Cynllun môr a physgodfeydd Cymru: Cylch ariannu cyffredinol cyfnod 3
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11464 - cynllun i gefnogi twf cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd yn niwydiant bwyd môr Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 3
3. Y sail gyfreithiol
Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn creu ac yn gosod telerau Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Nodau ac amcanion strategol Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Nod Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 3 yw cefnogi prosiectau sy'n gwneud y canlynol:
- Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru amgylchedd morol cynaliadwy sy'n wydn ac yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
- Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth i lywio penderfyniadau yn y dyfodol yn sector morol, pysgodfeydd a dyframaethu Cymru, o ddata am rywogaethau i gydfodolaeth y sectorau morol.
- Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru amgylchedd morol bioamrywiol ac ecosystem ffyniannus a chynaliadwy.
- Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru sector bwyd môr cynaliadwy, proffidiol ac amrywiol sydd â marchnad ddomestig gadarn ynghyd â marchnad fyd-eang sy'n ehangu.
5. Diben y cynllun
Mae Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn gynllun ariannu i gefnogi twf sy'n amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru ac annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu. Mae'r cynllun yn darparu grantiau trwy gylchoedd ariannu.
Mae polisi cyffredinol y cynllun yn manylu ar restr graidd o 18 o weithgareddau ariannu y gellir eu defnyddio'n unigol neu gyda'i gilydd i osod sail ar gyfer cylch ariannu i fynd i'r afael â blaenoriaethau penodol o fewn y sector.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Rydych chi'n gymwys i wneud cais os ydych naill ai:
- yn fenter/busnes/sefydliad morol, bwyd môr neu ddyframaethu yng Nghymru sydd naill ai’n:
- o fusnes bach neu ganolig sy’n endid micro
- o busnes bach neu ganolig nad yw’n endid micro
- o busnes nad yw'n fusnes bach neu ganolig
- o sefydliadau neu grwpiau o sefydliadau sy’n gweithredu ar y cyd er
- budd nifer o fentrau neu sector.
Neu
Corff Sector Cyhoeddus yng Nghymru sy'n cynnwys:
- Cyrff Cyfraith Gyhoeddus
- y byd academaidd
- cyrff cyhoeddus anadrannol
- cyrff trydydd sector - anelusennol
- elusen
Neu
Corff Sector Cyhoeddus nad yw'n Gymreig yn y DU ac mae Cymru yn elwa ar y prosiect yn sylweddol ac yn uniongyrchol.
(Mae'r isod yn esiamplau o gyrff sector cyhoeddus):
- Cyrff Cyfraith Gyhoeddus
- Y byd academaidd
- Cyrff cyhoeddus anadrannol
- Corff Trydydd Sector – anelusennol
- elusen
Gweler canllawiau Cylch Ariannu Cyffredinol (Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru) ar-lein am ragor o fanylion.
8. Sectorau i’w cefnogi
- Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
- Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
9. Hyd y cynllun
Rhwng 07 Ionawr 2026 a 31 Mawrth 2027.
10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun
£1,850,000
11. Ffurf y cymorth
Grantiau uniongyrchol
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Nodwch yr isod am Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Mae Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 3 yn cwmpasu amrediad eang o 11 categori, gyda chyfanswm o 36 is-gategori, a bod gan rai is-gategorïau gyfyngiadau cymhwystra pellach.
Mae 11 categori sy'n cwmpasu cyfanswm o 36 is-gategori y gall ymgeisydd wneud cais yn eu herbyn. Mae gan bob is-gategori gyfyngiadau cymhwystra penodol pellach yn ogystal â'r meini prawf cymhwystra cyffredinol.
Dyma'r 11 categori:
- Arloesi
- Gwasanaethau cynghori
- Hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio
- Iechyd, diogelwch a llesiant
- Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfannau
- Cynyddu potensial safleoedd dyframaethu.
- Mesurau Marchnata
- Prosesu cynnyrch pysgodfeydd a dyframaethu er mwyn ychwanegu gwerth a gwella ansawdd cynhyrchion
- Cyfyngu ar effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol, ac addasu pysgota i warchod rhywogaethau
- Diogelu, adfer a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau morol.
- Effeithlonrwydd ynni
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae nifer o gyfraddau ymyrryd lluosog yn dibynnu ar faint y fenter a'r math o fenter sy'n gwneud cais:
(Y ganran a ddangosir yw'r gyfradd ymyrryd uchaf, h.y. canran y cyllid y mae'n rhaid i'r ymgeisydd ei ddarparu)
- Busnes bach neu ganolig sy'n endid micro 80%
- Busnes bach neu ganolig nad yw’n endid micro 50%
- Preifat (nad yw'n fusnes bach neu ganolig) 30%
- Budd ar y cyd neu fuddiolwyr cyfunol (e.e. sefydliadau cynhyrchwyr neu gymdeithasau pysgotwyr), sefydliadau'r Sector Cyhoeddus (gan gynnwys cyrff cyfraith gyhoeddus) ac elusennau –100%
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£100,000
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch dros y
Ffôn: 0300 0604400 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm)
neu drwy E-bost: customerhelp@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
+ 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
