Cylchlythyr dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: Mawrth 2026
Diweddariadau gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid y gwaith i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagymadrodd
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi diweddariadau ar hynt y gwaith o ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae'r newidiadau'n cael eu nodi yn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, a ddaeth yn gyfraith y llynedd.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd newid pwysig yn digwydd:
- ni fydd unrhyw gartrefi plant, gwasanaethau llety diogel, na darparwyr maethu newydd yn gallu cofrestru yng Nghymru
- ni fydd y darparwyr er-elw presennol yn gallu ychwanegu gwasanaethau neu gartrefi newydd
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys diweddariadau gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau partner, gan gynnwys awdurdodau lleol. Mae'n rhoi darlun clir o'r hyn sy'n digwydd nawr a'r hyn a fydd yn digwydd nesaf, wrth inni baratoi ar gyfer y newidiadau. Bydd mwy o ddiweddariadau yn dilyn.
Lywodraeth Cymru
Bydd rheolau newydd ar waith o 1 Ebrill 2026
Rydym wedi diweddaru'r rheoliadau cofrestru, a bydd yn rhaid i sefydliadau ddangos eu bod yn bodloni gofynion nid-er-elw wrth gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Rydym hefyd wedi diweddaru'r rheoliadau ffurflenni blynyddol fel bod yn rhaid i ddarparwyr nad ydynt yn awdurdod lleol gadarnhau eu statws nid-er-elw bob blwyddyn. Bydd hyn yn helpu AGC i oruchwylio'r system newydd.
Rydym yn rhannu rhagor o wybodaeth cyn 1 Ebrill 2026
Mae hyn yn cynnwys postiadau cyfryngau cymdeithasol a thaflenni gwybodaeth i ddarparwyr, gofalwyr maeth, staff, a phlant a phobl ifanc.
Mae cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn ei le
Rydym wedi cadarnhau y bydd cyllid yn parhau i fod ar gael i helpu awdurdodau lleol i weithredu’r newidiadau hyn. Mae £75 miliwn wedi ei neilltuo hyd at fis Mawrth 2028, ac mae cyllid cyfalaf ar gael hefyd.
Rydym yn ceisio sylwadau ynghylch gweithgarwch cynllunio awdurdodau lleol
Fe wnaethom lansio ymgynghoriad ar 9 Chwefror 2026. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y gallai awdurdodau lleol gynllunio digon o ofal nid-er-elw yn eu hardaloedd. Mae'n gofyn beth ddylai'r cynlluniau hyn ei gynnwys, a sut y dylent weithio gyda'r cynlluniau presennol. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Ebrill 2026.
Rhagor o wybodaeth
Gwefan: Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal | GOV.WALES
E-bost:Removingprofit@llyw.cymru
Arolygiaeth Gofal Cymru
Y dyddiad cau ar gyfer darpariaeth drosiannol yw 31 Mawrth 2026
Rhaid i ddarparwyr cartrefi gofal plant, gwasanaethau maethu a gwasanaethau llety diogel sydd am gofrestru gwasanaethau newydd neu amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaethau neu leoedd, gyflwyno eu cais i AGC erbyn 31 Mawrth 2026 i'w asesu o dan y ddeddfwriaeth bresennol. O 1 Ebrill 2026, dim ond awdurdodau lleol a darparwyr nid-er-elw fydd yn gallu cofrestru gwasanaethau plant o dan gyfyngiad.
Bydd ffurflen 'Newid yr Endid Cyfreithiol' newydd ar gael ar AGC Ar-lein o 1 Ebrill 2026.
Gall darparwyr er-elw sydd am ailsefydlu fel endid nid-er-elw ddefnyddio'r ffurflen hon, sy'n canolbwyntio ar newidiadau i endid cyfreithiol a threfniadau llywodraethu, yn hytrach na chwblhau cais newydd llawn i gofrestru.
Bydd y wybodaeth a ddangosir am wasanaethau ar Gyfeiriadur AGC yn cael ei diweddaru ar 1 Ebrill i adlewyrchu'r gofynion newydd
Bydd datganiad yn cael ei ychwanegu at gofnod pob gwasanaeth plant o dan gyfyngiad i gadarnhau mai 'Gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yw hwn'. Bydd cofnod y darparwr hefyd yn dangos un o ddau ddatganiad yn nodi a yw eich gwasanaeth wedi'i eithrio o'r gofynion nid-er- elw, neu'n cydymffurfio â nhw.
Mae angen i ddarparwyr nid-er-elw sy'n bodoli eisoes amrywio eu cofrestriad
Rydym wedi cysylltu â phob darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad nid-er-elw sy'n bodoli eisoes yn uniongyrchol am y gofyniad i amrywio ei gofrestriad. Os na fydd y darparwyr hynny yn amrywio eu cofrestriad i ddangos cydymffurfiaeth ag amodau adran 6A, byddant yn destun yr un cyfyngiadau ehangu â darparwyr er-elw o 1 Ebrill 2026.
Rhagor o wybodaeth
Mae'n cynnwys adran cwestiynau cyffredin, manylion y pedwar model nid er elw a gymeradwywyd, dyddiadau allweddol a dolenni i gymorth gan Cwmpas. Caiff y dudalen hon ei diweddaru'n rheolaidd wrth i'r rheoliadau gael eu cadarnhau.
Gwefan: Arolygiaeth Gofal Cymru Dileu elw o ofal plant
E-bost: AGC.dileuelw@llyw.cymru
Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru gylch gorchwyl fel rheoleiddiwr ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac ar gyfer meysydd allweddol gan gynnwys gwella a datblygu’r gweithlu. Mae gennym raglen i gefnogi’r gwaith o weithredu dileu elw, gan gynnwys datblygu sgiliau therapiwtig, cymorth gyda denu, recriwtio a chadw a datblygu gweithlu cenedlaethol.
Adnoddau ar-lein i gefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau preswyl neu unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a allai fod wedi cael profiad trawma
Gan weithio gyda Straen Trawmatic Cumru rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o weminarau i gefnogi eich gwaith mewn gwasanaethau gofal preswyl i bant. Er bod y gweminarau hyn yn cyfeirio at wasanaethau gofal preswyl i blant, gallent gefnogi unrhyw berson sy’n gweithio gyda phlant a allai fod wedi profi trawma.
Dechrau gweithio ym maes gofal preswyl i blant
Yn ystod mis Mawrth byddwn yn cynnal ymgyrch gweithwyr preswyl i plant gyda GofalwnCymru. Nod yr ymgyrch yw meithrin ymwybyddiaeth o’r rolau sydd ar gael a dealltwriaeth or gwerthoedd sydd eu hangen i ddod yn weithiwr preswyl a sut mae hyn yn effeithio ar bobl ifanc mewn gofal.
Ewch i wefan We Care Wales i ddarganfod mwy am y lleoliad a'r rolau swyddi sydd ar gael, fel gweithiwr gofal plant preswyl a rheolwr gofal plant preswyl.
Hoffai Gofal Cymdeithasol Cymru annog darparwyr i ychwanegu eu swyddi gwag at borth swyddi Gofalwn Cymru a gyrru ceisiadau am swyddi drwy Swyddi gwag.
Defnyddiwch y pecyn cymorth hwn hefyd Pecyn cymorth cartrefi preswyl i blant sydd â dewis eang o adnoddau i helpu i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o gartrefi preswyl i blant.
Rydym hefyd yn cynnal gweminar ar 26 Mawrth 2026 ble gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau neu pharhau eu gyrfa ym maes gofal preswyl i blant cylwed gan y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y maes hwn.
Datblygu Cynllun gweithlu gofal preswyl i blant 2026 i 2028
Rydym yn diweddaru ein cynlluniau i gefnogi’r Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol cenedlaethol. Fel rhan o hwn, rydyn ni'n creu cynllun gweithlu gofal preswyl i blant newydd. Rydym yn dechrau trwy ofyn i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i rannu eu barn trwy lenwi holiadur byr Cynllun Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru Bydd hwn yn ein helpu i adeiladu darlun cynnar o’r hyn sy’n gweithio’n dda a ble gellid gwella pethau. Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Institute of Public Are a fydd hefyd yn cynnal gweithdai ac yn siarad â phobl ar draws y sector i archwilio’r themâu allweddol yn fanylach. I ddarganfod mwy am y gweithdau hyn ewch at Gwaith Cynllunio datblygu'r gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rhagor o wybodaeth
Gwefan: Gofal Cymdeithasol Cymru
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Mae ADSS Cymru yn parhau i ymateb i'r newidiadau fydd yn dod yn sgil yr agenda dileu elw, ac mae’n mynd ati i gefnogi awdurdodau lleol i baratoi.
Gweminar cinio a Dysgu
Bydd ein gweminar nesaf sydd ar gyfer timau gofal cymdeithasol plant yr awdurdodau lleol ledled Cymru, yn cael ei chynnal ddydd Iau 19 Mawrth, 12 hanner dydd i 1.30pm. Bydd recordiad yn cael ei rannu ar ôl y digwyddiad.
Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
Mae ADSS Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i baratoi ymateb ar y cyd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynlluniau digonolrwydd. Byddwn yn ymgysylltu â’r holl bartneriaid perthnasol cyn bo hir.
Cynllunio'r genhedlaeth nesaf o ofal plant preswyl yng Nghymru
Rydym yn datblygu gweithdai rhanbarthol i ddwyn ynghyd gweithwyr cymdeithasol, comisiynwyr, partneriaid cyllid a thai, darparwyr yn y broses bontio, elusennau ac academyddion i gyd-ddylunio modelau gofal preswyl a modelau cam i lawr nid-er-elw, sy'n hyfyw’n ariannol, yn gallu cael eu cyflawni’n ymarferol ac wedi'u seilio ar ymarfer go iawn.
Rhagor o wybodaeth
Gwefan: ADSS Cymru Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal
E-bost: removalofprofit@adss.cymru
Maethu Cymru
Mae Awdurdodau Lleol, fel Maethu Cymru, yn canolbwyntio ar gynyddu capasiti a digonolrwydd mewnol drwy recriwtio a chadw gofalwyr maeth, gwella systemau i gasglu, dadansoddi a rhannu data maethu allweddol, ehangu'r cynnig i ofalwyr maeth awdurdodau lleol a gwella paratoi, dysgu a datblygu holl ofalwyr maeth ALl ledled Cymru.
Yn ogystal, mae rhai prosiectau allweddol i gefnogi datblygu modelau gofal mewnol o fewn ALlau ac i wella'r broses drosglwyddo gofalwyr maeth wedi'u datblygu a'u cyflwyno.
Rhagor o wybodaeth
Gwefan: Maethu nid-er-elw | Maethu Cymru
E-bost: jill.jones@fosterwales.gov.wales
Cwmpas
Mae Cwmpas wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr gwasanaethau plant cyfyngedig sy’n gweithredu er elw sydd am ystyried a allai fod yn bosibl iddynt ailsefydlu o dan un o’r pedwar model dielw a ganiatei.
Nid ydym am geisio “gwthio” unrhyw un i lawr llwybr nad yw’n ymarferol nac yn apelgar i darparwyr. Ein nod yw darparu cefnogaeth a chyngor ystyrlon i fusnesau sydd yn ystyried ail-sefydlu fel model nider-elw ac sydd eisiau deall eu hopsiynau a’r heriau penodol yn well.
Rhagor o wybodaeth
Gwefan: Y Rhaglen Gymorth ar gyfer darparwyr gofal yn y sector preifat
E-bost: michael.bawden@cwmpas.coop
