Canfyddiadau Cymru o’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2025, astudiaeth ryngwladol sy’n cynhyrchu adroddiadau ymchwil yn ymwneud ag addysg.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) adroddiad cenedlaethol
Roedd PISA 2025 yn cynnwys 91 o systemau addysg, gan gynnwys Cymru.
Yng Nghymru, cwblhaodd 3,406 o ddysgwyr 15 oed o 113 o ysgolion asesiad cyfrifiadurol 2 awr o hyd a holiadur i ddysgwyr.
Mae’n bosibl nad yw’r samplau yn gwbl gynrychioliadol o boblogaethau’r gwledydd sy’n cymryd rhan. Felly, mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli'r dadansoddiad a gyflwynir yn yr adroddiad hwn, yn enwedig wrth gymharu canlyniadau Cymru â chanlyniadau gwledydd eraill, a gyda sgorau cyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Prif bwyntiau
Gwyddoniaeth
- Sgôr gwyddoniaeth gyfartalog Cymru yn PISA yn 2025 oedd 476, yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 482.
- Cyflawnodd dysgwyr mewn 54 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr gwyddoniaeth gyfartalog a oedd yn sylweddol is na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru.
- Cyflawnodd dysgwyr mewn 25 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr gwyddoniaeth gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru.
- Roedd sgôr gwyddoniaeth gyfartalog gyffredinol Cymru ar gyfer 2025
- ddim yn sylweddol wahanol i'r sgôr a gyflawnwyd yn 2022 (473) na 2015 (485).
- yn sylweddol is na'r sgôr a gyflawnwyd yn 2018 (488).
- Nid oedd cyfartaledd tuedd yr OECD yn sylweddol wahanol i 2022 na 2018 ond roedd yn sylweddol is na 2015.
Darllen
- Sgôr darllen gyfartalog Cymru yn PISA yn 2025 oedd 459., nid yn sylweddol wahanol i gyfartaledd yr OECD, sef 461.
- Cyflawnodd dysgwyr mewn 58 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr darllen gyfartalog a oedd yn sylweddol is na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru.
- Cyflawnodd dysgwyr mewn 20 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr darllen gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru.
- Roedd sgôr darllen gyfartalog gyffredinol Cymru ar gyfer 2025:
- ddim yn sylweddol wahanol i'r sgôr a gyflawnwyd yn 2022 (466).
- yn sylweddol is na'r sgôr a gyflawnwyd yn 2018 (483) a 2015 (477).
- Roedd cyfartaledd tuedd yr OECD yn sylweddol is na 2022, 2018, a 2015.
Mathemateg
- Sgôr mathemateg gyfartalog Cymru yn PISA yn 2025 oedd 456, yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 463.
- Cyflawnodd dysgwyr mewn 51 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr mathemateg gyfartalog a oedd yn sylweddol is na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru.
- Cyflawnodd dysgwyr mewn 24 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr mathemateg gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru.
- Roedd sgôr mathemateg gyfartalog gyffredinol Cymru ar gyfer 2025 yn sylweddol is na'r sgôr a gyflawnwyd yn 2022 (466), 2018 (487) a 2015 (478).
- Roedd cyfartaledd tuedd yr OECD yn sylweddol is na 2022, 2018, a 2015.
Nodyn
Mae'r ffigurau uchod yn seiliedig ar gymharu Cymru â'r gwledydd eraill a gymerodd ran, gan gynnwys y rhannau o'r DU a gymerodd ran. Mae hyn yn gyson â'r adroddiad cenedlaethol a luniwyd gan Athrofa Addysg UCL (IOE) a Chanolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA).
Adroddiadau
PISA 2025: adroddiad cenedlaethol Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Safonau ysgolion ac astudiaethau rhyngwladol
E-bost: SIID.Correspondence@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
