Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o'ch diweddaru ar waith ein Panel Arbenigol Llythrennedd a'n cefnogaeth ar gyfer cyrhaeddiad mewn llythrennedd. Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau am eu hymrwymiad dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Rwyf wedi nodi ers y cychwyn cyntaf fy mod yn dymuno gweithredu ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael. Mae dysgu sut i ddarllen yn gam allweddol sy'n galluogi plant i fanteisio ar weddill eu haddysg, ac mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Sefydlais y Panel Arbenigol ar Lythrennedd er mwyn rhoi cyfle i arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol am eu hymchwil ac aelodau sydd â phrofiad addysgu uniongyrchol ddod ynghyd. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod ein dull yn drylwyr ac wedi'i seilio ar ymarfer go iawn. 

Mae’r Panel wedi llywio ein gwaith cychwynnol ar ganllawiau'r dyfodol, dysgu proffesiynol, a’r blaenoriaethau ehangach ar gyfer cryfhau llythrennedd ledled Cymru.

Heddiw rwy’n rhannu’r Egwyddorion ar gyfer Iaith a Llythrennedd yng Nghymru, a gyhoeddwyd ganddynt yn ddiweddar, yn ogystal â’r Datganiad o Fwriad ar gyfer Darllen Cynnar. Bydd y rhain yn ysgogi ein disgwyliadau, ein canllawiau a'n dysgu proffesiynol mewn llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

O ran darllen cynnar, rydym yn glir: mae angen addysgu ffoneg mewn modd penodol a systematig ar ddysgwyr, ochr yn ochr â chyfleoedd cyfoethog ar gyfer iaith lafar, geirfa, dealltwriaeth, ac ysgrifennu. Mae ffoneg synthetig systematig yn bwysig ar gyfer addysgu a dysgu darllen yn effeithiol, ac ni ddylid annog dysgwyr i ddyfalu geiriau drwy ddefnyddio ciwiau neu luniau. 

Rydym eisoes yn rhoi'r egwyddorion hyn ar waith. Yn ganolog i hyn mae prosiect CAL:ON Cymru sydd werth £8.2 miliwn, yn sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu llythrennedd. Mae’n adeiladu ar y dystiolaeth ryngwladol orau, er enghraifft, elfennau o raglenni o Mississippi a Seland Newydd. Bydd yn darparu cymorth dwyieithog, cenedlaethol, gan gynnwys cymorth i ddatblygu sgiliau iaith lafar dysgwyr, a chymorth sydd wedi'i dargedu i ddysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu darllen mewn adrannau uchaf ysgolion cynradd a hefyd mewn ysgolion uwchradd. 

Bydd CAL:ON Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar addysgu ffoneg yn effeithiol, gan gynnig cefnogaeth ar gyfer rhaglenni ffoneg synthetig systematig, a chyngor ar ddewis pecyn ffoneg priodol. Bydd hefyd yn cynnig offer asesu a gydnabyddir yn rhyngwladol i helpu ysgolion i ddeall anghenion penodol dysgwyr. Mae fy Ngrŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid wedi clywed yn uniongyrchol gan CAL:ON ac wedi mynegi cefnogaeth glir i'r dull gweithredu. Bydd CAL:ON hefyd yn gwneud cyflwyniad i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Mae ein grantiau llythrennedd eraill hefyd yn cefnogi datblygu llythrennedd drwy greadigrwydd, meithrin cariad at ddarllen, a darparu cymorth ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer sgiliau darllen a llafaredd yn y Gymraeg. 

Bydd Dysgu, ein corff dysgu proffesiynol a sefydlwyd yn ddiweddar, yn ganolog wrth symud y gwaith dysgu proffesiynol cenedlaethol yn ei flaen, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn cyrraedd pob ysgol. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod ysgolion yn gallu manteisio ar gynnig cydlynol sy'n seiliedig ar y gefnogaeth genedlaethol. 

Rwy'n ddiolchgar i Estyn am ddatblygu adnoddau sy'n nodi disgwyliadau manylach yn ôl oedran dysgwyr, gan gefnogi ymarferwyr i ddeall cynnydd mewn llythrennedd. Bydd y rhain ar gael dros y misoedd nesaf, a byddant yn cael eu profi gyda CAL:ON i lywio canllawiau'r dyfodol. Byddant hefyd yn llywio datblygiad pellach ein Hasesiadau Personol, a fydd yn darparu gwybodaeth fanylach sy’n gysylltiedig ag oedran am gynnydd dysgwyr. Bydd hyn yn cynnig pwynt cyfeirio cyson a chyffredin i helpu ymarferwyr i ddeall lle mae eu dysgwyr arni ac i gefnogi sgyrsiau sy’n canolbwyntio ar welliant rhwng ysgolion. Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi sefydlu Bwrdd Cyrhaeddiad newydd i sicrhau cysondeb rhwng yr holl flaenoriaethau hyn ac i ganolbwyntio ar gyflawni ac effaith. Bydd hwn yn cynnwys Estyn, Dysgu a chynrychiolwyr o awdurdodau lleol. 

Eleni, ochr yn ochr â'r cenhedloedd eraill yn y DU, rydym yn cymryd rhan yn y Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Mae ein hymgyrch ddwyieithog Ymgolli/Go all in, a lansiwyd fis diwethaf, yn ychwanegu at waith sydd eisoes ar y gweill i gefnogi ysgolion, dysgwyr a theuluoedd, i feithrin yr arfer parhaol o fwynhau darllen ac i wella safonau llythrennedd. Mae'r ymgyrch genedlaethol hon yn ategu ymdrechion Estyn i ganolbwyntio'n fanylach ar ddarllen, a byddan nhw'n gweithio gyda phob darparwr addysg i sicrhau bod gwella sgiliau darllen ymhlith pob dysgwr yn flaenoriaeth.

Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Rwyf wedi gwrando ar ein harbenigwyr, ac rwyf wedi gwrando ar ein hathrawon hefyd. Bellach mae gennym ddull clir sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth, a fydd yn cefnogi pob ysgol i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar eu dysgwyr i fanteisio'n llawn ar eu haddysg ac i ffynnu trwy gydol eu bywydau.