Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Ddoe cyfarfûm â swyddogion Ofgem i drafod y cap prisiau nesaf ar gyfer ynni domestig a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill. Mae'r cyhoeddiad yma yn cadarnhau mai'r cap prisiau ar gyfer 1 Ebrill i 30 Mehefin 2026 fydd £1,641, sy'n ostyngiad o 7%, neu £117 o'r lefel bresennol o £1,758.
Bydd y gostyngiad yn y cap prisiau ym mis Ebrill yn rhyddhad i lawer o aelwydydd ledled Cymru sydd wedi wynebu anawsterau wrth geisio talu costau hanfodol ers i'r argyfwng ynni daro yn 2022, ac yn enwedig y 340,000 o aelwydydd, (25%) sy’n wynebu tlodi tanwydd. Rhaid i gyflenwyr ynni barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi eu cwsmeriaid gyda chynlluniau talu teg a fforddiadwy a chymorth brys lle bo angen. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei godi gyda chyflenwyr ynni pan fyddaf yn cwrdd â nhw ar 12 Mawrth
Y prif ffactor sy'n gyrru'r gostyngiad yn y cap prisiau yw'r newid o ran y costau polisi a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys Llywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref y llynedd. Roedd hyn yn cynnwys dod â'r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) a Chynllun Inswleiddio Prydain Fawr (GBIS) i ben a symud i drethi cyffredinol ar gyfer costau polisi eraill, sydd gyda'i gilydd yn lleihau biliau cyfartalog cartrefi tua £150. Mae’r ffactorau eraill yn cynnwys gostyngiad yn y gyfradd uned a gostyngiad bach yn y tâl sefydlog hefyd. Mae gostyngiadau diweddar mewn prisiau ynni cyfanwerthu hefyd wedi lleihau'r pwysau. Ar yr un pryd, mae buddsoddiad cynyddol yn y rhwydwaith ynni yn parhau i gefnogi system wydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae Ofgem yn adrodd bod 38% o gwsmeriaid ar dariffau sefydlog, sy'n cyfateb i raddau helaeth i'r ffigur cyn 2022. Maent yn annog cwsmeriaid i gymharu prisiau gwahanol gwmnïau ac ystyried a allai ymrwymo i gytundeb am gyfnod penodol gyda'u cyflenwr presennol neu newid arbed arian iddynt. Y llynedd, talodd cwsmeriaid ar dariff sefydlog tua £115 yn llai ar gyfartaledd o'i gymharu â'r rhai ar y tariffau newidiol.
Mae taliadau sefydlog yn bryder i lawer o aelwydydd ledled Cymru ac rwy'n croesawu'r cadarnhad gan Ofgem y bydd cynllun peilot ar gyfer tariffau tâl sefydlog is yn dechrau y Gwanwyn hwn. Bydd hyn yn sicrhau mwy o ddewis i ddefnyddwyr, ac yn enwedig y rhai nad ydynt yn defnyddio llawer o ynni. Rwyf wedi galw yn rheolaidd ar Ofgem i ystyried effaith taliadau sefydlog ar bobl agored i niwed. Mae angen i gyflenwyr ymgysylltu mwy a newid aelwydydd agored i niwed i dariffau mwy ffafriol yn awtomatig. Byddaf yn parhau i bwyso am hyn ac am dariff cymdeithasol.
Rydw i’n cydnabod yr anawsterau y mae aelwydydd ledled Cymru yn eu hwynebu, ac yn gwybod bod llawer ohonynt eisoes yn ei chael hi'n anodd talu costau hanfodol, ac mae Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid brys i bobl agored i niwed sy'n wynebu argyfwng ariannol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Mae gennym grŵp rhanddeiliaid sefydledig i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Yn ogystal, mae ein hymgyrch i annog pobl i hawlio budd-daliadau yn dwyn ffrwyth ac mae'r ymwybyddiaeth o gymorth ariannol yn cynyddu yng Nghymru. Rydym yn annog pobl i gysylltu â llinell gymorth Hawlia dy arian i gael gwybod am y cymorth ariannol y gallai fod ganddynt hawl iddo.
Rydym hefyd yn buddsoddi dros £120 miliwn eleni wrth wneud gwaith ôl-osod yng nghartrefi teuluoedd incwm isel drwy ein cynllun Nyth Cartrefi Cynnesa’n Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Mae cyngor ynni arbenigol am ddim ar gael i bob deiliad tai yng Nghymru drwy linell gymorth Nyth. Gall Nyth gynnig cyngor ac awgrymiadau o ran rheoli biliau ynni a gwirio cymhwystra o ran mesurau arbed ynni am ddim.
