Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar weithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, sydd i ddod i rym i raddau helaeth ar 1 Ebrill 2026. Mae'r ddeddfwriaeth hanfodol hon yn galluogi diwygiadau sylfaenol sy'n sicrhau bod hawliau, llesiant a lleisiau plant, teuluoedd a phobl anabl yn ganolog i'n systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r Ddeddf – sy'n rhan o drawsnewidiad ehangach i ofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yn y tymor hir – yn cefnogi ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu. Mae'n dwyn ynghyd ddiwygiadau a fydd yn symud y ddarpariaeth gofal cymdeithasol i blant tuag at endidau cyhoeddus ac nid er elw; yn cryfhau hawliau pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor; ac yn gwella mecanweithiau rheoleiddio o fewn y sector gofal cymdeithasol.
Ers y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth y llynedd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid i sicrhau gweithrediad diogel, gofalus sy'n diogelu ac yn gwella profiadau rhai o'r rheini sy'n dibynnu fwyaf ar y gwasanaethau hyn.
Hoffwn ddiolch yn bersonol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac oedolion sy'n derbyn gofal iechyd parhaus yn y GIG ar hyn o bryd, neu'n ystyried hynny; mae eu profiadau byw wedi bod yn rhan annatod o lunio'r ddeddfwriaeth hon.
Prif Amcanion y Ddeddf
1. Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal
Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i ddeddfu i sicrhau bod cyllid cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol plant yn cael ei ail-fuddsoddi yn eu llesiant nhw, ac nid yn cael ei dynnu fel elw. Mae hyn yn adlewyrchu ein hegwyddor graidd y dylai gofal plant sy'n derbyn gofal fod wedi'i seilio ar dosturi, sefydlogrwydd a gwerth cyhoeddus.
O dan y Ddeddf:
- Yn y dyfodol, bydd ‘gwasanaethau plant cyfyngedig’ – cartrefi plant, llety diogel a gwasanaethau maethu – yn cael eu darparu gan sefydliadau cyhoeddus, elusennol neu sefydliadau nid-er-elw eraill a ganiateir yn unig.
- Ni fydd darparwyr newydd er-elw y gwasanaethau hyn yn gallu cofrestru o 1 Ebrill 2026.
- Bydd darparwyr presennol er elw y gwasanaethau hyn yn destun cyfyngiadau graddol rhwng 2026 a 2030, sy'n ymwneud ag ychwanegu ac ehangu'r gwasanaethau hynny a lleoli plant.
Bydd y diwygiadau hyn yn cefnogi system fwy cydlynol, teg a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc yn well.
2. Cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus
Am y tro cyntaf, bydd oedolion sy'n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG yn gallu gofyn am daliadau uniongyrchol i drefnu agweddau ar eu gofal. Mae'r diwygiad hwn yn cryfhau ymreolaeth, dewis a rheolaeth, gan sicrhau bod unigolion yn gallu siapio'r gefnogaeth a gânt mewn ffordd sy'n cyd-fynd orau â'u hanghenion a'u hamgylchiadau unigol. Mae hefyd yn sicrhau bod gofal iechyd parhaus yn cyd-fynd â threfniadau taliadau uniongyrchol hirsefydlog mewn gofal cymdeithasol, gan wella cydlyniad ar draws ein systemau.
3. Cryfhau rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol
Mae'r Ddeddf yn cynnwys diwygiadau pwysig i wella tryloywder, sicrhau atebolrwydd cyhoeddus a gwella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys dyletswydd newydd i bob darparwr gyhoeddi eu datganiadau blynyddol; pwerau ymchwilio cryfach ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru; a phrosesau gwell ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru o ran rheoli gorchmynion interim mewn achosion addasrwydd i ymarfer.
Mae'r mesurau hyn gyda'i gilydd yn cefnogi gwell goruchwyliaeth, gwell hyder y cyhoedd a gwasanaethau mwy diogel.
Cychwyn a Llinell Amser
Mae'r gweithrediad yn cael ei gyflwyno'n ofalus i gynnal sefydlogrwydd a diogelu llesiant unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth.
- O 1 Ionawr 2026: dechreuodd rhai pwerau rheoleiddio.
- O 1 Ebrill 2026: mae'r prif ddiwygiadau yn dechrau, gan gynnwys dod â gwasanaethau plant er‑elw newydd i ben, cyfyngiadau ar wasanaethau plant er-elw presennol a chyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus.
- O 1 Ebrill 2027: cyfyngiadau pellach ar wasanaethau plant er‑elw presennol.
- O fis Ebrill 2030: dim lleoliadau newydd ar gyfer darpariaeth plant er‑elw gan awdurdodau lleol Cymru a Lloegr, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Er mwyn cefnogi tryloywder a blaengynllunio, darperir llinell amser fanwl o gerrig milltir yn Atodiad A, sy'n cwmpasu'r prif bwyntiau cychwynnol a'r amserlen statudol ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo cynlluniau digonolrwydd blynyddol awdurdodau lleol.
Diweddariad Cynnydd ar bob maes polisi
1. Dileu elw o ofal cymdeithasol plant
Mae'r paratoadau yn parhau ar draws awdurdodau lleol, Arolygiaeth Gofal Cymru, darparwyr, grwpiau cynrychioliadol a phartneriaid eraill. Mae newidiadau yn cael eu cyflwyno'n raddol i osgoi tarfu ar ofal plant unigol a sicrhau bod lleoliadau sefydlog o ansawdd uchel yn cael eu cynnal. Mae'r egwyddor hon wedi bod yn sail i bob agwedd ar yr amserlen gychwyn.
Mae'r cerrig milltir a ddisgrifir yn Atodiad A yn rhan o drawsnewidiad a reolir a gynlluniwyd i wneud y canlynol:
- cryfhau digonolrwydd awdurdodau lleol
- annog twf y sector nid er elw
- cefnogi darparwyr sy'n dymuno ailsefydlu fel un o'r modelau nid-er-elw a ganiateir
- sicrhau bod llesiant plant yn parhau i fod yn hollbwysig
I gefnogi'r trawsnewidiad hwn:
- Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn goruchwylio cydymffurfiaeth â'r gofynion perthnasol ac mae ganddi'r pŵer i weithredu os na wneir hynny, gan sicrhau diogelwch plant ac uniondeb y system newydd.
- Gall sefydliadau sy'n dymuno ailsefydlu fel endid nid‑er‑elw gael mynediad at gymorth rhad ac am ddim, wedi'i deilwra gan Cwmpas, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyngor arbenigol ar lywodraethu, ailstrwythuro a llwybrau cyfreithiol i gefnogi darparwyr i fabwysiadu un o'r modelau nid‑er‑elw a ganiateir.
Bydd y pontio yn cael ei atgyfnerthu drwy gyflwyno cynlluniau digonolrwydd blynyddol awdurdodau lleol, a fydd yn nodi sut y bydd awdurdodau lleol yn sicrhau bod ganddynt ddigon o letyau di‑elw addas i blant sy'n derbyn gofal, gan flaenoriaethu lleoliadau yn agos at y cartref. Mae ymgynghoriad ar reoliadau i gefnogi'r cynlluniau hyn ar y gweill.
2. Taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd
Mae'r gwaith i weithredu taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus wedi datblygu'n dda. Mae Byrddau Iechyd Lleol yn cael eu cefnogi drwy:
- arweinwyr gweithredu pwrpasol
- ymgysylltiad rheolaidd ag arweinwyr gofal iechyd parhaus
- fforymau dysgu ar y cyd
- canllawiau a ddatblygwyd gyda rhanddeiliaid
Gosodwyd Rheoliadau drafft y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 gerbron y Senedd yn gynharach y mis hwn a disgwylir cynnal dadl arnynt ar 24 Mawrth. Felly, byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r rhain ymhen pythefnos.
3. Rheoleiddio, Arolygu a Darpariaethau Gweithlu
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, rhaid i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyhoeddi eu datganiadau blynyddol ar eu gwefan eu hunain, erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn. Bydd hyn yn galluogi i bobl – gan gynnwys darpar ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd – gael mynediad rhwydd at wybodaeth am y gofal a'r cymorth sydd ar gael gan y darparwr.
Bydd gofynion newydd ar gyfer darparwyr sy'n dymuno canslo eu cofrestriad yn gwella'r broses o reoli cau gwasanaethau gan ystyried llesiant unigolion yn glir; a bydd pwerau ymchwilio cryfach yn cefnogi Arolygiaeth Gofal Cymru i fynd i'r afael â risgiau sy'n gysylltiedig â darpariaeth heb ei gofrestru, gan wella diogelu a goruchwylio.
Bydd gwelliannau sy'n galluogi Gofal Cymdeithasol Cymru i ymestyn gorchmynion interim am hyd at 18 mis yn cryfhau prosesau rheoleiddio ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol trwy leihau oedi diangen a sicrhau diogelwch y cyhoedd trwy gydol yr ymchwiliadau.
Cyllid a Chefnogaeth ar gyfer Gweithredu
Mae cyflawni'r diwygiadau hyn yn llwyddiannus yn dibynnu ar fuddsoddiad parhaus a gwaith partneriaeth cryf. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol i gefnogi awdurdodau lleol, partneriaethau rhanbarthol, byrddau iechyd a darparwyr i baratoi ar gyfer gweithredu.
Cymorth i drawsnewid gwasanaethau plant
- £69m o refeniw (2022–2025) drwy'r Gronfa Diwygio Gofal Cymdeithasol i gefnogi cynllunio yn gynnar a datblygu awdurdodau lleol a darpariaeth nid‑er‑elw
- £75m o refeniw (2025-2028) drwy'r Gronfa Diwygio Gofal Cymdeithasol i gefnogi'r cam nesaf o gyflawni
- Hyd at £70m yn flynyddol drwy'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso
- Hyd at £60.5m y flwyddyn drwy'r Gronfa Tai â Gofal
Mae'r cyllid cyfalaf hwn yn galluogi awdurdodau lleol i ehangu capasiti preswyl, datblygu darpariaeth newydd a lleihau dibyniaeth ar leoliadau er‑elw. Rydym hefyd yn ariannu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i ddarparu cydlyniad cenedlaethol, goruchwyliaeth strategol a chefnogaeth uniongyrchol i awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod pontio.
Cymorth i ddarparwyr gofal cymdeithasol
- Cyngor pontio am ddim a ddarperir gan Cwmpas i unrhyw ddarparwr gwasanaethau plant cyfyngedig er‑elw sy'n ystyried symud i fodel nid‑er‑elw
- Canllawiau a chymorth sydd ar gael gan Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparwyr rheoleiddiedig ar fodloni'r gofynion newydd e.e. ynghylch cofrestru a chyhoeddi datganiadau blynyddol.
Cymorth i fyrddau iechyd ar daliadau uniongyrchol
- £150,000 o gyllid trosiannol ar gyfer capasiti gweithredu gofal iechyd parhaus yn y flwyddyn gyfredol, ochr yn ochr â chyllid aml‑flwyddyn arfaethedig a nodir yn y Memorandwm Esboniadol i’r Ddeddf.
- Ymgysylltu'n rheolaidd ag arweinwyr gofal iechyd parhaus, rhwydweithiau gweithredol a fforymau anabledd cenedlaethol
Ymgysylltu a Chydgynhyrchu
Mae cyd-gynhyrchu yn parhau i fod yn ganolog i weithredu. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, darparwyr, partneriaid trydydd sector, sefydliadau pobl anabl a phobl ifanc â phrofiad o ofal i sicrhau bod y cyflenwi yn parhau i fod wedi'i seilio ar brofiad byw a realiti gweithredol.
Casgliad
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 yn nodi trawsnewidiad mawr yn y ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu ar draws Cymru. Bydd yn ail-lunio gofal cymdeithasol i blant; yn gwella ymreolaeth i bobl sy'n gymwys i gael gofal parhaus; ac yn cryfhau rheoleiddio a goruchwylio gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Rwyf am gydnabod arweinyddiaeth Julie Morgan AS, y gwnaeth ei thosturi a'i phenderfyniad helpu i lunio'r Bil cyn ei gyflwyno a gosod sylfeini hanfodol ar gyfer y diwygiadau hyn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant hefyd i'r swyddogion sydd wedi gweithio'n ddiflino i baratoi'r ddeddfwriaeth i'w gweithredu. Mae eu proffesiynoldeb a'u harbenigedd wedi bod yn hanfodol o ran datblygu'r ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd, canllawiau a, gan weithio gyda phartneriaid allanol, y trefniadau gweithredol sydd eu hangen i ddod â'r Ddeddf i rym.
Yn olaf, diolchaf i'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol — gan gynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Arolygiaeth Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr, cyrff cynrychioladol, sefydliadau plant ac anabledd, a'r rhai sydd â phrofiad byw. Mae eu safbwyntiau a'u hymrwymiad wedi bod yn amhrisiadwy.
Rwy'n dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n gysylltiedig â pharhau â'r gwaith i sicrhau bod y Ddeddf yn trosi'n newid ymarferol, cyflawnadwy a gwirioneddol i bobl Cymru.
