Ardaloedd penodol lle mae rheolau ychwanegol ar waith er mwyn lleihau llygredd aer yn sgil llosgi tanwydd solet.
Ar hyn o bryd mae ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru, mewn rhannau o Sir y Fflint, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. I wirio a ydych chi'n byw mewn ardal rheoli mwg, ewch i Fap Ardaloedd Rheoli Mwg Cymru MapDataCymru.
Mewn ardal rheoli mwg, mae'n drosedd i:
- allyrru mwg o simnai adeilad - mae hyn yn cynnwys adeiladau awyr agored sydd â simnai, fel hafdai
- prynu neu werthu tanwydd anawdurdodedig i'w ddefnyddio o fewn ardal rheoli mwg oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn offer 'eithriedig' (offer sydd wedi'i gymeradwyo i'w defnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg)
Mae'r rhestr o danwyddau awdurdodedig ac offer eithriedig ar gyfer ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru i'w gweld ar System Cofnodi Data y Ddeddf Aer Glân DEFRA.
