Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Rwy'n falch iawn o rannu'r cam nesaf wrth gyflawni'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) - dyfodol cymorth i ffermydd yng Nghymru, a adeiladwyd gyda'n ffermwyr ar gyfer ein ffermwyr.

Dechreuodd Haen Gyffredinol yr SFS ym mis Ionawr ac mae Ffurflen y Cais Sengl bellach yn fyw sy'n eich galluogi i wneud cais am y cynllun. Rwy'n gobeithio bod ffermwyr ledled Cymru yn meddwl sut i integreiddio'r Camau Gweithredu Cyffredinol i'w harferion bob dydd mewn ffordd sy'n dod â gwerth i'w busnes. 

Ar gyfer y ffermwyr hynny sydd eisiau mynd ymhellach, mae'r Haenau Dewisol a Chydweithredol wedi'u cynllunio i'ch helpu i adeiladu ar sylfaen yr Haen Gyffredinol a gwneud hyd yn oed mwy i wella gwytnwch eich busnes fferm a'ch amgylchedd lleol. 

Mae'r ddogfen hon yn rhoi trosolwg i chi o'r cymorth yr ydym yn bwriadu ei gynnig dros y flwyddyn nesaf. 

Mae wedi'i gynllunio i'ch helpu i feddwl am ba gymorth Llywodraeth Cymru a allai fod yn addas ar gyfer eich fferm, er mwyn helpu i lywio eich cynllunio.  Bydd canllawiau technegol mwy manwl, gan gynnwys cyfraddau talu, ar gael cyn agor ceisiadau unigol.   

Mae hyn yn cynnwys ystod o gyllid i gefnogi buddsoddiad cyfalaf a seilwaith ar ffermydd ar draws pob sector, i wella effeithlonrwydd a gwytnwch y busnes fferm hyd yn oed yn fwy, gan fod o fudd i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn barhaus. 

Gwyddom fod galw mawr am y gefnogaeth hon. Er enghraifft, yn 2026 rydym wedi:

  • cynnig cymorth i adfer neu sefydlu dros 320 km o wrychoedd, 
  • cynnig dyfarniadau grant i'r holl ymgeiswyr cymwys ar ôl i 1500 fynegi diddordeb mewn cael eu cyflwyno i'r rownd ddiweddaraf o'n cynllun Effeithlonrwydd Grantiau Bach, a
  • derbyn ceisiadau drwy ein cynllun Tyfu er yr Amgylchedd ar gyfer bron i 4,800 hectar o gnydau sy'n cyfrannu'n sylweddol at fudd i fioamrywiaeth a gwella ansawdd dŵr, yn ogystal â darparu dogn porthiant mwy amrywiol ar gyfer da byw, gan arbed ar fwyd anifeiliaid a brynwyd.

Byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer camau rheoli tir tymor hwy i wella cynefinoedd er budd bywyd gwyllt, storio mwy o garbon, lleihau'r perygl o lifogydd a gwella ansawdd dŵr ac aer.   

Mae rhai o'r gweithredoedd hyn yn gyfarwydd i chi a bydd rhai yn newydd sbon. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a mireinio'r camau gweithredu hyn a bydd y cynnig hwn yn esblygu dros y blynyddoedd i ddod. 

Mae rhai o'r camau gweithredu hyn ar gael nawr, bydd rhai ar gael ychydig yn ddiweddarach, ond rwyf am i holl ffermwyr Cymru feddwl am sut y gallwch wneud y gorau o'r cymorth sydd ar gael.

Mae'r cynnig hwn yn adeiladu ar y berthynas newydd y mae'r SFS yn ei chynrychioli rhwng ffermwyr a phobl Cymru. Mae'n arddangos ein hymrwymiad i gefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd Cymreig o safon ar ran y genedl, ac i ddarparu manteision ychwanegol i'n cefn gwlad. 

Huw Irranca-Davies AS
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Crynodeb gweithredol

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o Haenau Opsiynol a Chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi syniad i chi o ba gyfleoedd fydd ar gael yn ddiweddarach yn 2026 ac yn 2027 i’ch helpu gyda gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol ac i roi gwybod i chi pa weithredoedd i gadw llygad amdanynt. 

Nid yw’r ddogfen hon yn cynnwys manylebau technegol na chyfraddau talu pob Gweithred Opsiynol. Bydd y manylion hynny ar gael cyn i bob Gweithred Opsiynol fod ar agor ar gyfer ceisiadau.

Ym Mhennod 1, rydym yn crynhoi strwythur y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a’r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy y mae’r Cynllun wedi’i gynllunio i gyflawni yn eu herbyn. Rydym yn esbonio ein dull graddol o gyflwyno’r Haenau Opsiynol a Chydweithredol, a bod rhywfaint o gymorth parhaus yn seiliedig ar gynlluniau rydych eisoes yn gyfarwydd â nhw o bosibl. 

Ym Mhennod 2, rydym yn esbonio strwythur Haen Opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy’n cynnwys nifer o gategorïau.

Yna, disgrifir y categorïau hyn gan gynnwys y math o weithredoedd unigol a fydd ar gael o dan bob un, y math o daliad sydd ar gael – h.y. cyfalaf neu seiliedig ar arwynebedd (ond nid cyfraddau talu eto), ac a yw’r gweithredoedd hynny ar gael i ffermwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn unig.

Bydd y sefyllfa hon yn esblygu a gall categorïau pellach ac eitemau unigol gael eu cyflwyno dros y tymor hwy.

Ym Mhennod 3, rydym yn amlinellu Haen Gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae’r Haen Gydweithredol yn barhad o gynlluniau presennol yn bennaf, felly rydym wedi darparu crynodeb o’r rhain a dolenni i ragor o fanylion. 

Ym Mhennod 4, rydym yn darparu disgrifiad lefel uchel o’r prosesau gweinyddol a ddefnyddir i reoli’r Haen Opsiynol. Mae hyn yn cynnwys y broses ymgeisio, sgorio ceisiadau a gwirio a thalu Gweithredoedd Opsiynol. Bydd canllawiau cynllun technegol yn cael eu llunio cyn i geisiadau fod ar gael ar RPW Ar-lein. 

Nid yw’r bennod hon yn cynnwys cyfeiriad at yr Haen Gydweithredol, oherwydd natur wahanol iawn pob Gweithred Gydweithredol. Bydd y manylion hyn yn cael eu cynnwys gyda’r Cynlluniau Cydweithredol wrth iddynt ddod ar gael. 

Rydym wedi cynnwys dau atodiad yn y ddogfen hon: 

  • crynodeb o gymhwystra ar gyfer Gweithred Opsiynol
  • rhestr termau

Pennod 1: cyflwyniad

Gwnaethom gyflwyno Haenau Opsiynol a Chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghynllun Ffermio Cynaliadwy 2026: disgrifiad o’r cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025. Eu nod yw ategu’r Haen Gyffredinol sy’n darparu sylfaen i adeiladu ohoni. 

Bydd Haen Opsiynol y Cynllun yn darparu cyfleoedd i chi ymgymryd â gweithgarwch mwy penodol i wella’r amgylchedd ar eich fferm, a gwydnwch eich busnes fferm. 

Nod yr Haen Gydweithredol yw cefnogi gweithgarwch ar draws tirweddau, rhanbarthau ac yn genedlaethol i gyflawni canlyniadau ar raddfa fwy. Byddwn yn cefnogi gwaith partneriaeth rhwng ffermwyr a chyrff eraill, gweithgarwch cydgysylltiedig ar draws sawl fferm, ac yn darparu cymorth trwy gadwyni cyflenwi. 

Mae’r ddogfen bresennol hon yn rhoi trosolwg o’r cymorth Opsiynol a Chydweithredol rydym yn bwriadu ei ddarparu. Mae’r cymorth hwn wedi’i grwpio mewn cyfres o gategorïau a ddisgrifir ym Mhenodau 2 a 3. 

Yr wybodaeth yn y ddogfen hon yw’r sefyllfa ym mis Mawrth 2026. Mae’r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol a amlinellir yn y ddogfen hon yn dal i gael eu mireinio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, ac ar wahanol amserlenni. 

Bydd canllawiau technegol manwl llawn, gan gynnwys cyfraddau talu a phrosesau ymgeisio, yn cael eu cyhoeddi a’u cyfathrebu trwy Gwlad a gwefan Llywodraeth Cymru wrth i bob categori gael ei gyflwyno. 

Nid ymgynghoriad yw’r ddogfen hon.

Strwythur y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – nodyn atgoffa

Mae tair haen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy:

  • yr Haen Gyffredinol
  • yr Haen Opsiynol 
  • yr Haen Gydweithredol 

Mae’r tair haen hyn i gyd wedi’u hadeiladu ar Linell Sylfaen Reoleiddiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r Cod i Bawb, sy’n cynnwys set o safonau rheoleiddiol a rhai nad ydynt yn rheoleiddiol y mae’n rhaid i chi eu bodloni er mwyn cael cyllid y Cynllun.

Mae’r Haen Gyffredinol yn cynnwys 12 Gweithred Gyffredinol. Bydd angen i chi ymgymryd â’r holl Weithredoedd Cyffredinol sy’n berthnasol i chi a’ch fferm bob blwyddyn er mwyn cael y Taliad Cyffredinol. Fodd bynnag, mae yna rai Gweithredoedd Cyffredinol na fyddant yn berthnasol i bob fferm. 

Mae’r Haen Gyffredinol yn gweithredu ar sail flynyddol dreigl, gyda blwyddyn y cynllun yn dechrau ar y cyntaf o Ionawr bob blwyddyn. Gwneir y cais a’r hawliad ar y Ffurflen y Cais Sengl, a fydd ar gael rhwng mis Mawrth a 15 Mai bob blwyddyn. 

Gallwch ddilyn y dolenni hyn i gael rhagor o wybodaeth am Linell Sylfaen Reoleiddiol y Cynllun Ffermio CynaliadwyHaen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Nod y Cynllun yw cyflawni’r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru), sef:

  • cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy
  • lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd,
  • cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu,
  • cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd

Bydd yr holl gymorth yn gweithredu o dan y Ddeddf. Mae gweithgarwch amaethyddol ac ategol wedi’i ddiffinio yn y Ddeddf ac wedi’i gynnwys yn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun. Mae’r meini prawf cymhwystra fel a ganlyn:

  • eich bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol ar dir amaethyddol
  • bod gennych chi o leiaf dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru neu eich bod yn gallu dangos i chi weithio mwy na 550 awr o lafur safonol
  • bod gennych chi reolaeth lwyr ar y tir am o leiaf 10 mis o’r flwyddyn galendr

Dull graddol o gyflwyno’r Haenau Opsiynol a Chydweithredol 

Rydym wedi datgan o’r blaen ein bwriad i gyflwyno Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol fesul cam, trwy gydol y Cyfnod Pontio hyd at 2029. 

Mae hyn yn caniatáu i’r Gweithredoedd Cyffredinol ennill eu plwyf a, thrwy gyflwyno Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol yn y modd graddol hwn, bydd gennych amser i ystyried y cyllid a gynigir ac i ddeall a yw’n berthnasol ac o ddiddordeb i chi. 

Bydd llawer o Weithredoedd Opsiynol ar gael o’r haf hwn ymlaen, ar ôl i Ffurflen y Cais Sengl gau, unwaith y byddwn yn gwybod pa fusnesau fferm sydd wedi cofrestru ar gyfer yr Haen Gyffredinol. 

Pwrpas y ddogfen hon, felly, yw rhoi trosolwg i chi o’r hyn fydd ar gael, fel eich bod yn gwybod pa weithredoedd i gadw llygad amdanynt.

Trosolwg o daliadau a’r gyllideb

Bydd taliadau am Weithredoedd Opsiynol neu Gydweithredol yn ychwanegol at y Taliad Cyffredinol a gallant gynnwys: 

  • taliadau refeniw untro, er enghraifft, ar gyfer creu cynlluniau
  • taliadau refeniw amlflwyddyn, yn cynnwys taliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd, er enghraifft, am reoli ardaloedd cynefin yn well
  • taliadau cyfalaf, er enghraifft, ar gyfer cyfarpar ar raddfa fach, neu fuddsoddiadau ar raddfa fwy mewn seilwaith

Gan fod y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol hyn yn cael eu cyflwyno’n raddol, bydd ceisiadau yn 2026 yn arwain, yn bennaf, at dalu hawliadau yn 2027.

Parhau â rhai gweithredoedd cyfarwydd, a chyflwyno rhai gweithredoedd newydd

Yn y cam cyntaf hwn, mae’r Haenau Opsiynol a Chydweithredol yn seiliedig ar gymorth rydym ni eisoes yn ei ddarparu neu wedi’i ddarparu o’r blaen. 

Er enghraifft, i’r ffermwyr hynny sy’n cyflenwi’r farchnad organig, mae ein cymorth cynnal ffermio organig wedi’i adeiladu ar y cymorth rydych chi’n gyfarwydd ag ef. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cyllid cyfalaf tebyg i gynlluniau grantiau bach blaenorol. 

Credwn ei bod yn bwysig parhau i gefnogi rhai gweithgareddau y mae’r diwydiant eisoes yn gyfarwydd â nhw, er y gall rhywfaint o’r derminoleg a rhai prosesau ymgeisio newid. 

Cymorth sydd ar gael i ffermwyr y tu mewn a’r tu allan i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy 

Rydym ni ar ddechrau’r Cyfnod Pontio lle bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn disodli Cynllun y Taliad Sylfaenol – dyma fydd y prif fecanwaith cymorth ar gyfer ffermio yng Nghymru. 

Nod yr Haenau Opsiynol a Chydweithredol yw adeiladu ar sylfeini’r Haen Gyffredinol. Fodd bynnag, wrth i ni amlinellu pob categori yn y llyfryn hwn, byddwn yn tynnu sylw at ble rydym ni’n bwriadu cyfyngu mynediad at rai gweithredoedd i ffermwyr sy’n cymryd rhan yn yr Haen Gyffredinol yn unig, tra bydd rhai gweithredoedd yn parhau i fod ar gael i bawb. Mae crynodeb wedi’i gynnwys yn Atodiad 1. 

Credwn ei bod yn bwysig darparu cyfleoedd cymorth i bob fferm a pharhau i ddarparu cymorth sy’n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau a’n hymrwymiadau. Fodd bynnag, rydym ni’n bwriadu blaenoriaethu busnesau fferm sy’n cymryd rhan yn Haen Gyffredinol y Cynllun, fel rhan o’r broses ymgeisio. 

Nid yw hon yn sefyllfa barhaol. Byddwn yn monitro ar ba gyfradd mae ffermydd yn pontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a’r galw yn erbyn y gyllideb sydd ar gael. 

Yn ogystal â Haenau Opsiynol a Chydweithredol y Cynllun, yn y tymor byr, bydd y cynllun Dechrau Busnes Garddwriaeth a’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn cael eu cynnal.

Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid

Rydym ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth ag ystod o randdeiliaid, i sicrhau ein bod yn ymgorffori ystod eang o safbwyntiau ac arbenigedd i’n helpu i ddylunio a chyflawni’r Haenau Opsiynol a Chydweithredol.      

Pennod 2: Haen Opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Categorïau cymorth

Amlinellodd Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2026: disgrifiad o’r cynllun nifer o themâu opsiynol i’w cyflwyno yn 2026. Roedd y rhain yn cynnwys, er enghraifft, ffocws ar fioddiogelwch a chynhyrchu cynaliadwy, rheoli cynefinoedd a choetiroedd yn well, gwell iechyd pridd a gwelliannau i ansawdd aer a dŵr.

Er mwyn ein galluogi i gyflawni’r Gweithredoedd Opsiynol yn effeithlon, yn enwedig lle maen nhw’n cyfrannu at fwy nag un canlyniad, a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei symleiddio i chi, byddwn yn cyflwyno’r gweithgareddau thematig hyn trwy’r categorïau canlynol. Fe’u hamlinellir yn fanylach yn y bennod hon: 

Cyfalaf: cynhyrchu ac effeithlonrwydd

Nodau a chefndir

O dan y categori hwn, mae cyllid grant cyfalaf ar gael ar gyfer offer i alluogi rheoli priddoedd a thail yn fanwl, a monitro perfformiad cnydau neu dda byw. Bydd hyn, yn ei dro, yn bodloni ystod o flaenoriaethau, gan gynnwys hyrwyddo safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid, a gwella ansawdd dŵr ac aer. 

Mae’r eitemau hyn o fudd i gynhyrchiant trwy dargedu’r defnydd o fewnbynnau, lleihau’r risg o glefydau a galluogi trin da byw yn fwy diogel, sy’n gwella lles anifeiliaid a diogelwch ffermwyr. Mae targedu’r defnydd o fewnbynnau, ac anifeiliaid iachach, o fudd i ansawdd aer a dŵr ac yn lleihau allyriadau carbon. 

Nod yr eitemau hyn yw eich helpu i adeiladu ar y Gweithredoedd Cyffredinol, trwy ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod UA1 Profion pridd, UA2 Rheoli Plaladdwyr yn Integredig, ac UA12 Iechyd a lles anifeiliaid. 

Mae’r cymorth hwn yn debyg i’n Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd blaenorol.

Cymhwystra

Bydd y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Mae enghreifftiau’n cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • offer trin anifeiliaid, gan gynnwys systemau trin sefydlog neu symudol, craetsys gwartheg, gât i ddal buwch sy’n bwrw llo neu sgwpiau pen
  • systemau adnabod a phwyso, gan gynnwys cloriannau pwyso electronig, dyfeisiau llaw neu banel ar gyfer EID
  • offer chwistrellu/gwasgaru manwl, gan gynnwys offer rheoli cyfraddau amrywiol ar gyfer chwistrellwyr a gwasgarwyr gwrtaith, hau â dril, ‘weed wiper’ neu offer rheoli slyri
  • eitemau bioddiogelwch, gan gynnwys biniau bwyd anifeiliaid neu gafnau bwyd sy’n atal moch daear
  • offer rheoli pridd, gan gynnwys erydr isbridd ac erydr awyru.
  • offer storio a phrosesu grawn, gan gynnwys mesuryddion lleithder, synwyryddion tymheredd grawn neu rowleri cnydau
  • offer rheoli dŵr, gan gynnwys offer casglu a hidlo dŵr uwchben neu o dan y ddaear, tyllau turio neu fowserau (gyda chafnau integredig) 
  • offer cyfrifiadurol, meddalwedd neu synwyryddion (gan gynnwys GPS, gorsafoedd tywydd digidol, synwyryddion carbon deuocsid neu amonia)

Bydd y rhestr o eitemau cymwys yn cael ei hadolygu a’i datblygu dros amser.

Taliadau

Byddwn yn darparu cymorth o rhwng £500 a £15,000. 

Bydd yr holl eitemau cymwys o fanyleb safonol, ar gyfer taliad safonol sy’n 40% o gyfanswm y costau cymwys (ac eithrio TAW). Mae’r offer a gefnogir o dan y categori hwn ar gael yn eang trwy ystod o weithgynhyrchwyr a chyflenwyr.

Byddwch yn gallu cyflwyno ceisiadau sy’n dod i gyfanswm o fwy na £15,000, ond bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru wedi’i gapio ar £15,000 neu 40% o gyfanswm y costau cymwys (pa un bynnag yw’r lleiaf).

Cyngor a chymorth

Gall offeryn meincnodi Cyswllt Ffermio FARMDATA+ eich helpu i olrhain Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) i nodi meysydd i roi sylw iddynt.

Gall offer ar-lein gan Cyswllt Ffermio ar Wella Ansawdd AerLleihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr eich tywys trwy senario nodweddiadol ar y fferm sy’n tynnu sylw at y gwahanol ‘fannau problemus’ a pha gymorth sydd ar gael i liniaru pob un. 

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • trosolwg o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maethynnau a gwastraff
  • lleihau allyriadau a gwella atafaelu ar y fferm
  • lleihau allyriadau amonia  
  • lleihau’r risg o lygredd gwasgaredig
  • defnydd effeithlon o ddŵr (gan gynnwys casglu a storio)

Cyfalaf: yr amgylchedd

Nodau a chefndir

O dan y categori hwn, mae grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer gweithredoedd a ddyluniwyd i fod o fudd i fywyd gwyllt, cloi carbon a helpu i reoli ansawdd a llif dŵr, yn ogystal â bod o fudd i’ch fferm trwy ddarparu ffiniau diogel neu gysgod. 

Gall y gweithredoedd hyn eich helpu i gyflawni rhywfaint o’r plannu rydych chi wedi’i nodi o dan UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd.

Mae’r ystod o weithredoedd sydd ar gael o dan y categori hwn yn debyg i’r hyn a oedd ar gael yn ein cynllun Grantiau Bach - Yr Amgylchedd blaenorol. 

Cymhwystra

Bydd y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Mae hyn yn cynnwys ystod o ‘brif’ weithredoedd. Er mwyn cefnogi’r rhain, efallai y bydd rhai eitemau ‘cefnogol’ gorfodol a gwirfoddol ar gael hefyd, ond ni fydd eitemau ategol ar gael ar eu pennau eu hunain. 

Mae enghreifftiau o brif weithredoedd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • gwrychoedd – plannu, bondocio a chau bylchau, neu blygu gwrychoedd
  • ffiniau caeau traddodiadol - adfer nodweddion gan gynnwys waliau cerrig sych, cloddiau pridd, a chrawiau 
  • draenio, a gwahanu dŵr glân a dŵr budr (draeniau croes, gosod cwrbin, cafnau a pheipiau glaw a phibellau dŵr)
  • plannu coed ar raddfa fach - mathau traddodiadol o goed ffrwythau perllan, plannu sbesimenau mewn tir parc, plannu llafnau mewn cynefinoedd ucheldir, a phlannu caeau ar raddfa fach
  • adfer nodweddion dŵr - adfer pyllau a pheirianneg feddal ar lannau afonydd i atal gormod o erydu

Mae eitemau ategol ar gael yn dibynnu ar y prif weithredoedd sy’n cael eu gwneud. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o ffensys, gatiau, llewys coed a chafnau dŵr a phibellau dŵr.

Taliadau

Byddwn yn darparu cymorth o rhwng £500 ac £20,000. 

Bydd yr holl eitemau cymwys o fanyleb safonol. Bydd pob gweithred yn cael ei hariannu ar gyfradd dalu safonol. 

Gallwch gyflwyno ceisiadau sy’n dod i gyfanswm o fwy nag £20,000, ond bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru wedi’i gapio ar £20,000. 

Plannu coed a chysylltiadau ag UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd

O dan UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd, mae’n ofynnol i chi nodi lle y gellir integreiddio plannu coed newydd neu greu gwrychoedd ar y fferm. 

Mae’n ofynnol i chi hefyd blannu o leiaf 0.1 hectar o goed newydd neu 250 o goed unigol erbyn diwedd 2028.

Gall unrhyw waith creu neu adfer gwrychoedd sydd wedi’i gynnwys yn eich cynllun gael ei ariannu gan y Gweithredoedd Opsiynol hyn. 

Gall y gwaith plannu ar raddfa fach (ac eithrio coed perllan) a choed unigol newydd sydd wedi’u cynnwys fel rhan o wrychoedd newydd gyfrif tuag at y 250 o goed.

Ar gyfer plannu coed ar raddfa fwy, gweler creu coetiroedd.

Gellir cynnwys y gwaith cyfalaf yn y categori hwn mewn cynlluniau penodol i safle hefyd os ydych chi wedi gofyn am Adolygiad o Gynefinoedd i ymgymryd â gwaith rheoli cynefinoedd yn well, neu o fewn Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig os yw eich fferm yn cynnwys safle dynodedig megis Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Cyngor a chymorth

Gall Cyswllt Ffermio ddarparu hyfforddiant â chymhorthdal (hyd at 80%) ar gyfer tasgau ymarferol megis codi/atgyweirio waliau cerrig sych a rheoli gwrychoedd. 

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • y cylch rheoli gwrychoedd
  • rôl coed

Cynhyrchu cynaliadwy

Nodau a chefndir

Nod y Weithred Opsiynol Cynhyrchu Cynaliadwy yw cymell y sector da byw i fabwysiadu arferion i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. 

Mae’r categori hwn yn ddull cymorth newydd sbon ac mae’r wybodaeth isod yn rhoi trosolwg. Mae angen ei ddatblygu ymhellach i sicrhau ei fod yn bodloni ein huchelgeisiau. 

Cymhwystra

Dim ond os ydych chi yn Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y mae’r Gweithredoedd Opsiynol hyn ar gael. 

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Bydd y cymorth cychwynnol yn canolbwyntio ar y canlynol: 

  • lleihau oedran lladd gwartheg eidion, a 
  • cofrestru teirw

Lleihau oedran lladd gwartheg eidion

Os byddwch yn gwneud cais am y weithred hon, bydd angen cyfrifiad o oedran cyfartalog gwartheg eidion glân (dros 12 mis ac o dan 36 mis) a anfonwyd i’w lladd mewn blwyddyn galendr. Rydym ni’n ystyried y ffordd orau o gyflawni’r cyfrifiad hwn. Dyma fydd llinell sylfaen y fferm. 

Byddai angen i chi ddangos gostyngiad yn yr oedran lladd o 14 diwrnod y flwyddyn o gymharu â llinell sylfaen y fferm i gael taliad cymorth.

Mantais y dull hwn yw bod ganddo’r potensial i ddylanwadu ar bob cynhyrchydd cig eidion, o’r rhai sydd â bridiau cyfandirol i’r rhai sydd â bridiau brodorol sy’n aeddfedu’n arafach. Mae’r dull hwn yn golygu y byddai pob ffermwr sy’n creu newid cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn gymwys i gael taliad.

Rhaid i’r anifail fod yn addas i’w fwyta gan bobl, cael ei ladd mewn lladd-dy cymeradwy a pheidio â bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth rheoli clefydau.

Byddai’n rhaid i chi gadw at y gofyniad cyfnod cadw cyn lladd yr anifail, gan gynnwys o leiaf 100 diwrnod ar y fferm cyn ei ladd, gyda byffer o saith diwrnod i ganiatáu symudiadau trwy farchnad da byw. 

Nid oes un dull penodol y gofynnir i chi ei ddefnyddio i leihau’r oedran lladd. Bydd angen i chi ystyried ble y gallwch wneud gwelliannau i faeth, rheoli glaswelltir, geneteg a gwelliannau i iechyd a lles anifeiliaid. 

Bydd angen i chi fesur y Dangosyddion Perfformiad Allweddol trwy gwblhau naill ai ‘Defnydd o ddwysfwyd kg/y pen - pesgi gwartheg bîff’ neu ‘Enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) - Pesgi Gwartheg Bîff’ o dan UA3 Meincnodi. 

Rydym ni’n bwriadu gwirio’r weithred hon trwy olrhain symudiadau gwartheg, yn hytrach na thrwy archwiliad ar y fferm. 

Taliadau

Mae dwy ran i’r taliad:

  • taliadau cymorth a delir ar anifeiliaid a anfonir i’w lladd lle mae’r oedran lladd yn cael ei leihau 14 diwrnod o gymharu â llinell sylfaen y fferm
  • taliadau cynhaliaeth a delir ar anifeiliaid lle mae’r oedran pesgi i ladd yn llai na 22 mis

Mae’r ddau daliad ar gael lle gellir dangos y ddau faen prawf. 

Efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael trwy Cyfalaf – cynhyrchiant ac effeithlonrwydd megis cyfleusterau trin ac offer pwyso.  

Bydd manylion technegol llawnach ar gael cyn gwneud cais. 

Cofrestru teirw

O dan y rheoliadau Adnabod Gwartheg presennol, mae cofnodi tag clust y tarw (tad) yn wirfoddol. Mae’r weithred hon yn gymhelliant i gofnodi’r tarw wrth gofrestru lloi. 

Mae cofrestru teirw yn gam pwysig wrth helpu i gysylltu Gwerthoedd Bridio Amcangyfrifedig (EBVs) â nodweddion a all helpu penderfyniadau rheoli, gan ganiatáu gwell cynhyrchiant a chynorthwyo i liniaru nwyon tŷ gwydr. 

Trwy gofnodi’r tarw wrth gofrestru lloi, gellir casglu data am epil y tarw hwnnw y gellir ei ddefnyddio wedyn i ddarparu data ychwanegol am berfformiad y tarw a helpu gyda phenderfyniadau yn y dyfodol a allai effeithio ar gynhyrchiant.

Offeryn allweddol wrth sbarduno gwelliannau yn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol hyn yw deall potensial genetig y stoc, trwy ddeall geneteg y tarw a’r fuwch. Felly, mae cofrestru’r tarw yn gam allweddol o ran: 

  • gallu olrhain geneteg tarw mewn epil i ddeall ei botensial; a 
  • datblygu EBVs mwy cadarn i gefnogi dewis tarw ar sail gwybodaeth

Bydd cynyddu lefel cofrestru teirw yn cynyddu argaeledd, cywirdeb a pherthnasedd yr EBVs y gellir eu cyfrifo ar gyfer y fuches eidion a’r fuches odro. Lle mae teirw wedi’u cofrestru, mae gan hyn y potensial i gyflwyno ystod o fanteision:

  • gwell gallu i ddewis teirw i gyflawni nodweddion cynhyrchiant a fydd naill ai’n gwella cynhyrchiant eu hepil neu’n cynyddu effeithlonrwydd eu lloi benyw fel mamau yn y dyfodol
  • gwella’r gallu i olrhain nodweddion genetig mewn anifeiliaid a brynir fel gwartheg stôr neu wartheg i’w pesgi i wella effeithlonrwydd cyffredinol systemau cynhyrchu cig eidion a llaeth
  • gwella’r gallu i olrhain nodweddion genetig i ganiatáu i fridwyr ddewis yr heffrod gorau i wella effeithlonrwydd cyffredinol eu rhaglenni bridio

Taliadau

Bydd taliad ar gael ar gyfer lloi sydd wedi’u cofrestru sy’n cynnwys cofrestriad y tarw (naill ai rhif tag swyddogol y DU neu god Ffrwythloni Artiffisial (AI). 

Cyngor a chymorth

Gall offeryn meincnodi FARMDATA+ Cyswllt Ffermio eich helpu i olrhain Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) i nodi meysydd ar gyfer twf.

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • meincnodi a chynllunio busnes
  • rheoli glaswelltir (gan gynnwys porfeydd amlrywogaeth a phori cymysg)
  • y cylch gwella iechyd anifeiliaid
  • gwelliant genetig mewn da byw
  • lles anifeiliaid

Ffermio organig

Nodau a chefndir

Nod y categori hwn yw cefnogi ffermwyr sy’n cyflenwi’r farchnad organig a’r ystod o fanteision amgylcheddol a ddarperir gan reolaeth organig gyfannol. 

Nid oes unrhyw ddibyniaeth benodol ar unrhyw un o Weithredoedd Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy na chysylltiad penodol ag unrhyw un ohonynt.

Cymhwystra

Bydd y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Os ydych chi wedi cael cyllid blaenorol ar gyfer troi i ffermio organig ar dir lle mae ardystiad organig wedi dod i ben ers hynny, efallai na fyddwch yn gymwys i gael taliadau ailgyfeirio. 

Cymorth ffermio organig

Rydym ni wedi cyhoeddi manylion ein cymorth i gynnal busnesau ffermydd organig yn 2026, gan gynnwys cymhwystra, cyfraddau talu a disgrifiadau o fathau o dir Cynnal tir o dan dystysgrif organig 2026. Mae canllawiau llawn y cynllun wedi’u cyhoeddi yn llyfryn rheolau Ffurflen y Cais Sengl 2026.

Bydd cymorth ffermio organig ar gael ar barseli tir cyfan sydd wedi’u hardystio’n barhaus gyda Chorff Rheoli Organig (OCB) cydnabyddedig am gyfnod cyfan blwyddyn galendr 2026.

Troi’n organig

Bydd cymorth i droi’n organig yn gytundeb pum mlynedd. Rhaid i bob tir a nodir gael ei ardystio’n barhaus gydag OCB am y cyfnod pum mlynedd o 1 Ionawr 2027.

Byddwn yn talu taliadau troi’n organig am y ddwy flynedd gyntaf, cyn belled â bod troi’n organig ar y parseli tir penodol wedi dechrau ar ôl i’r cynllun troi’n organig gael ei gynnig, a chyn 1 Ionawr 2027. 

Byddwch yn gallu gwneud cais am daliadau cymorth ffermio organig o’r drydedd flwyddyn ymlaen.

Bydd troi’n organig ar gael ar barseli tir cyfan yn unig, ond nid oes angen i chi gofrestru eich daliad cyfan ar gyfer troi’n organig. 

Gall cynhyrchwyr organig presennol wneud cais ar dir nad yw wedi’i ardystio fel tir organig ar hyn o bryd neu nad yw’n troi’n organig ar hyn o bryd. 

Bydd y cynllun hwn yn debyg i’r cynllun cymorth troi’n organig a oedd ar gael yn flaenorol. 

Cyngor a chymorth

Gall Cyswllt Ffermio ddarparu hyfforddiant â chymhorthdal (hyd at 80%) ar bynciau sy’n berthnasol i gynhyrchu organig. 

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • lleihau mewnbynnau allanol i sicrhau cymaint o elw â phosibl ac er budd yr amgylchedd
  • trosi i ffermio organig neu adfywiol
  • iechyd pridd

Dylech gysylltu â’r OCBs i gael gwybodaeth fwy cynhwysfawr am droi’n organig a chynnal ffermio organig. 

Rheoli a chreu cynefinoedd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rheoli neu greu cynefinoedd y tu hwnt i ofynion y Gweithredoedd Cyffredinol, mae yna wahanol gyfleoedd i chi eu hystyried.

Mae’r rhan fwyaf o’r Gweithredoedd Opsiynol a amlinellir mewn mannau eraill yn y ddogfen hon ar gael i chi eu dewis yn annibynnol. Fodd bynnag, mae natur hirdymor rheoli a chreu cynefinoedd yn gofyn am ystyriaeth ddyfnach i sicrhau bod gweithredoedd yn briodol ar gyfer amodau pridd, lefelau trwythiad, rhywogaethau â blaenoriaeth a thirweddau ehangach yn lleol. Rhaid i ni hefyd sicrhau eu bod yn briodol ac yn fuddiol i’ch fferm, felly bydd angen i ni hefyd ystyried eich blaenoriaethau a’ch arferion rheoli presennol eich hun. 

Felly, bydd y rhan fwyaf o’r Gweithredoedd Opsiynol sy’n gysylltiedig â chynefin yn gofyn am rywfaint o waith partneriaeth rhyngoch chi a swyddog cymorth maes. Bydd hyn yn helpu i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael, ac i osgoi canlyniadau anfwriadol. Rydym yn ymdrechu i gadw’r prosesau hyn mor effeithlon â phosibl, a byddwn yn eu hadolygu wrth i ffermwyr ddechrau dewis y gweithredoedd hyn.

Mae rheoli cynefinoedd mewn ffyrdd wedi’u targedu yn darparu nifer o fanteision i natur, o ddarparu ffynonellau bwyd i bryfed peillio, cysgod ac ardaloedd bridio ar gyfer adar tir fferm a, thrwy gysylltu ardaloedd ynysig o gynefinoedd, gallwn alluogi planhigion ac anifeiliaid llai symudol i symud o gwmpas cefn gwlad. 

Gall cynefinoedd mwy amrywiol hefyd ddarparu porthiant mwy amrywiol ar gyfer da byw, cloi mwy o garbon a helpu i leihau’r risg llifogydd. 

Pa broses sydd angen i chi ei dilyn?

Os oes gennych chi safle dynodedig, megis Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar eich fferm, mae’n ofynnol i chi gwblhau Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig (DSMP) gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o’r Gweithredoedd Cyffredinol. Gweler Safleoedd Dynodedig isod. Gwiriwch eich map Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar RPW Ar-lein os nad ydych chi’n siŵr a oes gennych chi SoDdGA ar eich fferm.

Os hoffech chi ymgymryd â gwaith rheoli cynefinoedd yn well neu greu cynefinoedd parhaol ac nad oes gennych chi SoDdGA ar eich fferm, gweler Adolygiad o Gynefinoedd isod. 

Mae’r ddwy broses hyn yn debyg – yr unig wahaniaeth yw a ydych chi’n gweithio’n bennaf gyda CNC neu Lywodraeth Cymru. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu cynefinoedd dros dro yn unig, gweler Cynefinoedd dros dro am weithredoedd y gallwch chi eu dewis heb weithio gyda swyddog cymorth maes. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymorth ar gyfer gwaith cyfalaf megis creu gwrychoedd, gweler Cyfalaf – yr amgylchedd

Cymhwystra

Dim ond os ydych chi yn Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y mae’r Gweithredoedd Opsiynol hyn i reoli cynefinoedd yn well a chreu cynefinoedd newydd parhaol ar gael. 

Safleoedd dynodedig

Os oes gennych chi safle dynodedig megis SoDdGA ar eich fferm, o dan UA7 Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig, mae’n ofynnol i chi weithio mewn partneriaeth â CNC i ddatblygu Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig (DSMP). Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r DSMP hwn yw diwedd 2030 i gydnabod yr amser y bydd yn ei gymryd i CNC weithio gyda’r holl ffermwyr perthnasol ledled Cymru. 

Bydd CNC yn cysylltu â chi maes o law i gychwyn y broses. Bydd ymweliadau yn cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar set o feini prawf a ddyluniwyd i gynyddu’r manteision yn ein rhwydwaith safleoedd dynodedig, a nifer y ffermydd sy’n cofrestru ar gyfer y Cynllun yn 2026. 

Yn ystod y broses hon, bydd CNC yn gallu trafod gweithredoedd rheoli i wella’r cynefinoedd o fewn ardaloedd dynodedig eich fferm ac, o bosibl, ardal glustogi ychydig yn ehangach hefyd. 

Bydd y DSMP yn cynnwys Rhestr Waith sy’n debygol o gynnwys set o weithredoedd sy’n seiliedig ar arwynebedd, ynghyd â chefnogi gwaith cyfalaf. Bydd y rhain yn cael eu targedu’n benodol ar gyfer y cynefinoedd o fewn ardal ddynodedig eich fferm, gan gydnabod y cyflwr maen nhw ynddo ar hyn o bryd, a chyfleoedd i’w gwella. 

Fel rhan o’r broses hon, bydd CNC yn prosesu unrhyw gydsyniadau perthnasol y mae’n gyfrifol amdanynt i symleiddio’r broses er mwyn i chi allu gwneud cais am y cyllid i weithredu’r Rhestr Waith.

Noder: rydym wedi ysgrifennu at fusnesau fferm sydd wedi rheoli safleoedd dynodedig yn Glastir a thrwy Gynllun Cynefin Cymru yn 2024 a 2025. Byddwn yn gweithio gyda nhw i barhau â’r trefniadau presennol o bosibl trwy’r categori Opsiynol hwn. 

Adolygiad o gynefinoedd

Ar gyfer cynefinoedd nad ydynt wedi’u dynodi’n SoDdGA lle rydych yn dymuno rheoli cynefinoedd yn well neu greu cynefin parhaol newydd, byddwch yn gallu gofyn am Adolygiad o Gynefinoedd trwy eich dangosfwrdd Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd y broses ganlynol yn debyg i’r hyn a ddisgrifir uchod ar gyfer safleoedd dynodedig.

Bydd swyddog cymorth maes yn cysylltu â chi. Bydd ymweliadau yn cael eu blaenoriaethu yn dibynnu ar y math o gynefinoedd sy’n bresennol ar eich fferm a nifer y ffermydd sy’n cofrestru ar gyfer y Cynllun yn 2026.

Bydd swyddog cymorth maes yn gallu adolygu eich data wedi’i fapio, yna ymweld â’ch fferm i wirio ac asesu cyflwr eich cynefinoedd presennol a thrafod eich arferion rheoli presennol gyda chi. 

Gan weithio mewn partneriaeth â chi, bydd eich swyddog cymorth maes yn datblygu cynllun rheoli pum mlynedd penodol i’ch fferm sy’n cynnwys Rhestr Waith. Bydd y Rhestr Waith hon yn cynnwys set o weithredoedd cynefin ac, o bosibl, rhywfaint o waith cyfalaf ategol sy’n berthnasol i’r cynefinoedd ar eich fferm, a’r cyfleoedd i’w gwella. Yna gallwch wneud cais am y cyllid i weithredu’r Rhestr Waith. 

Bydd hon yn broses gyfarwydd i ffermwyr sydd wedi cymryd rhan yn Tir Gofal neu Glastir Uwch o’r blaen.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

P’un a ydych chi wedi gweithio gyda CNC ar safle dynodedig, neu gyda Llywodraeth Cymru ar safle nad yw’n ddynodedig, bydd cynnwys a strwythur y cynllun rheoli yn debyg.

Mae yna lawer o wahanol weithredoedd rheoli cynefinoedd i’w hystyried yn dibynnu ar natur eich tir. Nod y gweithredoedd rheoli cynefinoedd yn well sydd ar gael yma yw ategu UA5 Cynnal cynefinoedd. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y Gweithredoedd Opsiynol hyn yn darparu gwerth, rhaid iddynt ddangos ychwanegedd y tu hwnt i’r Gweithredoedd Cyffredinol. Gallai hyn olygu patrymau pori wedi’u targedu’n well neu ddyddiadau mwy penodol ar gyfer gweithgareddau megis torri gwair. 

Ein huchelgais yw creu dull wedi’i deilwra i ofynion y cynefin ar eich tir. Er enghraifft, os yw ardal benodol o gynefin wedi cael ei gorbori neu ei thanbori yn hanesyddol, byddwn yn gweithio gyda chi i greu rhaglen bori benodol er budd y cynefin, a allai esblygu dros amser. Bwriad y dull hwn yw cyflwyno mwy o hyblygrwydd i’r hyn a allai fod wedi’i fabwysiadu mewn cynlluniau blaenorol. 

Bydd gan bob math o gynefin fanyleb dechnegol safonol, gydag unrhyw addasiadau penodol ar gyfer y patrwm pori sy’n ofynnol ar eich fferm yn cael eu hychwanegu os ydynt yn berthnasol. Nodir y manylion hyn yn glir cyn i chi gytuno i unrhyw waith rheoli neu greu cynefinoedd a amlinellir yn y Rhestr Waith. 

Gellir grwpio’r gweithredoedd rheoli cynefinoedd yn well yn fras fel a ganlyn: 

  • cynefinoedd glaswelltir a rhostir – opsiynau tir pori a gweirgloddiau yn yr iseldiroedd a’r ucheldiroedd
  • ardaloedd arfordirol, gan gynnwys morfeydd heli, twyni tywod a glaswelltiroedd arfordirol
  • cynefinoedd coediog megis tir parc, perllannau, coed pori a phrysgwydd
  • cynefinoedd gwlyptir megis corsydd, gwelyau cyrs, ffeniau, dolydd gorlifdir, coridorau afon a glaswelltiroedd gwlyb sy’n bwysig ar gyfer adar hirgoes

Yn ogystal â’r prif weithredoedd rheoli cynefinoedd hyn, efallai y bydd rhai gweithredoedd ychwanegol ar gael i fynd i’r afael ag anghenion penodol eich fferm, yn dibynnu ar gyflwr y cynefin a’r hyn rydym ni’n ceisio ei gyflawni. Gallai’r gweithredoedd ategol hyn gynnwys:

  • pori gyda da byw trwm neu fridiau brodorol sydd mewn perygl
  • codi lefelau dŵr i ailhydradu mawndiroedd sydd wedi’u difrodi a chynefinoedd eraill
  • defnydd cyfyngedig o afermectinau (er budd infertebratau tail, a all fod yn ffynhonnell fwyd hanfodol i adar megis y frân goesgoch)

Efallai y bydd rhywfaint o waith cyfalaf sy’n gysylltiedig â chynefinoedd ar gael hefyd. Gallai gynnwys:

  • ffensys, darpariaeth dŵr a seilwaith pori arall i alluogi patrymau pori wedi’u targedu’n well
  • rheoli llystyfiant trech megis rhedyn neu laswellt y gweunydd
  • rheoli rhywogaethau estron goresgynnol (INNS)
  • rheoli rhwystrau tân
  • byndiau neu gau ffosydd i adfer gwlyptiroedd sydd wedi’u difrodi, gan gynnwys mawndiroedd

Yn dibynnu ar anghenion unrhyw gynefin penodol, gellid pentyrru’r gweithredoedd rheoli, y gweithredoedd ategol a’r gwaith cyfalaf, gyda chyfuniad o daliadau arwynebedd a chyfalaf ar gael yn yr un lleoliad. Byddai’r taliadau hyn yn ychwanegol at y taliadau UA5: Cynnal cynefinoedd sydd ar gael o dan yr Haen Gyffredinol. 

Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i greu cynefinoedd parhaol newydd i adfer ardaloedd cynefin sydd wedi’u colli neu eu newid, ac i gysylltu ardaloedd ynysig o gynefinoedd presennol. Gallai opsiynau creu cynefinoedd parhaol gynnwys:

  • creu gwlyptiroedd newydd, megis gwelyau cyrs neu byllau
  • plannu coed pori newydd neu berllannau traddodiadol
  • caniatáu i laswelltiroedd wedi’u gwella ddychwelyd i weirgloddiau neu dir pori mwy cyfoethog ei rywogaethau

Efallai y bydd y gweithredoedd ategol a’r gwaith cyfalaf ategol hefyd ar gael ar y cyd â gweithredoedd creu cynefinoedd parhaol. 

Dylech fod yn ymwybodol bod rhaid cadw unrhyw gynefinoedd lled-naturiol presennol, neu unrhyw ardaloedd o gynefin parhaol newydd rydych chi’n eu creu, fel cynefin sy’n ddarostyngedig i reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol.

Gall cynefin parhaol sydd newydd ei greu erbyn 31 Rhagfyr gyfrif tuag at y gofyniad bod 10% o’ch fferm yn gynefin yn y flwyddyn ganlynol. Efallai y bydd hefyd yn gymwys ar gyfer taliadau UA5: Cynnal cynefinoedd o dan yr Haen Gyffredinol, os nad oes taliadau refeniw cysylltiedig hirdymor yn gysylltiedig ag ef o dan yr Haen Opsiynol.

Cyngor a chymorth

Bydd y modiwl e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gall eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn ochr yn ochr â gweithio gyda CNC neu swyddog cymorth maes:

  • diogelu a gwella ecosystemau fferm
  • rheoli mawndir
  • rheoli llifogydd yn naturiol
  • manteision defnyddio bridiau prin a brodorol
  • adnabod cynefinoedd
  • creu cynefin lled-naturiol: opsiynau yn y cae
  • rheoli cynefinoedd  
  • ffermio mewn safleoedd gwarchodedig

Cynefinoedd dros dro

Nodau a chefndir

O dan y categori hwn, byddwn yn eich cefnogi i greu ardaloedd o gynefin dros dro newydd ar dir wedi’i wella’n amaethyddol. 

Gall creu cynefinoedd dros dro ar dir sydd wedi’i wella’n amaethyddol gyflwyno manteision i fyd natur, megis darparu ardaloedd twrio am fwyd ar gyfer pryfed peillio ac infertebratau eraill. 

Bydd gan unrhyw ardal newydd o gynefin dros dro werth i fywyd gwyllt, ond mae’r cynefinoedd dros dro newydd hyn yn dod yn fwy gwerthfawr os cânt eu defnyddio i gysylltu ardaloedd eraill o gynefin presennol. 

Gall rhai cynefinoedd dros dro, megis gwyndynnydd cymysg, gyflwyno manteision uniongyrchol ar gyfer cynhyrchu bwyd, trwy adfywio gwyndynnydd hŷn a’u gwneud yn fwy gwydn i amodau tywydd eithafol. 

Mae’r Categori Opsiynol hwn yn deillio o’n cynllun cymorth presennol Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.

Noder: nid yw’n ofynnol i chi weithio gyda’n swyddogion cymorth maes cyn i chi ddewis pa weithredoedd creu cynefinoedd dros dro rydych chi am ymgymryd â nhw. 

Os ydych chi’n hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac na allwch chi fodloni gofynion y cynllun o ran sicrhau bod 10% o’ch fferm yn cael ei gynnal fel cynefin ar hyn o bryd, bydd angen i chi greu cynefin newydd dros dro fel rhan o UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella. Bydd angen i unrhyw gynefin newydd dros dro rydych chi’n ei greu o dan y Weithred Opsiynol hon fod yn ychwanegol at UA6.

Cymhwystra

Bydd y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio. Dim ond i ffermwyr sy’n hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun sydd eisoes wedi bodloni’r trothwy 10% y bydd y categori hwn ar gael.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Mae amrywiaeth o gynefinoedd dros dro ar gael sy’n addas ar gyfer systemau âr, tir pori, ucheldir neu iseldir. Y cynefinoedd dros dro sydd ar gael yw:

  • gwyndynnydd cymysg, gyda neu heb gyfnod caeedig i alluogi blodeuo. 
  • meillion coch neu liwsérn
  • hau cnydau dan indrawn
  • cnwd hadau adar gwyllt
  • ydau heb eu chwistrellu, wedi’u hau yn y gwanwyn 
  • ydau heb eu chwistrellu, wedi’u hau yn y gwanwyn, gyda meillion coch neu wyndynnydd cymysg wedi’u hau oddi tanynt
  • yd a chnwd protein cymysg heb eu chwistrellu
  • gwreiddgnydau neu gnwd porthiant heb eu chwistrellu gydag ymylon caeau heb eu pori
  • talarau o ŷd heb eu cynaeafu, neu ymylon o wyndwn wrth ymyl cnydau âr 
  • sofl a gedwir dros y gaeaf ar ôl cnydau ŷd
  • cnydau gorchudd

Bydd y rhestr hon yn cael ei hadolygu’n gyson a gellir ychwanegu neu ddileu mathau o gynefinoedd dros dro yn y blynyddoedd i ddod. 

Bydd manyleb dechnegol ar gael ar gyfer pob cynefin dros dro (gan gynnwys cymysgeddau hadau, cyfraddau gwasgaru, gofynion trin y tir cyn lleied â phosibl, cyfnodau sefydlu a chadw) cyn y cyfnod ymgeisio. 

Taliadau

Bydd taliadau’n cael eu gwneud fesul hectar o gynefin dros dro sy’n cael ei greu. Yr isafswm arwynebedd cymwys yw un hectar o dir wedi’i wella’n amaethyddol. Gall hyn gynnwys sawl ardal lai o 0.1ha neu fwy. Yr uchafswm cyllid sydd ar gael yw £5000 y flwyddyn. Byddwn yn talu costau safonol ar gyfer pob cynefin dros dro gwahanol sy’n cael ei greu, waeth beth fo costau anfonebau. 

Bydd y taliad fesul hectar yn cefnogi costau sefydlu’r cynefin dros dro. Bydd pob gweithred yn cael ei hariannu ar gyfradd dalu safonol. 

Nid oes cyllid cyfalaf ar gyfer eitemau megis ffensys ar gael o dan y categori hwn.

Cyngor a chymorth

Bydd y modiwl e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gall eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • iechyd pridd
  • diogelu a gwella ecosystemau fferm

Gwybodaeth bwysig arall

Os ydych chi’n hawlio Taliadau Cyffredinol, rhaid i chi fodloni gofyniad Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy bod o leiaf 10% o bob fferm yn gynefin cyn y gellir ariannu unrhyw greu cynefin dros dro ychwanegol gan y Gweithredoedd Opsiynol hyn. 

Dylech fod yn ofalus wrth ystyried pa laswelltir parhaol (a hawlir fel GR2 ar Ffurflen y Cais Sengl) sy’n addas i’w drin i greu cynefin newydd dros dro. Efallai ei fod eisoes yn cynnwys potensial uchel ar gyfer cynefin. Mae dewis tir pori parhaol sy’n iau na 10 oed yn arfer dda i leihau’r risg hon. Fodd bynnag, rhaid defnyddio’r diffiniad o dir wedi’i wella o dan Reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) 2017 (canllawiau) i benderfynu pa dir y gellir ei drin.  

Rheoli coetir

Nodau a chefndir

Bydd y categori rheoli coetir hwn yn adeiladu ar UA9 Cynnal Coetir yn yr Haen Gyffredinol i’ch cefnogi i fynd ati i reoli coetiroedd llydanddail, conifferaidd a chymysg yn weithredol. 

Rhoddir blaenoriaeth i Goedwigoedd Lled-Naturiol Hynafol, Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol a Safleoedd Coetir Hynafol wedi’u Hadfer.

Mae sawl mantais i reoli coetiroedd presennol, gan gynnwys ar gyfer natur, ond hefyd yn y potensial i wella cyfleoedd masnachol, lle bo hynny’n briodol. 

Mae gwahanol ddulliau o reoli coetir yn cael eu datblygu. Yn y tymor byr, byddwn yn darparu set o weithredoedd cyfalaf sy’n briodol ar gyfer rheoli coetir yn syml. Rydym ni hefyd yn datblygu Cynllun Rheoli Coedwigoedd llawnach i’w gyflwyno yn ddiweddarach. 

Cymhwystra

Bydd y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Mae’r eitemau cyfalaf sydd ar gael i reoli coetiroedd yn cynnwys:

  • ffensys a gatiau lle mae eu hangen ar gyfer rheoli
  • rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)
  • gwasanaeth Meddyg Coed
  • bocsys adar ac ystlumod ar gyfer rhywogaethau coetir arbenigol lle maen nhw’n bodoli, megis ystlumod Bechstein ac ystlumod du, neu wybedog brith
  • gwarchod / cynnal coed hynafol / hynod 
  • troi coed iau yn goed hynod (heneiddio artiffisial)

Taliadau

Bydd taliadau cyfalaf ar gyfraddau safonol ar gael i gefnogi rheoli coetir. 

Cyngor a chymorth

Gall Cyswllt Ffermio ddarparu cyngor â chymhorthdal (hyd at 80% i fusnesau cymwys) ar bynciau rheoli a chreu coetir megis rheoli rhywogaethau goresgynnol, plannu a sefydlu coetiroedd, defnyddio llif gadwyn yn ddiogel.

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • rôl coed
  • rheoli coetir

Creu coetiroedd

Nodau a chefndir

Mae’r gweithredoedd hyn ar gael i gefnogi plannu coetiroedd fferm, ac amaeth-goedwigaeth. 

Mae sawl mantais i blannu coed a choetir ychwanegol, gan gynnwys creu cynefin bywyd gwyllt, atafaelu carbon a lleihau’r perygl o lifogydd i lawr yr afon. 

Mae manteision uniongyrchol hefyd i integreiddio plannu coetir a choed ledled eich fferm, megis darparu mwy o gysgod neu loches i hybu cynhyrchiant da byw. Gall da byw ordwymo mewn tywydd poeth, a all arwain at golli chwant am fwyd a chynnyrch is. Mewn tywydd gwael yn y gaeaf, gall cysgod wedi’i leoli’n ofalus leihau colledion ŵyn ac arwain at anifeiliaid yn magu pwysau’n gyflymach. 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn buddsoddi mewn cnwd pren yn y dyfodol er budd busnes fferm mwy amrywiol. 

O dan UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd, mae’n ofynnol i chi nodi cyfleoedd ar gyfer plannu coed newydd erbyn diwedd eich blwyddyn gyntaf. 

Mae’n ofynnol i chi hefyd blannu coed newydd ar o leiaf 0.1 hectar, neu 250 o goed, erbyn diwedd 2028 (neu wedi cyflwyno cais plannu o leiaf, ar gyfer plannu’r coed erbyn diwedd mis Mawrth 2029). Bydd unrhyw goed rydych chi wedi’u plannu ers 1 Ebrill 2022 hefyd yn cyfrif tuag at y gofyniad plannu hwn, ond rydym ni’n eich annog i ystyried plannu mwy o goed lle bo hynny’n bosibl. 

Gallwch ddewis defnyddio’r cymorth Creu coetir hwn i ariannu’r plannu hwn.

Cymhwystra

Bydd y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Cyflwynwyd ein cymorth creu coetir wedi’i ddiweddaru ym mis Mawrth 2026. Mae manylion llawn gofynion technegol, cyfraddau talu a phrosesau ymgeisio ar gael yma: 

Grantiau bach - cynllun creu coetir ar gyfer plannu coed ar raddfa fach o hyd at ddau hectar ar ardaloedd sensitifrwydd isel. 

Grant creu coetir ar gyfer plannu coed ar raddfa fwy o ddau hectar a throsodd, neu ar ardaloedd mwy sensitif. 

Y cynllun cynllunio creu coetir i gefnogi datblygu Cynlluniau Creu Coetir newydd ar gyfer plannu coed dros ddau hectar, ac ardaloedd nad ydynt yn addas ar gyfer Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir.

Mae gwaith cyfalaf ategol ychwanegol hefyd wedi’i gyflwyno megis cafnau dŵr i alluogi plannu wrth ymyl cyrsiau dŵr, lle mae mynediad i ddŵr ar gyfer da byw yn ystyriaeth. 

Taliadau

Mae ein cyfraddau talu ar gyfer creu coetir wedi’u diwygio’n ddiweddar, gan gynnwys cyflwyno cymhelliant ychwanegol ar gyfer rhai opsiynau plannu coed llydanddail erbyn diwedd 2028. 

Os ydych chi’n plannu coetir trwy ein grantiau creu coetir ac yn cael taliadau cynnal a phremiwm parhaus, ni fyddwch yn cael taliadau o dan UA9 Cynnal coetir yn yr Haen Gyffredinol ar gyfer yr ardal benodol honno o goetir newydd. 

Cyngor a chymorth

Gall Cyswllt Ffermio ddarparu cyngor â chymhorthdal (hyd at 80% i fusnesau cymwys) ar bynciau rheoli a chreu coetir megis rheoli rhywogaethau goresgynnol, plannu a sefydlu coetiroedd, defnyddio llif gadwyn yn ddiogel.

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • rôl coed
  • rheoli coetir

Seilwaith bach 

Nodau a chefndir

O dan y categori hwn, mae cyllid grant cyfalaf ar gael ar gyfer seilwaith ar raddfa fach, yn bennaf toeau buarth fferm sydd wedi’u dylunio i wahanu dŵr glân a dŵr budr o amgylch buarthau fferm agored lle mae tail a slyri yn cael eu cynhyrchu neu eu storio.

Gall yr eitemau hyn hefyd fod o fudd i iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â bod o fudd i ansawdd aer a dŵr. 

Nod y Gweithredoedd Opsiynol hyn yw eich helpu i adeiladu ar yr wybodaeth rydych chi’n ei chasglu o dan UA3 Meincnodi ac UA12 Iechyd a lles anifeiliaid. 

Mae’r eitemau hyn yn debyg i’n Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau blaenorol.

Cymhwystra

Bydd y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Mae hyn yn cynnwys:

  • gosod to dros ardaloedd bwydo da byw. 
  • gosod to dros ardaloedd casglu da byw. 
  • gosod to dros ardaloedd storio tail.

Mae’r cyllid hwn ar gael ar gyfer gosod toeau anhydraidd newydd ar ardaloedd a ddefnyddir yn benodol at y dibenion hyn, lle nad oes gorchudd to ar hyn o bryd. Rhaid dargyfeirio dŵr glân o’r to newydd i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw. 

Bydd gan bob eitem fanyleb dechnegol gyda gofynion manwl, gan gynnwys lle bo’n berthnasol, cyfleusterau trin, draeniau, byndiau a chapasiti storio cysylltiedig. 

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys cyfraddau talu, meini prawf sgorio, manylebau technegol a manylion ymgeisio, yn cael eu cyhoeddi cyn i geisiadau agor.

Taliadau

Byddwn yn darparu cymorth o rhwng £3000 a £15,000. 

Bydd taliadau yn seiliedig ar gyfradd safonol fesul metr sgwâr. Bydd yr holl eitemau cymwys o fanyleb safonol, ar gyfer taliad safonol sy’n 40% o gyfanswm y costau cymwys (ac eithrio TAW).

Byddwch yn gallu cyflwyno ceisiadau sy’n dod i gyfanswm o fwy na £15,000, ond bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru wedi’i gapio ar £15,000 neu 40% o gyfanswm y costau cymwys (pa un bynnag yw’r lleiaf).

Cyngor a chymorth

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • trosolwg o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maethynnau a gwastraff
  • meincnodi a chynllunio busnes
  • cynlluniau rheoli maethynnau
  • adeiladu ffrwythlondeb pridd (slyri/tail, cylchdroi cnydau, tail gwyrdd)
  • lleihau allyriadau amonia 
  • lleihau’r risg o lygredd gwasgaredig

Seilwaith ac offer

Nodau a chefndir

O dan y categori hwn, mae cyllid grant cyfalaf ar gael ar gyfer buddsoddiadau seilwaith buarth fferm ar raddfa fawr ac offer arall a ddewiswyd i reoli maethynnau yn well, lleihau llygredd ar y fferm a gwella bioddiogelwch. 

Mae’r buddsoddiadau hyn o fudd i’ch busnes fferm, a byddant yn cael effaith gadarnhaol ar fioddiogelwch, lles anifeiliaid ac ansawdd dŵr, pridd ac aer hefyd.

Nod y categori Opsiynol hwn yw eich helpu i adeiladu ar yr wybodaeth rydych chi’n ei chasglu o dan UA3 Meincnodi ac UA12 Iechyd a lles anifeiliaid. 

Mae’r categori hwn yn debyg i’n Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau blaenorol.

Cymhwystra

Bydd y cyllid sy’n gysylltiedig â rheoli maethynnau o dan y categori hwn ar gael i bob busnes fferm sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a yw’n hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio. 

Dim ond busnesau fferm sydd wedi cofrestru ar gyfer yr Haen Gyffredinol ac sydd wedi cwblhau’r asesiad bioddiogelwch sy’n ofynnol o dan UA12 Iechyd a lles anifeiliaid fydd yn gallu cael cyllid sy’n gysylltiedig â bioddiogelwch.

Eitemau neu weithredoedd sydd ar gael

Mae enghreifftiau’n cynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i:

  • storfeydd, gan gynnwys storfeydd slyri a phydewau derbyn cysylltiedig, tanciau storio ar gyfer dŵr ychydig yn fudr, storfeydd tail wedi’u gorchuddio neu gladdfeydd silwair
  • gorchuddion a thoeau, gan gynnwys croen arnofiol sefydlog i orchuddio lagwnau, gorchudd sefydlog ar gyfer tanciau slyri uwchben y ddaear, neu doeau ar gyfer buarthau presennol 
  • offer chwistrellu manwl, gan gynnwys tanciau sugno neu danciau pwmpio gyda pheiriannau gwasgaru band, ‘trailing shoe’ neu chwistrellwyr slyri
  • storfeydd ar gyfer cemegau, plaladdwyr, tanwydd neu olew
  • buddsoddiadau eraill, gan gynnwys adnewyddu buarth gyda systemau draenio tanddaearol, gwahanyddion slyri, systemau crafu slyri, sgwrwyr aer neu offer casglu a hidlo dŵr (uwchben neu o dan y ddaear)
  • cyfleusterau ynysu da byw a diheintio cerbydau

Taliadau

Byddwn yn darparu cymorth o rhwng £12,000 a £50,000. 

Byddwch yn gallu cyflwyno ceisiadau sy’n dod i gyfanswm o fwy na £50,000, ond bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru wedi’i gapio ar £50,000 neu 40% o gyfanswm y costau cymwys (pa un bynnag yw’r lleiaf). Bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru yn uwch (50%) ar gyfer eitemau penodol mewn perthynas â storio a rheoli slyri.

Mae offer ail law yn gymwys lle gellir dangos bod yr eitem yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol, ei bod yn addas i’r diben a bod disgwyl iddi bara am o leiaf bum mlynedd arall.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o Weithredoedd Opsiynol eraill, mae’r buddsoddiadau seilwaith ar raddfa fwy hyn yn unigryw i’r fferm unigol, felly nid yw costau safonol yn berthnasol. Bydd gofyn i chi gyflwyno tri dyfynbris i gefnogi eich cais a bydd ein cyllid yn cael ei gynnig yn unol â’r isaf o’r tri dyfynbris. 

Bydd angen cyflwyno cais cynllunio fel rhan o’r broses ymgeisio. 

Ar gyfer grantiau am gymorth gyda thoeon o hyd at £15,000, gweler Seilwaith bach uchod. Ar gyfer offer annibynnol arall, gweler Cyfalaf – cynhyrchu ac effeithlonrwydd. 

Cyngor a chymorth

Bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio yn cyfrif tuag at eich UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus a gallant eich helpu i baratoi ar gyfer ymgymryd â’r Gweithredoedd Opsiynol hyn:

  • trosolwg o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maethynnau a gwastraff
  • meincnodi a chynllunio busnes
  • cynlluniau rheoli maethynnau
  • adeiladu ffrwythlondeb pridd (slyri/tail, cylchdroi cnydau, tail gwyrdd)
  • lleihau allyriadau amonia 
  • lleihau’r risg o lygredd gwasgaredig

Pennod 3: Haen Gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Yng Nghynllun Ffermio Cynaliadwy 2026: disgrifiad o’r cynllun, gwnaethom amlinellu’r cymorth cydweithredol canlynol a fydd ar gael yn 2026: 

  • arloesi, ymchwil a datblygu
  • marchnad a chadwyn gyflenwi gydweithredol
  • gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd

Yn yr un modd â’r Haen Opsiynol, efallai y gellir rhoi taliadau ychwanegol am ymgymryd â Gweithredoedd Cydweithredol, gan gynnwys taliadau refeniw untro, taliadau rheoli amlflwyddyn neu daliadau cyfalaf. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r gweithgareddau tirwedd cydweithredol. Rhaid i unrhyw waith a wneir fel rhan o Weithred Gydweithredol beidio â dyblygu gwaith a wneir fel rhan o Weithredoedd Cyffredinol neu Opsiynol presennol. 

Mae cymorth arall ar gael ar ffurf cyngor ac arweiniad yn hytrach na thaliadau i fusnesau fferm, megis trwy’r thema marchnad a chadwyn gyflenwi gydweithredol. 

Gall prosiectau cydweithredol gael eu cefnogi’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru neu gael eu rheoli o bosibl trwy hwyluswyr trydydd parti.

Oherwydd natur wahanol iawn pob un o’r Gweithredoedd Cydweithredol hyn, nid yw’r bennod hon yn cynnwys manylion penodol terfynau cyllid na phrosesau ymgeisio.

Nid yw’r bennod hon yn cynnwys manylion meini prawf cymhwystra penodol, ond ni fydd angen i chi gymryd rhan yn Haenau Cyffredinol neu Opsiynol y Cynllun i fod yn gymwys i gael cymorth Cydweithredol.

Arloesi, ymchwil a datblygu

Nodau a chefndir

Mae harneisio potensial dulliau newydd arloesol yn allweddol i ddatrys llawer o’r heriau sy’n ein hwynebu. Yn 2023, cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Tech-Amaeth i Gymru a Strategaeth Arloesi Cymru sy’n nodi bod arloesi mewn perthynas ag amaethyddiaeth a bwyd yn hollbwysig o ran llwyddiant economaidd parhaus Cymru.

Ein huchelgais yw manteisio i’r eithaf ar botensial technoleg bwyd-amaeth trwy gyfrwng cyfuniad o weithgareddau cydweithredol, cydgysylltiedig a gyflawnir ar y cyd gan y llywodraeth, rhanddeiliaid masnachol a rhanddeiliaid academaidd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi mentrau megis y Gronfa Her Technoleg Bwyd-Amaeth. 

Mae’r gronfa hon wedi’i defnyddio i ddatblygu prosiectau ar agweddau megis lleihau gwastraff, mabwysiadu technolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI), ac ychwanegu gwerth at brif gynnyrch amaethyddol. 

Mae rhai o’r prosiectau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn archwilio materion ar: 

  • y sector llaeth defaid
  • maethynnau cnydau 
  • monitro straen dŵr
  • creu platfform digidol i gynnig hyfforddiant ar ffurf fideos byr 
  • datblygu offer sy’n dod â gwybodaeth dalgylch ar gyfer ffermydd, afonydd a data arall at ei gilydd. 

Wrth i’r prosiectau hyn gael eu datblygu, ein nod yw helpu i’w masnacheiddio mewn ffordd a fydd o fudd uniongyrchol i ffermwyr, a bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu trwy Cyswllt Ffermio. 

Marchnad a chadwyn gyflenwi gydweithredol

Nodau a chefndir

O dan y categori hwn, byddwn yn parhau i ddarparu rhaglen helaeth o wasanaethau cynghori, grwpiau trafod a rhaglenni datblygu wedi’u teilwra i helpu ffermwyr i addasu i gadwyni cyflenwi modern. Mae’r rhaglenni hyn yn darparu adnoddau i fusnesau fferm arallgyfeirio neu ddatblygu cynnyrch bwyd neu ddiod, cael mynediad at farchnadoedd a rhannu mewnwelediadau o ymchwil. 

Mae gwybodaeth a mewnwelediadau o’r rhaglenni hyn yn cael eu rhannu â ffermwyr trwy Cyswllt Ffermio, a thrwy Bwyd a Diod Cymru. Gallwch gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth yma Cysylltwch â ni | Busnes Cymru - Bwyd a Diod.

Mae enghreifftiau o wasanaethau cynghori a chymorth sydd ar gael i fusnesau fferm unigol yn cynnwys: 

Nod ein rhaglen Clystyrau yw dod â busnesau sydd â diddordebau cyffredin at ei gilydd. Mae hyn yn eu helpu i hyrwyddo eu sector, creu cysylltiadau â mentrau ehangach, datrys problemau ar y cyd a darparu cymorth technegol. Mae mwy o wybodaeth am Glystyrau ar gael yma Rhwydwaith Clwstwr | Busnes Cymru - Bwyd a Diod.

Mae’r rhaglen Clystyrau presennol yn cynnwys:

  • Bwyd Da
  • Garddwriaeth 
  • Maeth Cymru 
  • Allforio
  • Clwstwr Diodydd 
  • Clwstwr Llaeth Defaid (o fis Ebrill 2026)

Gall y Rhaglen Helix gefnogi busnesau fferm sy’n arallgyfeirio i ddatblygu cynnyrch gwerthadwy ar hyn o bryd, neu sy’n ystyried gwneud hynny. Gall Helix helpu trwy nodi’r peiriannau cywir i’w prynu, dewis cynhwysion, mireinio prosesau, cydymffurfiaeth labeli, cyrchu offer a datrys problemau cyffredinol. Mae hyn yn cyfrannu at arbedion costau, arbedion effeithlonrwydd ac, o bosibl, nodi marchnadoedd manwerthu a lletygarwch newydd. 

Mae Cywain yn darparu cymorth sy’n canolbwyntio ar dwf sydd wedi’i dargedu at fusnesau bwyd a diod bach a chanolig Cymru fel y gallant dyfu a chynrychioli’n gadarnhaol ddiwydiant bwyd a diod Cymru mewn marchnadoedd ehangach.

Gall y cymorth hwn gynnwys cryfhau cysylltiadau cadwyni cyflenwi, cynyddu capasiti busnesau, cymorth brandio, cyngor ar fasnach a chefnogi busnesau newydd mewn digwyddiadau masnach. 

Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd

Nodau a chefndir

O dan y categori hwn, ein nod yw cynorthwyo ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sefydliadau eraill i weithio gyda’i gilydd ar lefel tirwedd, ar lefel dalgylch neu ar lefel ranbarthol er mwyn gallu esgor ar ganlyniadau na ellir eu cyflawni ar ffermydd unigol. 

Trwy gydgysylltu gweithgarwch ar raddfa gydweithredol fwy, mae modd mynd i’r afael â phroblemau mwy. Er enghraifft, mae cydgysylltu gweithgarwch mewn dalgylch dŵr cyfan yn gallu creu fwy o fanteision o ran ansawdd dŵr a lleihau’r risg llifogydd. 

Gall gwella cyflwr cynefinoedd, neu ymestyn a chysylltu cynefinoedd, ar draws y dirwedd, gryfhau gwydnwch ecosystemau yn erbyn newid hinsawdd a chefnogi gwasanaethau hanfodol megis peillio. Trwy gydlynu gwaith adfer cynefinoedd ar raddfa fwy, gallwn greu gwell cysylltiadau rhwng safleoedd bridio, bwydo, clwydo a gaeafu rhywogaethau â blaenoriaeth. Mae hyn yn arbennig o werthfawr pan fo’r ardaloedd hyn wedi’u gwasgaru ar draws gwahanol rannau o Gymru.

Mae ein cymorth ar gyfer gweithgarwch tirwedd cydweithredol yn cynnwys parhad tri mecanwaith presennol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fireinio’r dulliau hyn ac ystyried dulliau newydd:

Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig

Mae Ffermio Bro yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei ddarparu trwy Barciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth trwy gydweithio ystyrlon ar draws sawl fferm i gael effaith ar raddfa tirwedd. Dechreuodd Ffermio Bro yn 2025 ac, wrth i’r cynllun symud i’w ail flwyddyn, bydd yn canolbwyntio ar gefnogi grwpiau o ffermwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni prosiectau mwy uchelgeisiol. 

Mae’r eitemau cyfalaf y gellir eu hariannu trwy Ffermio Bro yn cynnwys:

  • adfer a chreu gwrychoedd
  • adfer waliau cerrig, cloddiau pridd a chrawiau 
  • rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol
  • plannu coed dwysedd isel
  • gweithgareddau i gefnogi rheoli risg llifogydd naturiol (NFRM) 
  • gwella cynefinoedd, gan gynnwys cynefinoedd ucheldir, iseldir a gwlyptir
  • gwelliannau mynediad i gynyddu’r ymgysylltu â natur a thirweddau.

 

Mae Ffermio Bro ar gael i bob busnes fferm sydd wedi’i leoli o fewn, neu yn rhannol o fewn, ein Parciau Cenedlaethol a’n Tirweddau Cenedlaethol, ac sy’n bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun, p’un a ydynt yn hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Am ragor o wybodaeth am Ffermio Bro ac i gysylltu â’ch cynghorydd lleol, gweler Hafan - Tirweddau Cymru 

Cynllun Cynefin Cymru (Tiroedd Comin) 

Bydd Cynllun Cynefin Cymru (Tiroedd Comin) yn cael ei ymestyn yn 2026, ar gyfer y Cymdeithasau Pori hynny sydd â chytundebau yn 2025, er mwyn parhau i gefnogi trefniadau pori cydgysylltiedig ar y safleoedd pwysig hyn. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â’r Cymdeithasau Pori hynny ar y mater hwn. 

Y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig 

Mae’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (CANI) wedi’i ddatblygu i alluogi a chefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir eraill a sefydliadau ategol i gydweithio ar lefel tirwedd, dalgylch neu genedlaethol. 

Mae’n gynllun cystadleuol, sy’n seiliedig ar brosiectau. Gall grwpiau cydweithredol wneud cais am gyllid cyfalaf a refeniw i weithredu atebion ar sail natur ar y raddfa briodol, gan dargedu camau i wella ein hadnoddau naturiol a’i rheoli’n gynaliadwy. Gallai hyn ddigwydd trwy wella cynefinoedd, gwella priddoedd sy’n cynnwys llawer iawn o garbon, creu a rheoli coetir, cyflwyno dulliau naturiol o reoli risg llifogydd, gwella mynediad ac ymgysylltiad y cyhoedd neu ddiogelu tirwedd a nodweddion hanesyddol. 

Ochr yn ochr â’r gweithgareddau rheoli tir yn uniongyrchol, anogir prosiectau i gynnwys y canlynol lle bo hynny’n briodol: 

  • hyfforddiant mewn technolegau newydd ar y fferm, gan gynnwys technoleg ailgylchu ac ynni gwyrdd adnewyddadwy
  • nodi cyfleoedd arallgyfeirio sy’n cwmpasu pren, garddwriaeth ac amaethyddiaeth
  • hyfforddiant a datblygu sgiliau, gan gynnwys arferion rheoli tir traddodiadol sydd â gwerth treftadaeth a/neu ddiwylliannol
  • meincnodi, adrodd a gweithio tuag at sero net.

Mae gwneud cais i CANI yn cynnwys dau gam:

  • datblygu prosiectau - gall grwpiau newydd neu bresennol gyflwyno cais, gan amlinellu cynigion y prosiect a gwneud cais am grant datblygu prosiect CANI.
  • cyflawni prosiectau – ar gyfer ceisiadau sy’n llwyddo i gyrraedd cam cyflawni’r prosiect, bydd cyllid ar gael i’w wario dros dair blynedd. 

Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu’r cynllun cyn agor ein ffenestr ymgeisio nesaf; fodd bynnag, bydd yn canolbwyntio ar brosiectau i wella ansawdd dŵr. 

Mae’r CANI ar gael i bob busnes fferm sy’n cymryd rhan mewn partneriaeth gydweithredol gymwys, p’un a yw’n hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig.

Pennod 4: Rhoi’r Haen Opsiynol ar waith yn weithredol

Mae Haen Opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi cyfle i chi ymgymryd â gweithgareddau ychwanegol i ategu’r Gweithredoedd Cyffredinol. 

Yn wahanol i’r Haen Gyffredinol, nid yw’r Haen Opsiynol yn berthnasol i’r fferm gyfan. Mae hyn yn eich galluogi i ddewis categorïau sy’n helpu i ddatblygu eich amcanion personol a’ch cynlluniau busnes hirdymor.

Nod yr Haen Opsiynol yw cynnig hyblygrwydd a dewis, gan eich galluogi i fabwysiadu arferion a gwelliannau sydd fwyaf perthnasol i’ch daliad, gan ein helpu i gyflawni amcanion rheoli tir yn gynaliadwy hefyd.

Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Uwch i’ch cefnogi i gyflawni pob Gweithred Opsiynol, ac elwa’n llawn arnynt, ar gael yn uniongyrchol trwy Cyswllt Ffermio.   

Er bod yr Haen Opsiynol uwchben yr Haen Gyffredinol, nid yw’n dibynnu ar Weithredoedd Cyffredinol oni bai bod hynny wedi’i nodi o dan Weithred Opsiynol benodol. 

Bydd canllawiau cynllun, gan gynnwys manylion am sgorio, prosesau ymgeisio, tystiolaeth ategol ac amrywiadau i gymhwystra sy’n benodol i bob categori, yn cael eu cyhoeddi cyn i geisiadau agor. 

Nid yw’r bennod hon yn cynnwys cyfeiriad at yr Haen Gydweithredol, oherwydd natur wahanol iawn pob Gweithred Gydweithredol. Bydd y manylion hyn yn cael eu cynnwys gyda’r Cynlluniau Cydweithredol wrth iddynt gael eu cyflwyno.

Cymhwystra ffermydd sydd wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer Gweithredoedd Opsiynol

Bydd pob categori a ddisgrifir yn y llyfryn hwn ar gael i fusnesau fferm sydd wedi cofrestru ar gyfer yr Haen Gyffredinol. 

Os ydych chi yn Haen Gyffredinol y Cynllun, bydd cymhwystra eich tir a’ch busnes eisoes wedi’i wirio cyn i chi wneud cais am Weithredoedd Opsiynol.

Os yw Gweithred Opsiynol yn dibynnu ar gwblhau Gweithred Gyffredinol ymlaen llaw, megis gofyniad ar gyfer Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig, dim ond ar ôl i’r Weithred Gyffredinol berthnasol gael ei chwblhau y bydd y cais Opsiynol ar gael.

Ar gyfer cymorth amlflwyddyn sydd ar gael i fusnesau fferm sydd wedi cofrestru ar gyfer yr Haen Gyffredinol yn unig, megis rheoli cynefinoedd yn well, bydd angen i chi barhau o fewn yr Haen Gyffredinol am gyfnod y dyfarniad grant.

Cymhwystra ffermydd nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer Gweithredoedd Opsiynol

Bydd rhai Gweithredoedd Opsiynol yn parhau i fod yn hygyrch i fusnesau fferm nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer yr Haen Gyffredinol. Caiff gofynion cymhwystra penodol ar gyfer y gweithredoedd hyn eu hamlinellu ar gyfer y rhai nad ydynt yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng nghanllawiau’r cynllun, wrth i bob categori gael ei gyflwyno.

Er nad oes rhaid i’r busnes fferm fod wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun, mae’r meini prawf cymhwystra cyfatebol yn berthnasol, sef: 

  • eich bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol ar dir amaethyddol
  • bod gennych chi o leiaf dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru neu eich bod yn gallu dangos i chi wneud mwy na 550 awr o lafur safonol
  • bod gennych chi reolaeth lwyr ar y tir am o leiaf 10 mis o’r flwyddyn galendr

Os byddwch chi’n gwneud cais am Weithredoedd Opsiynol sy’n seiliedig ar arwynebedd megis Cynefin dros dro, rhaid i chi fodloni safonau llinell sylfaen reoleiddiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Y broses ymgeisio

Byddwch yn gallu gwneud cais am y rhan fwyaf o’r Gweithredoedd Opsiynol trwy ddangosfwrdd sy’n cael ei ddatblygu ar RPW Ar-lein. 

Gall ceisiadau ddilyn prosesau gwahanol yn dibynnu ar y Categori a’r math o gymorth sydd ar gael, er enghraifft, a yw’r weithred yn seiliedig ar gostau safonol, costau ansafonol (angen dyfynbrisiau) fel rhan o’r cais, neu yn dilyn ymweliad cymorth ar y fferm a Rhestr Waith y cytunwyd arni.

Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio a’u hasesu i sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio’n deg ac yn effeithiol.

Os yw Gweithred Opsiynol ar gael i ffermwyr yn Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn unig, ni fydd y cais ar gael nes eich bod wedi gwneud cais am yr Haen Gyffredinol am y tro cyntaf. 

Arfarnu ac asesu

Gall ceisiadau ddilyn un o sawl dull gwerthuso yn dibynnu ar natur y cymorth, cyn i chi gael cynnig dyfarniad grant ar gyfer cyllid ychwanegol. 

Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio yn erbyn ystod o flaenoriaethau sy’n benodol i bob categori, ac yna’n cael eu rhestru, gyda dyfarniadau grant yn cael eu cynnig i’r ceisiadau sydd â’r sgôr uchaf yn gyntaf os yw’r galw yn fwy na’r gyllideb sydd ar gael. 

Ym Mhennod 2, rydym wedi esbonio y bydd rhai gweithredoedd ar gael i bob ffermwr, p’un a ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ai peidio, ond y bydd ffermwyr sy’n cymryd rhan yn yr Haen Gyffredinol yn cael blaenoriaeth. Felly, byddwn yn priodoli pwyntiau ychwanegol i fusnesau fferm sy’n cymryd rhan yn yr Haen Gyffredinol yn ystod y broses sgorio hon. 

Bydd rhai gweithredoedd, yn enwedig pan fo taliadau ansafonol, yn gofyn am arfarniad llawn yn seiliedig ar ddyfynbrisiau, tystiolaeth ac ystyriaeth o werth am arian, tra bydd eraill ar gael dim ond ar ôl i Restr Waith gael ei chytuno. 

Cydsyniadau a thrwyddedau 

Yn y rhan fwyaf o achosion, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod yr holl gydsyniadau a thrwyddedau wedi’u rhoi lle bo angen, a’ch bod yn cydymffurfio â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol ynghylch yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol. 

Bydd cydsyniadau ar gyfer rhai gweithgareddau megis rheoli Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn dod i law gan CNC fel rhan o’r broses i gytuno ar Gynlluniau Rheoli Safleoedd Dynodedig a Rhestr Waith. Bydd cydsyniadau hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses o gytuno ar reoli a phlannu coetiroedd. Bydd gofynion penodol ynghylch cydsyniadau a thrwyddedau yn cael eu cynnwys gyda’r canllawiau manwl a gynhyrchir ar gyfer pob categori pan fydd ceisiadau ar gael. 

Hawliadau a gwirio

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno a’u talu fel arfer o fewn y flwyddyn ariannol pan fo’r gweithgarwch i fod i ddigwydd. 

Bydd y dystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer gwirio hawliadau yn dibynnu ar y dull arfarnu a ddefnyddir a bydd yn cael ei nodi yn y llythyr dyfarnu grant. Gall hyn gynnwys tystiolaeth ffotograffig, anfonebau, dyfynbrisiau neu ddeunydd ategol arall.

Gellid cwblhau’r gwaith gwirio trwy wiriadau desg, asesiadau ffotograffig, ymweliadau ar y safle ar y fferm neu drwy ddefnyddio technoleg arsylwi’r ddaear lle bo hynny’n briodol. 

Bydd gwiriadau cadw ar eitemau cyfalaf ychwanegol yn cael eu cwblhau ar sail sampl.

Pan fo’r cymorth yn cynnwys gwaith cyfalaf sy’n gysylltiedig â thaliad refeniw dilynol, dim ond ar ôl gwirio bod y gwaith cyfalaf wedi’i gwblhau y bydd yr elfen refeniw yn daladwy.

Bydd y rhan fwyaf o daliadau refeniw ar gyfer Gweithredoedd Opsiynol yn cael eu hawlio trwy Ffurflen y Cais Sengl. 

Gyda thaliadau amlflwyddyn sy’n seiliedig ar arwynebedd, efallai y bydd gofyn i chi barhau i gyflwyno unrhyw wybodaeth angenrheidiol trwy Ffurflen y Cais Sengl yn y blynyddoedd i ddod. 

Trosglwyddo ymrwymiadau

Nid oes modd trosglwyddo ymrwymiadau sy'n ymwneud â thaliadau nad ydynt yn seiliedig ar arwynebedd i fusnes arall. Fodd bynnag, gellir trosglwyddo taliadau refeniw amlflwyddyn os yw hawlydd newydd yn bodloni'r ymrwymiadau rheoli parhaus sy'n gysylltiedig â'r Weithred Opsiynol.

Archwiliadau

Gall Gweithredoedd Opsiynol sy’n seiliedig ar arwynebedd fod yn destun gwiriad trwy archwiliad trwy ddull samplu seiliedig ar risg ac ar hap. 

Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â’r strategaeth archwilio sydd wedi’i datblygu ar gyfer yr Haen Gyffredinol. 

Sancsiynau a chosbau

Bydd sancsiynau ar gyfer Gweithredoedd Opsiynol yn cyd-fynd â’r strategaeth ehangach a ddatblygwyd ar gyfer Gweithredoedd Cyffredinol, gan fod angen i ni daro cydbwysedd rhwng rhoi hyblygrwydd i ffermwyr a rheoli yn erbyn camddefnyddio arian cyhoeddus. 

Ar gyfer Gweithredoedd Opsiynol sy’n seiliedig ar arwynebedd, bydd Safonau Dilysadwy yn cael eu datblygu a’u cymhwyso i bennu canlyniad unrhyw achos o dorri amodau grant. Bydd unrhyw achosion o dorri Llinell Sylfaen Reoleiddiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yr un mor berthnasol i’r Gweithredoedd Opsiynol sy’n seiliedig ar arwynebedd, p’un a ydych chi wedi cofrestru ar gyfer yr Haen Gyffredinol ai peidio. 

Ar gyfer gweithredoedd nad ydynt yn seiliedig ar arwynebedd, bydd lefel y gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd wedi ei hawlio a’r hyn sydd wedi ei wirio yn pennu unrhyw addasiadau neu gosbau a gymhwysir. Fodd bynnag, efallai y caniateir i chi gywiro mân faterion o fewn amserlen y cytunir arni heb gosb. 

Ar ben hynny, bydd darpariaethau hawlio hwyr sy’n debyg i’r rhai a ddefnyddir ar gyfer Ffurflen y Cais Sengl yn cael eu cyflwyno.

Bydd hawliadau’n cael eu gwrthod ac ymgeiswyr yn cael eu heithrio o rannau o’r cynllun neu’r cynllun cyfan os profir twyll, gan adlewyrchu dyletswydd Llywodraeth Cymru i sicrhau uniondeb wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.

Camgymeriadau amlwg ac amgylchiadau eithriadol

Bydd y darpariaethau ar gyfer camgymeriadau amlwg ac amgylchiadau eithriadol yn berthnasol o fewn yr Haen Opsiynol, yr un fath ag yn yr Haen Gyffredinol. Mae’r darpariaethau hyn yn sicrhau nad ydych chi’n cael eich cosbi’n annheg am gamgymeriadau neu ddigwyddiadau y tu allan i’ch rheolaeth, gan gefnogi tegwch a chymesuredd.

Apeliadau

Bydd y broses apelio dau gam ar gael os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad sy’n ymwneud â dyfarniad grant o dan yr Haen Opsiynol. Mae hyn yn darparu llwybr clir a thryloyw ar gyfer herio penderfyniadau a sicrhau uniondeb wrth weinyddu’r cynllun.

Help a chymorth

Mae’r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (FLS)Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio ar gael i’ch cyfeirio at gyngor a chymorth perthnasol. 

Mae Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2026. Gall Cyswllt Ffermio ddarparu cyngor ac arweiniad hanfodol i’ch cefnogi gyda Haenau Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ogystal â darparu ystod o gyfleoedd dysgu cyffredinol. 

Gall hyn eich helpu i fuddsoddi yn eich busnes trwy ddiweddaru eich sgiliau a’ch gwybodaeth, mabwysiadu technoleg newydd a rhoi hwb i’ch hyder i ymgysylltu ag arferion arloesol neu gyfleoedd newydd.

O dan UA6 Datblygiad Proffesiynol Parhaus, mae’n ofynnol i chi ymgymryd ag o leiaf chwe awr o ddysgu ar reoli tir yn gynaliadwy. Gallwch ddewis ymgymryd â rhywfaint o’ch dysgu, neu’r holl ddysgu, trwy Cyswllt Ffermio, ond gallwch hefyd ddewis darparwyr dysgu annibynnol eraill.   

Mae’n ofynnol i chi hefyd gwblhau elfen o ddysgu iechyd a diogelwch, y gellir ei gwblhau trwy Cyswllt Ffermio yn y flwyddyn gyntaf.

Os ydych chi am ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus Uwch trwy Cyswllt Ffermio, efallai y bydd angen Cynllun Datblygu wedi’i Bersonoli cyn y gallwch gymryd rhan yn yr ystod ganlynol o weithgareddau (ac eithrio e-ddysgu). Mae rhai yn fwy technegol ac wedi’u dylunio i annog dysgu rhwng cymheiriaid, gan gynnwys:

  • hyfforddiant achrededig (gan gynnwys gweithdai iechyd a lles anifeiliaid)
  • dysgu gweithredol (Agrisgôp, Academi Amaeth)
  • grwpiau trafod
  • e-ddysgu 
  • dosbarthiadau meistr
  • mentora

Gweledigaeth hirdymor

Dros amser, bydd yr Haen Opsiynol yn esblygu tuag at ddull fferm gyfan mwy integredig. Wrth i’r nifer sy’n cofrestru ar gyfer yr Haen Gyffredinol gynyddu ac wrth i chi gael mwy o ddata a darlun gwell o berfformiad eich fferm h.y. trwy ganlyniadau meincnodi a mapio cyfleoedd, ein nod yw gallu eich tywys yn fwy effeithiol tuag at Weithredoedd Opsiynol sy’n cefnogi eich nodau busnes ac amgylcheddol orau. 

Atodiad 1: Crynodeb o’r Gweithredoedd Opsiynol sydd ar gael yn dibynnu ar a yw busnes fferm wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Dim ond os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y mae’r categorïau canlynol ar gael: 

  • cynhyrchu cynaliadwy
  • safleoedd dynodedig 
  • adolygiad o Gynefinoedd (rheoli cynefinoedd a chreu cynefinoedd parhaol)
  • seilwaith ac offer - eitemau bioddiogelwch

Bydd Gweithredoedd Opsiynol yn y categorïau canlynol ar gael i bob busnes fferm, hyd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio a’u hasesu i sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio’n deg ac yn effeithiol, ond bydd ffermwyr sy’n cymryd rhan yn yr Haen Gyffredinol yn cael blaenoriaeth. Felly, byddwn yn priodoli pwyntiau ychwanegol i fusnesau fferm sy’n cymryd rhan yn yr Haen Gyffredinol yn ystod y broses sgorio hon. 

  • cyfalaf – cynhyrchu ac effeithlonrwydd 
  • cyfalaf – yr amgylchedd (gan gynnwys rhywfaint o greu cynefinoedd) 
  • organig
  • rheoli coetir  
  • creu coetiroedd 
  • cynefinoedd dros dro 
  • seilwaith bach 
  • seilwaith ac offer - eitemau rheoli maethynnau

Atodiad 2: geirfa

Adolygiad o gynefinoedd

Proses lle bydd swyddog cymorth maes yn gweithio gyda chi i werthuso’r cynefinoedd ar eich fferm a’r cyfleoedd i reoli cynefinoedd yn well yn yr Haen Opsiynol. 

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr

Mesur allyriadau nwyon o dda byw, systemau ffermio a mewnbynnau tir.

Bioamrywiaeth

Yr amrywiaeth eang o blanhigion, anifeiliaid a bywyd microbaidd (gan gynnwys eu geneteg a’u hecosystemau amrywiol) a geir ym mhob rhan o’n hamgylchedd.  

Categorïau (Categorïau Opsiynol)

Set o Weithredoedd Opsiynol sydd wedi’u grwpio gyda’i gilydd i wneud y broses ymgeisio yn effeithlon.

Y Cod i Bawb

Mae hyn uwchlaw rheoleiddio ac yn cynnwys cyfres o ofynion anreoleiddiol sy’n berthnasol i bob ffermwr yn y cynllun. Mae’n cynnwys gofynion a ddyluniwyd i ddiogelu gorchudd pridd, bioamrywiaeth a chynefinoedd, coed a nodweddion tirwedd. Rhan o ofynion y cynllun. 

Cyfnod pontio

Y cyfnod rhwng 2026 a 2029 lle cyflwynir gwahanol elfennau o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio a rhoi cyngor ar adnoddau naturiol Cymru. 

Cynaliadwyedd

Mae cynaliadwyedd yn cyfeirio at gynnal a chadw adnoddau i’w defnyddio yn y dyfodol, ac er mwyn osgoi eu disbyddu. At ddibenion y cynllun, mae cynaliadwyedd yn cynnwys agweddau economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol. Mae angen cydbwyso pob un ohonynt er mwyn diogelu capasiti cynhyrchu bwyd yn y dyfodol. 

Cynefin/Cynefin Lled-naturiol

At ddiben y cynllun, mae cynefin yn golygu’r amrywiaeth eang o fathau o dir megis rhostiroedd, gweirgloddiau a gwlyptiroedd. Ym mhob un, mae ystod wahanol o blanhigion ac anifeiliaid yn dibynnu ar y cynefin hwnnw i oroesi. Mae ‘lled-naturiol’ yn golygu cynefin sydd wedi’i newid gan ddyn ond sy’n dal i gynnal planhigion ac anifeiliaid sy’n digwydd yn naturiol yn yr ardal. 

Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd

Cynllun i fanteisio ar gyfleoedd i blannu mwy o goed neu i blannu (neu adfer) gwrychoedd ar bob fferm trwy RPW Ar-lein.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y cyfeirir ato hefyd fel y ‘Cynllun’

Y prif gynllun cymorth i ffermwyr Cymru gan Lywodraeth Cymru o 2026 ymlaen.

Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig

Cynllun rheoli rhwng y ffermwr a CNC i wella cyflwr safleoedd dynodedig megis SoDdGA. 

Cynllun y Taliad Sylfaenol

Y prif gynllun cyfredol ar gyfer rhoi cymorth ariannol i’r diwydiant ffermio.

Cyswllt Ffermio 

Mae Cyswllt Ffermio yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth, arweiniad a hyfforddiant i ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru.

Dangosfwrdd 

Golwg RPW Ar-lein o’r Gweithredoedd Cyffredinol a fydd yn berthnasol i bob fferm, ynghyd â’r gallu i ddiweddaru a chadarnhau cwblhau gweithredoedd trwy gydol y flwyddyn.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)

Set o dargedau mesuradwy (yn ymwneud â’r busnes, da byw, yr amgylchedd neu arferion rheoli) y gellir eu defnyddio i wneud penderfyniadau rheoli ar sail data. 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Proses ddysgu a datblygu barhaus i fagu sgiliau a gwybodaeth.

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Cyfeirir ati hefyd fel ‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’: deddfwriaeth newydd yng Nghymru sy’n rhoi’r pwerau cyfreithiol i Weinidogion Cymru gefnogi gweithgareddau amaethyddol yng Nghymru. Y Ddeddf hon sy’n creu’r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Ecosystemau 

Y berthynas gymhleth rhwng planhigion, anifeiliaid a micro-organebau o fewn cynefinoedd a rhwng cynefinoedd, sy’n cynnal ac yn rheoli llawer o brosesau amgylcheddol megis aer glân, dŵr glân, bioamrywiaeth lewyrchus a’r bwyd rydym yn ei fwyta. 

FARMDATA+  

Offeryn meincnodi ar-lein a ddarperir trwy Cyswllt Ffermio.

Ffurflen y Cais Sengl

Y broses ymgeisio flynyddol lle mae ffermwyr yn gwneud cais ac yn hawlio taliad ar gyfer cynlluniau sy’n seiliedig ar arwynebedd. 

Glastir/Cynllun Cynefin Cymru (HSW)

Roedd Glastir yn gynllun amaeth-amgylcheddol a fu’n gweithredu ochr yn ochr â Chynllun y Taliad Sylfaenol tan 2023, i ariannu gweithredoedd megis rheoli cynefinoedd a chreu gwrychoedd. 

Dechreuodd Cynllun Cynefin Cymru yn 2024 a’i nod yw cefnogi parhad gweithredoedd i gynnal cynefinoedd rhwng Glastir yn dod i ben a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dod yn weithredol. Mae’r cynllun yn cynnwys cynnig tir fferm a thir comin. Daeth y cymorth tir fferm o dan Gynllun Cynefin Cymru i ben yn 2025.

Y gofyniad bod 10% o bob fferm yn gynefin

Rhaid i ffermydd sy’n cymryd rhan yn y cynllun sicrhau bod 10% o’u tir yn cael ei reoli fel cynefin er budd yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Gellir creu cynefin dros dro ychwanegol os nad oes digon o gynefin parhaol.

Gofynion y cynllun 

Set o safonau rheoleiddiol ac anreoleiddiol sy’n sail i’r cynllun. 

Gweithred Gyffredinol

Mae tair haen i’r cynllun. Yr haen sylfaenol yw haen y Gweithredoedd Cyffredinol y bydd angen i bob ffermwr sy’n rhan o’r Cynllun eu cyflawni. Am hynny, caiff Taliad Sylfaenol Cyffredinol ei dalu iddo. 

Gweithredoedd Cydweithredol

Lle caiff ffermwyr ddewis gweithio gyda’i gilydd a chydag eraill mewn ffordd gydlynol i sicrhau canlyniadau na ellir eu cyflawni ar raddfa’r fferm unigol. Am hynny, caiff taliad ychwanegol ei dalu iddynt o dan y Cynllun. 

Gweithredoedd Opsiynol

Gweithredoedd Opsiynol yw lle gall ffermwyr ddewis gweithredoedd sy’n mynd y tu hwnt i’r Gweithredoedd Cyffredinol, yn dibynnu ar beth sy’n gweddu orau i fusnes y fferm a’u huchelgeisiau. Am hynny, caiff taliad ychwanegol ei dalu iddynt o dan y Cynllun.

Gwydnwch

Y gallu i osgoi ac adfer o siociau aflonyddgar. At ddibenion y cynllun, mae hyn yn cyfeirio’n bennaf at allu busnes fferm i wella ei wydnwch i siociau negyddol posibl megis o newidiadau i’r farchnad, newid hinsawdd a chlefydau anifeiliaid a chnydau. 

Llinell Sylfaen Reoleiddio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Set o reoliadau presennol sy’n berthnasol yn benodol i’r cynllun. Rhan o ofynion y cynllun. 

Meincnodi

Mecanwaith ar gyfer monitro set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i alluogi ffermwyr i wneud penderfyniadau rheoli sy’n seiliedig ar ddata. 

Rheoli Tir yn Gynaliadwy

Ffordd holistig a sefydlwyd yn y Ddeddf i ymgorffori adnoddau amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol mewn ffordd a fydd yn cadw’r ddysgl yn wastad rhwng anghenion cenedlaethau heddiw a’n hymrwymiadau i genedlaethau’r dyfodol. 

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (AEA) 

Rheoliadau a ddefnyddir i ystyried effeithiau prosiectau ar yr amgylchedd. 

Rhestr Waith 

Rhan o’r Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig sy’n cynnwys set o weithredoedd rheoli a gydsyniwyd i wella cyflwr safleoedd dynodedig megis SoDdGA. Hefyd, allbwn o’r Adolygiad o Gynefinoedd.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Dynodiad ffurfiol ar ardaloedd o dir neu ddŵr sydd o werth arbennig oherwydd ei fywyd gwyllt neu ei nodweddion daearegol. Amddiffynnir SoDdGA yn statudol trwy ddeddfwriaeth benodol. 

Sero Net

Sicrhau cydbwysedd rhwng y nwyon tŷ gwydr a allyrrir i’r atmosffer a’r rhai sy’n cael eu tynnu oddi wrtho, er enghraifft, trwy atafaelu carbon. 

Taliadau Gwledig Cymru (RPW)

Yr Is-adran o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ymdrin â gwybodaeth a thaliadau mewn perthynas â ffermio a rheoli tir.