Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Cynigir newidiadau er mwyn gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel bod modd cynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel. Byddant hefyd yn sicrhau eu bod yn adlewyrchu polisïau a deddfwriaeth gyfredol ac yn diweddaru terminoleg yn briodol.

Rydym yn cynnig dirymu ac ail-wneud Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”), Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 yn set newydd o reoliadau, sef Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 (“Rheoliadau 2026”). Ymhlith y newidiadau a gaiff eu cynnwys yn Rheoliadau 2026 mae'r canlynol: 

  • Y gallu i ysgolion ffederal gael un gyllideb ffederal.
  • Ei gwneud yn ofynnol i fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol ystyried swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â chymhwystra disgybl ar gyfer prydau ysgol am ddim neu breswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). 
  • Caiff symiau'r trothwyon ar gyfer gwargedion yng nghyllidebau ysgolion eu disodli â 5% o falans yr ysgol.
  • Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro'r modd y bydd corff llywodraethu yn defnyddio'r gwarged sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw ddatganiad gwarged.
  • Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gyflwyno cynllun adennill diffyg i'w awdurdod lleol er mwyn ei gymeradwyo a chynnwys y broses mewn perthynas â chynllun adennill diffyg drafft.
  • Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu cynlluniau ariannol a'u fformiwlâu cyllido ar eu gwefan. 
  • Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys manylion y meysydd o'u cyllideb ysgolion nad ydynt wedi'u dirprwyo i ysgolion, ond a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol i wario ar ysgolion. 
  • Diwygio'r dyddiad ar gyfer dychwelyd datganiadau alldro cyllideb i 31 Gorffennaf. 
  • Diwygio'r datganiad cyllideb i gynnwys colofnau Dirprwyad Craidd, Dirprwyad Dewisol a Dirprwyad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (a gaiff ei rannu ymhellach i Dirprwyad ADY Craidd a Dirprwyad ADY Dewisol) a cholofnau i gofnodi cyfran amcangyfrifedig yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido dilynol. 
  • Cyfuno Rhannau 2 a 3 o'r datganiad cyllideb fel sy'n ofynnol gan Atodlenni 2 a 3 o Reoliadau 2002 a'i gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau ar gyfer pob un o'r mathau gwahanol o gyllideb ddirprwyedig ar gyfer pob ysgol a math o ysgol. 
  • Symud ardrethi annomestig o'r gyllideb ysgolion i'r gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion. 
  • Caiff y terfyn o 0.2% a gymhwysir at ffioedd trwyddedau neu danysgrifiadau yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010, sy'n rhestru'r hyn y gellir ei gynnwys yn y gyllideb ysgolion (gwariant y gellir ei ddirprwyo i ysgolion neu ei gadw'n ganolog gan awdurdodau lleol i'w wario ar ysgolion) ei ddileu. 
  • Caiff Atodlen 3 i Reoliadau 2010, sy'n nodi ffactorau neu feini prawf ychwanegol y gellir eu hystyried yn fformiwla gyllido awdurdod lleol, ei dileu. Felly, bydd awdurdodau lleol yn gallu ystyried unrhyw ffactor neu feini prawf yn eu fformiwla sy'n ymwneud yn briodol â gwariant yn eu barn nhw o dan y diffiniad o'r Gyllideb Ysgolion. Caiff enghreifftiau o ffactorau a meini prawf priodol eu cynnwys mewn canllawiau.

Mae'n annhebygol y bydd y newidiadau yn cael effaith uniongyrchol ar ddysgwyr. Nod Rheoliadau 2026 yw gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cyson a chymaradwy, fel bod modd cynnal trafodaethau mwy deallus ynghylch cyllidebau. Gall hyn arwain at newidiadau i lefelau cyllidebau ysgolion, a allai gael effaith anuniongyrchol ar ddysgwyr. 

O ganlyniad i Reoliadau 2026, bydd angen i awdurdodau lleol adolygu eu fformiwlâu cyllido er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r Rheoliadau hynny. Gall rhai o'r adolygiadau hyn arwain at newid fformiwlâu cyllido, a all newid cyllidebau ysgolion unigol, a fydd hefyd o bosibl yn cael effaith anuniongyrchol ar ddysgwyr. 

Fodd bynnag, nod y diwygiadau yw sicrhau yr ymdrinnir â chyllid ysgolion mewn ffordd fwy teg ar draws ysgolion, er mwyn sicrhau bod cyllid ac adnoddau yn cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw er budd pob dysgwr.

Bydd penderfyniadau ynglŷn â lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod o hyd, a bydd yr awdurdodau yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth addysg addas ar gael yn eu hardal, er budd pob dysgwr. Bydd ysgolion yn parhau i gael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau eu hawdurdod lleol ynglŷn â chyllidebau ysgolion drwy drafod ag awdurdodau, gan gynnwys drwy eu fforwm cyllideb. Unwaith y bydd awdurdodau lleol wedi pennu eu cyllidebau ar gyfer eu hysgolion, corff llywodraethu'r ysgol fydd yn gyfrifol am reoli'r cyllidebau hynny.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o gyllid ysgolion (Yr Adolygiad o Wariant Ysgolion) a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020. Diben hyn oedd asesu lefelau gwahanol y cyllid sydd ei angen, o dan amgylchiadau gwahanol, ar draws ysgolion yng Nghymru. Mewn ymateb i hyn, rydym yn parhau i weithio tuag at fynd i'r afael ag argymhellion yr adolygiad hwn. Tynnodd yr adolygiad sylw at gymhlethdod y system gyllido, a'r gwaith y mae angen ei wneud i sicrhau bod y system hon nid yn unig yn fwy effeithlon, ond hefyd yn fwy tryloyw. Mae'r adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru yn darparu tystiolaeth werthfawr i lywio penderfyniadau ynghylch cyllid a pholisi yn y dyfodol. Gwnaethom ystyried y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn wrth ystyried diwygiadau posibl.

Bydd penderfyniadau ynglŷn â lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod o hyd, a bydd yr awdurdodau yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth addysg addas ar gael yn eu hardal, er budd pob dysgwr. Nod Rheoliadau 2026 yw gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel bod modd cynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel, er budd pob dysgwr.

Mae Gwariant sydd Wedi'i Gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgu Arbennig (AAA) a Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Ebrill 2025 i Fawrth 2026 yn nodi bod cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth AAA/ADY mewn ysgolion gan awdurdodau lleol wedi'i gyllidebu i fod wedi cynyddu 12.8% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gwnaethom ystyried tystiolaeth yn adroddiad Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, Syrthio’n Brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu mewn perthynas ag adborth ei haelodau ar gyllid ADY. Cyfeiriodd rhanddeiliaid amrywiol eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, at y galw cynyddol am ddarpariaeth ADY a phwysau cyllidebol cynyddol. Mae'r Gwerthusiad o'r System Anghenion Dysgu Ychwanegol: arolwg o rieni a gofalwyr, a gyhoeddwyd ar 14 Hydref 2025, hefyd yn adrodd ar rai safbwyntiau gan rieni a gofalwyr fod diffyg cyllid yn bryder. 

Mae Rheoliadau 2026 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adrodd ar Ddirprwyad Craidd, Dirprwyad Dewisol a Dirprwyad ADY yn ffurflenni datganiadau cyllideb awdurdodau lleol. Nod hyn yw cynyddu tryloywder cyllid a dealltwriaeth ohono, gan arwain at drafodaethau a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ysgolion, gan gynnwys cyllidebau ADY, er budd pob dysgwr.

Yn ôl yr Adolygiad o Wariant Ysgolion, adroddir ar effaith cyllidebau ysgolion mewn llenyddiaeth academaidd, sy'n rhoi tystiolaeth bod gwariant ysgolion yn cael effaith sylweddol ar ddeilliannau dysgwyr ar draws amrywiaeth o wledydd yn ôl pob golwg, gyda chynnydd o 10% mewn gwariant yn cynyddu deilliannau tua 7 i 10%. Awgrymir y gall yr effeithiau fod yn fwy byth pan gymhwysir hyn at blant dan anfantais, ac mae arwyddion posibl y gall buddsoddi'n gynharach gael effeithiau mwy sylweddol. Fodd bynnag, bydd yr effeithiau yn dibynnu ar y cyd-destun a'r ffordd y caiff y gwariant ychwanegol ei ddefnyddio.

Mae Rheoliadau 2026 yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol gynnwys ffactor amddifadedd yn seiliedig ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion drwy ystyried swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â chymhwystra disgybl ar gyfer prydau ysgol am ddim a/neu breswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Gall hyn effeithio ar y cyllid y mae ysgol yn ei gael ar gyfer amddifadedd cymdeithasol a gall effeithio ar ddisgyblion sydd dan anfantais. Er mai mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu faint o gyllid y byddant yn ei ddyrannu o hyd, drwy wneud y dyraniad yn gliriach, bydd modd cynnal trafodaethau mwy deallus am lefelau priodol y cyllid sydd ei angen.

Ni theimlwyd ei bod yn briodol ymgysylltu'n benodol â phlant a phobl ifanc mewn perthynas â Rheoliadau 2026 lle mae'r Rheoliadau hynny yn ceisio gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cyson a chymaradwy. Mae'n annhebygol y bydd y newidiadau yn cael effaith uniongyrchol ar ddysgwyr. Bydd penderfyniadau ynglŷn â lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod o hyd, a bydd yr awdurdodau yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth addysg addas ar gael yn eu hardal, er budd pob dysgwr. Bydd unrhyw ddiwygiadau gan awdurdodau lleol i fformiwlâu cyllido ysgolion yn destun ymgynghoriad o hyd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 24 Mehefin a 2 Medi 2025 ar y diwygiadau arfaethedig er mwyn i randdeiliaid roi adborth arnynt. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynnwys pwyntiau mewn perthynas â chyllid ADY a chyllid amddifadedd ac effaith hyn ar ddysgwyr. Er mai mater i awdurdodau lleol fydd swm y cyllid ddyrennir o hyd, bydd gwneud y system yn fwy tryloyw yn golygu bod modd cynnal trafodaethau mwy deallus am lefelau priodol y cyllid sydd ei angen. Cydnabuwyd mewn adborth i'r ymgynghoriad y bydd y diwygiadau arfaethedig yn darparu gwybodaeth fwy cyson, cymaradwy a thryloyw, a fydd yn ei gwneud hi'n haws nodi a herio unrhyw anghydraddoldeb.

Mae tystiolaeth ac argymhellion o'r adolygiadau a nodwyd uchod wedi llywio'r diwygiadau. Mae tystiolaeth glir fod angen system symlach a thryloyw ar gyfer cyllido ysgolion yng Nghymru, a nod y diwygiadau hyn yw cymryd cam tuag at fynd i'r afael â hyn.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Bydd awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am bennu cyllidebau ysgolion. Fodd bynnag, bydd effaith dewisiadau cyllidebol gwahanol, drwy gael system fwy tryloyw, cyson a chymaradwy, yn gliriach ac yn golygu bod modd cynnal trafodaethau ynghylch lefelau priodol cyllidebau ysgolion. Gall hyn arwain at newidiadau i lefelau cyllidebau ysgolion, a allai gael effaith anuniongyrchol ar ddysgwyr. 

O ganlyniad i Reoliadau 2026, bydd angen i awdurdodau lleol adolygu eu fformiwlâu cyllido er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r Rheoliadau hynny. Gall rhai o'r adolygiadau hyn arwain at newid fformiwlâu cyllido, a all newid cyllidebau ysgolion unigol, a fydd o bosibl yn cael effaith anuniongyrchol ar ddysgwyr.

Fodd bynnag, nod y diwygiadau yw sicrhau yr ymdrinnir â chyllid ysgolion mewn ffordd fwy teg ar draws ysgolion, er mwyn sicrhau bod cyllid ac adnoddau yn cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw er budd pob dysgwr. Gallai hyn gynnwys dysgwyr ag un nodwedd warchodedig neu fwy. Gallai hyn gynnwys dysgwyr ag ADY, dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a dysgwyr o aelwydydd incwm isel.

Bydd y tryloywder cynyddol yn sgil y diwygiadau yn golygu bod modd cynnal trafodaethau mwy deallus ynghylch lefelau cyllido, er enghraifft ar gyfer plant ag ADY neu sy'n dod o aelwyd incwm isel. Er mai mater i awdurdodau lleol fydd swm y cyllid a gaiff ei ddyrannu o hyd, bydd gwneud y system yn fwy tryloyw yn golygu bod modd cynnal trafodaethau mwy deallus am lefelau priodol y cyllid sydd ei angen, a allai gael effaith anuniongyrchol ar ddysgwyr a'r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Nid yw'r cynigion yn effeithio ar lefelau cyffredinol y cyllid sydd ar gael, dim ond y fformiwla a ddefnyddir i ddosbarthu'r cyllid sydd ar gael i ysgolion. Bydd penderfyniadau ynglŷn â lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod o hyd, a bydd yr awdurdodau yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth addysg addas ar gael yn eu hardal, er budd pob dysgwr. Bydd ysgolion yn parhau i gael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau eu hawdurdod lleol ynglŷn â chyllidebau ysgolion drwy drafod ag awdurdodau, gan gynnwys drwy eu fforwm cyllideb. Unwaith y bydd awdurdodau lleol wedi pennu eu cyllidebau ar gyfer eu hysgolion, corff llywodraethu'r ysgol fydd yn gyfrifol am reoli'r cyllidebau hynny. Mae'n bosibl hefyd y bydd cyllidebau ysgolion unigol yn amrywio o ganlyniad i gydymffurfiaeth well â Rheoliadau 2010, lle bu achosion o gamddehongli yn flaenorol o bosibl.

I liniaru effeithiau unrhyw newidiadau i fformiwlâu cyllido ysgolion, bydd unrhyw ddiwygiadau i fformiwlâu cyllido ysgolion yn destun ymgynghoriad o hyd. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â'u fforwm ysgolion a chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddynt. 

Mae Rheoliadau 2026 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth bennu cyllideb ysgol, ystyried a fyddai'r gyllideb honno fwy na 5% yn llai na chyllideb y flwyddyn flaenorol. Os bydd yr awdurdod lleol yn pennu y bydd cyllideb yr ysgol fwy na 5% yn llai ac yn penderfynu cynyddu'r cyllid er mwyn mynd i'r afael â'r gostyngiad, rhaid i hyn gael ei wneud yn unol â graddfa a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol yn ei gynllun ariannol, er mwyn cynnal tryloywder a thegwch.

Erthyglau neu Brotocol Dewisol CCUHPYn gwella (X)Yn herio (X)Esboniad
Erthygl 2: Mae’r Confensiwn yn gymwys i bob un, beth bynnag fo'i hil, ei grefydd, ei alluoedd, beth bynnag y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.X Er mai mater i awdurdodau lleol fydd swm y cyllid a ddyrennir o hyd, bydd Rheoliadau 2026 yn darparu gwybodaeth fwy cyson, cymaradwy a thryloyw, a fydd yn ei gwneud hi'n haws nodi a herio unrhyw anghydraddoldeb.
Erthygl 3: Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i bob plentyn.X Bydd gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cyson a chymaradwy drwy Reoliadau 2026 yn arwain at drafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel, a fydd yn golygu bod cyllid ac adnoddau yn cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw er budd pob dysgwr.
Erthygl 13: Mae gan blant yr hawl i gael a rhannu gwybodaeth ar yr amod nad yw’r wybodaeth yn niweidiol iddyn nhw nac i eraill.X Mae ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu fformiwla gyllido yn ychwanegu tryloywder ac yn galluogi rhanddeiliaid i weld sut mae awdurdodau lleol yn dosbarthu cyllid yn ôl ffactorau gwahanol.
Erthygl 23: Dylai plant sydd ag anabledd o unrhyw fath gael gofal arbennig a chefnogaeth fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol.X Nod Rheoliadau 2026 yw gwneud ffactorau ADY o fewn fformiwlâu cyllido yn fwy tryloyw. Nod Rheoliadau 2026 yw cynyddu tryloywder cyllid a dealltwriaeth ohono, gan arwain at drafodaethau a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ysgolion, gan gynnwys cyllidebau ADY, er budd pob dysgwr, gan gynnwys plant anabl neu blant ag ADY.
Erthygl 26: Dylai’r Llywodraeth roi mwy o arian ar gyfer plant teuluoedd mewn angen.X Mae Rheoliadau 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol gynnwys ffactor amddifadedd yn seiliedig ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion drwy ystyried swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â chymhwystra disgybl ar gyfer prydau ysgol am ddim a (neu) breswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Gall hyn effeithio ar y cyllid y mae ysgol yn ei gael ar gyfer amddifadedd cymdeithasol a gall effeithio ar ddisgyblion sydd dan anfantais. Er mai mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu faint o gyllid y byddant yn ei ddyrannu o hyd, drwy wneud y dyraniad yn gliriach, bydd modd cynnal trafodaethau mwy deallus am lefelau priodol y cyllid sydd ei angen.
Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.X Nod Rheoliadau 2026 yw gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cyson a chymaradwy, er mwyn helpu i sicrhau y defnyddir dull teg ar gyfer pob ysgol a gynhelir gan awdurdodau lleol ac er budd pob dysgwr.

Cyngor Gweinidogol a phenderfyniad y Gweinidog

Bydd dadansoddi'r effeithiau yn llywio cyngor gweinidogol.

Cyhoeddi'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog, caiff yr asesiad hwn o'r effaith ar hawliau plant ei gyhoeddi.

Cyfathrebu â phlant a phobl Ifanc

Ni theimlwyd ei bod yn briodol ymgysylltu'n benodol â phlant a phobl ifanc mewn perthynas â Rheoliadau 2026 i wneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cyson a chymaradwy. Mae'r rheoliadau yn dechnegol ac yn arbenigol eu natur. Mae'n annhebygol y bydd y newidiadau yn cael effaith uniongyrchol ar ddysgwyr. 

Mater i awdurdodau lleol fydd gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyllidebau ysgolion o hyd a dylai awdurdodau lleol barhau i weithio gyda'u hysgolion a gynhelir i werthuso effeithiolrwydd eu trefniadau cyllido ysgolion o ran cefnogi a gwella cyflawniad pob dysgwr. Ni fydd Rheoliadau 2026 yn cael effaith uniongyrchol ar gyllidebau cyffredinol ysgolion ond, yn hytrach, bydd yn effeithio ar y fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu'r gyllideb i ysgolion unigol. Nod Rheoliadau 2026 yw gwneud y system yn decach. Bydd ysgolion yn parhau i gael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau eu hawdurdod lleol ynglŷn â chyllidebau ysgolion, gan gynnwys drwy eu fforwm cyllideb, sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. 

Bydd unrhyw ddiwygiadau i fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol yn destun ymgynghoriad o hyd. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â'u fforwm ysgolion a chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddynt.

Monitro ac adolygu

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r asesiad hwn o'r effaith ar hawliau plant ar ôl i awdurdodau lleol roi'r Rheoliadau ar waith yn 2027 i 2028.