Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gweithwyr gofal ledled Cymru yn gallu datblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau drwy Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £1.5 miliwn o gyllid i gefnogi cam cyntaf yr Academi.

Bydd yn adeiladu ar lwyddiant modelau academïau gofal lleol sydd eisoes ar waith mewn sawl rhan o Gymru. Mae'r modelau hyn yn cynnig cyflogaeth â thâl ochr yn ochr â hyfforddiant, gan alluogi gweithwyr gofal i ddatblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Bydd hyn yn helpu i wneud gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol, ac ar yr un pryd helpu i ddatblygu'r gweithlu a chreu llwybrau cliriach ar gyfer camu ymlaen i rolau uwch neu arbenigol dros amser, i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny.

Mae sawl awdurdod lleol yng Nghymru eisoes wedi gweld y gwahaniaeth y gall academïau gofal ei wneud, megis ei gwneud yn haws cadw staff, morâl uwch, cyfleoedd dilyniant clir, a newid yn agwedd y cyhoedd tuag at weithio ym maes gofal.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn fedrus ac yn darparu urddas a thosturi i'n pobl fwyaf agored i niwed. Ond ers amser rhy hir mae'r sector wedi ei chael yn anodd cynnig y llwybrau gyrfa y mae'r gweithwyr proffesiynol ymroddedig hyn yn eu haeddu.

Mae academi yn gallu cynnig cyfleoedd i newid y sefyllfa honno. P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n rhywun sydd â blynyddoedd o brofiad, bydd llwybr ar gael ichi ddatblygu'ch sgiliau, ennill cymwysterau, a gweld datblygiad a dilyniant yn eich gyrfa.

Mae'r Gweinidog hefyd yn gwneud cyhoeddiadau pellach heddiw sy'n nodi newid sylweddol yn y ffordd y mae Cymru yn cefnogi ei gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys lansio ymgynghoriad ar Gorff Negodi Gofal Cymdeithasol a fyddai'n datblygu Cytundebau Cyflog Teg i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Byddai sefydlu'r corff hwn i ddatblygu cytundebau o'r fath yn garreg filltir arwyddocaol, gan alluogi lefelau cyflog y gellir eu gorfodi i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru am y tro cyntaf.

Mae'r ymgynghoriad bellach yn fyw yn llyw.cymru ac rydym yn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn haeddu cyflog teg a chyfleoedd go iawn i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, gyda’r cynnig i gael hyfforddiant arbenigol, a'r hyder nad swydd yn unig yw gofal cymdeithasol – gall fod yn yrfa gydol oes. Mae cyhoeddiadau heddiw yn sôn am wneud hyn i gyd yn realiti.