Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae adran 46(1) a (2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) i roi trefniadau ar waith ar gyfer darlledu cyfarfodydd cyngor llawn fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd eu hunain yn gallu gweld a chlywed y trafodion fel y maent yn digwydd.

Mae adran 46(2)(b) a (4) o Ddeddf 2021 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor ddarlledu cyfarfodydd eraill y mae’n eu cynnal.

Mae adran 46(8) a (9) o Ddeddf 2021 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddarlledu eu cyfarfodydd.

Roedd y papur ymgynghori yn ystyried y canlynol:

  • a ddylid ymestyn y ddyletswydd ar brif gyngor i ddarlledu cyfarfodydd sy’n cynnwys cyfarfodydd heblaw rhai’r cyngor llawn
  • a ddylid gosod dyletswydd ar Awdurdodau Tân ac Achub a/neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i ddarlledu eu cyfarfodydd
  • a ddylid cael cyfnod cadw ar gyfer recordiadau o gyfarfodydd sy’n cael eu darlledu

Gwybodaeth am y broses ymgynghori

Gwahoddwyd safbwyntiau fel rhan o ymgynghoriad ffurfiol rhwng 14 Gorffennaf 2025 a 28 Tachwedd 2025. Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn am nifer o faterion gan gynnwys: 

  • A oes angen ymestyn y gofynion gorfodol i ddarlledu cyfarfodydd eraill prif gynghorau
  • Pa fath o gyfarfodydd y dylai unrhyw ymestyn eu cynnwys?
  • A ddylid ymestyn darlledu cyfarfodydd i gynnwys rhai Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol?
  • Am ba mor hir ddylai recordiadau o gofnodion gael eu cadw?

Gwybodaeth am yr ymatebion

Cyflwynwyd 49 o ymatebion naill ai ar-lein neu drwy e-bost o fewn amserlen yr ymgynghoriad. Ni wnaeth 11 o’r ymatebwyr gyflwyno unrhyw atebion, a nododd un ei fod wedi darllen yr ymgynghoriad yn unig.   

Fel rhan o’r broses ymgynghori, gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn fodlon i’w manylion gael eu datgelu. Roedd hi’n well gan 11 ymatebydd aros yn ddienw ac nid atebodd 12 y cwestiynau. Felly, nid ydym wedi cyhoeddi manylion yr ymatebwyr.

Gellir grwpio’r 49 ymatebwr i’r ymgynghoriad fel a ganlyn:

  • 13 prif gyngor 
  • 10 cyngor tref a chymuned
  • 3 sefydliad, gan gynnwys cymdeithasau, paneli
  • 3 Awdurdod Tân ac Achub
  • 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol
  • 11 aelod o’r cyhoedd
  • 6 cyflwyniad ar-lein dienw, ni ellir ei grwpio 

Cyflwynwyd 37 ymateb ar-lein ac 12 dros e-bost. Ni ystyriwyd ymatebion rhannol.

 Ni chafwyd unrhyw ymatebion ar ffurf copi caled.

Crynodeb o’r ymatebion

Bwriedir i’r ddogfen hon fod yn grynodeb o’r ymatebion a gafwyd. Nid nod yr adroddiad yw cofnodi pob pwynt a godwyd gan ymatebwyr, yn hytrach mae’n tynnu sylw at y negeseuon allweddol.

Gofynnwyd 9 cwestiwn yn y ddogfen ymgynghori ac mae crynodeb o’r ymatebion isod.

Ni chafodd pob cwestiwn ei ateb gan bob ymatebydd a rhoddodd rhai ymateb cyffredinol i’r ymgynghoriad yn hytrach nag ateb cwestiynau penodol. Lle darparwyd ymateb cyffredinol, rydym wedi cynnwys yr ymateb o dan y cwestiwn mwyaf priodol neu wedi darparu crynodeb o’r pwyntiau a godwyd. 

Mae sylwadau ymatebwyr wedi cael eu cynnwys yn y crynodeb lle nad yw ymatebydd wedi cytuno nac anghytuno’n benodol â chwestiwn.

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno y dylid ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd yn fyw i gyfarfodydd ychwanegol prif gyngor?

Os ydych chi, pa rai o’r pwyllgorau a’r cyfarfodydd a restrir uchod yn yr ymgynghoriad ddylai gael eu darlledu’n fyw?

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 40 y cwestiwn hwn. Roedd 37 yn cytuno â’r cynnig, 3 yn anghytuno, 7 heb ateb y cwestiwn a dywedodd 2 nad oedd yn berthnasol.

Dywedodd 76% (37) o’r ymatebwyr a oedd yn cytuno â’r cynnig hwn fod ymestyn y ddyletswydd i gyfarfodydd ychwanegol prif gyngor yn rhesymegol ac yn sicrhau cysondeb, bod yn agored ac yn dryloyw. 

Tynnodd 15 o’r ymatebwyr sylw at oblygiadau ymestyn y ddyletswydd darlledu byw o ran adnoddau, gan gynnwys y galw ar staff, costau offer, capasiti storio. Gofynnodd un ymateb i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid penodol i gefnogi unrhyw ddyletswydd estynedig.

Awgrymodd un awdurdod lleol gyflwyno’n raddol; parhau i ddarlledu cyfarfodydd llawn y cyngor fel sy'n ofynnol, yna ymestyn y ddyletswydd i gyfarfodydd sydd â’r lefel uchaf o ddiddordeb cyhoeddus (Cabinet, Cynllunio, Craffu) gan ddilyn gyda’r Gwasanaethau Democrataidd, Archwilio a Thrwyddedu. 

Roedd safbwyntiau croes ynghylch ‘byw o’i gymharu â wedi'i recordio’. Roedd rhai ymatebion yn awgrymu y byddai llwytho cyfarfodydd wedi’u recordio i fyny’n brydlon yn sicrhau’r un lefelau o dryloywder ond y byddai’n costio llai na ffrydio’n fyw. 

Awgrymodd y rhan fwyaf a atebodd ac a fynegodd farn ynghylch pa bwyllgorau y dylai’r ddyletswydd ymestyn iddynt mai Pwyllgorau’r Cabinet, Cynllunio a Chraffu ddylai fod yn gyfarfodydd ychwanegol a ddarlledir yn fyw.

O’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno, nododd un fod y cynnig wedi cael ei gyflwyno’n wreiddiol fel mesur diogelwch COVID-19. Roeddent yn teimlo nad oedd ei angen mwyach ac yn ei ddisgrifio fel “gwastraff amser ac arian”. Nododd eraill y byddai’r gwastraff adnoddau a darlledu gormod o gyfarfodydd yn tynnu oddi ar y rhai pwysicaf. 

Cwestiwn 2

A oes cyfarfodydd pwyllgorau eraill prif gyngor rydych chi’n meddwl y dylid ymestyn y ddyletswydd ar eu cyfer?

Os oes, nodwch pa gyfarfodydd a’r rheswm/rhesymau rydych chi’n credu y dylid eu darlledu’n fyw?

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 40 y cwestiwn hwn. O’r rhain, roedd 25 (63%) o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid ymestyn y ddyletswydd i gynnwys cyfarfodydd y tu hwnt i’r rhai a nodwyd yng nghwestiwn 1. Dim ond nifer fach a oedd yn cynnig awgrymiadau penodol ynghylch pa gyfarfodydd ychwanegol y dylid eu cynnwys, fel y rheini sy’n ennyn diddordeb sylweddol ymysg y cyhoedd, fel y Cabinet a phwyllgorau penodol, gan gynnwys cynllunio, trwyddedu a chraffu.

Nid oedd 13 ymatebydd o blaid ymestyn y ddyletswydd, dywedodd 2 nad oedd y cwestiwn yn berthnasol iddynt, ac ni atebodd 9 y cwestiwn.

Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd yn dileu rhwystrau ac yn creu gwell dealltwriaeth o ddemocratiaeth drwy wella tryloywder, a fyddai yn ei dro yn meithrin ymddiriedaeth.

Nid oedd 13 o ymatebwyr (33%) o blaid ymestyn y ddyletswydd, dywedodd 2 nad oedd y cwestiwn yn berthnasol iddynt, ac nid atebodd naw y cwestiwn. Dywedodd y rhai nad oeddent yn cytuno nad oedd y cyhoedd yn ddigon cyfarwydd â phwyllgorau ychwanegol ac y byddent yn llai tebygol o wylio’r cyfarfodydd hyn yn fyw. Byddai angen ystyried goblygiadau cost wrth roi’r cynnig hwn ar waith, byddai ymestyn y ddyletswydd i bob is-bwyllgor yn anghymesur oherwydd costau staffio a goblygiadau adnoddau.

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno y dylid ymestyn y gofyniad i ddarlledu cyfarfodydd i gynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub?

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 43 y cwestiwn hwn. Roedd 35 yn cytuno â’r gofyniad, ac nid atebodd 6 y cwestiwn. 

Roedd 81% (35) o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid ymestyn y gofyniad i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub i sicrhau cydraddoldeb â phrif gynghorau ac i ganiatáu tryloywder a chraffu cyhoeddus. Soniodd ymatebwyr am bwysigrwydd rhoi gwell mynediad i’r cyhoedd at brosesau gwneud penderfyniadau a deall sut mae’r awdurdodau hyn yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau.

Roedd y safbwyntiau a fynegwyd yn cynnwys y byddai darlledu cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub o fudd i breswylwyr sy’n byw yn eu hardal, ond os yw hwn yn ofyniad newydd yna dylid darparu rhywfaint o gyllid i sefydlu’r swyddogaeth hon. Dywedodd ymateb gan un Awdurdod Tân ac Achub, heb gymorth ychwanegol, fod risg wirioneddol y gellid dargyfeirio adnoddau oddi wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen, sef prif flaenoriaeth Awdurdodau Tân ac Achub.

Roedd ymatebion gan gynghorau tref a chymuned yn nodi bod Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar gymunedau a wasanaethir gan gynghorau tref a chymuned ac awdurdodau lleol. Byddai darlledu eu cyfarfodydd yn cefnogi cysondeb ar draws y dirwedd llywodraeth leol ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr i gynghorau sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r cyrff hyn.

Dywedodd dau ymatebydd nad oeddent yn gwybod beth oedd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn ei wneud a’u bod yn teimlo bod y cyfarfodydd hyn yn llai pwysig na chyfarfodydd y cyngor. 

Ymatebodd un prif gyngor mai anaml iawn yr oedd ganddynt bobl yn ymweld â’r oriel gyhoeddus i weld cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ac roedd ffigurau gwylio cyfarfodydd sy’n cael eu ffrydio’n fyw yn isel, felly dylid ystyried budd y cyhoedd wrth osod gofyniad ynghylch a ddylid darlledu cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub. 

Cwestiwn 4

A ddylai darlledu cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub gael eu hymestyn i gyfarfodydd y tu hwnt i gyfarfodydd llawn yr awdurdodau, ee pwyllgorau safonau?

Os dylai, pa gyfarfodydd?

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 42 y cwestiwn hwn. Roedd 27 yn cytuno â’r cynnig (64%). Dywedodd 15 na i ymestyn y ddyletswydd. Ni wnaeth 7 ateb y cwestiwn.

Roedd 20 o’r ymatebion yn cefnogi rhywfaint o ymestyn darlledu y tu hwnt i gyfarfodydd llawn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, ond roedd safbwyntiau’n amrywio ynghylch pa mor bell y dylai hyn fynd. Teimlai’r ymatebwyr hyn y byddai darlledu cyfarfodydd ychwanegol, yn enwedig cyfarfodydd pwyllgorau safonau - yn gwella tryloywder ac yn dangos i’r cyhoedd bod cwynion ac ymchwiliadau’n cael eu cymryd o ddifrif. 

Roedd yr ymatebwyr a oedd yn cytuno y dylid ymestyn y cynigion yn awgrymu mai Pwyllgorau Cynllunio a Safonau fyddai’n sicrhau’r budd mwyaf i’r cyhoedd.

Roedd y rheini nad oeddent o blaid ymestyn y ddyletswydd yn dadlau y dylid ystyried pryderon fesul achos, p’un ai a oedd budd i’r cyhoedd yn y cyfarfod, y costau a’r baich ar staff, ac y dylai unrhyw benderfyniadau i ddarlledu fod yn gymesur, yn sensitif i adnoddau ac yn seiliedig ar fudd y cyhoedd yn hytrach na gofyniad cyffredinol ar gyfer pob cyfarfod.

Roedd y rheini nad oeddent yn cytuno yn awgrymu y byddai darlledu prif gyfarfodydd Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol o fudd i aelodau awdurdodau lleol a’r trigolion o fewn ffiniau Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, ond ystyriwyd na fyddai fawr ddim diddordeb, os o gwbl, yn eu pwyllgorau eraill.

Roedd ymateb gan un Awdurdod Tân ac Achub yn awgrymu nad oes ganddo’r gallu i ymestyn ei ddyletswydd darlledu y tu hwnt i gyfarfodydd awdurdod llawn, byddai gwneud hynny’n achosi pwysau ariannol ac yn rhoi pwysau ar adnoddau.

Cwestiwn 5

Yng nghyswllt prif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, ydych chi’n cytuno y dylid cadw recordiadau o gyfarfodydd y mae’n rhaid eu darlledu?

Os ydych chi, a ddylai’r cyfnod hwn fod yr un fath â’r cyfnod ar gyfer y cofnodion swyddogol hynny yw, chwe blynedd, neu am gyfnod gwahanol o amser? 

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 45 y cwestiwn hwn. Roedd 40 yn cytuno â’r cynnig, rodd 5 yn anghytuno, ac nid atebodd 4 y cwestiwn.

Roedd 89% (40) o’r 45 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn cytuno y dylid cael cyfnod cadw ar gyfer recordiadau o gyfarfodydd am resymau tryloywder, hygyrchedd cyhoeddus a gwell dealltwriaeth o gyfarfod a ddarlledir o’i gymharu â chofnodion ysgrifenedig.

Ystyriwyd bod chwe blynedd yn gyfnod cadw derbyniol ac ystyried ei fod yn cyd-fynd â’r gofynion presennol ar gyfer cofnodion ysgrifenedig, er bod yn well gan rai ymatebion gyfnod cadw byrrach a mwy hyblyg oherwydd goblygiadau storio a chostau.

Awgrymodd un o’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y dylid caniatáu i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol bennu eu cyfnodau cadw eu hunain, gan adlewyrchu eu blaenoriaethau eu hunain.

Yn eich barn chi, beth fyddai goblygiadau mabwysiadu cyfnod cadw hirach ar gyfer recordiadau o gyfarfodydd?

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 33 y cwestiwn hwn, ni atebodd 16 y cwestiwn. 

Roedd 78% (26) o’r ymatebwyr a oedd o blaid mabwysiadu cyfnod cadw hirach wedi amlinellu manteision a heriau cyfnodau cadw hirach.

Roedd y manteision posibl a nodwyd yn cynnwys gwell tryloywder, atebolrwydd a mynediad at ddeunydd Cymraeg. Fodd bynnag, dylid ystyried y rhain yn erbyn costau sylweddol, risgiau cyfreithiol, datblygiadau technolegol, pryderon diogelu data, a chyfyngiadau mewn cyfieithiadau Cymraeg cyfredol.

Cwestiwn 6

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig yn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau positif? Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 37 y cwestiwn hwn. Ni wnaeth 12 ateb y cwestiwn. 

Y consensws ymysg yr ymatebwyr oedd y gallai ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd gefnogi a herio’r defnydd o’r Gymraeg, yn dibynnu ar sut mae’r ddyletswydd yn cael ei gweithredu a’i hariannu.

Nododd llawer o’r ymatebwyr y gall darlledu cyfarfodydd gynyddu amlygrwydd a defnydd o’r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau’n lleol a lle cynhelir cyfarfodydd yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae gwe-ddarlledu’n galluogi’r iaith i gael ei chlywed yn ehangach ac yn cefnogi mynediad cyfartal i siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb neu sy’n byw mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n gyffredin.

Roedd ymatebwyr yn teimlo bod cyfieithu Cymraeg ar gyfer cyfarfodydd yn osgoi trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a'i fod hefyd yn caniatáu i gynulleidfaoedd gael gafael ar gynnwys yn eu dewis iaith. Dylai hefyd annog aelodau etholedig a swyddogion i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach a chodi proffil yr iaith o fewn cyrff cyhoeddus.

Effeithiau niweidiol posibl a heriau

Teimlai’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn mai cost oedd yr ystyriaeth fwyaf.

Mae ymestyn y ddyletswydd yn enwedig lle mae angen darlledu dwyieithog llawn neu ddarlledu dwy ffrwd yn debygol o gynyddu’r pwysau ariannol a'r pwysau o ran staffio. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf yn wynebu costau uwch, oherwydd gall systemau cwbl ddwyieithog ofyn am ddarllediadau, recordiadau a chymorth technegol dyblyg.

Nododd ymatebwyr hefyd fod y galw am gyfieithu Cymraeg mewn cyfarfodydd yn isel mewn rhai awdurdodau lleol, er bod cyfieithu’n cael ei ddarparu a’i hyrwyddo ar agendâu a bod yr offer ar gael. Codwyd pryderon hefyd y gallai Cymraeg rhy ffurfiol neu academaidd a ddefnyddir mewn cyfarfodydd wneud yr iaith yn llai hygyrch i siaradwyr Cymraeg bob dydd, a allai gyfyngu ar ymgysylltu a dealltwriaeth.

Mynegodd rhai ymatebwyr bryder y gallai gosod gofynion unffurf heb ddeall demograffeg leol na maint y gynulleidfa roi straen diangen ar gynghorau a dylid gwneud rhagor o waith i asesu cynulleidfaoedd Cymraeg gwirioneddol a phosibl cyn ymestyn dyletswyddau’n ehangach.

Cwestiwn 7

Yn eich barn chi, a allai ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd gael ei ffurfio neu ei newid: er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, neu ar liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 34 y cwestiwn hwn. Gadawodd 15 y cwestiwn yn gyfan gwbl.

Roedd 71% (24) o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn teimlo y gallai ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd gael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg, ar yr amod bod hyn wedi’i gynllunio i gefnogi cyfarfodydd dwyieithog yn hytrach na blaenoriaethu un iaith dros y llall.

Awgrymwyd newidiadau a fyddai’n cefnogi’r Gymraeg gan gynnwys darlledu cyfarfodydd yn ddwyieithog, defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd heb fod angen gofyn am gyfieithiad ymlaen llaw, defnyddio isdeitlau Cymraeg a Saesneg fel mater o drefn ar gyfer cyfarfodydd byw a chyfarfodydd wedi’u recordio.

O ran yr effaith negyddol, roedd y prif bryderon yn canolbwyntio’n bennaf ar gostau, capasiti a chymesuredd, yn enwedig ar gyfer awdurdodau sydd â llai o bobl yn defnyddio’r Gymraeg. Mynegodd lleiafrif bryder y gallai cryfhau dyletswyddau darlledu Cymraeg roi beichiau afrealistig ar gynghorau, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r galw’n isel. Roeddent yn pwysleisio’r angen i gysoni unrhyw estyniad â thystiolaeth glir o angen lleol.

Cwestiwn 8

Eglurwch sut rydych chi’n meddwl bod darlledu cyfarfodydd y cyngor yn effeithio ar wahanol grwpiau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, yn gadarnhaol ac yn negyddol, a pha fesurau y gellir eu cymryd i sicrhau mynediad a chynrychiolaeth deg.

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 33 y cwestiwn hwn, ni atebodd 16 y cwestiwn.

Roedd yr ymatebwyr yn cytuno’n gyffredinol bod darlledu cyfarfodydd cyngor yn gwella tryloywder ac yn helpu’r cyhoedd i ddeall penderfyniadau lleol yn well. Nododd sawl un y gall arwain at “ddeffro” awdurdodau drwy ddatgelu ansawdd dadleuon ac ymddygiad, a thrwy hynny gryfhau atebolrwydd ac ymddiriedaeth.

Roedd darlledu hefyd yn cael ei ystyried yn ehangu mynediad i bobl nad oeddent yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb oherwydd problemau symudedd neu iechyd, cyfrifoldebau gofalu, rhwystrau trafnidiaeth neu gyfyngiadau ariannol. Ystyriwyd bod recordiadau ar-alw yn arbennig o werthfawr i weithwyr shifft, pobl ifanc a grwpiau cymunedol. Tynnodd rai sylw at y ffaith bod opsiynau cyfarfodydd hybrid yn cefnogi cyfranogiad ymhellach.

Fodd bynnag, teimlai ymatebwyr hefyd fod diddordeb y cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor yn dal yn isel ar y cyfan, gyda ffigurau gwylio wedi’u cyfyngu i raddau helaeth i’r rheini sydd eisoes yn ymwneud â gwleidyddiaeth leol. Nodwyd bod allgau digidol yn rhwystr parhaus, yn enwedig i bobl hŷn, aelwydydd incwm isel a chymunedau gwledig nad oes ganddynt sgiliau dibynadwy o ran y rhyngrwyd, dyfeisiau na digidol.

Mynegwyd pryderon hefyd am y pwysau ar adnoddau’r cyngor a’r risg o aflonyddu ar-lein, wedi’i gyfeirio’n benodol at gynghorwyr o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Er mwyn sicrhau mynediad teg, roedd ymatebwyr yn argymell camau gweithredu fel gwella gwefannau cynghorau, gwneud darllediadau a thrawsgrifiadau’n haws dod o hyd iddynt, a hyrwyddo cyfarfodydd sydd ar y gweill drwy gyfryngau cymdeithasol, rhestrau postio a rhwydweithiau cymunedol. Pwysleisiodd llawer bwysigrwydd parhaus galluogi presenoldeb wyneb yn wyneb.

Roedd mesurau diogelu ychwanegol a awgrymwyd yn cynnwys polisïau cliriach ar gamdriniaeth ar-lein ac opsiynau ar gyfer diogelu anhysbysrwydd mewn achosion sensitif. Tynnwyd sylw at sicrhau bod pobl iau yn deall ac yn ymgysylltu â democratiaeth leol fel blaenoriaeth.

Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr yn teimlo bod gan ddarlledu botensial sylweddol i wella hygyrchedd a thryloywder, ond dim ond os caiff ei gefnogi gan gyfathrebu effeithiol, technoleg gynhwysol, ac ymdrechion parhaus i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau digidol a chymdeithasol.

Cwestiwn 9

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i'w nodi. 

O’r 49 o ymatebion i’r ymgynghoriad, atebodd 17 y cwestiwn hwn. Gadawodd 32 y cwestiwn yn gyfan gwbl.

Roedd y rheini a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn teimlo’n gyffredinol y byddai ymestyn y gofyniad darlledu i Gyd-bwyllgorau Corfforedig a’u his-bwyllgorau yn fuddiol, gyda rhai’n awgrymu y dylai hefyd gynnwys cyrff rhanbarthol eraill fel Ardaloedd Menter. Dadleuodd nifer hefyd y dylid cynnwys cynghorau tref a chymuned yn y pen draw, gan y gallai darlledu helpu i wella safonau, ymddygiad a thryloywder ar y lefel honno. Mynegodd rai ymatebwyr rwystredigaethau ehangach am ddiwylliant awdurdodau lleol a diffyg atebolrwydd ymddangosiadol, gan ddadlau y gallai mwy o dryloywder drwy ddarlledu helpu i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.

Fodd bynnag, codwyd pryderon ymarferol ynghylch ymarferoldeb ymestyn y ddyletswydd. Pwysleisiodd llawer o awdurdodau lleol yr adnoddau staffio sylweddol sydd eu hangen i gynnal darllediad hybrid, dwyieithog; yn aml mae angen o leiaf 2 swyddog penodol i reoli gweithdrefnau, cofnodion, systemau clyweledol, gwasanaethau cyfieithu ac i ddatrys problemau technegol. Amlinellodd cynghorau y byddai ymestyn gofynion darlledu ymhellach yn cynyddu’r pwysau ar dimau gwasanaethau democrataidd sydd eisoes dan bwysau, sydd hefyd yn gyfrifol am fodloni terfynau amser statudol tynn fel cyhoeddi cofnodion penderfyniadau o fewn saith diwrnod. Tynnwyd sylw hefyd at gostau trwyddedu a phwysau ariannol cyffredinol, gyda rhai ymatebwyr yn dweud y byddai ymestyn y gofyniad i gynghorau tref a chymuned bach yn anghymesur ac yn anfforddiadwy.

Soniodd ymatebwyr hefyd am yr angen am ddarpariaethau deddfwriaethol clir i ddelio â methiannau technegol, ac awgrymwyd eithriadau ar gyfer cyfarfodydd lle mae’r agenda gyhoeddus yn fach iawn neu’n cynnwys eitemau wedi’u heithrio yn bennaf. Gofynnodd nifer o awdurdodau am ganllawiau cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar faterion fel am ba hyd y dylid cadw recordiadau, gan nodi y gellir drysu disgwyliadau’r cyhoedd pan fydd gwe-ddarllediadau’n cael eu camgymryd am y cofnod swyddogol yn hytrach na chofnodion. Dadleuodd rhai y dylai cynghorau gadw disgresiwn ynghylch darparu cyfieithu ar y pryd oherwydd ei gost uchel.

Roedd consensws y dylai unrhyw estyniad i ddyletswyddau ddod gyda chanllawiau priodol a chyllid ychwanegol o bosibl. Pwysleisiodd nifer o ymatebwyr y dylai’r un dull darlledu fod yn gyson berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig a chyrff craffu cysylltiedig. 

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion yn adlewyrchu cefnogaeth eang i ehangu dyletswyddau darlledu i wella tryloywder, ochr yn ochr â rhybudd cryf am y pwysau ar adnoddau, y gofynion technegol a’r goblygiadau ariannol i awdurdodau lleol os caiff y cwmpas ei ehangu heb gymorth ychwanegol.

Y camau nesaf

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn llywio dull Llywodraeth Cymru o ymestyn cyfarfodydd cynghorau darlledu ar gyfer prif gynghorau. Bydd hefyd yn sail i benderfyniadau am ddarlledu cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.