Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Mehefin 2025, lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw lefel 4.

Lefel 4 yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chamau ac ymyriadau uniongyrchol, ac yn eu cydlynu, i gefnogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei allu a'i gapasiti i ysgogi gwelliannau. Mae'n cynnwys cyfres o ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i ddatrys y problemau o fewn amserlen resymol. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fydd yn rhoi'r ymyriadau ar waith. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.

Hanes yr uwchgyfeirio

Hydref 2022

Uwchgyfeiriwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lefel monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio am na allai'r bwrdd iechyd lunio cynllun tair blynedd cytbwys yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru a Fframwaith Cynllunio'r GIG, y gellid ei ystyried i'w gymeradwyo o dan adran 175(2A) o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”).  

Ionawr 2024

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd ar Fro yn parhau i fod yn lefel 3, monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Mawrth 2025

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei uwchgyfeirio i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio oherwydd dirywiad pellach yn y diffyg ariannol a'r anallu i gyrraedd cyfanswm y rheolaeth targed a osodwyd ar gyfer 2024/25. 

Gorffennaf 2025

Uwchgyfeiriwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lefel 4 oherwydd diffyg ariannol cynyddol, ansawdd, amseroedd aros gofal a gynlluniwyd, a heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth.

Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru

Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrraeth, y pum lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob bwrdd iechyd ei asesu yn eu herbyn.

Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:

  • yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
  • ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
  • yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
  • yn cael eu cynnal mewn modd agored; yn dryloyw; gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru

Isgyfeirio

Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau yn erbyn pob maes uwchgyfeirio. 

Ni chaiff sefydliad ei isgyfeirio fwy nag un lefel ar y tro, a bydd llai o oruchwylio ac ymyrraeth ar bob cam o’r broses isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad yn cael ei isgyfeirio o lefel 3 i lefel 1 (trefniadau arferol).

Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer uwchgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos cynnydd yn erbyn cynlluniau gwella y cytunwyd arnynt a'r meini prawf isgyfeirio dros ddau chwarter yn olynol.

Ceir 2 ddull isgyfeirio:

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i’w galluogi i ystyried a yw’n briodol isgyfeirio’r trefniadau ymyrryd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i’r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni’r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddynt ddangos cynnydd yn erbyn y cynllun gwella y cytunwyd arno gyda gwelliannau parhaus yn erbyn y meini prawf isgyfeirio dros ddau chwarter yn olynol.
  • Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi’u bodloni a’u cynnal am y cyfnod y cytunwyd arno. Os yw sefydliad y GIG yn bodloni’r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, bydd yn cael ei isgyfeirio i’r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i’r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

  • cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
  • cyfeirio at ganllawiau arferion gorau a fframweithiau perthnasol
  • adolygu cynhyrchion a ddatblygwyd a rhoi adborth arnynt
  • galluogi dulliau a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol ar draws sefydliadau GIG Cymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
  • cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i feysydd sy'n peri pryder
  • gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailgynllunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)

Mae rolau a chyfrifoldebau’r bwrdd iechyd fel a ganlyn:

  • penodi Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer uwchgyfeirio ac arweinwyr prosiect priodol. Argymhellir y dylai'r Uwch Swyddog Cyfrifol fod y Prif Swyddog Gweithredol
  • sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth o’r Bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r Bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r Bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
  • llunio cynllun lefel 4 mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau i sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun
  • cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru

Ymyrraeth Lefel 4

Fe wnaeth asesiad Llywodraeth Cymru o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn erbyn y meysydd cynnydd ym mis Mehefin 2025 godi pryderon yn ymwneud â chyllid, ansawdd, gwasanaethau clinigol, arweinyddiaeth a llywodraethu. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, penderfynwyd uwchgyfeirio'r sefydliad i lefel 4. Wrth wneud hynny, cydnabuwyd bod yna lawer o feysydd o fewn y sefydliad sy'n gweithio'n effeithiol, ond bod angen asesiad a chefnogaeth ar draws y sefydliad ar gyfer ansawdd, newid diwylliant, llywodraethu ac arweinyddiaeth.

Crynodeb o bryderon lefel uchel fel y nodwyd ym mis Mehefin 2025

Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud â pherfformiad a chanlyniadau yn cynnwys:

  • Nid yw'r bwrdd iechyd yn rhagweld cyrraedd y targedau a osodwyd ar gyfer canran y cleifion sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad cleifion allanol cyntaf, dros 104 wythnos i gael eu hatgyfeirio am driniaeth a thros 8 wythnos ar gyfer diagnosteg. 
  • Gofal a gynlluniwyd: ni chyflawnodd y bwrdd iechyd y sefyllfa diwedd Ch4 2024 i 2025 na chyflawni'r targed. Mae cynllun Ch1 2025 i 2026 wedi gofyn am ymyrraeth bellach i sicrhau cyflawni. 
  • Diagnosteg: ym mis Ebrill 2025, dim ond 42.4% o lwybrau a oedd aros am brawf diagnosteg penodol a fu'n aros llai nag 8 wythnos, y perfformiad gwaethaf yn unrhyw fwrdd iechyd. Dim ond 17.6% oedd yn aros llai nag 8 wythnos am endosgopi diagnostig a 33.9% am NOUS, mae'r ddau y perfformiad gwaethaf ar draws Cymru.
  • Gofal brys a gofal mewn argyfwng: ar y cyfan, mae'r bwrdd iechyd wedi perfformio'n dda yn y maes hwn ond mae'n parhau i gyflawni’n is na'r targedau cenedlaethol. 
  • Perfformiad iechyd meddwl oedolion: mae rhan 1A ar gyfer oedolion yn parhau i fod yn heriol gyda'r targed o 80% wedi’i gyflawni unwaith yn unig dros y 12 mis diwethaf a pherfformiad ym mis Ebrill 2025 ond yn 29.6%. Ychydig iawn o welliant sydd wedi bod yn rhan 2 dros y deuddeg mis diwethaf ac mae'n parhau i fod yn is na'r targed.

Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud ag ansawdd yn cynnwys:

  • lefel uchel o ddigwyddiadau byth, gyda 16 wedi digwydd ers Ionawr 2024, gan gynnwys chwech ers Ionawr 2025
  • nid oes gan y sefydliad grŵp llywodraethu sefydledig ar hyn o bryd i oruchwylio gweithredu NatSSIPs2, sy'n ofyniad craidd
  • cydymffurfiaeth wael â pholisïau a gweithdrefnau megis mabwysiadu rhestr wirio Sefydliad Iechyd y Byd a chanllawiau IPC
  • cyfraddau heintio IPC: Mae cyfraddau C.difficile ac E. coli yn amrywiol, sy'n awgrymu bylchau mewn mesurau atal heintiau cyson
  • mae cyfradd cau cwynion y bwrdd iechyd wedi bod yn gostwng ers mis Awst 2024
  • tuedd marwolaethau cynyddol yn datblygu neu farwolaethau yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer toriadau clun a marwolaethau yn dilyn strôc

Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n gysylltiedig â gwasanaethau clinigol yn cynnwys:

  • Nifer sylweddol o risgiau gwasanaeth clinigol, a gwasanaethau bregus neu heriol o fewn y bwrdd iechyd, gan gynnwys mêr esgyrn a bôn-gelloedd, gofal critigol, gofal critigol pediatrig, gastroenteroleg, endosgopi a niwrowyddoniaeth.
  • Strôc: mae canran y cleifion strôc sy'n cael thrombolysis wedi bod yn gostwng ers mis Mai 2024. Mae rhywfaint o dystiolaeth o welliant dros y ddau fis diwethaf wrth i gyfraddau gynyddu i bron 10% ym mis Chwefror 2025.
  • Wedi'i nodi fel allanolyn yn y Rhaglen Archwilio Newyddenedigol Genedlaethol (NNAP) ac yn flaenorol yn archwiliadau MBRRACE ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae'r uned newyddenedigol ar lefel uwchgyfeirio 3 gyda NJCC.
  • Yn chwarter 4 2024 i 2025 (Mawrth), roedd 55.8% o'r shifftiau newyddenedigol wedi'u staffio yn unol â chanllawiau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (BAPM) o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol NNAP o 82.5%.
  • Roedd adroddiadau arolwg AGIC ac adolygiad gwahoddedig y Coleg Seiciatreg Brenhinol o wasanaethau iechyd meddwl yn tynnu sylw at broblemau gyda phrosesau asesu risg, cynllunio gofal ac ymchwilio.

Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n deillio o adolygiadau gwasanaeth mewnol ac allanol o HSDU, theatrau, cardioleg, iechyd meddwl oedolion ac AMD gwlyb yn cynnwys:

  • ymddygiad amhroffesiynol, gan gynnwys rhegi, bwlio, aflonyddu ac ymddygiad gorfodol
  • materion sy'n ymwneud â diogelwch seicolegol a chorfforol
  • diffyg rheolaeth ac arweinyddiaeth effeithiol
  • gwaith tîm gwael a diffyg ymddiriedaeth
  • polisïau AD a gymhwyswyd yn anghyson, a goddef ymddygiadau gwael systemig
  • pryderon am degwch mewn dyrchafiadau a chydbwysedd gwaith-bywyd
  • diffyg diwylliant adrodd, absenoldeb llwybrau wedi'u safoni ac arferion anghyson
  • methiant i adrodd, uwchgyfeirio neu ddysgu o wallau, achosion, ac achosion fu bron â digwydd
  • pryderon am y gallu i fynegi pryder
  • risgiau diogelwch parhaus a phroblemau gydag asesu a mynd i'r afael â risg
  • dogfennaeth wael, cadw cofnodion a chadw at bolisïau
  • aneffeithlonrwydd gweithredol a diffyg cynllunio strategol
  • cyflwr gwael yr ystad yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a morâl staff
  • diffyg fframweithiau llywodraethu cadarn

Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud â llywodraethu ac arweinyddiaeth yn cynnwys:

  • pryderon am y gallu i gyflawni ailgynllunio a newid sefydliadol
  • mae arolygon y gweithlu yn tynnu sylw at bryderon yn ymwneud â diwylliant a llesiant
  • diogelu ac ymddygiad staff wedi cael ei godi mewn nifer o fforymau mewnol ac allanol
  • mae 5 risg wedi sgorio 25, a 62 wedi sgorio 20 ar gofrestr risg gorfforaethol y Bwrdd Iechyd

Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud ag atal ac iechyd y boblogaeth yn cynnwys:

  • mae cynaliadwyedd gwasanaethau meddygol cyffredinol wedi'i gofnodi ar gofrestr risg y Bwrdd Iechyd fel lefel risg 20 i 25
  • nid yw'r Bwrdd Iechyd wedi gallu gweithredu'r llwybr gofal sylfaenol a chymunedol ar gyfer rheoli cwyr clust ac nid yw'n gallu symud ymlaen i gynyddu nifer yr ymarferwyr awdioleg uwch sy'n bwynt cyswllt cyntaf.
  • nodwyd bod y bwrdd iechyd yn allanolyn ar lefel “alarm” yn yr Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2023-24 ar gyfer HbA1c cymedrig wedi'i addasu (30.5%)
  • yn hanesyddol, mae cyfraddau manteisio ar frechiadau ac imiwneiddio o fewn y bwrdd iechyd wedi bod ymhlith yr isaf yng Nghymru, yn enwedig o ran brechiadau mewn plentyndod

Mae crynodeb o'r pryderon lefel uchel sy'n ymwneud â chyllid, strategaeth a chynllunio yn cynnwys: 

  • mae'r bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg diwedd blwyddyn o £58.2 milliwn, yn uwch na'r cyfanswm rheolaeth o £9.1 milliwn, a mwy na dwbl diffyg alldro 2024 i 2025 o £27.1 milliwn
  • nid oedd y bwrdd iechyd yn gallu cyflwyno cynllun tymor canolig integredig cytbwys yn ariannol na chynllun blynyddol cefnogol a derbyniol
  • yr hunanasesiad yn erbyn y matrics aeddfedrwydd cynllunio oedd lefel 1
  • mae nifer o swyddi gwag o fewn y swyddogaeth cynllunio strategol
  • rheoli ystad y bwrdd iechyd a’i gyflwr

Cymorth ymyrraeth

Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod y materion mewnol hyn ac mae wedi dechrau cyfres o'i ymyriadau ei hun ac mae ganddo raglenni mewn sawl maes sy’n ymateb i'w pryderon mewnol dros y flwyddyn ddiwethaf; mae hyn yn cynnwys:

  • trawsnewid iechyd meddwl 
  • siapio ein rhagoriaeth ansawdd yn y dyfodol
  • siapio cenedlaethau'r dyfodol 
  • ail-ddylunio sefydliadol a'r model gweithredu yn y dyfodol
  • cymunedol o’r Cychwyn
  • cynllun gwasanaethau clinigol
  • cynllun iechyd y boblogaeth
  • cynllun pobl a diwylliant
  • cynllun digidol ac ystadau 

Mae'r bwrdd iechyd yn tendro am arbenigedd i'w helpu i nodi opsiynau a dewisiadau ariannol i alluogi mynegi cynllun ariannol credadwy ar gyfer 2026 i 2027 a thu hwnt.

Mae'r rhaglenni hyn ar y gweill ac ar wahanol gamau datblygu a chyflawni ac yn cynnwys elfennau o gymorth darparwyr annibynnol allanol. Mae angen i ymyrraeth Llywodraeth Cymru asesu a yw'r rhaglenni hyn yn ddigonol o ran eglurder, graddfa a chyflymder ac a fyddant yn targedu'r achosion sylfaenol ac o bosibl yr achosion trawsbynciol.

Bydd yr ymyrraeth hwn yn cynnwys 2 gam.

Cam 1: Y cyfnod gwerthuso

Bydd Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Perfformiad a Gwella GIG Cymru, ar y cyd ag arweinyddiaeth y bwrdd iechyd, yn trefnu adolygiad annibynnol yn erbyn y meysydd sy'n peri pryder cynyddol a'i gamau arfaethedig i ddeall a chynghori pawb perthnasol ynghylch:

  • achosion sylfaenol y meysydd uwchgyfeirio a herio gyda ffocws penodol ar lywodraethu, diwylliant sefydliadol ac arweinyddiaeth
  • barn ar ddilysrwydd ac effeithiolrwydd tebygol y cynlluniau gwella sefydledig
  • amlinelliad o'r dull o ymdrin â rhaglen ymyrraeth Cam 2

Bydd Cam 1 yn cymryd oddeutu 8 i 12 wythnos, ac yn cael ei gynnal gan unigolion annibynnol a medrus sydd â phrofiad gweithredol uwch a chefndir arweinyddiaeth feddygol uwch i gefnogi dealltwriaeth o'r ddeinameg ddiwylliannol glinigol sylfaenol o fewn y sefydliad.

Cam 2: Y cyfnod cyflawni

Bydd cylch gorchwyl y cytunwyd arno ar gyfer y cam cyflawni yn cael ei gytuno ar ôl allbynnau Cam 1. 

Monitro ac asesu

Yn ystod cyfnod ymyrraeth lefel 4, bydd trefniadau monitro ac adrodd yn cynnwys:

  • cyfarfod Bwrdd Uwchgyfeirio bob deufis dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru a nifer fach o aelodau'r bwrdd iechyd a Thîm Gweithredol Llywodraeth Cymru
  • goruchwyliaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet yn unol â'r Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio
  • cyfarfodydd perfformiad a chyflawni gweithredol misol Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gefnogi gwelliannau gweithredol ar draws ystod o feysydd

Meini Prawf Isgyfeirio

Arweinyddiaeth a llywodraethiant 

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod: 

  • rhoi tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o ddatblygiad arweinyddiaeth a llywodraethu drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis, wedi'i ategu gan y matrics aeddfedrwydd llywodraethu
  • tystiolaeth bod systemau llywodraethiant a sicrwydd clir ar waith gyda materion yn cael eu huwchgyfeirio’n briodol drwy strwythurau a phrosesau clir, gyda goruchwyliaeth effeithiol gan y bwrdd a fframwaith clir sy’n ysgogi gwelliant
  • arddangos bod y bwrdd a'r pwyllgorau priodol yn goruchwylio'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau ac yn craffu arnynt mewn modd effeithiol yn gyson
  • tystiolaeth bod trefniadau rheoli risg ar waith ar gyfer nodi, cofnodi, a rheoli risgiau ar draws y sefydliad. 
  • gweithredu a gwerthuso bod rhaglenni arweinyddiaeth ar waith i gefnogi datblygiad parhaus sgiliau arwain a rheoli ar bob lefel
  • adrodd bod mwy o staff yn cymryd rhan yn arolygon GIG Cymru
  • tystiolaeth bod cynlluniau ar waith i ddatblygu a chynnal gweithlu cynaliadwy sy'n cael ei enghreifftio gan well lefelau cadw staff, llesiant staff, gostyngiad yn nifer y swyddi gwag a nifer y staff dros dro a staff asiantaeth

Ansawdd a diogelwch 

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod: 

  • Tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o ansawdd a diogelwch, llywodraethu ansawdd a chynnydd o ran gwella ansawdd trwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob 2 flynedd.
  • Cynnal nifer yr achosion cronnus o achosion C.difficile, achosion E.coli BSI ac MRSA BSI a gafwyd yn yr ysbyty i fod yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan dros 2 chwarter yn olynol.
  • Cau 65% o'r cwynion o fewn 30 diwrnod gwaith (yn ôl dyddiad derbyn) dros 2 chwarter yn olynol. 
  • Gostyngiad parhaus mewn digwyddiadau byth (yn ôl dyddiad digwyddiad) dros 2 chwarter yn olynol.
  • Mae'r bwrdd iechyd yn adrodd am welliant dros 2 chwarter o ran yr is-sgôr codi pryderon yn arolwg staff y GIG.
  • Dadansoddiad ac archwiliad dwfn pan fo cyfradd marwolaethau ysbyty o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyniad brys yn dilyn torri clun mewn cleifion dros 64 oed, a chyfradd marwolaethau ysbyty o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyniad brys yn dilyn strôc, yn gwyro oddi wrth gyfartaledd Cymru gyfan.

Gwasanaethau clinigol

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod: 

  • cynnydd mewn tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) yn erbyn pob gwasanaeth clinigol drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis
  • dangos cynnydd dros ddau chwarter yn erbyn y pum mesur canlyniadau ar gyfer pob gwasanaeth sy'n peri pryder:
    • ansawdd ac IPC
    • gweithlu
    • canlyniadau
    • adborth cleifion, teulu a staff
    • dangosyddion perfformiad allweddol gweithredol

Perfformiad a chanlyniadau

Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer gofal a gynlluniwyd a chanser, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos cynnydd dros ddau chwarter yn erbyn: 

  • cynnal perfformiad o 60% yn erbyn targed y Llwybr Lle'r Amheuir Canser
  • 100% o lwybrau cleifion allanol agored yn aros llai na 52 wythnos
  • 100% o lwybrau agored yn aros llai na 104 wythnos
  • 80% o lwybrau agored yn aros llai na 52 wythnos
  • Lleihad o 15% yn nifer y cleifion sy'n wynebu oedi o 100% ar gyfer eu hapwyntiad dilynol am dri mis yn olynol (yn seiliedig ar linell sylfaen Gorffennaf 2025).
  • sicrhau bod gan 65% o lwybrau cleifion offthalmoleg R1 amseroedd aros sydd o fewn neu heb fod yn hirach na 25% o'u dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol
  • 80% o gleifion sy'n aros am brawf diagnostig yn aros am lai nag 8 wythnos
  • 80% o gleifion sy'n aros am endosgopi diagnostig yn aros am lai nag 8 wythnos
  • 80% o gleifion sy'n aros am NOUS ac MRI nad yw'n un cardiaidd yn aros am lai nag 8 wythnos
  • 85% o gleifion sy'n aros am therapïau yn aros am lai na 14 wythnos

Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos: 

  • gostyngiad parhaus o 11% yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd mwy nag awr am dri mis yn olynol (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
  • gwelliant parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 7% o gleifion yn aros mwy na 12 awr ar bob safle unigol ac ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd
  • ni ddylai'r amser canolrifol o'r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i'r adeg y caiff asesiad gan benderfynwr clinigol fod yn fwy na 60 munud
  • gostyngiad parhaus o 5% yn achos llwybrau wedi'u gohirio (yn seiliedig ar y llinell sylfaen y cytunwyd arno)

Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer iechyd meddwl oedolion, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos cynnydd dros ddau chwarter yn erbyn: 

  • cynnal 80% o asesiadau iechyd meddwl y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (LPMHSS) o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y daw'r atgyfeiriad i law
  • dechrau 65% o ymyriadau therapiwtig o fewn 28 diwrnod yn dilyn asesiad gan LPMHSS.
  • sicrhau bod gan 80% o drigolion y bwrdd iechyd sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gynllun gofal a thriniaeth dilys

Iechyd y boblogaeth ac atal ymyrraeth

Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer iechyd y boblogaeth ac atal, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos cynnydd dros ddau chwarter yn olynol ar gyfer: 

  • sicrhau bod canran y plant sydd wedi cael y brechiadau gofynnol erbyn 5 oed yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan
  • sicrhau bod cyfradd y plant sy’n manteisio ar y brechlyn HPV erbyn 15 oed yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan
  • canran yr oedolion sy'n smygu sy'n gwneud ymgais rhoi'r gorau i smygu drwy wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn symud tuag at y targed o ran cydymffurfiaeth dros y cyfnod mesur o 12 mis
  • camau cadarnhaol wedi’u cymryd i liniaru cofrestr risg cynaliadwyedd Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2025
  • camau cadarnhaol wedi’u cymryd mewn ymateb i'r allanolyn ar lefel “alarm” yn Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2023-24 ar gyfer HbA1c cymedrig wedi'i addasu (30.5%)

Cyllid 

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod: 

  • rhoi tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o gynnydd yn erbyn pob maes ariannol drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis
  • dangos bod amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol ar waith, a bod risgiau'n cael eu lleihau i'r eithaf
  • gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu ar gyfer lefel 4, gan gynnwys camau i wella dealltwriaeth y sefydliad o'r diffyg presennol a'r ffactorau ysgogi allweddol a datblygu a gwireddu cyfleoedd
  • datblygu cynllun blynyddol gyda chymeradwyaeth y Bwrdd gan ddangos llwybr gwelliant ariannol sylweddol a chyflawni'r cyfanswm rheoli targed, o leiaf

Strategaeth a chynllunio 

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod: 

  • rhoi tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o strategaeth a gwelliannau cynllunio drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis, wedi'i ategu gan y matrics aeddfedrwydd cynllunio
  • cyflwyno cynllun blynyddol credadwy yn unol â'r fframwaith cynllunio cyfredol
  • tystiolaeth o drywydd clir a rhoi strategaeth a chynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd ar waith