Bydd mwy o bobl ifanc yng Nghymru yn gymwys i gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o fis Medi ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd o leiaf 1,500 yn fwy o bobl ifanc 16 i 18 oed yn gallu hawlio'r lwfans o £40 yr wythnos, yn dilyn newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn helpu pobl ifanc i dalu am gostau teithio, prydau bwyd, a deunyddiau astudio. Ei nod yw cael gwared ar rwystrau ariannol i alluogi pobl ifanc i barhau â'u haddysg. Ar hyn o bryd mae dros 18,000 o fyfyrwyr yng Nghymru yn cael y Lwfans.
O fis Medi 2026 ymlaen, bydd trothwyon incwm aelwydydd ag un dibynnydd yn codi o £23,400 i £24,570, ac o £25,974 i £27,273 ar gyfer aelwydydd sydd â dau neu fwy o ddibynyddion.
Yn wreiddiol, roedd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn gynllun ar gyfer y DU gyfan, ond yn 2011 daeth i ben yn Lloegr, ac mae'n cael ei gadw ar gyfradd is o £30 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Gall mynd ymlaen i'r chweched dosbarth neu'r coleg ddarparu profiadau sy'n newid bywydau pobl ifanc – efallai mai'r gefnogaeth hon sy'n gwneud y gwahaniaeth er mwyn i berson ifanc allu gwneud hynny. Mae'n destun balchder imi ein bod nid yn unig wedi cadw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru, ond wedi ei wneud yn fwy hael, gan helpu miloedd yn fwy o bobl ifanc i ddilyn cyrsiau hyfforddi ac addysg sy'n gweithio iddyn nhw.
"Dw i am i bob person ifanc gael yr un cyfleoedd i ddysgu, a meithrin eu sgiliau a'u hyder. Mae hyn nid yn unig yn dda i'r unigolion, mae'n dda i fusnes, gan ddarparu'r gweithlu medrus sydd ei angen arnon ni i helpu ein heconomi i dyfu."
Dywedodd dysgwr ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Treorci:
“Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn help mawr i fyfyrwyr; mae’n rhoi’r rhyddid iddyn nhw ddarganfod llwybrau mewn addysg heb orfod poeni am y costau. I mi’n bersonol, mae’r Lwfans o ddefnydd mawr gyda chostau cludiant yn ôl ac ymlaen o’r ysgol. Hebddo, byddai’n llawer mwy heriol ceisio cyrraedd yr ysgol. Mae’r Lwfans yn rhoi tawelwch meddwl i fyfyrwyr eu bod yn cael eu cefnogi’n ariannol, ac mae’n eu helpu i ganolbwyntio ar eu dysgu."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
"Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn chwarae rôl hanfodol wrth gael gwared ar rwystrau ariannol a helpu pobl ifanc i aros mewn addysg. Dw i wedi clywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr am y gwahaniaeth gwirioneddol y mae wedi'i wneud i'w bywydau, o dalu costau bob dydd i gadw eu hastudiaethau ar y trywydd iawn.
"Mae'n destun balchder imi gael ymestyn ystod yr unigolion sy'n gymwys fel y gall hyd yn oed mwy o fyfyrwyr elwa o'r gefnogaeth hon, a dw i am annog pob person ifanc 16 i 18 oed a'u teuluoedd i gymryd eiliad i wirio a ydyn nhw nawr yn gymwys."
Bydd modd gwneud cais am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar 27 Ebrill 2026.
Gall dysgwyr wirio p'un a ydynt yn gymwys ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, neu siarad â'u hysgol neu eu coleg am help gyda'u cais.
