Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi llesiant, cryfhau cymunedau, a galluogi pobl i fyw ag urddas, annibyniaeth, a diogelwch. Er gwaetha'r rolau hollbwysig hyn, mae ein gweithlu yn dal i wynebu cyflog isel ac amodau cyflogaeth anghyson ar draws y sector.

Rwyf, felly, yn croesawu deddfwriaeth Llywodraeth y DU i gyflwyno proses Cytundeb Cyflog Teg ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol fel rhan o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025, a fydd yn golygu y gellir creu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru.  Mae hwn yn gam arwyddocaol tuag at greu gweithlu cynaliadwy. Mae Cytundeb Cyflog Teg yn cynnig ffordd ymarferol ac egwyddorol o fynd i'r afael â'r heriau hirsefydlog hyn, a chaiff ei ategu gan y sicrwydd cyfreithiol sydd ei angen i wneud newid ystyrlon.  Drwy ymgynghori ar Gorff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru (Corff Negodi) rydym yn parhau â'n taith i greu gweithlu hirdymor, cynaliadwy a gwella gwasanaethau gofal ledled y wlad.

Byddai Corff Negodi i Gymru yn darparu fforwm strwythuredig, gan ddwyn ynghyd Undebau Llafur a Chynrychiolwr Cyflogwyr i negodi'n adeiladol er mwyn pennu safonau teg, cyson a chynaliadwy ar gyfer y sector cyfan.

Bydd y Corff Negodi yn adeiladu ar sylfeini cadarn y partneriaethau cymdeithasol a sefydlwyd eisoes yng Nghymru drwy ein Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a Phartneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.  Rhyngddynt, mae'r grwpiau hyn wedi cymryd camau arwyddocaol i wella cyflog, telerau ac amodau teg i'r gweithlu. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal, y mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar ei gyfer ers mis Ebrill 2022; datblygu Fframwaith Tâl a Dilyniant ar gyfer y sector annibynnol; yn ogystal â llunio polisïau adnoddau dynol craidd enghreifftiol, gan gynnwys Cytundebau Cydnabod a Disgyblu a Chwyno, er mwyn sicrhau bod telerau ac amodau ar draws y sector hwn yn gyson.

Mae gofal cymdeithasol yn sector sylfaenol o'r economi, sy'n ategu bywyd dyddiol ac yn cefnogi effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Mae gweithwyr gofal yn golygu y gall cleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn amserol, yn atal derbyniadau y mae modd eu hosgoi i'r ysbyty, yn cefnogi gofalwyr di-dâl, ac yn rhoi cymorth cymdeithasol, corfforol ac emosiynol hanfodol i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

Rwy'n falch bod y llywodraeth hon yn hyrwyddo'r cam cyntaf hwn o'r gwaith ar Gytundebau Cyflog Teg, ac mae eich ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn hanfodol. Byddant yn helpu i lywio'r cam pwysig ac uchelgeisiol hwn tuag at gydnabod gweithwyr gofal cymdeithasol fel proffesiwn medrus a hollbwysig, fel y maent yn ei haeddu.

I'n gweithlu gofal cymdeithasol, diolch ichi, fel arfer, am eich ymroddiad ac rwy'n ffyddiog y bydd y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth i wella cyflog, telerau ac amodau i'r sector hwn.

Cefndir

Mae ein gweithlu gofal cymdeithasol medrus ac ymroddedig yn rhoi gofal a chymorth hanfodol i bobl o bob oed ag anghenion amrywiol, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, gwasanaethau gofal plant, anableddau corfforol, anableddau dysgu, awtistiaeth a dementia. Mae'r bobl ymrwymedig sy'n rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol i'r rhai sy'n cael gofal a chymorth, gan eu helpu i gynnal eu hansawdd bywyd, eu hannibyniaeth a'u cysylltiad â'r pethau sydd bwysicaf iddynt.

Eto i gyd, mae gofal cymdeithasol yn sector cyflog isel yn hanesyddol.  Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau i fynd i'r afael â hyn drwy roi cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol.  Diben y cyllid ychwanegol hwn yw pontio'r bwlch rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Byw Gwirioneddol.

Daeth gwerthusiad annibynnol o weithrediad y Cyflog Byw Gwirioneddol, a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2025, i'r casgliad bod y polisi wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ei nod o dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan sicrhau newid nodedig o safbwynt cydraddoldeb o ran cyflogau ar adeg o her ddigynsail i'r sector.  Canfu fod 84% o'r ymatebwyr i'r gwerthusiad wedi nodi eu bod yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol a bod cyflogau wedi gwella i lawer o weithwyr gofal cymdeithasol, gan sicrhau eu bod yn gyson â Bandiau 1 a 2 y GIG yn gyffredinol. Fodd bynnag, canfu hefyd nad yw pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol a bod mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y gweithlu hanfodol hwn yn cael ei dalu'n deg.

Bydd sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol yn newid mawr, gan y bydd yn golygu y gellir cyflwyno Cytundebau Cyflog Teg gorfodadwy ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol am y tro cyntaf. 

Cytundeb cyflog teg yw cytundeb a fydd yn pennu safonau gofynnol ar gyfer cyflog a thelerau ac amodau, a fydd yn orfodadwy o dan y gyfraith. Caiff y cytundeb yng Nghymru ei lunio drwy negodi. I wneud hyn, rydym yn cyflwyno math o fargeinio cyfunol yn y sector gofal cymdeithasol. O dan y broses hon, bydd gweithwyr, a gynrychiolir gan undebau llafur, yn negodi â'u cyflogwyr i gytuno ar gyflog, telerau ac amodau, a materion cyflogaeth ehangach.

Unwaith y caiff y cytundeb cyflog teg a negodwyd ei roi ar waith, bydd yn gymwys i bob gweithiwr a gaiff ei gwmpasu gan y cytundeb, p'un a yw'n aelod o undeb llafur ai peidio. Rydym yn gwneud hyn ar lefel genedlaethol drwy sefydlu'r Corff Negodi Gofal Cymdeithasol.

Bydd y Corff Negodi yn gwneud y canlynol:

  • grymuso gweithwyr
  • cryfhau rôl undebau llafur yn y sector
  • sicrhau bod staff yn cael eu cydnabod a'u gwobrwyo am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud
  • rhoi hwb i gynhyrchiant a gwella safonau byw

Deddf 2025

Mae Deddf 2025 yn galluogi Gweinidogion Cymru i amlinellu'r broses ar gyfer dod i gytundeb cyflog teg mewn is-ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai'r darpariaethau yn Neddf 2025 yw'r ffordd fwyaf cydlynol ac effeithiol o wneud hyn, gan sicrhau cydraddoldeb o ran hawliau i'r gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Rydym yn gryf o blaid creu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol ac rydym wedi penderfynu defnyddio'r fframwaith a ddarperir gan Ddeddf 2025. Rydym wedi sicrhau pwerau drwy'r Ddeddf a fydd yn rhoi'r un pwerau i Weinidogion Cymru â'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy is-ddeddfwriaeth, wneud y canlynol:

  • sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru a nodi sut y bydd yn gweithio
  • gwneud darpariaeth ynghylch cylch gwaith y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru (e.e. nodi materion ychwanegol mewn perthynas â chyflogaeth fel gweithiwr yn y sector gofal cymdeithasol)
  • nodi sut y caiff materion eu hystyried gan y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru
  • nodi'r broses ar gyfer datrys anghydfodau
  • cadarnhau cytundeb y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru, fel bod ganddo rym cyfreithiol a'i fod yn cael ei gymhwyso i gontractau gweithwyr

Caiff y manylion hyn eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth er mwyn rhoi hyblygrwydd i'r llywodraeth ymgysylltu ac ymgynghori â'r sector a'r cyhoedd ar sut y gallai proses y cytundeb cyflog teg weithio. Caiff y polisi a manylion am broses y cytundeb cyflog teg eu llunio'n derfynol ar ôl yr ymgynghoriad hwn cyn cael eu cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth. Bydd is-ddeddfwriaeth yn amodol ar gytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol.

Trosolwg

Mae'r adrannau isod yn disgrifio cydrannau proses y cytundeb cyflog teg ac yn nodi rhai opsiynau dylunio ar gyfer pob elfen yn fanylach. Rydym yn ceisio barn ar agweddau pwysig ar ddyluniad y broses fel y gallwn fod yn siŵr ei bod yn arwain at negodiadau adeiladol, ystyrlon a chynhwysfawr rhwng undebau llafur fel cynrychiolwyr gweithwyr, a chynrychiolwyr cyflogwyr, yn ogystal â diogelu'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol a gaiff eu darparu gan y sector hwn.

Rydym hefyd yn defnyddio'r ymgynghoriad i geisio barn ar bwy ddylai gael eu cwmpasu gan y cytundeb cyflog teg cyntaf a sut y gall y llywodraeth gefnogi'r broses weithredu a chydymffurfiaeth.  Ar gyfer rhai camau, nodir argymhellion neu opsiynau penodol, ac ar gyfer eraill, rydym yn ceisio barn a gwybodaeth gyffredinol ynghylch y materion dan sylw.

Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru

Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru

Mae'r adran hon yn ystyried y broses o sefydlu'r Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru; ac yn ceisio barn ar sut y gellid sefydlu'r Corff Negodi i greu cytundebau cyflog teg yn llwyddiannus a sut y gellid cynrychioli llais gweithwyr a chyflogwyr yn y sector.

Bydd y Corff Negodi yn dwyn undebau llafur a phobl sy'n cynrychioli cyflogwyr ynghyd i negodi cyflog, telerau ac amodau, a materion cysylltiedig. Trafodir cwmpas y Corff Negodi yn fanylach yn adran "Cwmpas a chylch gwaith".

Bydd sefydliadau eraill, fel comisiynwyr gofal, yn rhan o'r broses hon hefyd.

Ffurf y Corff Negodi

Yng Nghymru, mae gennym rwydweithiau a strwythurau sefydledig ar waith yn barod i ymgynghori ar bolisi gofal cymdeithasol, yn benodol y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. Mae gan y Fforwm Gadeirydd annibynnol, ac mae'n dwyn ynghyd undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr, cynrychiolwyr darparwyr gofal cymdeithasol sy'n siarad ar ran cyflogwyr, a llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Mae'r cydweithio hwn wedi creu sylfaen gadarn i drafod a gweithredu i wella telerau ac amodau drwy'r sector cyfan.

Gall ffurf cyrff cyhoeddus amrywio yn dibynnu ar y swyddogaethau a gyflawnir ganddynt. Mae dau fath o gorff cyhoeddus a allai ddiwallu anghenion y Corff Negodi o bosibl, sef:

  • corff cyhoeddus anadrannol cynghorol
  • pwyllgor arbenigol

Bydd y Gweinidogion Cymru perthnasol yn cymeradwyo'n ffurfiol sefydliadau penodol allweddol i eistedd ar y Corff Negodi a byddant yn penodi Cadeirydd annibynnol ar gyfer y naill opsiynau canlynol neu'r lleill. Fodd bynnag, cynigir y byddai proses fwy ffurfiol yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer corff cyhoeddus anadrannol ac y byddai angen i holl aelodau'r corff fynd drwy broses benodi Weinidogol ffurfiol.  

Corff cyhoeddus anadrannol cynghorol

Mae corff cyhoeddus anadrannol cynghorol, sy'n gorff hyd braich, yn rhoi cyngor arbenigol, diduedd i weinidogion ar faterion penodol.

Dyma nodweddion diffiniol corff cyhoeddus anadrannol â phwerau cynghori:

  • mae gweinidogion perthnasol (yn yr achos hwn, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol) yn atebol am y Corff Negodi ond nid ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'i weithrediadau
  • maent yn gweithredu'n annibynnol ar y llywodraeth am eu bod wedi'u dylunio i fod yn rhydd rhag rheolaeth wleidyddol uniongyrchol
  • maent yn cynnwys arbenigwyr annibynnol, gyda chadeirydd fel arfer. Mae'r aelodau yn arbenigwyr annibynnol, gyda chymorth staffio gan weision sifil fel arfer
  • caiff aelodau eu penodi gan y gweinidog perthnasol ac maent yn atebol i'r adran noddi, sef Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn
  • nid oes ganddynt bwerau gweithredol. Rôl gynghori sydd ganddynt

Pwyllgor arbenigol 

ae pwyllgorau arbenigol yn rhoi cyngor arbenigol annibynnol i'r llywodraeth. Maent yn rhannu llawer o nodweddion cyrff cyhoeddus anadrannol, ond maent yn gweithredu fel rhan o un o adrannau'r llywodraeth. Er hynny, mae'r pwyllgorau eu hunain a'r cyngor a ddarperir ganddynt yn annibynnol o hyd. Os caiff y Corff Negodi ei sefydlu fel pwyllgor arbenigol, byddai'n eistedd o fewn Llywodraeth Cymru.

Byddai pwyllgor arbenigol sy'n rhoi cyngor arbenigol annibynnol i'r llywodraeth yn adeiladu ar ein diwylliant a'n dull partneriaeth presennol yng Nghymru, a allai sicrhau bod y cydweithio sy'n digwydd rhwng rhanddeiliaid ar hyn o bryd yn parhau.

Cefnogi'r Corff Negodi

Rydym yn ceisio eich barn ar y cymorth a'r seilwaith y gallai fod eu hangen ar y Corff Negodi i greu'r amodau ar gyfer proses negodi lwyddiannus.

Cadeirydd

Bydd angen cadeirydd ar y Corff Negodi i oruchwylio'r broses, dod â'r aelodau ynghyd, arwain cyfarfodydd a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.  Y cadeirydd fydd yn arwain y Corff Negodi yn y pen draw i osod cytundeb cyflog teg gerbron Gweinidogion Cymru. 

Bydd y cadeirydd yn cefnogi'r Corff Negodi pan fydd unrhyw bwyntiau cynhennus yn codi ond ni fydd disgwyl iddo ddatrys anghydfodau ffurfiol. Os na ddaw'r Corff Negodi i gytundeb, byddwn yn cynnig proses arall i ddatrys hyn.  Caiff y broses hon ei hamlinellu o dan adran "Datrys anghydfod".

Mae llawer o nodweddion y bydd angen i'r cadeirydd eu harddangos er mwyn gallu arwain y Corff Negodi yn effeithiol. Gallai'r rhain gynnwys, ymhlith eraill:

  • bod yn niwtral a gallu ennyn hyder yr aelodau
  • gwybodaeth eang am y sector gofal cymdeithasol
  • profiad o reoli, arwain a llywio negodiadau diwydiannol, ynghyd â'r gallu i asesu barn groes ar draws ystod eang o safbwyntiau er mwyn helpu i lunio unrhyw gytundeb arfaethedig
  • sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i ennyn ymddiriedaeth a hyder undebau llafur, cynrychiolwyr cyflogwyr ac unrhyw bartïon eraill, yn gyflym, er mwyn helpu i ddatrys gwrthdaro mewn ffordd adeiladol
  • profiad fel uwch-arweinydd gyda'r gallu i bennu cyfeiriad clir a gwneud penderfyniadau strategol

Ysgrifenyddiaeth

Er mwyn helpu i hwyluso negodiadau, bydd angen ysgrifenyddiaeth ar y Corff Negodi.  Fel gyda chadeirydd y Corff Negodi, bydd yr ysgrifenyddiaeth hefyd yn rheoli cydberthnasau a bydd angen iddi ennyn hyder yr aelodau.  Byddai staff a benodir i'r ysgrifenyddiaeth yn cefnogi'r cadeirydd drwy gyflawni'r gweithgareddau canlynol, ymhlith eraill:

  • cymryd cofnodion
  • trefnu cyfarfodydd
  • rheoli cydberthnasau â'r partïon dan sylw
  • drafftio adroddiadau

Yn ogystal, rydym yn cynnig y dylai'r ysgrifenyddiaeth allu comisiynu neu gynnal gwaith ymchwil a dadansoddi ychwanegol, os bydd angen hynny ar y Corff Negodi.  Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod negodiadau'n seiliedig ar dystiolaeth gynhwysfawr a byddai'n helpu'r Corff Negodi i ddod i gytundeb, gan y bydd gan bob aelod ddealltwriaeth gyffredin o'r sail dystiolaeth.  Bydd hyn hefyd yn bwysig er mwyn helpu'r Corff Negodi i ddeall beth sy'n fforddiadwy ac yn realistig i'w roi ar waith.

Y cynnig yw y bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru yn cyflawni swyddogaeth ysgrifenyddiaeth y Corff Negodi.  Diben y trefniant hwn yw galluogi'r Corff Negodi i weithredu'n effeithiol a sicrhau cymorth gweinyddol parhaus, gan gynnal lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o fewn y llywodraeth o gynnydd y corff hefyd.  Ni fwriedir i'r ysgrifenyddiaeth ddylanwadu ar benderfyniadau'r Corff Negodi na'u cyfeirio; yn hytrach, bwriedir i'r ysgrifenyddiaeth hwyluso ei waith a sicrhau tryloywder a llywodraethu da wrth i'r corff ddatblygu. Y bwriad yw cefnogi, nid llywio, y Corff Negodi gan sicrhau bod ganddo'r adnoddau a'r seilwaith i lwyddo. 

Cynrychiolaeth ar y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol

Mae “arolwg Dweud eich Dweud 2025” Gofal Cymdeithasol Cymru yn amcangyfrif bod tua 82,000 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.  O'r 5,707 a ymatebodd i'r arolwg:

  • dywedodd 69% eu bod yn fodlon ar eu telerau ac amodau
  • roedd 38% yn fodlon ar eu cyflog
  • dywedodd 47% o'r ymatebwyr bod eu sefyllfa ariannol bresennol yn fwy anodd na'r flwyddyn flaenorol
  • roedd 45% yn teimlo eu bod yn ymdopi'n ariannol

Mae darparwyr gofal cymdeithasol sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru wedi'u rhannu ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ac maent yn darparu gwasanaethau i oedolion, plant a phobl ifanc ar draws amrywiaeth o leoliadau gwahanol, mathau o wasanaethau ac arbenigeddau.

Er mwyn cael negodiadau llwyddiannus, mae angen inni sicrhau bod gweithwyr a chyflogwyr yn cael eu cynrychioli'n deg ar y Corff Negodi. Mae Deddf 2025 yn nodi bod yn rhaid i'r aelodaeth gynnwys:

  • swyddogion o un neu fwy o undebau llafur sy'n cynrychioli buddiannau gweithwyr gofal cymdeithasol; 
  • pobl sy'n cynrychioli buddiannau'r rhai sy'n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol

Yn ogystal, mae Deddf 2025 yn caniatáu i bersonau eraill gael eu penodi.

Yng nghyd-destun Deddf 2025, mae'r diffiniad o “weithiwr gofal cymdeithasol” yn eang a mater i'r Corff Negodi fydd penderfynu pa rolau a gaiff eu cwmpasu gan y Cytundeb Cyflog Teg y mae'n ei negnodi ar yr adeg honno, yn seiliedig ar y cylch gwaith y bydd yn ei dderbyn. Caiff cwmpas ei drafod yn ddiweddarach yn yr ymgynghoriad hwn. Y rhanddeiliaid allweddol, felly, yw undebau llafur sy'n cynrychioli'r gweithlu gofal cymdeithasol a chynrychiolwyr cyflogwyr gofal cymdeithasol.

Er y bydd y Corff Negodi yn gweithredu'n annibynnol ar y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, mae'r partneriaethau cryf hyn â sefydliadau sy'n ymwneud â'r sector yn cynnig profiad a gwybodaeth ddofn am y gweithlu. Mae'r sefydliadau a gynrychiolir ar y Fforwm wedi hyrwyddo telerau ac amodau gwell yn gyson, gan gynnwys cyflog, ac maent wedi herio'r llywodraeth, lle bo angen, i sicrhau gwelliannau i'r sector. Y bwriad yw y caiff yr un sefydliadau eu cynrychioli o fewn y Corff Negodi, er y gallai hyn olygu unigolion gwahanol, gan sicrhau bod y Corff Negodi yn cael budd o'u hymrwymiad presennol i ysgogi newid cadarnhaol ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr.

Rydym yn cynnig y bydd gan bob ochr fargeinio nifer cyfartal o seddi ac y bydd pob ochr yn gyfrifol am benderfynu sut y bydd yn rhannu ei chyfran o seddi ymhlith ei gilydd.  Bydd pob ochr yn pennu meini prawf ar gyfer penderfynu sut y caiff ei seddi eu rhannu.  Yna byddant yn cyflwyno cynigion ar gyfer aelodaeth yn unol â'r meini prawf hyn i Weinidogion Cymru fel y gallant eu hadolygu a'u cymeradwyo.  Ceir rhagor o fanylion am sut y byddai hyn yn gweithio isod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir clywed lleisiau'r ddau grŵp yn gyfartal. Os caiff aelodau eraill eu penodi, rydym yn cynnig mai dim ond fel sylwedyddion neu gynghorwyr y cânt eu penodi, i sicrhau bod y negodiadau'n parhau rhwng cynrychiolwyr y gweithwyr a'r cyflogwyr.

Cynrychiolaeth gweithwyr

Mae'n bwysig y gall cynrychiolaeth gweithwyr ar y Corff Negodi gwmpasu amrywiaeth o undebau gwahanol a'r gweithwyr a gynrychiolir ganddynt, fel y gellir cynrychioli ehangder ac amrywiaeth y gweithwyr yn y sector.

TUC Cymru, UNSAIN, GMB, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yw'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ar ein Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. TUC Cymru yw'r corff mantell ar gyfer 48 o undebau llafur ymgysylltiedig. Rydym, felly, yn cynnig dau opsiwn ar gyfer cynrychiolaeth gweithwyr i adlewyrchu'r ffaith nad oes gan TUC Cymru aelodaeth gweithwyr annibynnol.

  • Opsiwn 1: Cynnwys TUC Cymru, ochr yn ochr ag Unsain, GMB a'r Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Opsiwn 2: Dim ond cynnwys cynrychiolwyr o undebau llafur annibynnol sy'n seiliedig ar aelodaeth: 
    • Unsain, GMB a'r Coleg Nyrsio Brenhinol gyda TUC Cymru yn gweithio fel cynullydd gan sicrhau bod undebau llafur yn y maes gofal cymdeithasol yn cydgysylltu ac yn cyfathrebu â'i gilydd yn effeithiol

Mae gan bob un o'r undebau llafur hyn aelodaeth, cytundebau cydnabod a chwmpas bargeinio cyfunol ar draws y sector ac maent wedi bod yn weithredol yn y sector ers blynyddoedd lawer.

Yn bwysig i'r rhai nad ydynt yn aelodau o undebau llafur, dylid nodi'r canlynol:

  • mae undebau llafur cydnabyddedig yn negodi ar ran pob gweithiwr mewn uned fargeinio, nid dim ond eu haelodau eu hunain
  • mae Cytundebau Cyflog Teg yn gymwys yn yr un modd i weithwyr sy'n aelodau o undebau a gweithwyr nad ydynt yn aelodau o undebau, gan sicrhau bod pawb yn cael yr un telerau
  • mae undebau llafur yn atebol ar sail ddemocrataidd i'w haelodau, sy'n golygu eu bod mewn sefyllfa dda i weithio fel llais cynrychioliadol ar ran gweithwyr
  • nid oes corff atebol, democrataidd, cyfundrefnol sy'n cynrychioli gweithwyr nad ydynt yn aelodau o undebau llafur yn benodol

Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar gyfanswm seddi'r Corff Negodi, a chaiff nifer cyfartal o'r seddi hyn eu dyrannu i bob ochr fargeinio. Nid yw'r meini prawf wedi cael eu pennu eto ond gallent gynnwys aelodaeth sylweddol ar draws y sector gofal cymdeithasol a phrofiad ystyrlon o gydfargeinio. Caiff aelodaeth y Corff Negodi ei hadolygu'n rheolaidd i gyfrif am newidiadau yn y dirwedd undebau llafur. Bydd Gweinidogion Cymru yn adolygu cynigion ac yn rhoi cadarnhad ysgrifenedig i'r undebau llafur ynghylch y cytundeb terfynol ar aelodaeth y Corff Negodi.

Cynrychiolaeth cyflogwyr

Drwy barhau i ymgysylltu â'n Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, rydym wedi ystyried gwahanol fodelau o gynrychiolaeth cyflogwyr ac wedi datblygu'r cynnig canlynol.

Fforwm Gofal Cymru a'r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol yw'r sefydliadau cynrychioli cyflogwyr sy'n cynrychioli darparwyr gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ar ein Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. Rydym yn cynnig bod gan y Corff Negodi nifer cyfartal o seddi ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr a chyflogwyr er mwyn sicrhau y gall lleisiau'r ddau grŵp gael eu clywed yn gyfartal.

Os caiff staff gofal iechyd a gyflogir gan awdurdodau lleol a'r GIG eu cwmpasu gan y cytundeb cyflog teg, bydd cynrychiolwyr cyflogwyr yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyflogwyr y GIG i gynrychioli'r rhannau hynny o'r gweithlu. Mae adran "Cwmpas a chylch gwaith" yr ymgynghoriad yn trafod hyn yn fanylach.

Caiff aelodaeth ei hadolygu'n rheolaidd i gyfrif am newidiadau yn y dirwedd cyflogwyr, er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu amrywiaeth maint ac arbenigeddau'r sector yn briodol.

Rôl Llywodraeth Leol a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol fel comisiynwyr

Bydd cyrff llywodraeth leol yn chwarae rôl hanfodol wrth weithredu'r cytundeb cyflog teg, yn sgil eu cyfrifoldebau am ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'u rôl wrth negodi cyfraddau ffioedd a chontractau darparwyr sydd, yn y pen draw, yn dylanwadu ar gyflog y gweithlu.  Mae'n bwysig, felly, fod gan gyrff llywodraeth leol, yn enwedig yn rhinwedd eu rôl fel comisiynwyr, rôl glir i'w chwarae ym mhroses y cytundeb cyflog teg. 

Rydym yn cyflwyno 2 opsiwn i'w hystyried mewn perthynas â'r rolau hyn:

  • Opsiwn 1: Aelodaeth lawn i bob rhanddeiliad allweddol i gynnwys 
    • Cyflogwyr; Undebau llafur, Llywodraeth leol a'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r opsiwn hwn yn sicrhau bod pob parti yn chwarae rôl uniongyrchol mewn negodiadau, gan adlewyrchu'r cydweithio sydd wedi bod yn sail i bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

  • Opsiwn 2: Cyflogwyr ac undebau llafur fel aelodau craidd, gyda llywodraeth leol a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn chwarae rôl gynghori.

O dan yr opsiwn hwn, cyflogwyr ac undebau llafur fyddai'r aelodau negodi craidd, gyda llywodraeth leol a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y bwrdd mewn rôl gynghori.

Mae'r rhesymeg dros y dull gweithredu hwn yn cydnabod eu cyfrifoldebau hollbwysig am weithredu Cytundebau Cyflog Teg, comisiynu gwasanaethau, a negodi cyfraddau ffioedd a chontractau darparwyr, ffactorau sy'n dylanwadu'n uniongyrchol ar gyflog y gweithlu.

Mae'n bwysig nodi y caiff gweithwyr gofal cymdeithasol a gyflogir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol eu cwmpasu eisoes gan fframweithiau bargeinio cenedlaethol fel y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol, lle caiff telerau ac amodau eu nodi yn y ‘Llyfr Gwyrdd’. Felly, mae llywodraeth leol wedi'i chynnwys eisoes yn y trefniadau cydfargeinio ar gyfer y garfan honno o weithwyr.

I sicrhau bod llywodraeth leol yn parhau i fod yn llais cryf yn y broses o dan yr opsiwn hwn, rydym yn cynnig pecyn o fesurau, gan gynnwys:

  • ei gwneud yn ofynnol i'r Corff Negodi ymgynghori â llywodraeth leol ac ystyried ei barn fel rhan o'i gylch gwaith
  • ymgorffori rôl llywodraeth leol yng nghylch gorchwyl y Corff Negodi a chyfrifoldebau'r Cadeirydd
  • galluogi cynrychiolwyr llywodraeth leol i roi asesiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o unrhyw Gytundeb Cyflog Teg arfaethedig, y mae'n rhaid i Weinidogion roi sylw dyledus iddo wrth benderfynu a ddylid cadarnhau cytundeb

Llywodraeth Cymru

Roedd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wedi cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru, fel y corff sy'n gyfrifol am bennu polisi, diben a chyfeiriad cenedlaethol, gan gynnwys cyllid cyffredinol, rôl bwysig i'w chwarae yn y broses cytundebau cyflog teg hefyd.

Mae ein strwythurau a'n dull partneriaeth sefydledig, lle mae undebau llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar bolisïau sy'n ymwneud â'r gweithlu, wedi meithrin ymddiriedaeth dros lawer o flynyddoedd. Mae rhanddeiliaid wedi mynegi ffafriaeth i sefyllfa lle mae gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb fel rhan o'r Corff Negodi, mewn rôl gynghori yn bennaf ac nid fel aelod â phleidlais. Mae hyn yn sicrhau bod y corff negodi yn parhau i fod yn annibynnol ond ei fod yn cael budd o wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad y llywodraeth ar yr un pryd.

Aelodau eraill

Fel y nodir uchod, mae Deddf 2025 yn caniatáu inni benodi aelodau eraill i'r Corff Negodi.  Rydym am sicrhau bod y Corff Negodi mor gynrychioliadol o'r sector gofal cymdeithasol â phosibl a bod pob buddiant yn cael ei ystyried, fel bod ganddo'r siawns orau o ddod i gytundeb ystyrlon.  Os caiff eraill eu penodi, rydym yn cynnig mai dim ond fel sylwedyddion neu gynghorwyr y cânt eu penodi, a fydd yn sicrhau bod y negodiadau'n parhau rhwng cynrychiolwyr y gweithwyr a'r cyflogwyr.

Rydym am ddeall, felly, a ydych yn meddwl y dylid penodi aelodau eraill i'r Corff Negodi fel cynghorwyr arbenigol, sylwedyddion neu mewn rôl arall.

Y broses benodi

Fel y nodir uchod, mae ein cynigion ar gyfer cynrychiolaeth gweithwyr a chyflogwyr yn cynnig y canlynol:

  • bydd ochrau bargeinio yn gyfrifol am benderfynu sut y dylai eu cyfran o seddi gael ei rhannu ymysg ei gilydd
  • bydd pob ochr yn cyflwyno cynigion ar gyfer aelodaeth i Weinidogion Cymru fel y gallant eu hadolygu a'u cymeradwyo

Mae'n bosibl y bydd cynrychiolwyr gweithwyr neu gyflogwyr yn ysgrifennu'n uniongyrchol at Lywodraeth Cymru yn mynegi diddordeb mewn bod yn aelod o'r Corff Negodi.  Os bydd hynny'n digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu proses ymgysylltu â'r undeb llafur neu'r grwpiau cynrychioli cyflogwyr arfaethedig i sicrhau bod pob cais yn cael ei ystyried.

Wrth gyflwyno cynigion ar gyfer aelodaeth i Weinidogion Cymru, dylai'r undeb llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr gyflwyno manylion unrhyw sefydliadau y mae eu ceisiadau wedi cael eu gwrthod hefyd, ynghyd â'r rhesymau dros hynny.

Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i osod amodau ar benodiadau er mwyn helpu i sicrhau bod cynrychiolaeth yn ddilys ac yn cwmpasu cymaint o'r sector â phosibl. Credwn ei bod yn bwysig mai'r sector sy'n penderfynu pwy sydd yn y sefyllfa orau i negodi ar ran ei weithwyr a chyflogwyr, ond mae'r pŵer hwn yn fesur diogelu pwysig.  Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiadau hefyd.

Efallai y bydd sefyllfaoedd yn codi pan fydd un o aelodau penodedig y Corff Negodi yn camu i lawr neu pan na all gymryd rhan mewn negodiadau mwyach.  Byddai modd i'r ochr fargeinio berthnasol ysgrifennu at Weinidogion Cymru i geisio newid yr aelod dan sylw, a byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud penodiad newydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl.  Fodd bynnag, ni fydd swydd wag yn effeithio ar unrhyw benderfyniadau a wneir gan y Corff Negodi.  Byddai hyn yn golygu pe bai aelod yn camu i lawr yn ystod cyfnod hollbwysig o negodiadau gweithredol, byddai'r Corff Negodi yn gallu parhau i gyflwyno cytundeb i Weinidogion Cymru, ac ni fyddai'r broses benodi yn amharu ar negodiadau.  Byddai hyn yn lleihau oedi.

Y broses negodi

Mae'r adran hon yn ystyried sut y gallai'r broses negodi weithio. Mae'n cynnig dull gweithredu ac yn ceisio adborth ynghylch a fydd hyn yn helpu negodiadau i lwyddo.

Trosolwg

Bydd negodiadau'n gweithio ar sail gylchol, gan ddilyn yr un gyfres o gamau bob tro fel arfer.  Gallai pob cylch ganolbwyntio ar yr holl bethau posibl o fewn cylch gwaith y Corff Negodi a'r holl weithwyr a gaiff eu cwmpasu, neu set benodol bob tro, er enghraifft, efallai y bydd un cylch yn edrych ar weithwyr gofal a chyflog sylfaenol neu wyliau blynyddol yn unig.  Trafodir cylch gwaith y Corff Negodi yn fanylach o dan adran "Cwmpas a chylch gwaith".

Y prif gamau yn ystod negodiadau fydd y canlynol:

  • Bydd y cylch yn dechrau, ar ôl cael ei sbarduno gan y llythyr cylch gwaith a anfonwyd gan Weinidogion Cymru at y Corff Negodi.
  • Bydd y Corff Negodi yn ymgynnull ac yn dechrau negodi.  Gallai hyn gynnwys sawl cam fel:
    • ymgysylltu â'r sector
    • deall y dystiolaeth bresennol a chasglu tystiolaeth newydd
    • negodi i sicrhau cytundeb arfaethedig
  • Bydd ochrau gweithwyr a chyflogwyr y Corff Negodi yn ymgynghori â'u haelodau ar y cytundeb arfaethedig.  Yna, bydd pob ochr yn cadarnhau a yw'n cytuno neu'n dymuno negodi ymhellach, yn dibynnu ar adborth ei haelodau.
  • Bydd y Corff Negodi yn dod i gytundeb cyflog teg arfaethedig, neu bydd yn methu â dod i gytundeb ac yn profi anghydfod.  Gweler adran "Datrys anghydfod" i gael rhagor o fanylion.
  • Bydd cadeirydd y Corff Negodi yn cyflwyno'r cytundeb a negodwyd i Weinidogion Cymru fel y gallant ei gadarnhau.  O dan ein cynigion yn adran "Y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol", byddai tystiolaeth o'r ffordd yr ymgynghorwyd â llywodraeth leol, ac asesiad llywodraeth leol o'r canlyniad, yn cael eu darparu gyda'r cytundeb. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y cytundeb i'w gymeradwyo. Os caiff ei gymeradwyo, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i gadarnhau'r cytundeb (yn unol â Deddf 2025, mae angen cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau o'r fath). Os na chaiff ei gymeradwyo, gall Gweinidogion Cymru ei gyfeirio yn ôl i'r Corff Negodi i'w ailystyried.
  • Bydd y cyflog a'r telerau ac amodau newydd yn dod i rym ar gyfer pob gweithiwr a gaiff ei gwmpasu gan y cytundeb a gadarnhawyd.

Bydd adrannau nesaf yr ymgynghoriad hwn yn disgrifio pob cam posibl yn fanylach. Ar gyfer rhai camau, nodir argymhellion neu opsiynau penodol, ac ar gyfer eraill, rydym yn ceisio barn gyffredinol.

Sut y byddai negodiadau'n dechrau

I hwyluso negodiadau esmwyth a sicrhau eglurder o'r dechrau, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai Gweinidogion Cymru gyflwyno llythyr cylch gwaith ffurfiol i'r Corff Negodi i ddechrau pob cylch o negodiadau. Bydd y llythyr cylch gwaith hwn yn rhoi cyfle i'r llywodraeth bennu unrhyw gyllid ac unrhyw flaenoriaethau posibl neu ystyriaethau penodol ar gyfer cytundeb.

Rydym yn cynnig y dylai'r llythyr i'r Corff Negodi nodi'r canlynol:

  • unrhyw feysydd â blaenoriaeth yr hoffai Llywodraeth Cymru iddynt gael eu hystyried, a allai gynnwys rolau penodol neu gyflog a thelerau ac amodau.  Y bwriad yw rhoi hyblygrwydd eang i'r Corff Negodi, efallai y bydd amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd y llythyr cylch gwaith yn gosod terfynau ar agweddau penodol ar y cwmpas a'r cylch gwaith
  • unrhyw ffactorau eraill y dylai'r Corff Negodi eu hystyried neu amodau y mae'n rhaid i'r cytundeb eu bodloni.  Byddai hyn yn cynnwys syniad o'r cyllid a ragwelir ar gyfer y cylch hwnnw o negodiadau, ac y byddai angen i'r Corff Negodi gadw ato wrth weithio
  • yr amserlenni y dylai'r Corff Negodi geisio eu bodloni wrth ddod i gytundeb a'i gyflwyno i Weinidogion Cymru

Sut y byddai negodiadau'n gweithio

Ar ôl i'r Corff Negodi gael llythyr Llywodraeth Cymru, bydd modd iddo ddechrau negodiadau, a gaiff eu harwain gan y cadeirydd a'u cefnogi gan yr ysgrifenyddiaeth.  Cyn i'r negodiadau ddechrau, efallai yr hoffai'r Corff Negodi, gyda chymorth yr ysgrifenyddiaeth, gynnal cyfnod o waith ymgysylltu a chasglu tystiolaeth i ddeall y sector a'r dirwedd bresennol.

Caiff y Corff Negodi gynnal negodiadau fel y gwêl yn dda, yn unol â pharamedrau'r llythyr cylch gwaith.  Ar y cyd, bydd yn penderfynu sut i wneud y canlynol:

  • trafod pa rolau ac elfennau o gyflog a thelerau ac amodau a gaiff eu cwmpasu yn ystod y cylch hwn (gweler adran "Cwmpas a chylch gwaith" i gael rhagor o fanylion);
  • ymgorffori'r blaenoriaethau a nodir yn llythyr Llywodraeth Cymru;
  • cytuno pa eitemau sy'n fforddiadwy.

Dan arweiniad y cadeirydd annibynnol, bydd y Corff Negodi yn gweithio drwy'r holl faterion dan sylw i lunio cytundeb drafft.  Unwaith y bydd cytundeb drafft wedi'i lunio, bydd pob ochr fargeinio yn gyfrifol am ymgynghori â'i haelodau ei hun a sefydliadau perthnasol i benderfynu a ddylid derbyn y cytundeb a'i osod gerbron Gweinidogion Cymru i'w gymeradwyo.

Os na all y Corff Negodi ddod i gytundeb, mae'n bwysig bod proses datrys anghydfod glir ar waith i weithio drwy faterion a helpu'r grŵp i ddod i gytundeb.  Caiff ein dull gweithredu arfaethedig ei egluro yn adran "Datrys anghydfod".

Mae'n bosibl y gallai'r Corff Negodi fethu â dod i gytundeb hyd yn oed ar ôl rhoi'r broses datrys anghydfod ar waith. Os bydd hynny'n digwydd, mae'n bwysig cael system i wella cyflog a thelerau ac amodau i weithwyr.  Mae adran "Gweithredu" yn amlinellu beth fyddai'n digwydd o dan yr amgylchiadau hyn.

Bydd y cadeirydd yn arwain y Corff Negodi i ddatblygu ei gylch gorchwyl ei hun gan nodi sut mae'n gweithio. Gallai hyn gynnwys cod ymddygiad, sy'n nodi disgwyliadau o ran sut y caiff negodiadau eu cynnal a sut i barhau i weithio mewn achosion lle mae rhai materion yn anos cytuno arnynt nag eraill. Byddai hwn yn adnodd defnyddiol i sefydlu cydberthnasau gwaith da rhwng yr aelodau a diwylliant ar gyfer negodiadau llwyddiannus. Un o rolau'r cadeirydd fydd sicrhau bod y Corff Negodi yn dilyn y cylch gorchwyl y cytunwyd ar ei gyfer. Gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r cadeirydd hefyd, os bydd angen, i ddwyn aelodau i gyfrif.

Sut y byddai'r Corff Negodi yn dod i benderfyniad

Mae Deddf 2025 yn rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru ddiffinio sut y bydd y Corff Negodi yn dod i gytundeb.  Er mwyn ystyried bod cytundeb wedi cael ei gytuno a'i fod yn barod i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru, rydym yn cynnig mai'r unig beth sydd ei angen yw bod y ddwy ochr yn cytuno arno a'u bod yn hysbysu'r cadeirydd.  Rydym o'r farn bod hunanbenderfynu yn bwysig ac felly rydym yn cynnig na ddylai Llywodraeth Cymru ddiffinio'n fanwl sut y bydd pob ochr fargeinio yn dod i gytundeb.

Mae'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn wedi cael eu datblygu ar y cyd â'n rhanddeiliaid allweddol drwy ein Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. Byddai undebau llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr yn gyfrifol am drefnu eu prosesau gwneud penderfyniadau eu hunain. Dylai'r ddau grŵp anelu at gonsensws ond gallant gynnal pleidlais os na fydd hynny'n bosibl.

Amserlenni

Amlder negodiadau

I roi eglurder i'r sector a chydbwyso'r angen i barhau i ymateb i ddatblygiadau economaidd gan roi sefydlogrwydd i gyflogwyr ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai cytundebau cyflog teg gael eu negodi'n flynyddol fel mater o arfer. Gallai pob cylch o negodiadau ganolbwyntio ar faterion gwahanol, er enghraifft, efallai y dewisir negodi cyflog a thelerau ac amodau ar gyfer rolau gofal cymdeithasol penodol, neu delerau ac amodau gwahanol fel hyfforddiant, cyflog gwyliau ac ati, yn dibynnu ar gylch gwaith pob cylch.

Gallai Gweinidogion Cymru hefyd ddewis cyllido cytundeb sy'n cwmpasu sawl blwyddyn, drwy nodi hynny yn y llythyr cylch gwaith.

Amserlen ar gyfer negodiadau

O fewn y cylch blynyddol arfaethedig, mae angen inni ystyried faint o amser y dylid ei ganiatáu ar gyfer negodiadau, sut i gysoni amserlenni â phrosesau pennu cyllidebau llywodraeth leol a chyflogwyr, a chaniatáu digon o amser ar gyfer y broses weithredu. Mae'r broses weithredu yn cynnwys:

  • amser i Weinidogion Cymru ystyried y cytundeb cyflog teg arfaethedig a gwneud rheoliadau i'w gadarnhau; 
  • ar ôl i'r cytundeb gael ei gadarnhau, amser i'r sector baratoi ar gyfer yr amser pan fydd y cytundeb cyflog teg yn dod i rym yng nghontractau gweithwyr. Caiff y broses weithredu ei hegluro ymhellach o dan adran " Gweithredu"

Er mwyn taro'r cydbwysedd hwn, rydym yn cynnig y dylid caniatáu tua chwe mis ar gyfer negodiadau, gan adael chwe mis ar gyfer y broses weithredu.

Os na ellir dod i gytundeb erbyn y pwynt hwn, nid ydym yn cynnig y dylai'r negodiadau ddod i ben heb unrhyw ddatrysiad. Yn hytrach, rydym yn cynnig mai dyma'r cyfnod o amser y byddwn yn cynllunio ar ei gyfer ac y bydd y Corff Negodi a Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad cyson i adolygu cynnydd ac addasu cynlluniau yn ôl yr angen.

Cwmpas a chylch gwaith

Er y bydd aelodau'r Corff Negodi yn negodi beth a gaiff ei gynnwys yn y cytundeb cyflog teg, cyn y negodiadau, bydd angen inni ddiffinio beth a phwy y gellir eu hystyried yn y lle cyntaf.  Mae'r adran hon yn ceisio barn ar wahanol agweddau ar gyflog, telerau ac amodau, a pholisïau cyflogaeth ehangach.  Mae hefyd yn ceisio barn ar bwy ddylai gael eu cwmpasu gan y Corff Negodi, gan gynnwys mathau o rolau, gwasanaethau a lleoliadau.

Cefndir

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fawr ac yn amrywiol. Mae'n darparu llawer o wasanaethau hanfodol fel gofal preswyl, gofal dydd, gofal cartref, gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau iechyd. O fewn y rhain, ceir rolau amrywiol fel:

  • rolau gofal uniongyrchol, gan gynnwys gweithwyr gofal o fewn gwasanaethau plant ac oedolion a chynorthwywyr personol
  • rolau rheoli
  • rolau rheoleiddiedig fel gweithwyr cymdeithasol, nyrsys a therapyddion galwedigaethol
  • rolau ategol ac eraill

Mae Deddf 2025 yn defnyddio ‘remit’ (neu ‘gylch gwaith’ yn Gymraeg) i ystyried y gweithwyr a gaiff eu cwmpasu, a'r materion y bydd y Corff Negodi yn eu hystyried.  Ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, rydym yn defnyddio dau derm pwysig:

Mae ‘Cwmpas’ yn cyfeirio at ba rolau yn y gweithlu y dylid eu cynnwys fel rhan o waith y Corff Negodi.  Rydym yn ceisio barn ar b'un a ddylai hyn gynnwys pob gweithiwr gofal cymdeithasol neu a ddylid ei gyfyngu i rolau neu broffesiynau penodol, ac a ddylai unrhyw rolau gael eu heithrio o gwmpas y Corff Negodi.

Mae ‘Cylch gwaith’ yn cyfeirio at y materion y dylai'r Corff eu negodi.  Rydym yn ceisio barn ar b'un a ddylai hyn gynnwys polisïau cyflogaeth ehangach fel hyfforddiant a datblygu, polisïau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch, a mwy, yn ychwanegol at gyflog a thelerau ac amodau.

Diffinio cwmpas y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol Oedolion

Caiff ystyr ‘gweithiwr gofal cymdeithasol’ (at ddiben pennod 2 o ran 3 o Ddeddf 2025) ei nodi yn adran 41 (1) (b) ac i'r graddau y mae'n berthnasol i Gymru mae'n golygu “a person who is employed wholly or mainly in, or in connection with, the provision of social care to any individual”.

Mae ystyr ‘gweithiwr gofal cymdeithasol’ yn Neddf 2025 yn eang yn fwriadol ac mae'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru fireinio'r diffiniad hwn, drwy reoliadau, i is-set fwy penodol o weithwyr gofal cymdeithasol sy'n rhan o gylch gwaith y Corff Negodi. Hyd yn oed os byddant o fewn cylch gwaith y Corff Negodi, ni fydd hynny'n golygu bod pob elfen o bob cytundeb cyflog teg yn gymwys. Yn y pen draw, bydd manylion cytundebau cyflog teg yn dibynnu ar y llythyr cylch gwaith a bennir gan Weinidogion Cymru, negodiadau, penderfyniad y Corff Negodi a ffactorau eraill.

Gwirio a yw gweithiwr o fewn cwmpas y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol

asiantaeth) yn cael ei dreulio ar weithgareddau sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol.  Credwn y bydd hi'n syml gwirio hyn yn y rhan fwyaf o achosion.  Fodd bynnag, rydym yn deall y gallai cyflogwyr gweithwyr ym maes gofal cymdeithasol gael trafferth weithiau gwirio a yw eu gweithiwr yn cyd-fynd â'r diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol, yn enwedig os bydd yn gweithio mewn lleoliadau gofal gwahanol neu sectorau fel addysg neu iechyd.  Felly, byddwn yn rhannu canllawiau maes o law i helpu cyflogwyr i ddeall a gaiff eu gweithwyr eu cwmpasu gan y Corff Negodi.

Categoreiddio rolau

Rydym yn amlinellu'r categorïau canlynol i egluro'r rolau a allai gael eu cwmpasu gan y Corff Negodi. Caiff y categorïau hyn eu defnyddio hefyd i lywio cwmpas penodol negodiadau, lle gallai'r Corff Negodi ddewis canolbwyntio ar rolau penodedig yn hytrach na'r gweithlu cyfan.

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn darparu llawer o wasanaethau hanfodol lle gallai gweithwyr gael eu cwmpasu gan y Corff Negodi, fel:

  • gofal preswyl
  • gofal dydd
  • gofal cartref
  • gwasanaethau cymunedol
  • gwasanaethau iechyd

O fewn y rhain, mae llawer o rolau, fel:

  • rolau gofal uniongyrchol, gan gynnwys:
    • gweithwyr gofal;
    • uwch-weithwyr gofal
    • cynorthwywyr personol
    • gweithwyr asiantaeth
    • gofal uniongyrchol arall
  • rolau rheoli, gan gynnwys:
    • goruchwylwyr
    • rheolwyr canol
    • uwch-reolwyr
    • gweithwyr asiantaeth
  • proffesiynau rheoleiddiedig, gan gynnwys:
    • nyrsys
    • therapyddion galwedigaethol
    • gweithwyr cymdeithasol
    • gweithwyr asiantaeth
    • proffesiynau rheoleiddiedig eraill
  • rolau eraill, gan gynnwys:
    • rolau ategol
    • rolau gweinyddol
    • gweithwyr asiantaeth

Rhannau o'r gweithlu a gaiff eu heithrio

Gofal a ddarperir gan unigolion hunangyflogedig neu o dan drefniadau anffurfiol

Mae cytundebau cyflog teg yn gymwys i'r gweithlu gofal cymdeithasol cyflogedig, felly nid ydynt yn cwmpasu gofalwyr di-dâl.  Mae rhannau o'r gweithlu cyflogedig hefyd nad ydynt o fewn cwmpas y Corff Negodi.  Yn benodol, y rhai sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio o dan drefniadau gofal anffurfiol. Y rheswm am hyn yw na chânt eu cwmpasu gan y diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’ a geir yn Neddf 2025.

Mae'n rhaid i lawer ohonynt weithio ar sail hunangyflogedig am ei fod yn rhoi hyblygrwydd iddynt, gan gynnwys hyblygrwydd i bennu eu cyflog a'u telerau ac amodau eu hunain.  Nid yw'r unigolion hynny yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a bennir gan gyflogwr. Felly, ni fyddai'n briodol i negodiadau ar gyflog, telerau ac amodau, a materion cyflogaeth eraill gynnwys y grwpiau hyn.

Rydym yn deall y bydd llawer yn poeni am yr effaith y gallai hyn ei chael ar unigolion sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio o dan drefniadau gofal anffurfiol.  Rydym am ddeall unrhyw effeithiau posibl ar y grwpiau hyn os na chânt eu cynnwys o fewn cwmpas y Corff Negodi.

Rhannau o'r gweithlu i'w nodi

Gweithwyr yn y sector gofal a gyflogir gan awdurdodau lleol a'r GIG

Mae Deddf 2025 yn caniatáu i bob gweithiwr gofal cymdeithasol - heblaw am yr hunangyflogedig - gael ei gwmpasu gan y Corff Negodi.  Mae hyn yn cynnwys y rhai a gyflogir yn bennaf i ddarparu gofal cymdeithasol gan y GIG neu awdurdodau lleol, fel nyrsys, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol a chynorthwywyr gofal iechyd.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw rhoi seilwaith cenedlaethol mawr ei angen i'r sector darniog hwn, gan roi cyfle i safoni arferion gorau sy'n bodoli'n barod a ffurfioli'r llwybrau sydd ar waith i'r gweithlu sicrhau gwell cyflog, telerau ac amodau, a chyfleoedd gyrfa a datblygu.

Fodd bynnag, efallai na fyddai'n briodol i'r Corff Negodi gwmpasu rhai rhannau o'r gweithlu o ganlyniad i ffactorau unigryw.  Rydym yn ceisio barn ar b'un a ddylai gweithwyr gofal cymdeithasol a gyflogir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol neu'r GIG gael eu cwmpasu gan y Corff Negodi. Caiff y gweithwyr hyn eu cwmpasu eisoes fel arfer gan brosesau pennu cyflogau neu fframweithiau bargeinio cenedlaethol eraill, yn nodweddiadol:

  • y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol, lle caiff telerau ac amodau eu nodi yn y ‘Llyfr Gwyrdd’
  • contract Agenda ar gyfer Newid, lle mae Cyngor Staff yr Agenda ar gyfer Newid fel arfer yn negodi materion nad ydynt yn ymwneud â chyflog
  • Corff Adolygu Cyflogau'r GIG, sy'n darparu'r prif argymhellion o ran cynyddu cyflogau staff y GIG pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio'r materion hynny ato

Gall gweithwyr gael eu cwmpasu gan y Corff Negodi a phroses pennu cyflogau neu broses fargeinio arall (fel negodiadau gweithle unigol). O dan y fath senario, byddai gweithiwr yn cadw ei gontract fel y cytunwyd arno fel rhan o'i broses fargeinio gyfunol wreiddiol.  Pan gytunir ar gytundeb cyflog teg, mae Deddf 2025 yn nodi y bydd y gweithiwr perthnasol yn cael budd o'r cyflog neu'r telerau ac amodau mwyaf hael (naill ai yn ei gontract cyfredol neu'r hyn a bennir gan y Corff Negodi). Ni fyddai hyn yn effeithio ar gontractau'r gweithwyr hynny o fewn yr Agenda ar gyfer Newid a'r Cyd-gyngor Cenedlaethol na chânt eu cwmpasu gan y Corff Negodi.

Fodd bynnag, os bydd gweithwyr yn rhan o sawl proses sy'n pennu cyflog a thelerau ac amodau, gallai hynny gymhlethu'r prosesau y maent eisoes yn rhan ohonynt, gan gynnwys y Cyd-gyngor Cenedlaethol a'r Agenda ar gyfer Newid.  Gallai hyn gael effaith ar y GIG neu lywodraeth leol o safbwynt cost, cysylltiadau diwydiannol a recriwtio, a gallai'r gynyddu'r risg o ‘system ddwy haen’ ganfyddedig yn y GIG a llywodraeth leol (hynny yw, rhwng y rhai na chânt eu cwmpasu a'r rhai a gaiff eu cwmpasu gan y Corff Negodi).

Y bwriad yw y bydd gan y Corff Negodi amlen gyllido benodedig, ac felly efallai y byddai'n well canolbwyntio adnoddau ac ymdrechion, yn y tymor canolig o leiaf, ar welliannau i'r rheini na chânt eu cwmpasu gan broses arall.  Mae hwn hefyd yn benderfyniad y gall y Corff Negodi ei wneud.

Fel arall, gallai cynnwys pawb sy'n gweithio'n bennaf ym maes gofal cymdeithasol, p'un a gânt eu cwmpasu gan broses arall ai peidio, helpu i uno'r gweithlu a safoni hyfforddiant, safonau a'r gofal a ddarperir ledled y wlad.  Mewn achosion lle bydd y Corff Negodi yn cytuno ar delerau gwell ar gyfer mater penodol o gymharu â'r Agenda ar gyfer Newid a'r Cyd-gyngor Cenedlaethol, gallai hyn alluogi gweithwyr i gael budd o sawl proses a gallai gryfhau prosesau recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol.

Mae hwn yn fater cymhleth ac felly, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y gallai hyn weithio'n ymarferol gan ystyried yr effeithiau, y risgiau, a'r heriau a allai godi.  Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan gyflogwyr a gweithwyr sy'n gysylltiedig â'r prosesau hyn, neu'r rhai sydd wedi cael profiad o'u rhoi ar waith.

Gweithwyr asiantaeth

O dan Ddeddf 2025, caiff staff dros dro, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth a staff banc, eu cwmpasu gan y Corff Negodi.  Mae llawer o ddarparwyr yn defnyddio staff dros dro i roi hyblygrwydd wrth geisio ateb galw amrywiol am ofal, gan gynnwys dibyniaeth uchel weithiau ar nyrsys cofrestredig, gweithwyr cymorth ac allgymorth, gweithwyr gofal a gweithwyr cymdeithasol a gyflogir yn anuniongyrchol. Caiff staff dros dro eu defnyddio'n fynych mewn gofal cymdeithasol ac felly mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol i staff asiantaeth a staff banc gael eu cwmpasu gan y Corff Negodi.

Gweithwyr trawsffiniol

Mae Deddf 2025 yn rhoi'r pŵer i'r llywodraethau priodol greu cyrff negodi unigol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gan gydnabod bod gofal cymdeithasol yn cael ei gyllido a'i ddarparu ar wahân ym mhob gwlad.  Bydd hyn yn golygu y bydd modd negodi cytundebau cyflog teg ar wahân a chytuno arnynt ym mhob gwlad ac y gallant gael eu cadarnhau gan eu gweinidogion a'u Seneddau priodol. 

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, mae rhai gweithwyr gofal yn gweithio ar draws ffiniau, er enghraifft, gan roi gofal i bobl yng Nghymru a Lloegr.  Gallai'r gweithwyr hyn, felly, gael eu cwmpasu gan fwy nag un cytundeb cyflog teg. Rydym yn bwriadu egluro hyn mewn is-ddeddfwriaeth.

Mae Deddf 2025 yn nodi y byddai gweithiwr yn cael ei gwmpasu gan gytundeb cyflog teg unrhyw wlad am y nifer o oriau y mae'n eu gweithio yn y wlad honno. Mae Llywodraeth y DU yn rhoi enghraifft yma:

a social care worker provides care in England and Wales under a single employment contract for 38 hours a week in total, 20 hours in England and 18 hours in Wales. This would see that worker receive pay and terms and conditions as set out in any fair pay agreement in England for 20 hours and the same under any fair pay agreement in Wales for 18 hours.

Byddai'r cynnig hwn yn rhoi cyfrifoldeb ar gyflogwyr (a gweithwyr) i ystyried pa oriau a gaiff eu cwmpasu gan y broses cytundeb cyflog teg yng Nghymru neu Loegr, unwaith y bydd ar waith.  Mae hyn yn codi'r canlyniadau anfwriadol posibl i weithwyr gofal a darparwyr trawsffiniol pan gaiff cytundeb cyflog teg ei gadarnhau a'i roi ar waith. Gallai hyn gynnwys heriau fel:

  • staff yn dewis gweithio mewn gwlad arall i fanteisio ar gyflog neu delerau ac amodau gwell
  • gweithrediadau mwy cymhleth i ddarparwyr sy'n gweithio ar draws ffiniau

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gall y llywodraethau priodol nodi mewn is-ddeddfwriaeth pa weithwyr a gaiff eu cwmpasu gan eu cyrff negodi. Gallai gwneud newidiadau i gwmpas y cyrff roi eglurder i gyflogwyr a gweithwyr drwy sicrhau bod gweithiwr gofal cymdeithasol ond yn cael ei gwmpasu gan gytundeb cyflog teg mewn un wlad yn ôl y meini prawf, fel y wlad y maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio ynddi.

Llywio cylch gwaith y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol

Mae Deddf 2025 yn pennu cylch gwaith i'r Corff negodi materion sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • cydnabyddiaeth ariannol (cyflog) gweithwyr gofal cymdeithasol;
  • telerau ac amodau cyflogaeth gweithwyr gofal cymdeithasol; 
  • unrhyw fater arall sy'n gysylltiedig â chyflogaeth gweithiwr gofal cymdeithasol, y mae'n rhaid ei bennu mewn rheoliadau

Mae'r adran hon o'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar agweddau gwahanol ar gyflog a thelerau ac amodau, yn ogystal â pholisïau cyflogaeth eraill (fel hyfforddiant a datblygu, polisïau ar bobl a diwylliant, a buddiannau ychwanegol a chymhellion ariannol, er enghraifft) a allai fod yn rhan o gylch gwaith y Corff Negodi.

Bydd yr atebion i gwestiynau'r ymgynghoriad yn wybodaeth bwysig i Weinidogion Cymru, o ystyried y rôl y byddant yn ei chwarae wrth roi gwybodaeth i'r Corff Negodi ar ddechrau negodiadau.  Mae adran "Gweithredu" yn ystyried sut y caiff y meysydd hyn eu rhoi ar waith a'u hadlewyrchu yng nghontractau neu drefniadau gweithio gweithwyr.

Cyflog a thelerau ac amodau

Yn gyffredinol, cyflog yw cydnabyddiaeth ariannol a geir am waith a gyflawnir fel cyflogai neu weithiwr ar ffurf tâl.  Telerau ac amodau yw'r telerau a geir yng nghontract gweithiwr, yn ysgrifenedig fel arfer.  Mae rhywfaint o orgyffwrdd yma, yn enwedig gydag elfennau fel gwyliau, tâl salwch a phensiynau.  At ddibenion yr ymgynghoriad a'r cytundeb cyflog teg, rydym yn ystyried y rhain fel telerau ac amodau.  Nid ydym yn bwriadu cyfyngu'r meysydd o ran cyflog a thelerau ac amodau y gall y Corff negodi arnynt mewn rheoliadau.

Rydym yn ceisio barn ar ba agweddau ar gyflog y dylai'r Corff Negodi roi blaenoriaeth iddynt, fel isafswm cyflog i'r sector, graddfeydd cyflog neu daliadau un-tro, er enghraifft.  Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed pa delerau ac amodau y dylid eu hystyried fel blaenoriaeth.  Bydd hyn yn llywio'r llythyr cylch gwaith a lunnir gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi unrhyw feysydd blaenoriaeth yr hoffai'r llywodraeth iddynt gael eu hystyried ym mhob rownd o negodiadau.  Gellir cymharu'r atebion â ffynonellau eraill o wybodaeth fel arolwg blynyddol “Dweud eich Dweud” Gofal Cymdeithasol Cymru, yn ogystal ag unrhyw waith casglu tystiolaeth ychwanegol a arweinir gan y Corff Negodi i lywio negodiadau.

Mae Deddf 2025 yn sicrhau na fydd unrhyw beth y bydd y Corff Negodi yn cytuno arno, ac a fydd wedyn yn cael ei roi ar waith gan Weinidogion Cymru, yn lleihau cyflog gweithiwr, nac yn lleihau unrhyw rai o'i delerau ac amodau.   Mae hefyd yn gwella hawliau cyflogaeth pob gweithiwr, gan gynnwys cryfhau tâl salwch statudol a chyflwyno hawliau i oriau gwarantedig, sy'n arbennig o berthnasol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol.

Datrys anghydfod

Mae'r adran hon yn ystyried beth fydd yn digwydd os na fydd y Corff Negodi yn llwyddo i ddod i gytundeb ac yn ceisio barn ar sut y dylid datrys anghydfodau, i helpu'r Corff Negodi i ddod i gytundeb yn llwyddiannus.

Cefndir

Nod Llywodraeth Cymru yw helpu'r Corff Negodi i sefydlu diwylliant a ffordd o weithio gadarnhaol sy'n arwain at gytundeb a gefnogir gan bob parti.  Fodd bynnag, yn ystod y negodiadau, gallai buddiannau a blaenoriaethau croes rhwng cynrychiolwyr sy'n rhan o'r Corff Negodi arwain at sefyllfaoedd lle na ellir parhau â negodiadau.  Gelwir hyn yn anghydfod.  Mae Deddf 2025 yn rhoi'r gallu i Lywodraeth Cymru sefydlu proses datrys anghydfod ar gyfer negodiadau'r cytundeb cyflog teg.

Mae gan brosesau bargeinio cyfunol eraill broses datrys anghydfod fel arfer, rhag ofn y bydd ei hangen, ond ni chaiff y rhain eu defnyddio bob amser.  Bydd cael proses glir i helpu'r Corff Negodi i weithio drwy wrthdaro yn lleihau'r angen i Weinidogion Cymru ymyrryd.  Ceir rhagor o fanylion am pryd y gallai fod angen i Weinidogion Cymru ymyrryd os bydd y Corff Negodi yn methu â dod i gytundeb yn adran "Gweithredu".

Rydym wedi datblygu cynnig drwy gydweithio â'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, darparwyr, llywodraeth leol ac eraill. Rydym yn ceisio barn ar hyn fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys:

  • beth ddylai gael ei gyfrif yn anghydfod
  • sut y dylai'r broses datrys anghydfod gael ei sbarduno
  • pwy ddylai gael eu cynnwys yn y broses hon

Beth yw ‘anghydfod’

Anghydfod yw pan na fydd Corff Negodi Gofal Cymdeithasol Oedolion yn gallu dod i gonsensws ar becyn o fesurau a bod y broses negodi yn methu â mynd ymhellach.  Dim ond rhwng ochrau cyferbyniol y Corff Negodi y bydd anghydfod.

Dylai unrhyw bwyntiau cynhennus o fewn y grŵp sy'n cynrychioli'r gweithwyr neu'r grŵp sy'n cynrychioli'r cyflogwyr gael eu datrys heb gynnwys y Corff Negodi ehangach. 

Mae anghydfodau yn wahanol i bwyntiau cynhennus, sy'n rhan arferol o broses negodi.

Sbarduno anghydfod

Rydym yn cynnig y dylai'r cadeirydd geisio datrys pwyntiau cynhennus yn gyntaf, fel rhan arferol o'i ddyletswyddau. Credwn mai'r cadeirydd sydd hefyd yn y sefyllfa orau i nodi ble na all negodiadau barhau ac y dylai'r cadeirydd ddatgan anghydfod unwaith y bydd yn teimlo na all wneud mwy i ddod o hyd i ddatrysiad.

Bydd yn bwysig bod aelodau'r Corff Negodi yn cytuno bod angen rhoi'r broses datrys anghydfod ar waith ar gyfer negodiadau, er mwyn sicrhau eu cyfranogiad. Rydym yn cynnig y dylai'r cadeirydd ddyfarnu a oes consensws ac os bydd unrhyw amheuaeth, gallai alw am bleidlais i sbarduno'r broses. Os caiff y bleidlais hon ei galw, rydym yn awgrymu bod yn rhaid cael mwyafrif (50% yn ogystal ag un aelod) o ochrau cyflogwyr a gweithwyr y Corff Negodi i sicrhau bod y mwyafrif yn cytuno y dylid dechrau ar y broses datrys anghydfod.

Datrys anghydfod

Ar ôl i anghydfod gael ei sbarduno, rydym yn cynnig bod trydydd parti annibynnol yn cael ei gynnwys i weithio gyda'r Corff Negodi i'w helpu i ddod i gytundeb.  Byddai hyn yn sicrhau bod y broses yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn galluogi'r Corff Negodi i ddefnyddio arbenigwyr priodol â phrofiad perthnasol. Mae defnyddio trydydd parti annibynnol yn arfer orau i ddatrys anghydfod, fel y gwelir mewn prosesau bargeinio cyfunol eraill.

Cynnig Llywodraeth Cymru, a drafodwyd â'r gweithgor cytundebau cyflog teg, yw mai'r Gwasanaeth Cymodi, Cynghori a Chyflafareddu (ACAS) ddylai weithredu fel y corff dynodedig i ddatrys unrhyw anghydfodau sy'n deillio o'r Corff Negodi.  Byddai rôl ACAS yn cael ei dynodi mewn is-ddeddfwriaeth, a byddai hyn yn galluogi ACAS i arwain gyda hyder a rhoi eglurder ynglŷn â'r broses datrys anghydfod.

Gall ACAS gynorthwyo yn y ffordd sydd fwyaf priodol i'r anghydfod dan sylw.  Mae sawl dull ar gael, gan gynnwys:

  • cymodi: mae'n debygol mai cymodi fyddai cam cyntaf y broses datrys anghydfod, er mwyn ceisio dod o hyd i ddatrysiad sy'n dderbyniol i bawb.  Byddai'r cam hwn yn cael ei gyflawni gan gymodwyr cyfunol ACAS ei hun

Byddai'r cymodwr yn arbenigwr trydydd parti diduedd ac annibynnol sy'n gweithio gyda'r partïon sy'n rhan o'r anghydfod i'w helpu i ddod o hyd i dir cyffredin ar gyfer datrysiad.  Byddai'r gwaith yn cael ei wneud drwy gyfrwng cyfres o gyfarfodydd a byddai'n cynnwys cyfuniad o sgyrsiau grŵp neu sgyrsiau un i un rhwng y cymodwr a'r partïon.

  • cyfryngu: mae cyfryngu cyfunol yn digwydd ar ôl i'r cymodwr cyfunol weithio gyda'r partïon a'u bod, gyda'i gilydd, wedi nodi mai dyma'r ffordd orau o weithredu. 

Ni fyddai'r trydydd parti cyfryngu yn gwneud penderfyniad; yn lle hynny, byddai'n gweithio gyda'r partïon i ddatblygu argymhellion clir ar eu cyfer fel y gallant ddatrys eu anghydfod. Byddai arbenigwr annibynnol a diduedd o gofrestr ACAS o gymrodeddwyr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn. 

Rydym yn cynnig y dylai'r cadeirydd, y Corff Negodi ac ACAS weithio gyda'i gilydd i benderfynu pa ddulliau sy'n briodol yn seiliedig ar natur yr anghydfod. Drwy beidio â diffinio'r dulliau datrys anghydfod ymlaen llaw, nac mewn is-ddeddfwriaeth, byddai hyn yn rhoi hyblygrwydd a mwy o reolaeth i'r partïon dan sylw.

Gweithredu

Mae'r adran hon yn nodi beth fydd yn digwydd ar ôl i'r Corff Negodi ddod i gytundeb.  Mae hefyd yn egluro beth fydd yn digwydd os na ellir dod i gytundeb.  Caiff y prosesau hyn eu diffinio eisoes yn fframwaith Deddf 2025.

Mae'r adran hon hefyd yn ystyried paratoadau i roi cytundeb cyflog teg ar waith ac yn ceisio barn ar beth y gallwn ei wneud i helpu'r sector i ymbaratoi. 

Beth fydd yn digwydd pan fydd y Corff Negodi wedi dod i gytundeb

Ar ôl i'r Corff Negodi ddod i gytundeb, caiff camau eu cymryd i roi effaith gyfreithiol i'r cytundeb a'i wneud yn rhan o gontractau gweithwyr. Y camau yw:

  • adolygu: bydd Gweinidogion Cymru, ynghyd â rhannau eraill o'r llywodraeth, yn adolygu'r cytundeb cyflog teg arfaethedig i sicrhau ei fod yn fforddiadwy ac yn ymarferol
  • ailystyried (os bydd angen): ar ôl y cam adolygu, gall Gweinidogion Cymru naill ai dderbyn y cytundeb neu ofyn i'r Corff Negodi ei ailystyried a gwneud newidiadau
  • cadarnhau: mae'r Ddeddf yn darparu y caiff cytundeb ei gadarnhau drwy wneud rheoliadau. Noder hefyd fod yn rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gytuno ar unrhyw reoliadau

Caiff y camau hyn eu hesbonio'n fanylach yn nes ymlaen yn yr adran hon.

Gwyddom fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y sector, yn enwedig cyflogwyr, gweithwyr a chomisiynwyr, yn ymwybodol o'r newidiadau ac yn barod i'w rhoi ar waith. Mae'r adran hon yn ceisio barn ar y canllawiau a'r gwaith cyfathrebu a allai gefnogi hyn.

Adolygu

Ar ôl i'r Corff Negodi ddod i gytundeb, bydd angen iddo gyflwyno'r cytundeb hwn i Weinidogion Cymru. Yna, bydd Gweinidogion Cymru yn ei adolygu ac yn penderfynu a yw'n fforddiadwy ac yn ymarferol cyn ei dderbyn.  Gallai'r adolygiad hwn gynnwys dadansoddiad i wirio costau'n annibynnol.

Gallai swyddogion a Gweinidogion Cymru hefyd ofyn am farn gan adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sydd â buddiant uniongyrchol yn y cytundeb cyflog teg, gan gynnwys:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Phlant a Phobl Ifanc (Llywodraeth Cymru)
  • Polisi Cyllid a Chynaliadwyedd Llywodraeth Leol (Llywodraeth Cymru)
  • Trysorlys Cymru (Llywodraeth Cymru)
  • Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth y DU)
  • Trysorlys EF (Llywodraeth y DU)
  • Yr Adran Fusnes a Masnach (Llywodraeth y DU)

Ailystyried

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai cynrychiolwyr sydd yn y sefyllfa orau i negodi cytundeb cyflog teg ar gyfer y sector, ond mae'n bwysig bod y llywodraeth yn sicrhau bod modd rhoi'r canlyniad a negodwyd ar waith yn llwyddiannus.

Felly, ar ôl y cam adolygu, gall Gweinidogion Cymru naill ai dderbyn y cytundeb neu, o dan amgylchiadau prin, gall ofyn i'r Corff Negodi ailystyried a chyflwyno cytundeb diwygiedig. Dyma rai enghreifftiau pam y gallai Gweinidogion Cymru ofyn i'r Corff Negodi ailystyried y cytundeb:

  • fforddiadwyedd: rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cytundeb cyflog teg yn fforddiadwy ac, felly, gallai ofyn i'r Corff Negodi ailystyried os bydd yn cynnig cytundeb y tybir ei fod yn anfforddiadwy;
  • elfen o lythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru ar goll: os gosododd Gweinidogion Cymru rywbeth yn y llythyr cylch gwaith sydd heb gael ei ystyried mewn negodiadau, gall Llywodraeth Cymru ofyn am i'r cytundeb gael ei ailystyried;
  • rôl llywodraeth leol: gan ein bod yn cynnig bod yn rhaid i'r Corff Negodi roi sylw i farn cynrychiolwyr llywodraeth leol drwy gydol negodiadau, gall Gweinidogion Cymru gyfeirio'r cytundeb yn ôl os na fydd hynny wedi digwydd; 
  • dichonoldeb: rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall y cytundeb cyflog teg gael ei roi ar waith yn ymarferol, ond gallai fod newidiadau ehangach sy'n dylanwadu ar y sector gofal cymdeithasol, er enghraifft, cyfraith cyflogaeth. Gallai hyn olygu y caiff cytundeb ei anfon yn ôl i'r Corff Negodi i'w ailystyried.

Cadarnhau

Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cadarnhau'r cytundeb yn ei gyfanrwydd neu i'r graddau a nodir yn y rheoliadau (rhaid cael cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol i lunio rheoliadau o'r fath).

Cadarnhau yw'r broses gyfreithiol sy'n ymgorffori'r cytundeb cyflog teg yng nghontractau gweithwyr, os bydd yn ymwneud â chyflog a thelerau ac amodau. Caiff unrhyw delerau neu amodau yng nghontractau gweithwyr sy'n groes i'r cytundeb eu disodli'n awtomatig. Mae hyn yn golygu, o'r dyddiad y daw'r rheoliadau i rym, neu ddyddiad arall a nodir yn y rheoliadau hynny, y daw'r cytundeb cyflog teg yn orfodadwy yn awtomatig o fewn contractau gweithwyr.

Yr unig eithriad yw nad yw cadarnhau yn rhoi effaith i unrhyw newidiadau y mae cytundeb yn ei wneud i delerau neu amodau presennol (gan gynnwys cyflog) mewn contract os byddai'r newidiadau hynny'n anfanteisiol i weithiwr. Mae hyn yn golygu os byddai rhan o'r cytundeb cyflog teg yn llai ffafriol na chyflog a thelerau ac amodau presennol gweithiwr gofal, er enghraiff, rhoi llai o ddiwrnodau o wyliau blynyddol, yna ni fyddai'r rhan honno yn gymwys i'w gontract. Mae rhwydd hynt i gyflogwyr gynnig telerau mwy ffafriol o hyd. 

Er enghraifft:

Gweithiwr yn cadw ei gontract presennol. Ar ôl i gytundeb cyflog teg gael ei gadarnhau:

  • os bydd y cytundeb a gadarnhawyd yn ymwneud â chyflog gweithiwr gofal cymdeithasol, dyma fydd cyflog y gweithiwr gofal cymdeithasol oni fydd yn llai na'i gyflog presennol ac, os felly, bydd y gweithiwr gofal cymdeithasol yn cadw ei gyflog presennol; neu
  • os bydd y cytundeb a gadarnhawyd yn ymwneud ag un o delerau neu amodau eraill cyflogaeth gweithiwr gofal cymdeithasol, dyma fydd telerau ac amodau ei gyflogaeth oni fydd hynny'n newid teler neu amod presennol mewn ffordd sy'n anfanteisiol i'r gweithiwr gofal cymdeithasol; neu
  • os na fydd y cytundeb a gadarnhawyd yn crybwyll un o'r telerau neu amodau penodol (gan gynnwys cyflog) cyflogaeth gweithiwr gofal cymdeithasol, bydd y gweithiwr gofal cymdeithasol yn cadw ei deler neu amod presennol.

Bydd y newidiadau hyn yn digwydd yn awtomatig o ganlyniad i gadarnhau'r cytundeb. Efallai y bydd angen i gyflogwyr gymryd camau mewn ymateb i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r cyflog a'r telerau ac amodau newydd, gan gynnwys talu eu gweithwyr yn unol â'r cytundeb a gadarnhawyd.

Bydd adran "Cydymffurfio a gorfodi" yn trafod y broses ar gyfer sicrhau bod cyflogwyr yn cydymffurfio â'r cytundeb a gadarnhawyd a bod gan weithwyr lwybrau i'w dilyn i gwyno os na fydd hynny'n digwydd.

Mae'r broses gadarnhau yn digwydd yn y Senedd yn bennaf, ac mae'n dechrau gyda chyhoeddiad bod y cytundeb cyflog teg wedi cael ei dderbyn. Gallai hyn ddigwydd drwy ddatganiad gweinidogol ysgrifenedig, sef datganiad ysgrifenedig a wneir yn y Senedd sy'n rhoi'r ffaith bod y gweinidogion yn derbyn y cytundeb ar y cofnod cyhoeddus.  Yn ogystal, dyma ddechrau'r cyfnod cyfathrebu a gweithredu (gweler ‘Cyfathrebu, canllawiau a chodau ymarfer’ yn ddiweddarach yn yr adran hon).

Caiff rheoliadau eu gwneud drwy weithdrefn annilysu'r Senedd a bydd angen cael cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol i gadarnhau'r cytundeb, sy'n golygu mai dim ond o dan amgylchiadau prin y caiff  y cytundeb ei drafod yn ystod Cyfarfod Llawn yn y Senedd neu gan bwyllgor.

O dan amgylchiadau prin, caiff y llywodraeth ôl-ddyddio'r cytundeb. Dim ond am gyfnod cyfyngedig o amser y dylid gwneud hyn, er enghraifft, i roi cyfrif am oedi yn y broses Seneddol, a rhoddir gwybod am hyn ymlaen llaw.  Efallai y bydd rhannau o'r cytundeb cyflog teg yn anaddas i'w cynnwys mewn contractau cyflogaeth, er enghraifft, y materion cyflogaeth ehangach a gynigir. Lle bo hynny'n digwydd, gellir cyhoeddi canllawiau neu godau ymarfer statudol yn lle hynny i roi effaith i'r rhannau hynny o'r cytundeb. Trafodir hyn yn fanylach yn ddiweddarach yn yr adran hon.

Adrodd

Ar ôl i Weinidogion Cymru dderbyn cytundeb, bydd yn bwysig sicrhau bod y sector yn glir ynghylch telerau'r cytundeb newydd ac yn deall sut y penderfynwyd ar hyn.

Mae Deddf 2025 yn rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru ofyn i'r Corff Negodi gyhoeddi adroddiadau.  Rydym yn cynnig y dylai'r Corff Negodi, gyda chymorth yr Ysgrifenyddiaeth a Llywodraeth Cymru, lunio adroddiad ar ôl i bob cytundeb cyflog teg gael ei gadarnhau. Byddai'r adroddiad hwn yn nodi telerau'r cytundeb cyflog teg newydd ac yn crynhoi'r dystiolaeth a gafodd ei hystyried gan y Corff Negodi. Byddai'r adroddiad hwn ar gael i'r cyhoedd ar Lllyw.Cymru.

Methiant i ddod i gytundeb ar ôl y broses datrys anghydfod

Mae'n bosibl y gallai'r Corff Negodi fethu â dod i gytundeb hyd yn oed ar ôl rhoi'r broses datrys anghydfod ar waith. Os bydd hynny'n digwydd, mae'n bwysig cael system i wella cyflog a thelerau ac amodau i weithwyr.

Mae Deddf 2025 yn creu ffordd o wneud hyn, drwy roi'r gallu i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad ar gyflog a thelerau ac amodau i greu cytundeb cyflog teg.  Caiff y penderfyniad hwn ei wneud gan rywun sydd â'r awdurdod cyfreithiol i wneud hynny, sef Gweinidogion Cymru.

Dim ond penderfyniad sy'n ymwneud â'r materion a gafodd eu cyfeirio'n wreiddiol at y Corff Negodi yn y llythyr cylch gwaith y gall Gweinidogion Cymru ei wneud.  Os caiff penderfyniad ei wneud, byddai'n cael ei gadarnhau drwy weithdrefnau cymeradwyo'r Senedd.  Mae hyn yn golygu y byddai angen gwneud mwy o waith craffu i gadarnhau penderfyniad o gymharu â chadarnhau cytundeb a luniwyd gan y Corff Negodi a byddai angen i'r Senedd ei drafod a'i gymeradwyo.

Cyfathrebu, canllawiau a chodau ymarfer

Trosolwg

Mae'n hanfodol ein bod yn rhannu'r newidiadau a gyflwynir gan y cytundeb cyflog teg yn eang, fel bod gweithwyr, cyflogwyr, comisiynwyr awdurdodau lleol a'r sector yn gyffredinol yn barod ar gyfer y newidiadau hyn ac yn golygu beth y byddant yn ei olygu iddynt hwy. Fel yr amlinellir uchod, efallai na fydd modd cynnwys rhai o delerau cytundeb cyflog teg, er enghraifft, pethau fel polisi disgyblu a chwyno newydd ar gyfer y gweithle, yng nghontractau gweithwyr. Os felly, gellid cyhoeddi canllawiau neu god ymarfer.

Gellid gwneud rheoliadau yn gosod dyletswyddau ar sefydliadau ac unigolion mewn perthynas â chanllawiau a chodau ymarfer. Gallai'r rheoliadau hefyd nodi'r goblygiadau os na chydymffurfir â'r dyletswyddau hyn, a allai gynnwys galluogi llys neu dribiwnlys i ystyried y diffyg cydymffurfiaeth wrth benderfynu ar hawliadau perthnasol ac, yn unol â hynny, gynyddu swm unrhyw iawndal y bydd yn ei ddyfarnu i barti arall.

Cyfathrebu a chanllawiau i baratoi'r sector

Yn ogystal â chanllawiau statudol, sy'n ymwneud yn benodol ag elfennau o'r cytundeb cyflog teg fel y disgrifir uchod, mae'n bosibl y byddwn am ystyried ystod eang o ddeunydd cyfathrebu a chanllawiau i gefnogi'r sector yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod pawb yn barod i roi cytundeb ar waith. Mae'n bwysig bod y darnau hyn o ganllawiau yn cael eu datblygu gyda'r rhai y bydd y cytundeb yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gweithwyr gofal cymdeithasol: fel eu bod yn deall yr hawliau newydd y byddant yn eu cael o ganlyniad i'r cytundeb cyflog teg ac fel y gallant sicrhau bod eu cyflogwr yn cydymffurfio. Mae adran ‘6.Cydymffurfio a gorfodi’ yn trafod hyn yn fanylach.
  • Cyflogwyr a rheolwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol: fel y gallant roi'r cytundeb cyflog teg ar waith yn eu gwasanaethau (er enghraifft, eu helpu i asesu a fyddai unrhyw newidiadau i delerau neu amodau a wneir gan gytundeb a gadarnhawyd yn anfanteisiol i weithiwr, ac a ddylid diweddaru contractau).  Gwyddom y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar unigolion sy'n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol yn uniongyrchol i roi cytundeb cyflog teg ar waith.  Byddwn yn gweithio gyda'r sector i sicrhau bod y deunydd cyfathrebu a'r canllawiau ar gael i helpu unigolion i roi cytundeb ar waith.
  • Comisiynwyr gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol: i roi gwybodaeth am sut y gall prosesau comisiynu gofal cymdeithasol helpu i roi'r cytundeb cyflog teg ar waith.

Gwyddom ei bod yn bwysig bod unrhyw ganllawiau a deunydd cyfathrebu a lunnir yn hygyrch i'r sector, yn hawdd eu deall ac nad ydynt yn dyblygu nac yn gwrth-ddweud unrhyw adnoddau sydd ar gael yn barod.  Mae'n hanfodol hefyd fod canllawiau yn cael eu rhannu â'r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Rydym yn bwriadu gweithio gyda'r sector i gyflawni hyn.  Bydd hyn yn cynnwys aelodau o'n Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, sy'n cynnwys undebau llafur, cynrychiolwyr cyflogwyr a llywodraeth leol, yn ogystal â sefydliadau eraill fel y bo'n briodol yn y sector gofal cymdeithasol.

Rydym yn cynnig y dylai'r darnau hyn o ganllawiau gael eu llunio a'u cyhoeddi ar y cyd gan y Corff Negodi a Llywodraeth Cymru, gyda mewnbwn gan rannau eraill o'r llywodraeth lle bo hynny'n briodol. Byddwn yn ystyried ffyrdd o gefnogi mynediad hawdd gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, tudalen we ganolog a gaiff ei lletya gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob canllaw sy'n ymwneud â'r cytundeb cyflog teg.

Cydymffurfio a gorfodi

Bydd cyflogwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â thelerau cytundeb cyflog teg.  O'r adeg y daw rheoliadau sy'n cadarnhau cytundeb i rym, bydd y cytundeb cyflog teg yn orfodadwy yng nghontractau gweithwyr.  Caiff canllawiau a chodau ymarfer eu cyhoeddi hefyd a fydd yn amlinellu dyletswyddau mewn perthynas â chytundebau cyflog teg.  Darparwyr fydd yn gyfrifol yn y pen draw am sicrhau eu bod yn cadw at delerau cytundeb cyflog teg a gadarnhawyd.

Fel y nodir yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth, mae gan gomisiynwyr awdurdodau lleol gyfrifoldeb cyfochrog i ystyried y cyflog a'r telerau ac amodau a gynigir i staff a gyflogir gan ddarparwyr gofal y maent yn comisiynu gwasanaethau ganddynt, drwy eu negodiadau ynghylch cyfraddau ffioedd a chontractau darparwyr. 

Sut y bydd y llywodraeth yn helpu darparwyr a chomisiynwyr i gydymffurfio â chytundeb cyflog teg

Fel y soniwyd yn adran "Gweithredu", mae Deddf 2025 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau am gyhoeddi canllawiau a chodau ymarfer statudol.  Gallai rheoliadau osod dyletswyddau ar sefydliadau sy'n ymwneud â'r canllawiau a'r codau ymarfer.  Gallai rheoliadau ddarparu, os na chaiff y dyletswyddau statudol hyn eu cyflawni, y gallai hynny gael ei ystyried gan dribiwnlys cyflogaeth wrth benderfynu ar ddyfarniad ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod canllawiau neu godau ymarfer statudol yn angenrheidiol er mwyn helpu grwpiau i gydymffurfio â'r cytundeb cyflog teg. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r rhain i gefnogi cydymffurfiaeth â chytundebau cyflog teg yn y ffyrdd canlynol:

  • defnyddio canllawiau i egluro beth mae telerau'r cytundeb cyflog teg yn ei olygu, sut mae'r cytundeb cyflog teg yn effeithio ar weithwyr a chyflogwyr, a'r camau y mae angen iddynt eu cymryd.  Er enghraifft, nodi sut y dylai cyflogwr asesu a yw telerau ac amodau cytundebol presennol gweithiwr yn well neu'n waeth na'r rhai a geir mewn cytundeb cyflog teg a gadarnhawyd, a sut y dylai ddiweddaru contract ei weithiwr; neu
  • ddefnyddio codau ymarfer i amlinellu'r hyn y mae'r llywodraeth yn disgwyl i gyflogwyr ei wneud.  Mae dulliau eraill ar gael i Lywodraeth Cymru hefyd, gan gynnwys pwerau mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth heblaw am Ddeddf 2025.

Gorfodi

Gwyddom ei bod yn hanfodol sicrhau bod gweithwyr sydd o fewn cwmpas cytundeb cyflog teg yn cael y cyflog a'r telerau ac amodau y mae hawl ganddynt eu cael o dan gytundeb cyflog teg, ac y gall fod achosion lle na fydd gweithwyr yn cael yr hawliau hynny.  Fel y cyfryw, mae'n bwysig bod cyfundrefnau gorfodi priodol ar waith i ymchwilio i unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth ac fel bod gan weithwyr lwybrau i'w dilyn i wneud cwyn os byddant yn teimlo nad ydynt yn cael eu hawliau.

Ar hyn o bryd, y gweithiwr unigol sy'n gyfrifol am orfodi ei hawliau cyflogaeth cytundebol drwy wneud cwyn yn erbyn ei gyflogwr am dorri contract cyflogaeth neu ddidynnu cyflogau yn anghyfreithlon.  Mae hyn yn gymwys i bob sector yn yr economi, gan gynnwys gofal cymdeithasol.  Mae gan undebau llafur rôl bwysig i'w chwarae hefyd wrth helpu i ddatrys anghydfodau a chwynion yn y gweithle, yn ogystal ag eirioli dros hawliau gweithwyr.

Y cam cyntaf i weithiwr fel arfer yw ceisio datrys anghydfod cytundebol yn anffurfiol yn y gweithle neu drwy roi cychwyn ar broses gwyno ffurfiol y cyflogwr. Yn ogystal, gall gweithwyr ofyn am gymorth gan gyrff fel ACAS sy'n rhoi cyngor cyfrinachol, diduedd ac am ddim i weithwyr a chyflogwyr ar hawliau, rheolau ac arferion gorau yn y gweithle, yn ogystal â gwasanaethau cymodi cynnar. Os na chaiff yr anghydfod ei ddatrys, gall gweithiwr wneud hawliad gyda thribiwnlys cyflogaeth neu ddechrau camau llys sifil.

Yr Asiantaeth Gwaith Teg, a gaiff ei sefydlu o dan Ddeddf 2025, a fydd yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'r farchnad lafur, gan gynnwys elfennau cyflog cytundeb cyflog teg a gadarnhawyd.

Bydd yr Asiantaeth yn dwyn ynghyd swyddogaethau gorfodi presennol y wladwriaeth (gan gynnwys swyddogaethau gorfodi'r isafswm cyflog cenedlaethol sy'n eiddo i Gyllid a Thollau EF (CThEF), yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA) a'r Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogi (EAS)) a, dros amser, bydd yn gorfodi ystod ehangach o hawliau cyflogaeth fel Tâl Gwyliau a Thâl Salwch Statudol.  Bydd yr Asiantaeth yn rhoi cymorth gwell i fusnesau o ran sut i gydymffurfio â'r gyfraith a bydd yn cymryd camau gweithredu llym yn erbyn cyflogwyr amheus sy'n camfanteisio ar eu gweithwyr.

Ar hyn o bryd, mae CThEF yn gorfodi'r cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog cenedlaethol ar ran Adran Fusnes a Masnach Llywodraeth y DU. Os canfyddir nad yw cyflogwyr yn cydymffurfio â'r cyflog byw cenedlaethol neu'r isafswm cyflog cenedlaethol, gall CThEF adennill cyflogau sydd heb eu talu a chyflwyno dirwyon. Gall CThEF gyfeirio achosion at yr Adran Fusnes a Masnach i'w hystyried yn ei chynllun enwi, sy'n enwi busnesau nad ydynt yn cydymffurfio yn gyhoeddus.

Gall yr Asiantaeth Gwaith Teg orfodi cydnabyddiaeth ariannol o dan gytundeb cyflog teg gan ddefnyddio'r gyfundrefn Hysbysiad o Dandaliad, sy'n debyg i'r ffordd y caiff y cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog cenedlaethol eu gorfodi ar hyn o bryd.  Mae'r broses ar gyfer y gyfundrefn Hysbysiad o Dandaliad fel a ganlyn:

  • os na fydd cyflogwr wedi talu'r swm cywir i unrhyw weithwyr o dan ddarpariaeth gyflog statudol, caiff swyddog o'r Asiantaeth Gwaith Teg gyflwyno Hysbysiad o Dandaliad, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyflogwr dalu'r arian sy'n ddyledus i'r gweithwyr.  Rhaid i'r Hysbysiad o Dandaliad hefyd ei gwneud yn ofynnol i'r cyflogwr dalu cosb ariannol o 200% o swm yr ôl-ddyledion, gydag isafswm cosb ariannol o £100 ac uchafswm cosb ariannol o £20,000 fesul gweithiwr
  • os bydd cyflogwr, o fewn 14 ddiwrnod i gael yr Hysbysiad o Dandaliad, yn talu o leiaf 50% o'r gosb ariannol ac yn talu'r swm sy'n ddyledus i'r gweithiwr, ystyrir bod y gosb ariannol wedi cael ei thalu'n llawn
  • caiff y cyflogwr apelio yn erbyn yr Hysbysiad o Dandaliad o fewn 28 diwrnod i'w gael
  • os na fydd cyflogwr yn cydymffurfio â'r Hysbysiad o Dandaliad, gall yr Asiantaeth Gwaith Teg ddechrau camau sifil i adennill symiau o arian

Bydd yr Asiantaeth Gwaith Teg yn defnyddio cofnodion y mae cyflogwyr yn eu cadw ar hyn o bryd o dan Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 i gefnogi ei gwaith gorfodi.  Mae Deddf 2025 hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gadw cofnodion penodol a gallai'r pŵer hwn gael ei ddefnyddio er mwyn helpu i orfodi cytundebau cyflog teg.

Bydd llwybrau gorfodi unigol, fel ACAS a thribiwnlysoedd cyflogaeth, ar gael o hyd i weithwyr mewn perthynas ag achosion o dorri telerau ac amodau sy'n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol a diffyg cydnabyddiaeth ariannol a gaiff eu cynnwys yng nghontractau gweithwyr drwy gytundeb cyflog teg.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiyn 1

Ym mha gapasiti rydych chi'n ymateb i'r arolwg hwn?

Cwestiyn 2

Beth yw eich oed? (Dewisol)

Cwestiyn 3

A yw'r rhywedd rydych chi'n uniaethu ag ef yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd adeg eich geni? (Dewisol)

Cwestiyn 4

A yw'r rhywedd rydych chi'n uniaethu ag ef yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd adeg eich geni? (Dewisol)

Cwestiyn 5

Beth yw eich grŵp ethnig? (Dewisol)

Cwestiyn 6

A ydych chi (neu unrhyw un yn eich teulu agos) yn cael cymorth ar gyfer angen gofal hirdymor ar hyn o bryd?

Cwestiyn 7

Ac eithrio unrhyw beth rydych yn ei wneud fel rhan o'ch gwaith cyflogedig, a ydych yn gofalu am, neu'n rhoi unrhyw gymorth neu gefnogaeth i unrhyw un am fod ganddynt salwch neu gyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblemau sy'n gysylltiedig â henaint? 

Cwestiyn 8

Ble rydych yn byw yn y DU? (Dewisol)

Cwestiyn 9

Ym mha gapasiti rydych chi'n rhoi eich barn broffesiynol?

Cwestiyn 10

Os gwnaethoch ateb eich bod yn gweithio yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a ydych yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd?

Cwestiyn 11

Pa un o'r rolau gofal cymdeithasol canlynol sy'n disgrifio eich rôl bresennol orau?

Cwestiyn 12

Pwy yw eich cyflogwr gofal cymdeithasol?

Cwestiyn 13

Ym mha un o'r gwasanaethau canlynol rydych yn gweithio ar hyn o bryd?

Cwestiyn 14

Faint o oriau'r wythnos rydych o dan gontract i'w gweithio ym maes gofal cymdeithasol? (Dewisol)

Cwestiyn 15

Ar gyfer pwy rydych yn darparu gwasanaethau gofal?

Cwestiyn 16

A oes gennych unrhyw fath o fisa neu ganiatâd mewnfudo i fyw, astudio neu weithio yn y DU ar hyn o bryd?

Cwestiyn 17

A oes gennych unrhyw fath o fisa neu ganiatâd mewnfudo i fyw, astudio neu weithio yn y DU ar hyn o bryd?

Cwestiyn 18

Ar ran pa fath o sefydliad rydych yn ymateb?

Cwestiyn 19

Beth yw enw eich sefydliad?

Cwestiyn 20

Ble mae eich sefydliad yn gweithredu neu'n darparu gwasanaethau?

Cwestiyn 21

Faint o bobl rydych yn eu cyflogi ar hyn o bryd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol?

Cwestiyn 22

Pa fathau o wasanaethau gofal cymdeithasol rydych yn eu darparu?

Cwestiyn 23

Ar gyfer pwy mae eich sefydliad yn darparu gwasanaethau gofal?

Cwestiyn 24

Pa opsiwn rydych yn ei gefnogi?

Cwestiyn 25

Pa gynnig rydych yn ei gefnogi i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cynrychioli'n briodol?

Cwestiyn 26

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig hwn?

Cwestiyn 27

Pa un o'r ddau opsiwn a gynigiwyd ar gyfer cynnwys llywodraeth leol a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn y broses Cytundebau Cyflog Teg rydych yn ei gefnogi?

Cwestiyn 28

A ydych yn cytuno y dylai fod gan Lywodraeth Cymru rôl gynghori (heb hawliau pleidleisio) fel rhan o'r Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru?

Cwestiyn 29

Yn eich barn chi, a oes unrhyw sefydliadau eraill a ddylai fod yn aelodau o'r Corff Negodi, yn ychwanegol at y cynrychiolwyr gweithwyr a chyflogwyr a gynigiwyd?

Cwestiyn 30

Sut y dylai buddiannau pobl sy'n talu am eu gofal eu hunain gael eu hystyried fel rhan o'r broses negodi? (Dewisol)

Cwestiyn 31

Sut y dylai buddiannau comisiynwyr y GIG gael eu hystyried fel rhan o'r broses negodi? (Dewisol)

Cwestiyn 32

Yn eich barn chi, a oes unrhyw feini prawf penodol y dylai Gweinidogion Cymru eu hystyried wrth benodi aelodau i'r Corff Negodi?

Cwestiyn 33

A ydych yn cytuno â'r cynnig y dylai Llywodraeth Cymru gyflawni swyddogaeth ysgrifenyddiaeth y Corff Negodi?

Cwestiyn 34

A oes unrhyw ffactorau y dylem eu hystyried wrth benderfynu sut y caiff unrhyw gyllid sydd ar gael ei ddosbarthu i gefnogi'r negodiadau a rhoi'r Cytundeb Cyflog Teg ar waith?

Cwestiyn 35

A oes unrhyw beth arall y dylid ei nodi mewn llythyr cylch gwaith gan Lywodraeth Cymru?

Cwestiyn 36

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig ynghylch sut y bydd negodiadau'n dechrau?

Cwestiyn 37

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'n cynnig y dylai'r naill ochr fargeinio a'r llall reoli ei system bleidleisio ei hun, a'i gwneud yn ofynnol i bob ochr hysbysu'r cadeirydd a all gefnogi setliad arfaethedig ai peidio?

Cwestiyn 38

Yn eich barn chi, a yw 6 mis yn ddigon o amser i ddod i gytundeb yn ystod negodiadau?

Cwestiyn 39

Yn eich barn chi, a yw 6 mis yn ddigon o amser i'r sector baratoi i roi'r cytundeb cyflog ar waith gan roi cyfle i Lywodraeth Cymru ystyried yr argymhelliad a gweithredu?

Cwestiyn 40

A oes unrhyw rolau, naill ai yn eich sefydliad neu rydych yn eu cyflogi, rydych yn poeni nad ydynt yn cyd-fynd â'r diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol i oedolion fel y nodir yn adran 42 (1) (b) o Ddeddf 2025 ac yn adran 3 (tudalen 17) uchod ac felly efallai nad ydynt o fewn cwmpas y Corff Negodi?

Cwestiyn 41

Sut y gall Llywodraeth Cymru eich cefnogi chi neu'ch sefydliad i bennu a fydd eich gweithwyr o fewn cwmpas y Corff Negodi? (Dewisol)

Cwestiyn 42

Yn eich barn chi, a oes unrhyw leoliadau, gwasanaethau neu rolau a ddylai gael eu heithrio o gwmpas y Corff Negodi Gofal Cymdeithasol?

Cwestiyn 43

Yn eich barn chi, a oes unrhyw leoliadau, gwasanaethau neu rolau eraill nad ydynt wedi cael eu crybwyll a ddylai gael eu cynnwys o fewn cwmpas y Corff Negodi? 

Cwestiyn 44

Rhannwch unrhyw safbwyntiau ynghylch a allai'r Corff Negodi effeithio ar y rhai sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio o dan drefniadau anffurfiol. (Dewisol)

Cwestiyn 45

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno y dylai gweithwyr a gaiff eu cwmpasu gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol i Gymru fod o fewn cwmpas y Corff Negodi hefyd?

Cwestiyn 46

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno y dylai gweithwyr a gaiff eu cwmpasu gan gontract yr Agenda ar gyfer Newid fod o fewn cwmpas y Corff Negodi hefyd?

Cwestiyn 46

A ydych yn rheoli gwasanaeth ar draws y ffiniau rhwng Cymru a Lloegr neu Lloegr a'r Alban ar hyn o bryd?

Cwestiyn 47

Mewn egwyddor, a fyddai gorfod cydymffurfio â gofynion cyfreithiol gwahanol ar gyfer cyflog a thelerau ac amodau mewn gwledydd gwahanol yn gwneud ichi ailystyried eich gweithrediadau a ble rydych yn darparu gofal?

Cwestiyn 48

Pe bai cyflog a thelerau ac amodau yn wahanol rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban, a fyddai hyn yn cael unrhyw effaith ar eich dewis o swydd, ble rydych yn gweithio neu ble rydych yn byw?

Cwestiyn 49

Pa un o'r opsiynau isod y byddech yn ei ffafrio mewn achosion lle gallai gweithiwr gael ei gwmpasu gan fwy nag un Cytundeb Cyflog Teg am ei fod yn gweithio ar draws ffiniau?

Cwestiyn 50

O'r agweddau canlynol ar gyflog, pa rai y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt yn llythyr cylch gwaith cyntaf Llywodraeth Cymru i'r Corff Negodi, yn eich barn chi?

Cwestiyn 51

O'r telerau ac amodau canlynol, pa rai y dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried fel mater o flaenoriaeth yn ei llythyr cylch gwaith cyntaf i'r Corff Negodi, yn eich barn chi?

Cwestiyn 52

Yn eich barn chi, pa rai o'r meysydd canlynol o fewn hyfforddiant, datblygiad a datblygiad gyrfa ddylai gael eu cynnwys yng nghylch gwaith y Corff Negodi, os o gwbl?

Cwestiyn 53

Yn eich barn chi, pa rai o'r meysydd canlynol o fewn polisïau sy'n ymwneud â phobl a diwylliant ddylai gael eu cynnwys yng nghylch gwaith y Corff Negodi, os o gwbl?

Cwestiyn 54

Yn eich barn chi, pa rai o'r meysydd canlynol o fewn buddiannau ychwanegol a chymorth ariannol ddylai gael eu cynnwys yng nghylch gwaith y Corff Negodi, os o gwbl?

Cwestiyn 55

Os oes unrhyw feysydd eraill y dylai'r Corff Negodi eu hystyried neu y dylid eu cynnwys yn ei gylch gwaith, rhowch fanylion yma. (Dewisol)

Cwestiyn 56

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r dull arfaethedig o ddatrys anghydfod, lle caiff anghydfodau eu sbarduno gan y cadeirydd a'u cyfeirio at ACAS fel y gellir eu datrys yn annibynnol? (Dewisol)

Cwestiyn 57

Yn eich barn chi, beth ddylai gael ei gynnwys mewn canllawiau a deunyddiau cyfathrebu i'ch helpu i roi Cytundebau Cyflog Teg ar waith? (Dewisol)

Cwestiyn 58

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno y dylai Llywodraeth Cymru a'r Corff Negodi gydweithio i lunio a chyhoeddi canllawiau? (Dewisol)

Cwestiyn 59

Canllawiau ar beth sydd eu hangen arnoch i'ch helpu chi neu'ch sefydliad i gydymffurfio â Chytundeb Cyflog Teg? (Dewisol)

Cwestiyn 60

Rhannwch unrhyw safbwyntiau neu sylwadau eraill am ba gymorth sydd ei angen ar ddarparwyr a chomisiynwyr gofal i gydymffurfio â Chytundeb Cyflog Teg. (Dewisol)

Cwestiyn 61

Rhannwch unrhyw safbwyntiau neu wybodaeth am y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd i ddatrys anghydfodau a chwynion am gontractau cyflogaeth, cyflog neu amodau gweithio. Os oes unrhyw newidiadau y dylid eu gwneud i'r prosesau hyn yn eich barn chi, nodwch y rhain yn eich ymateb. (Dewisol)

Cwestiyn 62

Yn eich barn chi, a oes unrhyw grwpiau o bobl, fel y rhai â nodweddion gwarchodedig (ymhlith grwpiau eraill), y byddai'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cael effaith gadarnhaol arnynt?

Cwestiyn 63

A oes unrhyw grwpiau o bobl, fel y rhai â nodweddion gwarchodedig (ymhlith grwpiau eraill), y byddai'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cael effaith negyddol arnynt?

Cwestiyn 64

Yn eich barn chi, pa effaith, os o gwbl, y gallai sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i benderfynu ar Gytundebau Cyflog Teg ei chael ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiyn 65

A allai'r gwaith o ddatblygu corff negodi gofal cymdeithasol gael ei ddylunio neu'i addasu i hyrwyddo effeithiau cadarnhaol ar y defnydd o'r Gymraeg a lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiyn 66

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Defnyddiwch y gofod isod os hoffech godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi’u trafod yn benodol:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 28 Ebrill 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Tîm y Gweithlu Gofal Cymdeithasol
Parc Cathays 2
Caerdydd
CF10 3NQ
 

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’ch ymateb, rhowch wybod inni wrth anfon eich ymateb ac fe wnawn ni eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eichhawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG53355

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.