Neidio i'r prif gynnwy

1. Diben a chwmpas

Mae'r canllawiau hyn yn cynnig fframwaith ar gyfer rheoli ysglyfaethwyr mewn ffyrdd moesegol, cyfreithiol ac ecolegol gadarn fel rhan o brosiectau cadwraeth a rheoli tir ar raddfa’r dirwedd yng Nghymru. Eu diben yw helpu ymarferwyr, perchenogion tir a chyrff cyllido i sicrhau bod mesurau rheoli ysglyfaethwyr:

  • yn gyson â pholisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
  • yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur, heb greulondeb
  • yn cyfrannu at warchod rhywogaethau â blaenoriaeth a gwneud ecosystemau’n fwy gwydn
  • yn gymwys am gyllid cyhoeddus o dan gynlluniau fel y Gronfa Rhwydweithiau Natur, y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig, Ffermio Bro a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

2. Y cyd-destun polisi

Deddfwriaeth Cymru a dyletswyddau bioamrywiaeth

  • Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus i “gynnal a gwella bioamrywiaeth” a “hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau”.
  • Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn disgrifio cyfyngiadau sylfaenol yn y DU.
  • Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn gwahardd defnyddio dulliau penodol i reoli ysglyfaethwyr ac yn disgrifio’r newidiadau angenrheidiol i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yng Nghymru.
  • Deddf Lles Anifeiliaid 2006 – rhaid cymryd camau rhesymol i sicrhau bod anghenion lles pob anifail dan reolaeth dyn (gan gynnwys y rhai sy'n cael eu dal mewn trap) yn cael eu diwallu.
  • Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yn amlinellu'r defnydd o Gytundebau a Gorchmynion Rheoli Rhywogaethau, gyda mesurau i ddiogelu lles anifeiliaid a rhywogaethau nad ydynt yn darged.

Rheoli ysglyfaethwyr yng nghyd-destun tirwedd Cymru

Gan nad oes ysglyfaethwyr brig naturiol yn y DU, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall rhai rhywogaethau hollysol (sy’n bwyta pob peth) — fel cadnoid (llwynogod) a brain — roi pwysau anghynaliadwy ar fywyd gwyllt bregus, yn enwedig adar sy'n nythu ar y ddaear. Bryd hynny, efallai y bydd angen rheoli ysglyfaethwyr trwy dargedu cymesur i helpu rhywogaethau i ymadfer a gwneud ecosystemau’n fwy cydnerth.

Ond nid ydym am weld ysglyfaethwyr brodorol ar dirweddau a reolir yn cael eu difa’n llwyr. Wrth reoli ysglyfaethwyr, dylid ceisio efelychu rôl ecolegol ysglyfaethwyr brig absennol, a cheisio adfer y ddeinameg gytbwys rhwng yr ysglyfaethwr a'i brae. Y nod yw lleihau — nid difa —y pwysau gan ysglyfaethwyr ar rywogaethau bregus.

Rydym hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried sut mae penderfyniadau rheoli cynefinoedd yn dylanwadu ar ymddygiad a niferoedd ysglyfaethwyr. Er enghraifft, gall ymylon coetir darniog gynyddu'r risg o ysglyfaethu mewn cynefinoedd bridio ar ucheldir cyfagos. Dylai dulliau rheoli tir integredig felly ystyried y rhyngweithiau ecolegol hyn er mwyn cefnogi canlyniadau fydd o les i fioamrywiaeth.

Sefyllfa cadwraeth ehangach y DU

  • Mae rheoli ysglyfaethwyr yn cael ei gydnabod fel erfyn cadwraethol cyfreithlon pan gaiff ei ddefnyddio i amddiffyn rhywogaethau bregus, yn enwedig adar sy'n nythu ar y ddaear fel y gylfinir, y gornchwiglen a'r cwtiad aur.
  • Mae sawl sefydliad cadwraeth yn y trydydd sector o blaid rheoli ysglyfaethwyr cyn belled â bod hynny:

    • yn angenrheidiol i atal niferoedd rhag dirywio.
    • yn cael ei gynnal o dan amodau lles ac ecolegol llym
    • yn ategu gwaith adfer a monitro cynefinoedd.

3. Egwyddorion wrth reoli ysglyfaethwyr

Dylid rheoli ysglyfaethwyr fod fel a ganlyn:

A. Yn seiliedig ar dystiolaeth

  • Bydd data ecolegol cadarn sy'n dangos bod ysglyfaethu yn ffactor sy'n cyfyngu ar y rhywogaeth darged.
  • Caiff gwaith monitro ei gynnal cyn, yn ystod ac ar ôl y mesurau rheoli i ategu'r mesurau hynny.

B. Cymesur, cyfreithiol ac wedi'i dargedu

  • Ystyriwch ddulliau nad ydynt yn gofyn am ladd yr ysglyfaethwr i ddatrys problemau a defnyddiwch ddulliau sy'n lladd dim ond os yw'r dewis arall yn anymarferol, yn neilltuol o ddrud neu'n aneffeithiol.
  • Canolbwyntiwch ar ysglyfaethwyr rydych yn gwybod eu bod yn effeithio ar dargedau cadwraeth (e.e., cadnoid, teulu'r frân, mincod).
  • Rhaid cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth megis Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
  • Rhaid i unrhyw fesurau rheoli ar frain tyddyn i ddiogelu wyau neu gywion adar gwyllt rhestredig gael eu cynnal yn unol â Thrwydded Gyffredinol 004 a roddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nodir o dan y drwydded gyffredinol ar frain:

    • dim ond brain tyddyn y ceir eu cymryd/lladd
    • caniateir mesurau rheoli i ddiogelu wyau a chywion yn unig (nid adar llawndwf). Mae rhywogaethau y gellir eu gwarchod wedi'u rhestru mewn atodiad ar y drwydded gyffredinol (e.e. rhestrir y gornchwiglen a'r gylfinir fel rhywogaethau y gellir eu gwarchod)
    • gan mai dim ond wyau a chywion y gellir eu diogelu, dim ond rhwng 1 Chwefror a 31 Awst y gellir cymryd/lladd brain. Nid yw'r drwydded yn ddilys y tu allan i'r dyddiadau hynny.
     
  • Ni chaniateir defnyddio bwa saeth na bwa croes nac unrhyw ffrwydryn heblaw bwledi a chetrys ar gyfer dryllau.
  • Ni chaniateir defnyddio dulliau annethol, gan gynnwys baglau (cyffion cebl heb greulondeb yn enw arall arnynt) na thrapiau glud (yn unol â Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023). Gwaherddir y dulliau hyn yng Nghymru.

C. Moesegol a heb greulondeb

  • Cydymffurfio â Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a chodau ymarfer perthnasol.
  • Sicrhau bod anghenion lles pob anifail yn cael eu diwallu a sicrhau bod rhywogaethau nad ydynt yn darged yn cael eu diogelu.
  • Sicrhau bod anghenion lles anifeiliaid sydd wedi'u trapio, gan gynnwys adar denu, yn cael eu diwallu.
  • Er mwyn cael defnyddio adar denu, rhaid bodloni'r canlynol:

    • bod pob dull cyfreithiol arall o reoli ysglyfaethwyr wedi'i ystyried a'i wrthod
    • eich bod wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru
    • eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a'r labeli (bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn lle bo hynny'n briodol)

D. Integreiddio â rheoli cynefinoedd

  • Peidiwch ag ystyried rheoli ysglyfaethwyr fel rhywbeth ar wahân – dylai fod yn rhan o strategaeth ehangach sy'n cynnwys:

    • adfer cynefinoedd
    • amddiffyn nythod
    • trafod â'r gymuned

4. Yn gymwys am gyllid

Gall arian cyhoeddus fod ar gael i reoli ysglyfaethwyr os yw:

  • Yn rhan o gynllun adfer rhywogaethau (e.e. Cynllun Gweithredu Cymru ar Ylfynirod).
  • Wedi'i glirio gan Lywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwy gynllun Rheoli Ysglyfaethwyr ac unrhyw fersiynau ohono a gyflwynir yn unol â thelerau ac amodau cynllun grant.
  • Yn cyfrannu at amcanion cynlluniau grant Llywodraeth Cymru megis y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig, neu haenau perthnasol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
  • Yn ategu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac yn cefnogi Rhywogaethau â Blaenoriaeth Adran 7.
  • Yn cael ei warantu, ei gymeradwyo neu ei gyflwyno mewn partneriaeth â CNC.

5. Beth sy'n rhaid i brosiect sy'n cael grant ei wneud

  • Datblygu Cynllun ar gyfer Rheoli Ysglyfaethwyr. yn cynnwys amcanion, rhywogaethau targed, dulliau, monitro ac adolygu.
  • Trafod â Rhanddeiliaid: Cydweithio â phartneriaid y prosiect, cymunedau lleol, ffermwyr, cyrff anllywodraethol trydydd parti lle bo hynny'n briodol, a rheoleiddwyr (CNC a Llywodraeth Cymru).
  • Monitro Canlyniadau: Defnyddio dangosyddion fel llwyddiant bridio, tueddiadau yn y boblogaeth a chyflwr cynefin.
  • Adroddiadau Tryloyw: Cofnodi gweithgareddau a chanlyniadau ar gyfer cyllidwyr ac i fod yn atebol i'r cyhoedd.

6. Adolygu a diweddaru

Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd i adlewyrchu:

  • newidiadau mewn deddfwriaeth neu bolisi
  • tystiolaeth wyddonol newydd
  • adborth gan brosiectau a gyllidir a rhanddeiliaid

Daw unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth i rym ar unwaith a rhaid cadw atynt. Cydnabyddir y gallai hyn ei gwneud yn anoddach cyflawni'r prosiect a/neu olygu mwy o gostau a/neu golledion ariannol.