Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.
Cynnwys
Diben
Diben y Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil hwn yw ymgysylltu'n rheolaidd â chynrychiolwyr o bob rhan o sector addysg drydyddol Cymru a darparu cyngor strategol i'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar faterion polisi allweddol, mentrau a materion eraill o bwys o fewn y portffolio Addysg Drydyddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod strategol clir o greu system drydyddol gydweithredol a chydlynol a bydd y grŵp yn darparu cyfrwng i ymgysylltu ar faterion sy'n effeithio ar y system gyfan.
Nid oes gan y Grŵp bwerau gweithredol; grŵp cynghori yn unig yw hwn.
Cwmpas
Bydd y Grŵp yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol ym maes addysg drydyddol ar gyfer 2025 i 2026 ac wedi hynny, yn enwedig cynyddu cyfraddau cyfranogiad ar draws y sector addysg ôl-16 a sefydlogi'r heriau ariannol presennol sy'n wynebu chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Ochr yn ochr â'r heriau hyn, mae sefydlu Medr yn cyflwyno cyfle sylweddol i greu sector trydyddol mwy cydweithredol wrth greu llwybrau a gwella canlyniadau i bob dysgwr. Felly, prif ffocws y Grŵp hwn fydd:
- Cyfranogiad Ôl-16: archwilio strategaethau i sicrhau gwelliant o ran mynediad, cadw a dilyniant i ddysgwyr ar draws llwybrau amrywiol, gan gynnwys addysg bellach, addysg uwch, a dysgu seiliedig ar waith; Hefyd i gynnwys trafodaeth ar effaith cyfranogiad cyn 16.
- Cynaliadwyedd y System Addysg Drydyddol: mynd i'r afael â chynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol a sefydliadol i sicrhau gwydnwch ac effeithiolrwydd hirdymor.
- Ymchwil ac Arloesi yn y System Drydyddol: gwella cydweithredu rhwng sefydliadau a diwydiannau er mwyn ysgogi arloesedd, gwella allbynnau ymchwil, a chefnogi twf economaidd.
Ar draws y meysydd hyn, bydd y Grŵp yn ystyried datblygu polisi, cynllunio strategol, gweithredu a gwerthuso rhaglenni, ymgysylltu â rhanddeiliaid a materion a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y sector, yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Bydd lle hefyd i ddatblygu cyfres o is-grwpiau allanol i fwydo i mewn i'r Grŵp Cynghori Gweinidogol o ran y meysydd ffocws penodol a nodir uchod a materion fel:
- Addysg Ryngwladol
- Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
Aelodaeth
Cyfansoddiad
Bydd y Grŵp yn cynnwys aelodau allanol o bob rhan o'r sector addysg drydyddol a'r sectorau cysylltiedig, ar wahoddiad y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Nid oes unrhyw un o'r aelodau na'r cadeirydd yn benodiadau cyhoeddus a disgwylir i aelodau ddarparu arbenigedd a mewnwelediad ar ran y sector yn hytrach na chynrychioli unrhyw un sefydliad. Disgwylir i'r aelodaeth esblygu yn ystod y cyfarfodydd.
Amgaeir rhestr o’r aelodau yn Atodiad A.
Penodi a Deiliadaeth
Bydd aelodau'n cael eu penodi am gyfnod y tymor hwn o'r llywodraeth, gyda'r posibilrwydd y caiff y penodiad ei adnewyddu, er mwyn sicrhau ystod eang o fewnbwn i'r grŵp. Gall y Gweinidog benodi aelodau newydd yn ôl yr angen i gynnal effeithiolrwydd y grŵp.
Cadeirydd
Bydd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn cadeirio'r grŵp. Nodir cyfrifoldebau'r Cadeirydd ym mharagraff: Rolau a Chyfrifoldebau - Cadeirydd.
Rolau a chyfrifoldebau
Aelodau
- Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd.
- Rhoi cyngor gwybodus ac adeiladol.
- Adolygu a rhoi sylwadau ar ddogfennau ac adroddiadau perthnasol.
- Sicrhau cyfrinachedd trafodaethau a deunyddiau.
- Datgan unrhyw wrthdaro buddiannau cyn gynted ag y byddant yn codi.
Cadeirydd
Caiff y grŵp ei gadeirio gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, a fydd yn gyfrifol am gynnull, arwain a hwyluso'r cyfarfodydd, gosod yr agendâu mewn ymgynghoriad ag aelodau a sicrhau bod barn y grŵp yn cael ei gofnodi. Cefnogir y Cadeirydd gan ysgrifenyddiaeth y grŵp.
Cyfarfodydd
Amlder
Bydd y grŵp yn cyfarfod bob tymor, wyneb yn wyneb neu yn hybrid neu drwy Teams, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn cael eu cynnull yn ôl yr angen.
Cymorth Ysgrifenyddiaeth
Bydd y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i'r grŵp, gan gynnwys cydlynu trefniadau cyfarfodydd, paratoi a dosbarthu agendâu a deunyddiau ar gyfer cyfarfodydd a chofnodi a dosbarthu cofnodion a chamau gweithredu.
Adolygu a gwerthuso
Caiff y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol. Gall y Gweinidog ddiwygio'r cylch gorchwyl yn ôl yr angen, mewn ymgynghoriad â'r grŵp.
Cyfrinachedd a thryloywder
Rhaid i bob aelod gydymffurfio â gofynion cyfrinachedd ynghylch gwybodaeth sensitif. Bydd y Grŵp yn gweithredu'n dryloyw, ac efallai y bydd canlyniadau nad ydynt yn gyfrinachol ac adroddiadau ar gael i'r cyhoedd yn ôl disgresiwn y Gweinidog.
Atodiad A: aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog
Aelodau Craidd
- James Owen, Prif Weithredwr, Medr
- Yr Athro Fonesig Julie Lydon, Cadeirydd, Medr
- David Hagendyk, Prif Weithredwr, Colegau Cymru
- Lisa Thomas, Cadeirydd, Colegau Cymru
- Amanda Wilkinson, Prif Weithredwr, Prifysgolion Cymru
- Elwen Evans, Cadeirydd, Prifysgolion Cymru
- Sharon Davies, CLlLC, arweinydd gweithredol ar Addysg
- Dr Lowri Brown, CCAC
- Deio Owen, Llywydd, UCM Cymru
- Gareth Lloyd, UCU
- Jamie Insole, UCU
- Lynne Hackett, Unsain
- Yr Athro Chris Milward, Prifysgol Birmingham
- Yr Athro Roger Whittaker, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru
- Ian Price, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Coleg Gŵyr
- Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg
- David Jones, cyn Bennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria a chyn Gadeirydd Cymwysterau Cymru
- Yr Athro Chris Pearce, Is-Brif Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol Glasgow
- Yr Athro Colette Fagan, Is-lywydd Ymchwil, Prifysgol Manceinion
Llywodraeth Cymru
- Ruth Meadows, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
- Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
- Clarie Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Chyllid, y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
- Geoff Owen, Pennaeth Adolygiad o'r Sector Addysg Drydyddol, y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
- Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr Llwybrau Dysgwyr, y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
- David Morris, Pennaeth Strategaeth a Pholisi'r Dyfodol, y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Polisi a Strategaeth Economaidd
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
- Robert Hoyle, Pennaeth Gwyddoniaeth
- Craig Greenland, Ysgrifenyddiaeth
Sylwch y gallai cynrychiolwyr eraill gael eu gwahodd i fynychu ar gyfer cyfarfodydd neu eitemau agenda penodol.
