Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 15 Mawrth, byddwn unwaith eto yn nodi Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Islamoffobia, a ddynodwyd gan y Cenhedloedd Unedig ers 2022 i gydnabod y gwahaniaethu yn erbyn llawer o Fwslimiaid ledled y byd, a'u bod yn wynebu gelyniaeth, iaith casineb, trais a hiliaeth strwythurol, ar-lein ac all-lein. 

Mae'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Islamoffobia yn gyfle i ystyried yr hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru ac yng ngweddill y DU, ac i ailddatgan ein safbwynt cadarn bod Islamoffobia a chasineb crefyddol ar unrhyw ffurf yn annerbyniol ac yn atgas inni fel cymdeithas. Rydym yn sefyll yn gadarn mewn undod â'n ffrindiau a'n cymdogion Mwslimaidd.

Mae Ystadegau Troseddau Casineb Cenedlaethol Cymru a Lloegr (2024/25) yn dangos cynnydd o 30% mewn troseddau casineb a ysgogir ar sail grefyddol yng Nghymru, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sy'n destun pryder. Mae hyn yn dilyn cynnydd sylweddol arall yn ystod y flwyddyn flaenorol ac yn tanlinellu pam mae gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb sy'n seiliedig ar ffydd yn hanfodol.

Mae casineb gwrth-Fwslimaidd, a elwir hefyd yn Islamoffobia, yn tanseilio hawliau, rhyddid a diogelwch pob cymuned. Pan fydd casineb ac anoddefgarwch yn tyfu heb eu rheoli, maent yn tanio rhaniadau, yn gwanhau ein gwead cymdeithasol, ac yn peryglu pob grŵp lleiafrifol. Mae sefyll yn erbyn gelyniaeth wrth-Fwslimaidd felly yn ymwneud ag amddiffyn urddas, heddwch a pharch at eraill sy'n cadw pob un ohonom yn ddiogel. Mae casineb yn brifo pob un ohonom.

Ar 9 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddiffiniad anstatudol newydd o elyniaeth wrth-Fwslimaidd fel rhan o'u cynllun cydlyniant cymunedol ehangach o'r enw "Protecting What Matters". Er mai i Loegr yn unig y mae'r diffiniad hwn yn berthnasol, bydd angen ystyried ei oblygiadau i Gymru yn ofalus er mwyn asesu p'un a fyddai mabwysiadu dull tebyg yn cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â chasineb a hyrwyddo cydlyniant. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU hefyd fod Cynrychiolydd Arbennig wedi'i benodi ar elyniaeth wrth-Fwslimaidd, a'i rôl fydd hyrwyddo ymdrechion i fynd i'r afael â gelyniaeth a chasineb at Fwslimiaid a'r rhai sy'n cael eu hystyried yn Fwslimiaid. Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Cynrychiolydd Arbennig i ddeall yn well sut mae lleisiau a phrofiadau cymunedau Mwslimaidd yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y rhaglen waith hon ar gyfer y DU gyfan.

Mae ein gwaith yng Nghymru i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil, ffydd neu gred yn cael ei yrru gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy'n creu dull system gyfan o fynd i'r afael â hiliaeth, gan gynnwys pennod benodol ar droseddau casineb a chyfiawnder troseddol. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cryfhau ymwybyddiaeth o droseddau casineb Islamoffobaidd a gwrthsemitaidd; gwella'r system cofnodi data a chymorth i ddioddefwyr; hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar adnabod ac ymateb i ragfarn a gelyniaeth; a sicrhau bod lleisiau o gymunedau yr effeithir arnynt yn siapio ein polisi a'n gweithredu. Mae'r strategaeth hon yn sicrhau bod mynd i'r afael â phob math o gasineb sy'n seiliedig ar ffydd yn parhau i fod yn rhan greiddiol o'n gwaith.

Mae ein hymgyrch gyfathrebu sy'n brwydro yn erbyn troseddau casineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, yn tynnu sylw troseddwyr neu ddarpar-droseddwyr at effaith negyddol eithriadol eu gweithredoedd ar y dioddefwr ac ar eu bywydau eu hunain. Rydym yn galw fwyfwy ar wyliedyddion i gymryd y cam o gefnogi dioddefwyr yn ddiogel. Gall gwyliedyddion recordio digwyddiadau, galw am gefnogaeth gan yr heddlu ac eraill gerllaw, a thynnu sylw dioddefwyr a throseddwyr er mwyn atal canlyniadau niweidiol. 

Mae'r ymgyrch hefyd yn cyfeirio dioddefwyr at Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, sy'n cael ei rhedeg ar ein rhan gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Mae'r Ganolfan yn darparu cefnogaeth ac eiriolaeth gyfrinachol am ddim i unrhyw un yr effeithir arnynt gan droseddau casineb, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Gellir cael cymorth dros y ffôn, wyneb yn wyneb, neu ar-lein. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth penodol i blant a phobl ifanc. Os ydych chi'n meddwl y gallech fod wedi dioddef trosedd gasineb, gallwch gysylltu â'r Ganolfan ar unrhyw adeg drwy www.reporthate.victimsupport.org.uk, drwy ffonio 0300 3031 982, neu drwy e-bostio Hate.CrimeWales@victimsupport.org.uk

Mae adroddiadau am blant a phobl ifanc sy'n profi bwlio ar sail ffydd mewn lleoliadau addysg yn bryder mawr imi, yn enwedig ers i'r gwrthdaro rhwng Israel a Gaza ddechrau. Mae bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn o unrhyw fath yn annerbyniol, ac rydym yn disgwyl i bob ysgol a choleg ymchwilio'n llawn i achosion o hiliaeth ac aflonyddu a chymryd camau priodol i'w hatal rhag digwydd eto. Er mwyn cefnogi hyn, y llynedd fe wnaethom ymgynghori ar gryfhau ein canllawiau gwrth-fwlio‑statudol, Hawliau, parch, cydraddoldeb i gynnwys cyngor cliriach ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol, gwrthsemitaidd ac Islamoffobig. Cafodd y fersiwn ddiwygiedig, sydd i gael ei chyhoeddi, ei llywio gan yr adborth ymgynghori, ac mae'n darparu cyfeiriad cliriach a chryfach i awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru. Rydym hefyd wedi darparu cyngor i ysgolion ac wedi ysgrifennu at sefydliadau addysg bellach ac uwch i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn ystod cyfnodau o densiwn uwch. 

Mae'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Islamoffobia yn disgyn wrth i fis Ramadan ddod i ben, sy'n adeg addas i ystyried ei werthoedd canolog - tosturi, haelioni, caredigrwydd, a gwasanaeth i eraill. Mae'r rhain yn werthoedd a rennir ar draws pob cymuned yng Nghymru, beth bynnag yw ffydd neu gred rhywun.  Yn ystod Ramadan, rwyf wedi bod yn falch o fynd i sawl digwyddiad Iftar cymunedol lle cefais i, ochr yn ochr ag arweinwyr o'n traddodiadau ffydd amrywiol ac aelodau o'r gymuned leol, weld drosof fy hun sut mae Mwslimiaid yn estyn allan drwy rannu pryd o fwyd, gan gryfhau cydlyniant a dealltwriaeth rhwng cymunedau.  Roedd y cynulliadau hyn yn ffordd bwerus o'n hatgoffa o'r gwerthoedd sy'n ein huno - caredigrwydd, lletygarwch, ac ymrwymiad i ofalu am ein gilydd. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at y cyfraniad aruthrol y mae cymunedau Mwslimaidd yn ei wneud i wead cymdeithasol Cymru, nid yn unig yn ystod Ramadan ond drwy gydol y flwyddyn.

Ar adeg pan all camwybodaeth a gelyniaeth greu rhaniadau, mae ein hymrwymiad i feithrin cydlyniant cymunedol yn ddatganiad clir bod Cymru'n dewis tosturi dros ofn, undod dros allgáu, a chymuned dros raniadau. 

Ar y diwrnod hwn, a bob dydd, rydym yn sefyll gyda chymunedau Mwslimaidd ledled Cymru i alw am gymdeithas sydd wedi'i siapio gan ddealltwriaeth, tosturi a pharch at eraill. Drwy weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â chasineb a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt, gallwn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn wlad lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu perthyn.