Y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig: cyflawni prosiect: canllawiau ar gyfer rheoli ysglyfaethwyr mewn prosiectau rheoli tir ar raddfa tirwedd
Canllawiau ar gyfer rheoli ysglyfaethwyr mewn prosiectau rheoli tir ar raddfa tirwedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Diben a chwmpas
Mae'r canllawiau hyn yn cynnig fframwaith ar gyfer rheoli ysglyfaethwyr mewn ffyrdd moesegol, cyfreithiol ac ecolegol gadarn fel rhan o brosiectau cadwraeth a rheoli tir ar raddfa’r dirwedd yng Nghymru. Eu diben yw helpu ymarferwyr, perchenogion tir a chyrff cyllido i sicrhau bod mesurau rheoli ysglyfaethwyr:
- yn gyson â pholisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
- yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur, heb greulondeb
- yn cyfrannu at warchod rhywogaethau â blaenoriaeth a gwneud ecosystemau’n fwy gwydn
- yn gymwys am gyllid cyhoeddus o dan gynlluniau fel y Gronfa Rhwydweithiau Natur, y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig, Ffermio Bro a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
2. Y cyd-destun polisi
Deddfwriaeth Cymru a dyletswyddau bioamrywiaeth
- Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus i “gynnal a gwella bioamrywiaeth” a “hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau”.
- Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn disgrifio cyfyngiadau sylfaenol yn y DU.
- Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn gwahardd defnyddio dulliau penodol i reoli ysglyfaethwyr ac yn disgrifio’r newidiadau angenrheidiol i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yng Nghymru.
- Deddf Lles Anifeiliaid 2006 – rhaid cymryd camau rhesymol i sicrhau bod anghenion lles pob anifail dan reolaeth dyn (gan gynnwys y rhai sy'n cael eu dal mewn trap) yn cael eu diwallu.
- Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yn amlinellu'r defnydd o Gytundebau a Gorchmynion Rheoli Rhywogaethau, gyda mesurau i ddiogelu lles anifeiliaid a rhywogaethau nad ydynt yn darged.
Rheoli ysglyfaethwyr yng nghyd-destun tirwedd Cymru
Gan nad oes ysglyfaethwyr brig naturiol yn y DU, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall rhai rhywogaethau hollysol (sy’n bwyta pob peth) — fel cadnoid (llwynogod) a brain — roi pwysau anghynaliadwy ar fywyd gwyllt bregus, yn enwedig adar sy'n nythu ar y ddaear. Bryd hynny, efallai y bydd angen rheoli ysglyfaethwyr trwy dargedu cymesur i helpu rhywogaethau i ymadfer a gwneud ecosystemau’n fwy cydnerth.
Ond nid ydym am weld ysglyfaethwyr brodorol ar dirweddau a reolir yn cael eu difa’n llwyr. Wrth reoli ysglyfaethwyr, dylid ceisio efelychu rôl ecolegol ysglyfaethwyr brig absennol, a cheisio adfer y ddeinameg gytbwys rhwng yr ysglyfaethwr a'i brae. Y nod yw lleihau — nid difa —y pwysau gan ysglyfaethwyr ar rywogaethau bregus.
Rydym hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried sut mae penderfyniadau rheoli cynefinoedd yn dylanwadu ar ymddygiad a niferoedd ysglyfaethwyr. Er enghraifft, gall ymylon coetir darniog gynyddu'r risg o ysglyfaethu mewn cynefinoedd bridio ar ucheldir cyfagos. Dylai dulliau rheoli tir integredig felly ystyried y rhyngweithiau ecolegol hyn er mwyn cefnogi canlyniadau fydd o les i fioamrywiaeth.
Sefyllfa cadwraeth ehangach y DU
- Mae rheoli ysglyfaethwyr yn cael ei gydnabod fel erfyn cadwraethol cyfreithlon pan gaiff ei ddefnyddio i amddiffyn rhywogaethau bregus, yn enwedig adar sy'n nythu ar y ddaear fel y gylfinir, y gornchwiglen a'r cwtiad aur.
- Mae sawl sefydliad cadwraeth yn y trydydd sector o blaid rheoli ysglyfaethwyr cyn belled â bod hynny:
• yn angenrheidiol i atal niferoedd rhag dirywio.
• yn cael ei gynnal o dan amodau lles ac ecolegol llym
• yn ategu gwaith adfer a monitro cynefinoedd.
3. Egwyddorion wrth reoli ysglyfaethwyr
Dylid rheoli ysglyfaethwyr fod fel a ganlyn:
A. Yn seiliedig ar dystiolaeth
- Bydd data ecolegol cadarn sy'n dangos bod ysglyfaethu yn ffactor sy'n cyfyngu ar y rhywogaeth darged.
- Caiff gwaith monitro ei gynnal cyn, yn ystod ac ar ôl y mesurau rheoli i ategu'r mesurau hynny.
B. Cymesur, cyfreithiol ac wedi'i dargedu
- Ystyriwch ddulliau nad ydynt yn gofyn am ladd yr ysglyfaethwr i ddatrys problemau a defnyddiwch ddulliau sy'n lladd dim ond os yw'r dewis arall yn anymarferol, yn neilltuol o ddrud neu'n aneffeithiol.
- Canolbwyntiwch ar ysglyfaethwyr rydych yn gwybod eu bod yn effeithio ar dargedau cadwraeth (e.e., cadnoid, teulu'r frân, mincod).
- Rhaid cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth megis Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
- Rhaid i unrhyw fesurau rheoli ar frain tyddyn i ddiogelu wyau neu gywion adar gwyllt rhestredig gael eu cynnal yn unol â Thrwydded Gyffredinol 004 a roddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nodir o dan y drwydded gyffredinol ar frain:
• dim ond brain tyddyn y ceir eu cymryd/lladd
• caniateir mesurau rheoli i ddiogelu wyau a chywion yn unig (nid adar llawndwf). Mae rhywogaethau y gellir eu gwarchod wedi'u rhestru mewn atodiad ar y drwydded gyffredinol (e.e. rhestrir y gornchwiglen a'r gylfinir fel rhywogaethau y gellir eu gwarchod)
• gan mai dim ond wyau a chywion y gellir eu diogelu, dim ond rhwng 1 Chwefror a 31 Awst y gellir cymryd/lladd brain. Nid yw'r drwydded yn ddilys y tu allan i'r dyddiadau hynny.
- Ni chaniateir defnyddio bwa saeth na bwa croes nac unrhyw ffrwydryn heblaw bwledi a chetrys ar gyfer dryllau.
- Ni chaniateir defnyddio dulliau annethol, gan gynnwys baglau (cyffion cebl heb greulondeb yn enw arall arnynt) na thrapiau glud (yn unol â Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023). Gwaherddir y dulliau hyn yng Nghymru.
C. Moesegol a heb greulondeb
- Cydymffurfio â Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a chodau ymarfer perthnasol.
- Sicrhau bod anghenion lles pob anifail yn cael eu diwallu a sicrhau bod rhywogaethau nad ydynt yn darged yn cael eu diogelu.
- Sicrhau bod anghenion lles anifeiliaid sydd wedi'u trapio, gan gynnwys adar denu, yn cael eu diwallu.
- Er mwyn cael defnyddio adar denu, rhaid bodloni'r canlynol:
• bod pob dull cyfreithiol arall o reoli ysglyfaethwyr wedi'i ystyried a'i wrthod
• eich bod wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru
• eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a'r labeli (bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn lle bo hynny'n briodol)
D. Integreiddio â rheoli cynefinoedd
- Peidiwch ag ystyried rheoli ysglyfaethwyr fel rhywbeth ar wahân – dylai fod yn rhan o strategaeth ehangach sy'n cynnwys:
• adfer cynefinoedd
• amddiffyn nythod
• trafod â'r gymuned
4. Yn gymwys am gyllid
Gall arian cyhoeddus fod ar gael i reoli ysglyfaethwyr os yw:
- Yn rhan o gynllun adfer rhywogaethau (e.e. Cynllun Gweithredu Cymru ar Ylfynirod).
- Wedi'i glirio gan Lywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwy gynllun Rheoli Ysglyfaethwyr ac unrhyw fersiynau ohono a gyflwynir yn unol â thelerau ac amodau cynllun grant.
- Yn cyfrannu at amcanion cynlluniau grant Llywodraeth Cymru megis y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig, neu haenau perthnasol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
- Yn ategu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac yn cefnogi Rhywogaethau â Blaenoriaeth Adran 7.
- Yn cael ei warantu, ei gymeradwyo neu ei gyflwyno mewn partneriaeth â CNC.
5. Beth sy'n rhaid i brosiect sy'n cael grant ei wneud
- Datblygu Cynllun ar gyfer Rheoli Ysglyfaethwyr. yn cynnwys amcanion, rhywogaethau targed, dulliau, monitro ac adolygu.
- Trafod â Rhanddeiliaid: Cydweithio â phartneriaid y prosiect, cymunedau lleol, ffermwyr, cyrff anllywodraethol trydydd parti lle bo hynny'n briodol, a rheoleiddwyr (CNC a Llywodraeth Cymru).
- Monitro Canlyniadau: Defnyddio dangosyddion fel llwyddiant bridio, tueddiadau yn y boblogaeth a chyflwr cynefin.
- Adroddiadau Tryloyw: Cofnodi gweithgareddau a chanlyniadau ar gyfer cyllidwyr ac i fod yn atebol i'r cyhoedd.
6. Adolygu a diweddaru
Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd i adlewyrchu:
- newidiadau mewn deddfwriaeth neu bolisi
- tystiolaeth wyddonol newydd
- adborth gan brosiectau a gyllidir a rhanddeiliaid
Daw unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth i rym ar unwaith a rhaid cadw atynt. Cydnabyddir y gallai hyn ei gwneud yn anoddach cyflawni'r prosiect a/neu olygu mwy o gostau a/neu golledion ariannol.
