Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhan gyntaf llwybr coedwig newydd 80km o hyd - carreg filltir bwysig yn hanes Coedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y darn peilot uchelgeisiol, o Barc Porthceri ym Mro Morgannwg i draphont Pont Walby ger Glyn-nedd yn cysylltu safleoedd y Goedwig Genedlaethol. Bydd pobl yn gallu ymweld â 12 o safleoedd y Goedwig Genedlaethol a chyfanswm o 24 o goetiroedd.
Wrth gerdded ar hyd y llwybr, fydd pobl byth yn bell o goed, gyda 50% o'r llwybr o dan orchudd coed.
Bydd angen bron 24 awr arnoch i gerdded y llwybr i gyd ond i'r rheini sydd am brofiad ychydig yn ysgafnach, rydym wedi'i rannu'n rhannau haws eu trin.
Mae'r llwybr yn dilyn rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus, felly bydd yna rannau'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr – yn gerddwyr, defnyddwyr cadair olwyn, beicwyr a merlotwyr.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, a agorodd y llwybr newydd yn swyddogol:
"Dyma ddechrau taith gyffrous. Bydd Cymru yn un o'r gwledydd cyntaf i gael llwybr coedwig cenedlaethol.
"Rydym wedi bod wrthi'n gweithio'n galed, yn datblygu ein Coedwig Genedlaethol sydd bellach dros 114,000 ha o faint.
"Wrth i nifer y safleoedd barhau i dyfu, gydag 82 o safleoedd y tu allan i ystâd Coetir Llywodraeth Cymru bellach yn perthyn iddi, gallwn nawr ddechrau datblygu llwybr coedwig cenedlaethol – Llwybr Coedwig Cymru Trail.
"Bydd y llwybr yn ymestyn ar hyd a lled Cymru ac yn cysylltu safleoedd y Goedwig Genedlaethol a'n coetiroedd, i bawb allu eu mwynhau."
Mae'r llwybr yn cael ei greu ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), timau Hawliau Tramwy Cynghorau Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot, a nifer o grwpiau rhanddeiliaid.
Dros y misoedd nesaf, bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i wella'r darn peilot, gan gynnwys arwyddion newydd, gwelliannau i gelfi fel gatiau, meinciau a byrddau gwybodaeth, a gweithgareddau gyda chymunedau lleol i gymaint o bobl â phosibl allu ei fwynhau a chael budd ohono.
Y bwriad yw datblygu'r llwybr yn ddarn 'Arddangos' o ansawdd uchel erbyn diwedd y flwyddyn, gan osod y nod ar gyfer camau nesaf datblygu'r llwybr yn y dyfodol.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg:
"Mae'n wych ein bod yn cael defnyddio'r llwybr mor gynnar yn natblygiad prosiect mor bwysig a hir dymor.
"Bydd y llwybr hwn yr un mor fawr a phwysig â Llwybr Arfordir Cymru, gyda chynllun bwriadol i'w ddatblygu fesul darn.
"Bydd y llwybr yn dangos yr amrywiaeth eang o safleoedd sy'n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru ac yn eu cysylltu'n well â'i gilydd.
"Bydd cysylltu pobl â choetiroedd a natur yn helpu i wella iechyd corff a meddwl ac yn dysgu pobl am bwysigrwydd ein cynefinoedd coed.
"Bydd hefyd yn creu manteision economaidd i fusnesau lleol trwy greu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth."
Cafodd y darn peilot ei greu ar ôl trafod helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau coedwigaeth a mynediad, undebau ffermio, mudiadau hamdden a chynrychiolwyr cymunedau ac mae mwy o gyfleoedd trafod ar y gweill yn y misoedd i ddod.
