Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllawiau Gweithredol diwygiedig ynghylch y Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 11 Mehefin a daeth i ben ar 28 Tachwedd 2025.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gwahodd sylwadau ar ail argraffiad drafft y Canllawiau Gweithredol ynghylch y Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Cafwyd cyfanswm o 311 o ymatebion - 283 o ymatebion ar-lein a 28 drwy’r e-bost. Mae’r holl ymatebion wedi cael eu hadolygu erbyn hyn. Mae’r adroddiad yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd yn yr ymgynghoriad a’n camau nesaf arfaethedig.

Mae’r adroddiad ar gael yma: Canllawiau gweithredol ynghylch Teithio gan Ddysgwyr 2025: ymgynghoriad | LLYW.CYMRU