Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn trin data arolwg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Arolwg 2026 a chronfa ddata cysylltiadau

Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod yr angen i fynd i’r afael â phroblemau fel perygl llifogydd ac erydiad arfordirol, yn ogystal â gwaddol mwyngloddio/adfer mwyngloddiau i weithio tuag at Gymru gydnerth.

Mae pobl ledled Cymru yn hanfodol i gyflawni’r cyfrifoldeb uchelgeisiol hwn, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am y gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio.

Hoffem glywed gan y rheini sy’n byw a/neu’n gweithio yng Nghymru, sy’n hyfforddi neu mewn cyflogaeth am dâl, mewn unrhyw rolau sy’n cefnogi Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio, yn y sectorau cyhoeddus, preifat a di-elw, neu mewn rolau cysylltiedig. Nod y gwaith ymchwil hwn yw dechrau deall y bobl (sgiliau, cymwysterau, proffil oedran, niferoedd ac ati) sy’n rhan o’r ‘gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio’ yng Nghymru. Efallai y byddwn yn datblygu polisïau ar gyfer hyfforddi, recriwtio a datblygu’r gweithlu i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni gwaith Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn gofyn a hoffech rannu eich manylion cyswllt, er mwyn ymuno â chronfa ddata cysylltiadau’r gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data’r ymchwil a’r gronfa ddata o gysylltiadau. Bydd prif ganfyddiadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a fydd yn caniatáu i unigolion gael eu hadnabod. Rydych yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn a bod yn rhan o’r gronfa ddata o gysylltiadau yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Pan fydd hynny’n briodol, byddwn yn gofyn i chi rannu’r ddolen â’ch cysylltiadau yn y gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio. Ymddiheuriadau os byddwch yn derbyn y ddolen fwy nag unwaith. Peidiwch â llenwi’r ffurflen fwy nag unwaith, hyd yn oed os oes gennych fwy nag un rôl. Rydym yn deall bod rolau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio yn gallu bod yn gymhleth. Dewiswch yr opsiwn a fydd yn rhoi’r ddealltwriaeth orau i ni o’ch amgylchiadau.

Pa ddata personol rydym yn eu cadw ac o ble rydym yn cael yr wybodaeth honno?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel:

unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig ag unigolyn sy’n golygu y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr.

Byddwch wedi derbyn neu ddefnyddio dolen i’r arolwg am un neu ragor o’r rhesymau canlynol:

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) oherwydd eich cysylltiad rheolaidd â ni ar feysydd polisi sy’n ymwneud â Pheirianneg Amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu dolen yr arolwg â chi’n uniongyrchol. 

  • Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt. Mae sefydliad sy’n gysylltiedig â Pheirianneg Amgylcheddol, grŵp cynrychioli rhanddeiliaid neu unigolyn rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd ag ef, wedi cytuno i rannu dolen yr arolwg â’i gysylltiadau ar ran Llywodraeth Cymru. Gallai hyn fod yn gyflogwr i chi, neu’n sefydliad rydych chi’n gwirfoddoli iddo, neu’n grŵp neu’n sefydliad sydd eisoes yn gwybod amdanoch chi. Byddwch wedi cael dolen i’r arolwg oherwydd eu bod yn meddwl y gallech chi ystyried eich hun yn rhan o’r gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio yng Nghymru.
  • Rydych chi wedi mynd i’r arolwg drwy ddolen ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Drwy gydweithiwr neu gymheiriaid. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i rannu dolen yr arolwg â chydweithwyr a chysylltiadau a fyddai, yn eu barn nhw, â diddordeb ac a allai fod yn rhan o’r gweithlu Reoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio, neu weithluoedd cysylltiedig ac a allai fod â diddordeb mewn llenwi’r arolwg.

Dim ond Llywodraeth Cymru sy’n gallu cael gafael ar ddata’r arolwg. Ni fydd y corff, na’r unigolyn a anfonodd y ddolen atoch chi, na’ch cyflogwr, yn gallu cael gafael ar y data.

Nid yw’r arolwg yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata personol. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost na’ch cyfeiriad IP yn cael eu cofnodi pan fyddwch chi’n llenwi’r arolwg, felly mae’r ymatebion yn ddienw. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis rhoi data personol ychwanegol fel rhan o’r arolwg yn y cwestiynau penagored, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hepgor gan y tîm ymchwil yn Llywodraeth Cymru cyn dadansoddi’r data. Byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’r ymatebion a roddwch, na’ch cysylltu â’r ymatebion.

Ar ddiwedd yr arolwg, bydd cyfle i ymuno â chronfa ddata o gysylltiadau ar gyfer y ‘gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio’. Os hoffech ymuno â’r gronfa ddata hon, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth bersonol ganlynol:

  • Enw
  • Teitl swydd
  • Cyfeiriad e-bost

Cronfa Ddata o Gysylltiadau’r Gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio

Os byddwch yn dewis rhoi eich manylion cyswllt ar gyfer y gronfa ddata o gysylltiadau’r gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio, bydd eich manylion yn cael eu defnyddio at y dibenion canlynol:

  • Derbyn gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am ddatblygu polisïau a materion eraill sy’n ymwneud â’r gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio.
  • Derbyn gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu sgiliau.
  • Cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn ymchwil ddilynol a/neu weithgareddau ymgysylltu i helpu Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth gan aelodau o’r gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio am faterion pwysig.
  • Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cysylltu mewn unrhyw ffordd â’ch ymateb i arolwg y gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio. Mae rhoi eich manylion ar gyfer y rhestr o gysylltiadau yn gwbl wirfoddol ac nid oes yn rhaid cymryd rhan yn arolwg o’r gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio ei hun.
  • Os gofynnir i chi gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil yn y dyfodol yna byddwch yn derbyn hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr ymchwil hwnnw ac mae cymryd rhan bob amser yn wirfoddol.

Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio’r manylion a roddwyd ar unrhyw adeg, i ofyn i ni dynnu eich manylion oddi ar y rhestr o gysylltiadau.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr arolwg hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol.

Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arnynt am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.

Mae’r gronfa ddata o gysylltiadau’r gweithlu yn ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru gael ffordd i gysylltu ag aelodau o’r gweithlu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol a Gwaddol Mwyngloddio. Er enghraifft, i rannu gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu sgiliau, yn ogystal â chael gwybodaeth gan aelodau o’r gweithlu am faterion pwysig drwy ragor o ymchwil ac ymgysylltu.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Cedwir data personol a roddir i Lywodraeth Cymru ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi’i chreu a dim ond y tîm uniongyrchol sy’n gallu cael mynediad ati.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio meddalwedd arolwg o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuon o dorri diogelwch data. Os bydd Llywodraeth Cymru wn yn amau bod hyn wedi digwydd, bydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd canfyddiadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion sy’n cymryd rhan.

Am ba mor hir y byddwn ni’n cadw eich data personol?

Bydd unrhyw ddata personol a roddwyd mewn cwestiynau penagored yn yr arolwg yn cael eu dileu fel rhan o’r broses o ddadansoddi data.

Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt ar gyfer y gronfa ddata o gysylltiadau’r gweithlu yna bydd y gronfa ddata yn cael ei hadolygu bob 5 mlynedd. Bydd yr adolygiad yn cadarnhau’r angen parhaus am gronfa ddata o gysylltiadau a, phan fydd hynny’n cael ei gadarnhau, gofynnir i chi a ydych yn dymuno aros ar y gronfa ddata. Gallwch ofyn i’ch manylion gael eu dileu oddi ar y gronfa ddata ar unrhyw adeg, drwy anfon e-bost at Lywodraeth Cymru yn: climatechange@gov.wales.

Os oedd gan Lywodraeth Cymru eich manylion cyswllt yn barod, bydd y rhain yn cael eu cadw yn unol â’r bwriad gwreiddiol.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi fel rhan o’r arolwg hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • Cael gafael ar gopi o’ch data eich hun
  • Ein bod ni’n cywiro gwallau yn y data hynny
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • I’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

•    Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir fel rhan o’r astudiaeth hon, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â’r canlynol:

Alison Kitchener

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.