Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 6 Ebrill 2025, daeth yr ardoll statudol ar weithredwyr gamblo i rym, gan ddarparu ffynhonnell o gyllid cynaliadwy ar gyfer gwaith ymchwil, atal a thrin niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Yn ystod blwyddyn gyntaf yr ardoll, mae £120 miliwn wedi'i godi ledled y DU.

Ym mis Gorffennaf 2025, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y prosesau rwyf wedi'u sefydlu i sicrhau bod cyfran Cymru o'r ardoll yn cael ei defnyddio i fynd i'r afael yn effeithiol â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Rwyf wedi penodi Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y cydgysylltydd ar gyfer gweithgareddau atal, a Perfformiad a Gwella GIG Cymru fel y cydgysylltydd ar gyfer triniaethau. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd, clinigwyr a phartneriaid ehangach i gyflwyno model atal sydd wedi'i gynllunio i ostwng niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno mesurau cenedlaethol newydd i atal niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, gan gynnwys adnoddau digidol. Bydd yn sefydlu rhaglenni newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy dimau iechyd y cyhoedd byrddau iechyd ac yn casglu data am nifer yr achosion. Bydd hefyd yn datblygu deunyddiau ymarferol ar gyfer ysgolion, clybiau chwaraeon a chymunedau.

O ran triniaethau, yn dilyn cyngor gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru, bydd gwasanaeth triniaeth arbenigol y GIG ar gyfer niwed gamblo a gwasanaeth llinell gymorth gamblo Cymru yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd hyn yn adeiladu ar arbenigedd y bwrdd iechyd o ran rheoli llinellau cymorth cenedlaethol fel DAN 24/7 a CALL. Mae sefydlu'r gwasanaethau arbenigol hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran darparu'r triniaethau cynhwysfawr y mae eu hangen i helpu pobl yr effeithir arnynt gan gamblo a niwed gamblo yng Nghymru. 

Bydd y gwasanaeth triniaeth arbenigol a'r gwasanaeth llinell gymorth ar gyfer niwed gamblo yn weithredol o 1 Ebrill ymlaen. Bydd y rhain yn parhau i esblygu wrth i lwybrau gofal gael eu mireinio. Bydd y systemau cymorth presennol a sefydlwyd gan GambleAware ar gael tan 31 Mawrth.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl sefydliadau sy'n helpu pobl yr effeithir arnynt gan gamblo yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a gomisiynwyd gan GambleAware drwy ei rwydweithiau triniaeth a chymorth. Rwy'n cydnabod y rôl hanfodol y mae'r sefydliadau hyn wedi'i chwarae. 

Wrth inni roi rhaglenni newydd ar waith yng Nghymru, rwyf am adeiladu ar gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd y sector menter gymdeithasol gymunedol wirfoddol, a sicrhau y gall weithio gyda'r system newydd. Ym mis Ebrill, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio cynllun grant a fydd yn darparu cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag atal gamblo. Yn rhan o'i waith i ehangu'r llwybr triniaeth gamblo, bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd i archwilio cyfleoedd i'r sector menter gymdeithasol gymunedol wirfoddol fod yn rhan ohono.

Rwyf wedi ymrwymo i roi ein system newydd a ariennir gan yr ardoll ar waith o fis Ebrill ymlaen, ac i weithio gyda rhanddeiliaid i atal a thrin niwed gamblo yng Nghymru.