Strategaeth ar gyfer Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 a'r Cynllun Cyflawni ar gyfer 2026 i 2029.
Dogfennau
Strategaeth genedlaethol ar gyfer Atal a Ymateb i Gam-drin Rhyw Plant yng Nghymru 2026 i 2036 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 651 KB
Strategaeth genedlaethol ar gyfer Atal a Ymateb i Gam-drin Rhyw Plant yng Nghymru 2026 i 2036: cynllun cyflawni , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 329 KB
Strategaeth genedlaethol ar gyfer Atal a Ymateb i Gam-drin Rhyw Plant yng Nghymru 2026 i 2036: fersiwn hawdd ei ddarllen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Strategaeth genedlaethol ar gyfer Atal a Ymateb i Gam-drin Rhyw Plant yng Nghymru 2026 i 2036: fersiwn pobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Manylion
Mae'r Strategaeth ar gyfer Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i gryfhau mesurau diogelu, gwella ymatebion, a sicrhau dull cenedlaethol cyson, sy'n ystyriol o drawma ar gyfer mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol.
Mae'r strategaeth yn rhoi cyfeiriad sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer sut y bydd Cymru'n gweithio i atal camdriniaeth, cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu niweidio, cefnogi oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr a gafodd eu cam-drin yn rhywiol yn ystod plentyndod, ac arfogi gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau gyda'r wybodaeth a'r dulliau sydd eu hangen i ymateb yn effeithiol.
Mae'n dwyn ynghyd y sylfaen dystiolaeth ehangach, lleisiau a phrofiadau plant ac oedolion sydd â phrofiad byw, a'r gwerthoedd sy'n sail i ymarfer diogelu yng Nghymru i sicrhau bod camau gweithredu wedi'u cydlynu, yn canolbwyntio ar y person ac yn gynaliadwy dros amser. Nod Llywodraeth Cymru drwy'r strategaeth hon yw creu amgylcheddau mwy diogel i blant, cryfhau ymyrraeth gynnar, a sicrhau bod y gefnogaeth yn hygyrch, yn deg ac yn ymateb i anghenion amrywiol y rhai yr effeithir arnynt gan gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru.
Mae'r Strategaeth ar gyfer 2026 i 2036 a'r Cynllun Cyflawni ar gyfer 2026 i 2029 uchod ynghyd â fersiynau hygyrch o'r dogfennau.
