Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Ebrill 2026.

Cyfnod ymgynghori:
24 Chwefror 2026 i 28 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn parhau. Bydd manylion canlyniad yr ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yma erbyn diwedd yr haf.

Trosolwg byr 

Cafwyd 63 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan ystod eang o randdeiliaid. Ar y cyfan, cytunodd ymatebwyr y dylai'r Corff Negodi Gofal Cymdeithasol (SCNB) fod yn gorff annibynnol, credadwy ac awdurdodol gyda chynrychiolaeth gytbwys gan weithwyr a chyflogwyr. 

Er bod safbwyntiau yn wahanol mewn rhai meysydd, roedd consensws eang ynglŷn â'r angen am gynrychiolaeth ystyrlon o weithwyr a chyflogwyr gyda threfniadau llywodraethu clir, cefnogaeth arbenigol, model cyllido teg a thryloyw, a thystiolaeth gadarn i lywio negodiadau.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn gofyn am eich barn ar gynigion i sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru i drafod cytundebau cyflog teg ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys ei strwythur, ei swyddogaethau a'i effaith bosibl.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth y DU 2025 (Deddf 2025) yn cynnwys pwerau i sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol (Corff Negodi) i gytuno ar Gytundebau Cyflog Teg ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn unigolion a sefydliadau ar y cynnig i sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru. 

Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar fanylion unrhyw gytundeb cyflog teg, lefel y cyflog na thelerau ac amodau newydd. Cytunir ar y rhain drwy'r broses fargeinio.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddeall barn y sector ar ystod o feysydd gan gynnwys:

  • y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol
  • y broses negodi
  • cwmpas a chylch gwaith
  • datrys anghydfod
  • gweithredu
  • cydymffurfio a gorfodi

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.