Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth CymruAdroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar Gynllunio Gwlad a Thref

Gwnaeth adroddiad y Comisiwn argymhellion gyda'r nod o integreiddio'r iaith Gymraeg ymhellach i'r system gynllunio, gan sicrhau fod polisi cynllunio yn cefnogi hyfywedd hirdymor y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae wedi ceisio ymateb i heriau strwythurol sy'n wynebu ardaloedd Cymraeg eu hiaith ac wedi cynnig ffyrdd y gallai polisi cynllunio helpu i gynnal y cymunedau hyn yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol mewn ffordd integredig gydag ymyriadau polisi eraill.

Mae'r Comisiwn wedi cyflwyno pedwar ar ddeg o argymhellion gyda'r nod o fynd i'r afael â'r heriau hyn. Terfyna’r adroddiad gyda rhestr fanwl o argymhellion sy'n canolbwyntio ar: 

  • Gynyddu amlygrwydd iaith mewn penderfyniadau cynllunio. 
  • Sicrhau fod cynlluniau datblygu yn ystyried effeithiau ieithyddol. 
  • Cryfhau gofynion tystiolaeth ar gyfer ystyriaethau'r iaith Gymraeg. 
  • Hyfforddi cynllunwyr i ddeall deinameg ieithyddol. 
  • Adolygu dogfennau polisi fel bod y Gymraeg yn cael ei thrin fel ystyriaeth berthnasol yn gyson ar draws y system gynllunio.

Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r egwyddor eang o sefydlu fframwaith ganolog, gydlynol ar gyfer polisi'r iaith Gymraeg, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar draws bob maes polisi. Mae gwaith y Comisiwn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad strategol i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu fel iaith gymunedol fyw. 

Bydd dyfodol yr iaith ledled Cymru yn dibynnu ar ystod eang o ffactorau y tu hwnt i'r system gynllunio tref a gwlad, yn enwedig addysg, newid demograffig, gweithgareddau cymunedol a sylfaen economaidd gadarn i gynnal cymunedau cynaliadwy ffyniannus. Mae'r ddau adroddiad gan y Comisiwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymagwedd gyfannol o ymdrin â lles y Gymraeg. Gall y system gynllunio gyfrannu at sicrhau les y Gymraeg yn y dyfodol, trwy sefydlu'r amodau i ganiatáu i gymunedau cynaliadwy ffynnu. 

Hoffwn ddiolch i Dr Simon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn, ac i’r aelodau am eu harbenigedd a'u hymroddiad wrth baratoi'r adroddiad hwn yn ogystal â'r prif adroddiad. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd wedi darparu tystiolaeth yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau gyda'r Comisiwn ar ystod eang o faterion.