Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a'r DU wedi ailddatgan eu hymrwymiad ar y cyd i ddiogelwch tomenni glo a rheoli'n gyfrifol waddol mwyngloddio Cymru drwy ailddechrau'r Tasglu Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir.
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Tylorstown gan y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd, Huw Irranca-Davies ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens.
Mae'r tasglu yn fforwm rhynglywodraethol ar y cyd sy'n dwyn ynghyd bartneriaid cyflenwi allweddol, gan gynnwys yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio, Cyfoeth Naturiol Cymru, a phartneriaid awdurdodau lleol, i gefnogi diogelwch cymunedau sy'n byw ger mwyngloddiau a chwareli nas defnyddir ledled Cymru.
Yn flaenorol, chwaraeodd ran ganolog wrth ymateb i'r tirlithriad yn Tylorstown yn 2020, gan fwrw ymlaen â'r gwaith i fapio a chategoreiddio tomenni ledled Cymru a datblygu'r rhaglen grant diogelwch tomenni glo.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £110m mewn diogelwch tomenni glo yn nhymor y Senedd hwn, gyda Llywodraeth y DU hefyd yn darparu £143m.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ers y golygfeydd ofnadwy a welwyd yn Tylorstown yn 2020 diolch i fuddsoddiad, cyflwyno deddfwriaeth nodedig a gydag awdurdod rheoleiddio newydd ar y ffordd.
"Ni ddylai'r cymunedau a fagwyd o fewn ein diwydiant mwyngloddio ac o amgylch orfod byw mewn ofn y tomenni etifeddol sy'n parhau i fod yn rhan o'u tirwedd, a bydd y tasglu hwn yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau ein bod yn cyflawni.
"Mae ei ailddechrau yn arwydd clir o'n hymrwymiad i weithio gyda'n gilydd yn y tymor hir i gadw pobl yn ddiogel."
Mae Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) 2025 yn sefydlu fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.
Mae'r Ddeddf hefyd yn sefydlu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru, a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch tomenni o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Bydd y Tasglu sydd wedi'i ailgychwyn yn darparu fforwm cydgysylltiedig i fonitro cyflawni'r rhaglen waith ar y cyd, cefnogi gweithredu'r drefn reoleiddio newydd, a rhannu gwybodaeth, arbenigedd a thystiolaeth i hyrwyddo arfer gorau.
Bydd hefyd yn gweithio i nodi bylchau mewn polisi a deddfwriaeth a datblygu dull strategol o fynd i'r afael â heriau hirdymor sy'n deillio o waddol mwyngloddio.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
"Mae sicrhau bod tomenni glo ledled Cymru yn parhau i fod yn ddiogel yn hynod bwysig. Dyna pam rydym wedi darparu £143 miliwn o gyllid i Lywodraeth Cymru i gyflawni'r gwaith hanfodol hwn.
"Diogelwch ein cymunedau yw ein cyfrifoldeb cyntaf ac mae ein hymrwymiad i reoli gwaddol y diwydiant mwyngloddio yn enghraifft arall o ddwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni ar gyfer pobl Cymru."
