Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiadau Cymru o’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2025, astudiaeth ryngwladol sy’n cynhyrchu adroddiadau ymchwil yn ymwneud ag addysg.

Roedd PISA 2025 yn cynnwys 91 o systemau addysg, gan gynnwys Cymru. 

Yng Nghymru, cwblhaodd 3,406 o ddysgwyr 15 oed o 113 o ysgolion asesiad cyfrifiadurol 2 awr o hyd a holiadur i ddysgwyr. 

Mae’n bosibl nad yw’r samplau yn gwbl gynrychioliadol o boblogaethau’r gwledydd sy’n cymryd rhan. Felly, mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli'r dadansoddiad a gyflwynir yn yr adroddiad hwn, yn enwedig wrth gymharu canlyniadau Cymru â chanlyniadau gwledydd eraill, a gyda sgorau cyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). 

Prif bwyntiau 

Gwyddoniaeth

  • Sgôr gwyddoniaeth gyfartalog Cymru yn PISA yn 2025 oedd 476, yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 482. 
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 54 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr gwyddoniaeth gyfartalog a oedd yn sylweddol is na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru. 
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 25 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr gwyddoniaeth gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru. 
  • Roedd sgôr gwyddoniaeth gyfartalog gyffredinol Cymru ar gyfer 2025
    • ddim yn sylweddol wahanol i'r sgôr a gyflawnwyd yn 2022 (473) na 2015 (485). 
    • yn sylweddol is na'r sgôr a gyflawnwyd yn 2018 (488). 
  • Nid oedd cyfartaledd tuedd yr OECD yn sylweddol wahanol i 2022 na 2018 ond roedd yn sylweddol is na 2015. 

Darllen

  • Sgôr darllen gyfartalog Cymru yn PISA yn 2025 oedd 459., nid yn sylweddol wahanol i gyfartaledd yr OECD, sef 461. 
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 58 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr darllen gyfartalog a oedd yn sylweddol is na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru. 
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 20 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr darllen gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru.
  • Roedd sgôr darllen gyfartalog gyffredinol Cymru ar gyfer 2025:
    • ddim yn sylweddol wahanol i'r sgôr a gyflawnwyd yn 2022 (466).
    • yn sylweddol is na'r sgôr a gyflawnwyd yn 2018 (483) a 2015 (477). 
  • Roedd cyfartaledd tuedd yr OECD yn sylweddol is na 2022, 2018, a 2015. 

Mathemateg

  • Sgôr mathemateg gyfartalog Cymru yn PISA yn 2025 oedd 456, yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 463. 
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 51 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr mathemateg gyfartalog a oedd yn sylweddol is na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru. 
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 24 o'r gwledydd a gymerodd ran sgôr mathemateg gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na sgôr gyfartalog dysgwyr yng Nghymru. 
  • Roedd sgôr mathemateg gyfartalog gyffredinol Cymru ar gyfer 2025 yn sylweddol is na'r sgôr a gyflawnwyd yn 2022 (466), 2018 (487) a 2015 (478). 
  • Roedd cyfartaledd tuedd yr OECD yn sylweddol is na 2022, 2018, a 2015.

Nodyn

Mae'r ffigurau uchod yn seiliedig ar gymharu Cymru â'r gwledydd eraill a gymerodd ran, gan gynnwys y rhannau o'r DU a gymerodd ran. Mae hyn yn gyson â'r adroddiad cenedlaethol a luniwyd gan Athrofa Addysg UCL (IOE) a Chanolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA).

Adroddiadau

PISA 2025: adroddiad cenedlaethol Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Safonau ysgolion ac astudiaethau rhyngwladol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.