Cyfarfod, Dogfennu
Eitem 7 ar yr agenda: dyddiad cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
Gofynnir i aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol am farn ar gynnal cyfarfod yn y gwanwyn.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 86 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mater
- Mae'r papur yn gofyn i aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a fyddent yn gweld gwerth mewn cyfarfod yn y gwanwyn (w/d 23 Chwefror) cyn etholiad y Senedd.
Cefndir
- Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gwrdd o leiaf dair gwaith mewn cyfnod o 12 mis. Cytunodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gyfarfod bedair gwaith y flwyddyn (cyfeirir at hyn ym Mhapur 04-04). Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfarfodydd wedi'u trefnu ar gyfer 2026.
- Gan ei fod yn ddigwyddiad proffil uchel y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog neu un o Weinidogion Cymru ei gadeirio, ni all y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gyfarfod yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
- Mae nifer o ddarnau o waith sy'n bodoli eisoes y gallai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fod eisiau eu hystyried cyn diwedd tymor y Senedd hwn:
- Gwaith/dyfodol y gweithgor Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes:
Bydd y grŵp wedi cyfarfod chwe gwaith erbyn mis Chwefror, ac ar yr adeg hon dylai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol allu ystyried ei gynnydd hyd yn hyn. Gall hefyd asesu a yw'r grŵp yn barod i adrodd ar ei ganfyddiadau neu a fydd angen iddo gynnal cyfarfodydd pellach ac adrodd ar ei ganfyddiadau mewn cyfarfod yn y dyfodol.
- Adborth gan y Grŵp Cyflawni Deallusrwydd Artiffisial (AI):
Hyd yn hyn, dim ond unwaith y mae'r Grŵp Cyflawni wedi cwrdd felly byddai cyfarfod yn y gwanwyn yn rhoi cyfle iddo benderfynu ar ei gynllun gwaith a chyflwyno hyn i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
- Dadansoddiad o Adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol Cyrff Cyhoeddus:
Byddai cyfarfod yn y gwanwyn yn caniatáu amser i gyhoeddi a dadansoddi mwy o adroddiadau fel y gellir cyflwyno'r darlun cyflawn i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Mae hefyd yn cyflwyno'r cyfle olaf i aelodau ystyried yr adroddiadau partneriaeth gymdeithasol a chynghori Gweinidogion cyn dechrau'r flwyddyn adrodd nesaf.
- Diweddariad ar y dyletswyddau caffael:
Gallai'r tîm caffael roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith o weithredu'r dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol sy'n weddill o fewn y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.
- Awgrymir mai'r wythnos sy'n dechrau 23 Chwefror fyddai'r amser gorau ar gyfer cynnal cyfarfod y gwanwyn gan ei fod yn caniatáu'r amser mwyaf posibl i wneud cynnydd ar y darnau o waith a restrir uchod tra'n gadael digon o amser i anfon llythyr Gweinidogol at gyrff cyhoeddus ynghylch yr adroddiadau partneriaeth gymdeithasol cyn i'r flwyddyn adrodd newydd ddechrau.
- Fel arall, gellid ymdrin â'r eitemau uchod drwy ohebiaeth yn lle cynnal cyfarfod, os yw'r aelodau'n dymuno. Gellid ystyried hyn, er enghraifft, os nad oes digon o adroddiadau wedi'u cyhoeddi cyn y cyfarfod i roi dadansoddiad llawn i'r aelodau i'w drafod.
Y camau nesaf
- Os bydd yr aelodau'n cytuno, yna bydd Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Crynodeb
- Gofynnir i aelodau a hoffent gynnal cyfarfod y gwanwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 23 Chwefror.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sylweddol.
