Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Rhif 2) (Cymru) 2026 yn gosod y gofynion statudol ar sut mae awdurdodau lleol yn cyllido ysgolion ac yn adrodd ar eu cyllideb addysg a'u gwariant. Fe’u gosodwyd ar 1 Gorffennaf 2026 ochr yn ochr â'r Memorandwm Esboniadol. Byddant yn dod i rym ar 31 Ionawr 2027, ac yn berthnasol i’r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2027 neu ar ôl hynny. Bydd hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ymgynghori a diweddaru unrhyw brosesau neu bolisïau.

Nod y Rheoliadau yw gwneud y system yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel bod modd cynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel.

Mae Canllawiau i awdurdodau lleol ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Rhif 2) (Cymru) 2026 a chanllawiau statudol ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.