Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ym mis Mai 2025, comisiynais Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gynnal asesiad sicrwydd Cymru gyfan o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Cadeiriwyd yr adolygiad gan gyn-Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, ac mae'r adroddiad manwl a chynhwysfawr a'r argymhellion yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Wrth gomisiynu'r panel i adolygu'r gwasanaethau, roeddwn yn awyddus i gael asesiad amser real o ddiogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru, gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r adolygiad annibynnol o wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac adolygiadau o wasanaethau mamolaeth mewn ymddiriedolaethau GIG yn Lloegr.
Siaradodd y panel arbenigol annibynnol â channoedd o fenywod, teuluoedd, a staff gwasanaethau mamolaeth ac obstetreg, gan ymweld ag unedau mamolaeth ledled Cymru. Mae'r adroddiad dilynol yn tynnu sylw at feysydd o arferion da ac yn nodi'r gwendidau, y risgiau a'r pryderon y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy.
Mae'r asesiad yn darparu archwiliad gwrthrychol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i famau, babanod a theuluoedd. Mae'n atgyfnerthu ymroddiad a phroffesiynoldeb y gweithlu, ond mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd tryloywder, gwella a dysgu parhaus ar draws ein GIG.
Rwy'n falch bod yr adolygiad wedi nodi llawer o gryfderau o ran y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru. Cafwyd adborth cadarnhaol gan fenywod beichiog a'u partneriaid, a chan rieni newydd, am sawl agwedd ar ansawdd eu gofal, gan gynnwys parodrwydd i helpu gwasanaethau i wella.
Fodd bynnag, mae llawer o feysydd lle gallwn ni, a lle mae'n rhaid inni, wneud yn well. Ar ôl ystyried yr adroddiad a'i ganfyddiadau'n ofalus, rwy'n derbyn yr holl argymhellion yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae'r argymhellion yn ymwneud ag arweinyddiaeth genedlaethol, data a diogelwch, llywodraethiant, parhad gofal, brysbennu a dulliau ysgogi esgor, gwaith cynllunio'r gweithlu, llwybrau iechyd meddwl a chomisiynu gwasanaethau newyddenedigol. Bydd hyn yn rhoi eglurder a chyfeiriad i wasanaethau ac yn sicrhau bod casgliadau'r adroddiad yn llywio'n uniongyrchol y gwaith o ddatblygu polisi yn y dyfodol.
Bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno drwy raglen strwythuredig dros gyfnod o dair blynedd, gan ddarparu fframwaith clir a disgybledig i helpu i sicrhau gwelliannau diogel, cynaliadwy a hirdymor. Bydd y dull gweithredu graddol hwn yn helpu gwasanaethau i ymgorffori newid ystyrlon, gan gynnal pwyslais cryf ar ansawdd a diogelwch.
Hoffwn ddiolch i'r Athro Holland ac aelodau'r panel annibynnol am eu gwaith trylwyr. Rwyf yr un mor ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y broses asesu. Mae eu safbwyntiau a'u profiadau wedi bod yn hynod werthfawr, gan sicrhau bod lleisiau menywod, teuluoedd, staff a chymunedau yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob teulu yn cael y safon uchaf bosibl o ofal mamolaeth a newyddenedigol, sy'n seiliedig ar dryloywder, goruchwylio cenedlaethol a gwella parhaus.
