Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cael ei chyhoeddi heddiw. 

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers Cyllideb  Atodol Gyntaf 2025-26 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025.   

Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Mawrth.