Rhagair gan Gadeirydd y panel
Rhagair i’r llwybr tuag at ddechrau mwy diogel yng Nghymru: asesiad sicrwydd cenedlaethol o ofal a gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Mae beichiogrwydd, genedigaeth a gofal cynnar yn sylfaenol i gwrs bywyd pob un ohonom. Mae’r gofal a ddarperir yn ystod y cyfnod hollbwysig hwnnw’n allweddol i roi dechrau corfforol a seicolegol iach i fabanod a’u mamau, ac i berthynas a llesiant y teulu cyfan.
Gyda’r safbwynt hirdymor hwnnw mewn golwg, dechreuodd fy mhanel arbenigol a finnau ar ein gwaith ym mis Medi 2025 i gynnal asesiad sicrwydd dros gyfnod o 4 mis yn edrych ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
Aethom ati i gyflawni’r dasg hon yn benderfynol bod angen tawelu meddwl menywod a’u partneriaid am rai elfennau sylfaenol pan fyddant newydd feichiogi neu’n ystyried cael babi. Mae angen iddynt fod yn hyderus y byddant yn cael eu trin â gofal, urddas a pharch ac y byddant yn cael y gofal unigol y mae arnynt ei angen a’i eisiau. Dylent ddisgwyl bod pobl yn gwrando arnynt a’u bod yn cael eu cynnwys yn ystyrlon mewn penderfyniadau am eu gofal. Dylent hefyd fod yn ffyddiog ac yn hyderus y byddant hwy a’u baban yn cael gofal diogel o ansawdd uchel i atal problemau ac i roi’r cyfle gorau posibl iddynt am feichiogrwydd, genedigaeth a dechrau iach fel teulu newydd.
Bydd gan lawer o fenywod sydd newydd feichiogi anghenion iechyd corfforol a meddyliol cymhleth, a gallant wynebu heriau cymdeithasol a hiliaeth. Mae’r ystadegau’n dangos y bydd angen cymorth ychwanegol ar y rhai sy’n profi’r rhwystrau hyn. Dylai pob system gofal iechyd drin pawb yn gyfartal, ond bydd y systemau gofal iechyd gorau yn cymryd camau i leihau’r anghydraddoldebau hynny.
Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, rhaid i systemau gofal iechyd hefyd sicrhau bod staff ar bob lefel yn gallu gwneud y gwaith y maent wedi ymrwymo iddo ac wedi cael eu haddysgu a’u hyfforddi i’w wneud. Mae angen amser, cefnogaeth, offer ac amgylchedd diogel arnynt i wneud hyn.
Gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am yr asesiad sicrwydd hwn er
mwyn ystyried canfyddiadau’r adolygiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
ledled y DU, gan gynnwys ym Mae Abertawe. Dywedodd ei fod yn dymuno cael asesiad diogelwch
‘amser real’, ond hefyd rhoddwyd y dasg o nodi enghreifftiau o arferion da yn ogystal â risgiau a
phryderon.
Felly, nid cynnal adolygiad neu ymchwiliad ôl-weithredol i fethiannau gwasanaeth penodol oedd y dasg i ni. Rydym wedi llunio ein dull gweithredu i’n galluogi i nodi cryfderau yn y system bresennol yn ogystal â phryderon. I wneud hyn, rydym wedi mabwysiadu agwedd system gyfan, aml-ddull. Rydym wedi gwrando’n ofalus ar gannoedd o fenywod, rhieni, teuluoedd, eiriolwyr cymunedol a staff o bob cwr o Gymru. Rydym wedi ymweld â bron pob uned mamolaeth ac uned newyddenedigol yng Nghymru ac wedi arsylwi ymarfer ar waith. Rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni i gael darlun cyflawn mewn cyfnod byr iawn.
Mae cryfderau'r adroddiad yn cynnwys:
Mae’r rhain yn cynnwys llawer o adborth cadarnhaol gan fenywod beichiog a’u partneriaid, a mamau a thadau newydd am lawer o agweddau ar ansawdd eu gofal mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Pan nad ydynt wedi cael y gofal sydd ei angen arnynt, mae llawer yn awyddus i helpu’r gwasanaethau i wella.
Roedd y staff a fu’n ymwneud â’n hasesiad yn arddangos ymrwymiad cryf i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel drwy gydol y llwybr mamolaeth a newyddenedigol, a gwelsom lawer o arferion cadarnhaol yn ystod ein hymweliadau safle. Roedd yr ymrwymiad hwn yn glir er gwaethaf yr heriau niferus yn y system bresennol.
Mae unedau annibynnol dan arweiniad bydwragedd yn galluogi llawer o fenywod i gael gofal cynenedigol ac ôl-enedigol, a rhoi genedigaeth mewn amgylcheddau o ansawdd uchel, gan gefnogi’r rheini mewn ardaloedd gwledig yn benodol i osgoi gorfod teithio’n bell i’r ysbyty.
Ar lefel genedlaethol a lleol, bu ffocws ac ymrwymiad o’r newydd i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at newidiadau cadarnhaol mewn rhai canlyniadau mesuradwy.
Er gwaethaf y cryfderau amlwg hyn, rydym yn poeni am rai gwendidau a diffygion allweddol:
Mae llawer o deuluoedd yn sôn am brofiadau gwael, gyda phryderon am gefnogaeth ôl-enedigol, cyfraniad tadau a methu diwallu anghenion iechyd meddwl.
Ein hasesiad yw bod sefydliadau cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddarparu, comisiynu, monitro, dal i gyfrif, a sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gweithio mewn paralel yn rhy aml, yn hytrach na chydweithio i fanteisio i’r eithaf ar botensial eu gwybodaeth a’u cylchoedd gwaith. Hyd yma, nid yw’r potensial yn cael ei wireddu ar gyfer monitro data mewn amser real a chanfod tueddiadau anniogel, deall anghysonderau ac anghydraddoldebau, a phennu blaenoriaethau cenedlaethol a lleol.
Nid yw’r trefniadau na’r lefelau staffio presennol yn bodloni gofynion anghenion presennol y boblogaeth, na’r cynnydd cyflym mewn genedigaethau Cesaraidd a thriniaethau ysgogi’r esgor. Golyga hyn fod diogelwch a llesiant yn y fantol drwy gydol y daith mamolaeth. Mae’r materion hyn wedi taro morâl staff yn galed, yn ogystal â’r negatifrwydd didrugaredd ymddangosiadol yn y parth cyhoeddus at wasanaethau mamolaeth.
Ceir anghysondebau o ran trefniadaeth a staffio prosesau brysbennu ac ysgogi’r esgor, a phrinder darpariaeth theatr obstetrig. Ym maes gofal ôl-enedigol yn benodol, nid oes digon o staff na chefnogaeth.
Mae’r gwaith o ddadansoddi ac ad-drefnu’r ddarpariaeth newyddenedigol yn ne Cymru wedi cael ei ohirio’n ormodol.
Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â’r Alban a Lloegr o ran darparu gofal iechyd meddwl mewn unedau mamolaeth a newyddenedigol.
Mae’r broses o ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys marwolaeth ac anafiadau difrifol, yn anghyson, yn or-weithdrefnol, ac nid yw’n cynnwys teuluoedd fel mater o drefn. Yn aml, mae’n achosi trawma pellach i deuluoedd sydd wedi dioddef niwed ac yn cyfyngu ar y gallu i ddysgu a gwella.
Ac yn olaf, ond yr un mor bwysig, gwelwyd cynnydd digyffelyb yng Nghymru, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, mewn ymyriadau meddygol, yn enwedig cyfraddau genedigaethau Cesaraidd, heb werthuso’r canlyniadau i fenywod, i fabanod, i deuluoedd, ac i adnoddau’r gwasanaeth iechyd.
Mae ein hargymhellion yn mynd i’r afael â’r gwendidau hyn.
Mae aelodau fy mhanel, sydd â phrofiad helaeth o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, wedi cadarnhau bod yr heriau sy’n wynebu Cymru yn debyg i weddill y Deyrnas Unedig. Gan gadw llygad barcud ar broffil poblogaeth, diwylliant a daearyddiaeth Cymru, rydym wedi nodi yn ein hargymhellion lle gallai Cymru ddewis naill ai wneud defnydd o waith sydd eisoes ar y gweill yng ngwledydd eraill y DU, neu lle gallai fod yn syniad da i gydweithio ar draws ffiniau cenedlaethol i ddod o hyd i’r atebion mwyaf effeithiol i heriau cyffredin.
Mae aelodau’r panel Rhanddeiliaid a’r grwpiau Ymgynghorol rhagorol wedi pledio’n daer bod yn rhaid i’r adroddiad hwn arwain at newid. Nodwyd bod llawer o adroddiadau gydag argymhellion da wedi’u cyhoeddi o’r blaen, ond nad yw menywod, teuluoedd na staff wedi profi’r newidiadau hynny ar waith.
Mae ein hargymhellion yn gofyn am weithredu, ariannu ac atebolrwydd. Disgwyliaf i Lywodraeth Cymru nodi mecanweithiau clir i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys tryloywder ynghylch sut bydd y broses hon yn cael ei mesur, ei monitro a’i hadrodd. Mae’r heriau’n sylweddol ond mae modd eu datrys. I wneud hynny, rhaid cynnwys ym mhob cam o’r ffordd y rheini sy’n dibynnu ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru a’r rheini sy’n gweithio yn y maes.
Yr Athro Sally Holland
Cadeirydd Annibynnol
25 February 2025
