4 adran wahanol.
Mae pob un ohonynt yn llwybrau hardd trwy safleoedd y Goedwig Genedlaethol.
