Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllaw anstatudol hwn wedi'i dargedu at awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau anstatudol ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Rhif 2) (Cymru) 2026 (Rheoliadau Rhif 2), ar wahân i Ran 4 ac Atodlen 4, mewn perthynas â Chynlluniau Ariannol, y darperir canllawiau statudol ar wahân arnynt. Mae'r brif ddogfen ganllaw yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â chyllidebau addysg ac mae'n cynnwys y canlynol:

  • y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion
  • y gyllideb ysgolion
  • y gyllideb ysgolion unigol
  • fformiwla gyllido awdurdod lleol mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion

Mae adran 48(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal cynllun sy'n ymdrin â materion sy'n gysylltiedig â chyllido ysgolion a gynhelir ganddo. Nodir canllawiau mewn perthynas â chynllun o'r fath mewn rheoliadau ar wahân.

Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Rhif 2) (Cymru) 2026 (“Rheoliadau Rhif 2”) yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 (“Rheoliadau 2026”).

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 (Rheoliadau 2010), Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 (Rheoliadau 2002) a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 (Rheoliadau 2003) mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2027 neu ar ôl hynny. Daw Rheoliadau Rhif 2 i rym ar 31 Ionawr.

Er bod Rheoliadau Rhif 2, i raddau helaeth, yn gyfuniad syml o Reoliadau 2010, Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2003, mae rhai newidiadau wedi'u cyflwyno. Mae'r rhain wedi'u nodi isod.

Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid oes unrhyw ddyletswydd statudol i ystyried y canllawiau hyn, ond byddai Gweinidogion Cymru yn disgwyl i'r rhai hynny y maent wedi'u hanelu atynt roi ystyriaeth iddynt wrth ystyried materion y maent yn berthnasol iddynt.

Nid yw'r canllawiau hyn yn cynnig datganiad cynhwysfawr o'r gyfraith, ac nid ydynt yn honni eu bod yn gwneud hynny, ac felly, ni ddylid eu hystyried yn gyngor o ran yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yw'r rhain. Fodd bynnag, dylent geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain o ran yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Trosolwg o'r newidiadau

Er bod Rheoliadau Rhif 2, i raddau helaeth, yn gyfuniad syml o Reoliadau 2010, Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2003, mae rhai newidiadau wedi'u cyflwyno.

Ysgolion ffederal

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cyflwyno'r hawl i ysgol ffederal ofyn am un gyfran o'r gyllideb ar gyfer y ffederasiwn. Caniateir camau i gyfuno cyllidebau os ceir cais can ffederasiwn i wneud hynny. Hynny yw, gall ffederasiwn ddewis cael ei gyllidebau unigol fel un gyfran gyfunol o'r gyllideb.

Amddifadedd

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â natur a gwerth ffactorau amddifadedd a ddefnyddir yn fformiwla gyllido awdurdod lleol.

Mae Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth bennu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion a gynhelir ganddo, ystyried yn ei fformiwla ffactor neu ffactorau sy'n seiliedig ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath. Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cynnwys gofyniad newydd i fynychder amddifadedd cymdeithasol gael ei bennu drwy ystyried nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a (neu) breswyliaeth y disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae Rheoliad 21 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffactor amddifadedd cymdeithasol beidio â chynnwys unrhyw gyllid a ddyrannwyd ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim neu i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”). Diben hyn yw sicrhau bod elfen y fformiwla yn cydnabod mynychder amddifadedd cymdeithasol yn benodol er mwyn diwallu anghenion y disgyblion hyn.

Cynlluniau ariannol

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cynnwys gofyniad newydd sy'n ymwneud â chyhoeddi cynlluniau ariannol. Nodir manylion yr hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cynllun ariannol yn Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2.

Maent hefyd yn cynnwys gofyniad newydd i awdurdod lleol nodi'r rhannau hynny o'r Gyllideb Ysgolion y mae wedi dewis eu cadw (yn hytrach na'u dirprwyo i gyrff llywodraethu) (paragraff 2 o Atodlen 4).

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn darparu bod cynllun awdurdod lleol yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio a monitro gwargedion ysgolion dros derfyn rhagnodedig. Mae Rheoliadau Rhif 2 yn diwygio'r trothwyon ar gyfer gwarged i 5% o gyllideb ysgol yn hytrach na'r gwerthoedd absoliwt blaenorol (paragraff 20 o Atodlen 4).

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cyflwyno gofyniad i awdurdod lleol nodi sut y bydd yn monitro'r ffordd y mae ysgol yn defnyddio gwarged o'r fath.

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cyflwyno gofyniad i awdurdod lleol gynnwys yn ei gynllun ariannol ofyniad ar gorff llywodraeth â diffyg cyllidebol i gyflwyno cynllun adennill diffyg. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol nodi'r broses mewn perthynas â'r cynllun hwnnw (paragraff 23 o Atodlen 4).

Caiff canllawiau statudol ar wahân ar gynlluniau i ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol eu cyhoeddi sy’n rhoi rhagor o fanylion.

Atodlenni 2 a 3

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cyflwyno newidiadau i'r ffordd y caiff ardrethi annomestig eu trin, fel bod hynny yn cael ei gynnwys bellach yn y gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion yn hytrach nag yng nghyllidebau ysgolion. Mae'r terfyn blaenorol a oedd yn cael ei gymhwyso at y gwariant ar ffioedd trwyddedau a thanysgrifiadau y caiff awdurdod lleol ei gadw, hefyd wedi'i ddileu.

Ffactorau neu feini prawf ychwanegol fformiwlâu cyllido

Nid yw Rheoliadau Rhif 2 yn cynnwys gwybodaeth sy'n cyfateb i Atodlen 3 i Reoliadau 2010. Mae Atodlen 3 i Reoliadau 2010 yn nodi rhestr o ffactorau neu feini prawf ychwanegol y gellir eu hystyried yn fformiwla gyllido awdurdod lleol. Bydd awdurdodau lleol yn gallu ystyried unrhyw ffactor neu feini prawf yn eu fformiwla sy'n ymwneud yn briodol â gwariant yn eu barn nhw o dan y diffiniad o'r gyllideb ysgolion.

Rhoddir enghreifftiau o ffactorau a meini prawf priodol ar gyfer fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol yn Atodiad A.

Cyhoeddi fformiwlâu cyllido

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r gofynion cyhoeddi ar gyfer fformiwla gyllido.

Datganiadau cyllideb

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn gwahanu cyllid rhwng meysydd gwariant y mae'n rhaid eu dirprwyo a meysydd gwariant y caiff awdurdod lleol ddewis eu cadw ond y mae'n dewis eu dirprwyo (gweler colofnau 6 a 7 o'r Ffurflen yn Atodlen 5. Mae'r cynllun newydd i adlewyrchu hyn hefyd yn newid lle y dangosir cyllid tybiannol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (gweler colofn 8 o'r Ffurflen yn Atodlen 5).

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cyflwyno gofyniad i awdurdod lleol gynnwys yn ei ddatganiad cyllideb yr amcangyfrif o gyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer pob un o'r ddwy flwyddyn ariannol ddilynol (gweler colofnau 14 a 15 o'r Ffurflen yn Atodlen 5). Cafodd y gofyniad i hysbysu pob ysgol am ei chyfrannau amcangyfrifedig o'r gyllideb ar gyfer pob un o'r ddwy flwyddyn ariannol ddilynol ei gyflwyno gan Reoliadau 2010.

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cyfuno'r hyn a oedd yn Rhannau 2 a 3 o'r datganiad cyllideb yn flaenorol yn un Rhan 2 sy'n nodi'r cyllid dirprwyedig yn ôl ffactor ar gyfer yr awdurdod lleol cyfan ac ar gyfer pob ysgol unigol.

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r gofynion cyhoeddi ar gyfer datganiadau cyllideb drwy wneud y newidiadau canlynol (gweler rheoliad 33):

  • rhaid darparu un copi i Weinidogion Cymru drwy e-bost, a
  • rhaid i gopi fod ar gael am ddim ar wefan yr awdurdod lleol

Datganiad alldro

Symudir y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad alldro awdurdod lleol i Lywodraeth Cymru ymlaen i 31 Gorffennaf neu cyn y dyddiad hwnnw.

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r gofynion cyhoeddi ar gyfer datganiadau alldro drwy wneud y newidiadau canlynol (gweler rheoliad 37):

  • rhaid darparu un copi i Weinidogion Cymru drwy e-bost, a
  • rhaid i gopi fod ar gael am ddim ar wefan yr awdurdod lleol

Mathau o gyllideb

Mae cyllideb addysg awdurdod lleol wedi'i rhannu'n ddwy: y Gyllideb Ysgolion a'r Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion. Diffinnir y rhain yn Rhan 2 o Reoliadau Rhif 2.

Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion

Mae'r Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion yn cynnwys y penawdau gwariant hynny a restrir yn Atodlen 2 i Reoliadau Rhif 2 ac mae’n ymwneud â’r gwariant ar swyddogaethau awdurdod lleol y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu cadw’n ganolog. Mae'n cwmpasu meysydd addysg nad ydynt yn ymwneud ag ysgolion (er enghraifft, addysg gymunedol, gwasanaethau ieuenctid, cludiant rhwng y cartref a'r coleg), swyddogaethau i sicrhau mynediad at addysg (er enghraifft, cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, adeiladau ysgol, derbyniadau a llesiant cyffredinol disgyblion), gwella ysgolion ac agweddau strategol ar y gwasanaeth addysg yn bennaf. O’r herwydd, ni fydd y cyllid hwn yn cael ei ddirprwyo i ysgolion nac yn rhan o gyllideb ysgolion.

Y gyllideb ysgolion

Diffinnir y Gyllideb Ysgolion yn rheoliad 6 o Reoliadau Rhif 2 fel “gwariant yr eir iddo mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod lleol mewn perthynas â darparu addysg gynradd ac addysg uwchradd” â phedwar eithriad. Y prif eithriad yw unrhyw wariant o'r fath a restrir yn benodol yn Atodlen 2 i Reoliadau Rhif 2. Yr eithriadau eraill yw gwariant cyfalaf, patrolau croesi ysgolion a gwariant yr eir iddo at ddibenion cymunedol. Mae'n cwmpasu meysydd o ddarpariaeth addysgol uniongyrchol mewn ysgolion yn bennaf.

Yng nghyd-destun Rheoliadau Rhif 2, mae i'r term ‘Cyllideb Ysgolion’ ystyr benodol sy'n ehangach na dim ond y cyllid a ddirprwyir i ysgolion ac sy'n cynnwys llawer o swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag ysgolion, fel y'u nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2.

Disgwylir i awdurdodau lleol gefnogi datganoli ystyrlon sy'n grymuso arweinwyr ysgol i wneud penderfyniadau priodol ar sail gwybodaeth sy'n cyflawni'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc.

Er y dylid rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i benaethiaid dros eu cyllidebau, ceir meysydd gwariant nad ystyrir eu bod yn addas i'w dirprwyo ar y cyfan.

Gallai'r rhesymau dros hyn gynnwys, ymhlith pethau eraill, feysydd gwariant:

  • sydd y tu hwnt i ddylanwad pennaeth
  • sy'n rhy fiwrocrataidd
  • sy'n cynnwys lefelau annerbyniol o risg
  • sy'n elwa ar arbedion maint
  • sy'n gofyn am arbenigedd proffesiynol penodol
  • sy'n gymhleth eu natur

Rhaid i awdurdodau lleol nodi a rhestru unrhyw feysydd nad ydynt wedi'u dirprwyo i ysgolion yn eu cynlluniau cyhoeddedig. Bydd hyn yn sicrhau tryloywder o ran pa benawdau gwariant y mae awdurdod lleol yn dewis eu dirprwyo, a pha rai sy'n cael eu cadw gan yr awdurdod lleol.

Y gyllideb ysgolion unigol

Y sefyllfa ddiofyn yw bod y Gyllideb Ysgolion yn cael ei dirprwyo i gyrff llywodraethu oni fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu fel arall. Fodd bynnag, mae'r penawdau gwariant y caniateir i awdurdod lleol benderfynu fel arall arnynt wedi'u cyfyngu i'r meysydd hynny a restrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2.

Mae unrhyw un o'r penawdau gwariant hynny nad yw'r awdurdod lleol yn dewis ei gadw yn dod yn rhan o'r Gyllideb Ysgolion Unigol (y mae'n rhaid dirprwyo'r cyfan ohoni i gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â fformiwla'r awdurdod lleol o fewn y flwyddyn ariannol dan sylw). Mae unrhyw benawdau gwariant yn y Gyllideb Ysgolion nas rhestrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2 hefyd yn dod yn rhan o'r Gyllideb Ysgolion Unigol. Fel arfer, y penawdau gwariant y caniateir i awdurdodau lleol eu cadw yw'r rai y gallai fod yn fwy effeithlon a (neu) effeithiol eu darparu'n ganolog.

Gan fod gan yr awdurdod lleol ddisgresiwn i gadw cyllid ar gyfer y penawdau gwariant a restrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2, os na fydd yn dewis cadw'r cyllid hwn, sy'n gosod y cyllid hwn yn y Gyllideb Ysgolion Unigol yn ddiofyn, ystyrir bod y cyllid hwn yn ‘ddirprwyad dewisol’. Ar y llaw arall, ystyrir bod unrhyw ran o'r Gyllideb Ysgolion nas rhestrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2 ac y mae'n rhaid iddi ddod o fewn y Gyllideb Ysgolion Unigol felly, yn ‘ddirprwyad craidd’. Mae'r defnydd o derminoleg benodol i wahaniaethu rhwng ‘dirprwyad craidd’ a ‘dirprwyad dewisol’ yn cael ei gyflwyno gan Reoliadau Rhif 2. Diben hyn yw tynnu sylw at wahaniaeth sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer at ddibenion adroddiadau cyllidebol.

Caiff yr awdurdod lleol, ar ddechrau blwyddyn ariannol, gadw elfen o'r Gyllideb Ysgolion Unigol er mwyn gwneud ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau. Gelwir yr elfen hon yn ddyraniad a gedwir. Rhaid i unrhyw ddyraniad a gedwir nas defnyddir i wneud ail-benderfyniadau na chywiro gwallau yn ystod y flwyddyn ariannol gael ei ddyrannu i ysgolion cyn diwedd y flwyddyn ariannol yn unol â'r fformiwla a bennwyd.

Cyfran o'r gyllideb ysgolion

Ar wahân i'r dyraniad a gedwir, rhaid dyrannu cyfanswm Cyllideb Ysgolion Unigol awdurdod lleol i ysgolion unigol fel cyfrannau ysgolion o'r gyllideb yn unol â fformiwla gyllid a bennwyd gan yr awdurdod lleol. Ymdrinnir â natur a nodweddion y fformiwla gyllido yn ddiweddarach yn y canllawiau hyn.

Yn ogystal â chyfran o Gyllideb Ysgolion Unigol yr awdurdod lleol, mae cyfran ysgol â chweched dosbarth o'r gyllideb hefyd yn cynnwys cyfran yr ysgol honno o'r grant Ôl-16.

Caiff ffederasiwn o ysgolion ddewis cael cyfrannau ei ysgolion o'r gyllideb unigol fel un gyfran o'r gyllideb.

Dirprwyad craidd a dewisol

Un mater y mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw ato yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod cyllidebau ysgolion dirprwyedig yn anodd i'w cymharu rhwng awdurdodau lleol am fod gan awdurdodau lleol rywfaint o ddisgresiwn o ran pa benawdau gwariant i ddirprwyo cyllid i ysgolion. Felly, mae rhai penawdau gwariant yn cael eu dirprwyo gan rai awdurdodau lleol ond nid ydynt yn dirprwyo gan awdurdodau lleol eraill.

Er mwyn goresgyn hyn, caiff cyfran pob ysgol o'r gyllideb ei rhannu'n ddau gategori, sef ‘dirprwyad craidd’ a ‘dirprwyad dewisol’, gyda'r dirprwyad craidd yn cael ei gyllido gan y penawdau gwariant hynny y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu dirprwyo, a dirprwyad dewisol sy'n gyllid ar gyfer y penawdau gwariant hynny y mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i'w gadw'n ganolog os bydd yn dymuno gwneud hynny. Rhestrir y penawdau gwariant y mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i'w cadw'n ganolog yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2. Mae'n rhaid i awdurdod lleol wneud dewis bwriadol i gadw cyllid ar gyfer pennawd gwariant penodol a'i gynnwys yn yr eithriadau a restrir yn eu cynllun ariannol, fel arall, caiff y cyllid ei ddirprwyo yn ddiofyn.

Nid yw'r gwahaniaethu hwn rhwng dirprwyad craidd a dirprwyad dewisol yn newydd. Yr hyn sy'n newydd yw bod yn rhaid i awdurdod lleol gofnodi'r gwahaniaethu hwn yn ei Ddatganiad Cyllideb yn ogystal â rhestru (yn ei Gynllun ar gyfer Cyllido Ysgolion) y penawdau gwariant hynny yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2 y mae wedi dewis eu cadw.

Mae angen adlewyrchu'r gwahaniaethu rhwng ‘dirprwyad craidd’ a ‘dirprwyad dewisol’ yn y cyllid tybiannol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (cyllid ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn Rheoliadau 2010) ac yn yr elfen sy'n weddill o gyfran ysgol o'r gyllideb. Ni chafodd yr elfen sy'n weddill o gyfran ysgol o'r gyllideb ei dangos yn benodol ar y Datganiad Cyllideb, dim ond cyfanswm y gyfran o'r gyllideb gyda'r cyllid tybiannol ar gyfer AAA o fewn y cyfanswm hwnnw yn cael ei ddangos fel eitem memorandwm. Mae'r gofyniad i wahaniaethu rhwng cyllid y mae angen ei ddirprwyo (craidd) a chyllid y dewisir ei ddirprwyo (dewisol) yn golygu y gallai fod angen i awdurdod lleol asesu sut y dylid trin rhai agweddau ar ei gyllid dirprwyedig. Er enghraifft, mae cyllid a fwriedir yn dybiannol ar gyfer darparu prydau ysgol yn ddirprwyad craidd mewn ysgolion uwchradd (gan gynnwys ysgolion canol sydd wedi'u dynodi'n ysgolion uwchradd) ond yn ddirprwyad dewisol mewn ysgolion cynradd, tra bod cyllid ar gyfer trefniadau cyflenwi yn ddirprwyad craidd ar gyfer hyfforddiant, yswiriant digwyddol, absenoldeb byrdymor oherwydd salwch ac ati ond mae'n ddirprwyad dewisol ar gyfer absenoldeb hirdymor oherwydd salwch, absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac ati.

Mae unrhyw wariant a restrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2 yn ddirprwyad dewisol, p'un a gaiff ei ddirprwyo i ysgolion fel cyfrannau cyllideb ai peidio.

Siart lif cyllideb addysg

Mae Cyllideb Addysg yr Awdurdod Lleol (ALl) wedi'i rhannu'n ddwy ran, y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion a'r Gyllideb Ysgolion.

Mae'r Gyllideb Ysgolion yn cynnwys gwariant a gedwir gan yr ALl o dan Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2 a'r Gyllideb Ysgolion Unigol (cyfanswm cyllideb ysgolion sy'n weddill ar ôl didynnu gwariant a gedwir gan yr ALl o dan Atodlen 3).

Mae gan y Gyllideb Ysgolion Unigol ei hun 2 elfen, y dyraniad a gedwir a chyfrannau cyllideb ysgolion. Mae'r dyraniad a gedwir ar gyfer gwneud ailbenderfyniad neu gywiro gwallau, fel arall rhaid ei ddyrannu i ysgolion drwy gyfrannau cyllideb ysgolion. Cyfrannau cyllideb ysgolion yw cyllid a ddirprwyir i ysgolion unigol yn unol â fformiwla gyllido'r ALl.

Image
Mae Cyllideb Addysg yr Awdurdod Lleol (ALl) wedi'i rhannu'n ddwy ran, y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion a'r Gyllideb Ysgolion.  Mae'r Gyllideb Ysgolion yn cynnwys gwariant a gedwir gan yr ALl o dan Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2 a'r Gyllideb Ysgolion Unigol (cyfanswm cyllideb ysgolion sy'n weddill ar ôl didynnu gwariant a gedwir gan yr ALl o dan Atodlen 3).  Mae gan y Gyllideb Ysgolion Unigol ei hun 2 elfen, y dyraniad a gedwir a chyfrannau cyllideb ysgolion.

Fformiwla gyllido

Egwyddorion cyffredinol

Rhaid i awdurdod lleol ystyried dymunoldeb cael fformiwla o'r fath sy'n syml, yn wrthrychol, yn fesuradwy ac yn rhagweladwy o ran effaith ac sy'n cael ei mynegi'n glir (gweler rheoliad 10 o Reoliadau Rhif 2). Dylai awdurdod lleol adolygu ei fformiwla gyllido yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn aros yn addas i’r diben

Rhaid mynegi pob ffactor ar ffurf fformiwla, er enghraifft, A x B = C, pan mai A yw nifer yr eitemau sy'n cael cyllid (er enghraifft, disgyblion, metrau sgwâr), B yw gwerth y cyllid a ddyrennir fesul eitem ac C yw cyfanswm gwerth y ffactor a gynhwysir yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb.

Caiff awdurdod lleol ddefnyddio unrhyw ffactorau yr ystyrir bod eu hangen i ddyrannu cyfrannau ysgolion mewn ffordd deg a phriodol. Felly, mae Atodlen 3 i Reoliadau 2010, a oedd yn ceisio rhagnodi'r ffactorau y gellid eu defnyddio, wedi'i hepgor o Reoliadau Rhif 2. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i ffactorau ychwanegol gael eu cynnwys mewn fformiwla, er enghraifft petai gan ysgol neu ysgolion angen penodol nas rhestrir neu petai angen swyddogaethau ysgol ychwanegol.

Rhoddir enghreifftiau o ffactorau a meini prawf priodol yn Atodiad A.

Oni fydd amodau'r grant yn nodi fel arall, rhaid i gyllid a ddyrennir gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) (ar gyfer addysg ôl-16) fod yn unol â ffactor neu ffactorau sy'n dyrannu cyllid mewn perthynas â disgyblion dros oedran ysgol gorfodol.

Nifer y disgyblion

Ymdrinnir â'r dull sydd i'w ddefnyddio i nodi nifer y disgyblion yn rheoliad 15 o Reoliadau Rhif 2. Ni ddylai'r dyddiad y cyfrifir nifer y disgyblion fod yn gynharach na diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol y mae'r cyfnod cyllido dan sylw yn dechrau a rhaid iddo hefyd fod cyn dechrau'r cyfnod cyllido dan sylw. Yn ymarferol, fel arfer mae hyn yn golygu bod yn rhaid i nifer y disgyblion gael ei gyfrif o leiaf unwaith rhwng 1 Medi a 31 Mawrth yn union cyn ddechrau'r flwyddyn ariannol dan sylw.

Os bydd awdurdod lleol yn defnyddio mwy nag un cyfrif, ni all unrhyw ddyddiad a ddefnyddir fod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol y mae'r cyfnod cyllido dan sylw yn dechrau. Fodd bynnag, gall ddefnyddio dyddiad yn y dyfodol ac amcangyfrif nifer y disgyblion ar y dyddiad hwnnw.

Er mwyn cadw pethau'n syml, dylai awdurdodau lleol geisio cwtogi hyd yr eithaf ar nifer y cyfrifiadau a ddefnyddir mewn fformiwla gyllido. Rhaid i awdurdodau lleol fod yn gwbl dryloyw o ran y data y maent yn eu defnyddio, a dylai'r data hynny fod yn rhagweladwy.

Nid yw'r cyfyngiadau hyn ar ddata yn gymwys i ddisgyblion mewn dosbarthiadau meithrin na dosbarthiadau derbyn. Fodd bynnag, rhaid i'r awdurdod bennu'r dyddiad(au) y cyfrifir nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin a dosbarthiadau derbyn yn unol â Rheoliadau Rhif 2.

Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ei fformiwla yn darparu bod o leiaf 70% o swm ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn cael ei ddyrannu ar sail a arweinir gan ddisgyblion (gweler rheoliad 14 o Reoliadau Rhif 2). Yn ogystal â'r niferoedd a gymerir o'r ymarfer cyfrif disgyblion, mae cyllid a ddyrennir yn unol â'r ffactorau canlynol hefyd yn cyfrif tuag at yr isafswm o 70%:

  • y rhai sy'n defnyddio nifer y disgyblion sy'n darparu ar gyfer yr un cyllid ar gyfer disgyblion o'r un oedran waeth pa fath o ysgol y maent yn mynd iddi
  • lleoedd y mae'r awdurdod lleol yn cydnabod eu bod wedi'u neilltuo ar gyfer disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
  • disgyblion sydd â chynllun datblygu unigol lle mae cyllid mewn perthynas â disgyblion o'r fath yn rhan o gyllidebau dirprwyedig yr ysgol

Yn union fel mae pob disgybl yn y cyfrif gwirioneddol gofynnol o ddisgyblion yn ddisgybl adnabyddadwy, rhaid bod disgybl adnabyddadwy yn gysylltiedig ag unrhyw gyllid sy'n cael ei gyfrif tuag at y 70%. Mae'n amlwg nad yw hyn yn gymwys yn achos cyllid a ddyrennir yn unol â nifer y lleoedd, am fod hyn yn cyfrif nifer y lleoedd yn benodol yn hytrach na nifer y disgyblion sy'n llenwi'r lleoedd hynny. Fodd bynnag, wrth ddyrannu cyllid, er y gallai nifer y lleoedd a gyllidir (mewn unrhyw ddosbarth cydnabyddedig penodol, p'un a yw'n ddosbarth meithrin neu'n ddosbarth ADY) fod yn fwy na nifer y disgyblion, ni all nifer y disgyblion fod yn fwy na nifer y lleoedd. Os bydd nifer y disgyblion yn fwy na nifer y lleoedd, rhaid cynyddu nifer y lleoedd a gyllidir i o leiaf nifer y disgyblion sydd.

Gall cyllid fesul disgybl amrywio rhwng grwpiau blwyddyn, p'un a yw disgybl yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio, yn unol ag oriau o bresenoldeb os yw o dan 5 oed, yn unol ag anghenion dysgu ychwanegol, ac a yw'r disgybl yn mynychu sefydliad addysg bellach hefyd.

Os bydd disgybl wedi'i gofrestru mewn mwy nag un ysgol, dyrennir cyllid fesul disgybl yn ôl ei werth llawn i bob ysgol lle mae'r disgybl wedi'i gofrestru, oni fydd cynllun yr awdurdod yn nodi fel arall.

Ffactor amddifadedd cymdeithasol 

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn diwygio'r gofyniad i gynnwys ffactor amddifadedd cymdeithasol yn fformiwla gyllido awdurdod lleol.

Maent bellach yn nodi, er mwyn cydymffurfio, fod yn rhaid i awdurdod lleol gynnwys fel ffactor o leiaf un o'r canlynol:

  • cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim (heb gynnwys darpariaeth gyffredinol) a (neu)
  • pan fo cyfeiriad disgybl yn dod o fewn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Pan ddefnyddir cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim, na fwriedir y cyllid yn dybiannol ar gyfer darparu prydau ysgol.

Maent hefyd yn nodi bod yn rhaid i'r dyraniad cyllid hwn ar gyfer amddifadedd cymdeithasol fod yn ychwanegol at unrhyw ran o ddirprwyad tybiannol awdurdod lleol ar gyfer ADY sy'n defnyddio un o'r ffactorau hyn neu'r ddau ohonynt i ddyrannu'r cyllid hwnnw.

Caiff awdurdodau lleol ddefnyddio ffactorau eraill i bennu eu ffactor amddifadedd cymdeithasol, ond rhaid i'r rhain fod yn ychwanegol at o leiaf un o'r ffactorau a nodwyd uchod.

Cyllid ar gyfer blynyddoedd i ddod

Rhaid i'r amcangyfrif o gyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido dilynol ddefnyddio'r data gorau sydd ar gael ar nifer rhagamcanol y disgyblion. Bydd hyn yn galluogi ysgolion i gael gwybodaeth am gyllid ar gyfer tair blynedd a sicrhau'r manteision a ddaw o gynlluniau ariannol tymor hwy. Yr un fydd lefel y manylion a geir yn y rhagolygon dwy flynedd a lefel y wybodaeth a ddarperir yn y gyllideb a bennir ym mlwyddyn 1 a chaiff ei nodi yn yr un ffordd, gydag esboniad bod y rhagolygon yn rhai dros dro ac y gallent newid. Er mwyn cael y rhagolwg dwy flynedd, yn syml iawn gall awdurdod lleol gyflawni'r fformiwla unwaith eto ar gyfer blwyddyn 1 ond gan ddefnyddio'r data gorau sydd ar gael ar nifer rhagamcanol y disgyblion ar gyfer blwyddyn 2 a blwyddyn 3.

Cyhoeddi

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei fformiwla gyllido ar ei wefan gyhoeddus (gweler rheoliad 12 o Reoliadau Rhif 2). Ni chaniateir i'r awdurdod lleol godi tâl am weld y fformiwla gyllido nac ychwaith am ei lawrlwytho. Rhaid iddo hefyd anfon copi electronig ohoni at gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo.

Gallai awdurdod lleol ddewis defnyddio'r templed Datganiad Cyllideb y mae eisoes yn ei ddefnyddio ar gyfer Rhan 1 a 2 o'r Datganiad Cyllideb (gweler adran 4, Datganiadau cyllideb isod) a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i hefyd gyhoeddi ei fformiwla cyllido ysgolion sy'n ofynnol o dan reoliad 12 o Reoliadau Rhif 2. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol hefyd yn darparu esboniadau naratif neu wybodaeth ategol am y fformiwla gyllido i helpu i ddeall a gwella tryloywder i randdeiliaid. Gall yr awdurdod lleol ddewis darparu templedi ychwanegol os yw'n credu y byddai gwneud hynny'n helpu i ddeall y gyllideb.

Amrywiol

Ysgolion canol

Diffinnir ysgolion canol naill ai fel ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd at ddibenion Rheoliadau Rhif 2. Pennir hynny gan Reoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012, sy'n cynnwys y brif egwyddor bod unrhyw ysgol sy'n darparu addysg i o leiaf flwyddyn 11 yn cael ei hystyried yn ysgol uwchradd.

Cyfnod cyllido

Mae Rheoliadau Rhif 2 yn cyfeirio at ‘gyfnod cyllido’ yn hytrach na ‘blwyddyn ariannol’. Yn ymarferol, mae'r ‘cyfnod cyllido’ bron bob amser yn ‘flwyddyn ariannol’. Am ei fod yn derm mwy naturiol, defnyddir ‘blwyddyn ariannol’ yn y canllawiau hyn. Fodd bynnag, lle y'i defnyddir, dylid ei ddehongli i olygu ‘cyfnod cyllido’ yng nghyd-destun y canllawiau.

Ymgynghori

Pan fydd awdurdod lleol yn bwriadu newid ei fformiwla gyllido mewn unrhyw ffordd, rhaid iddo ymgynghori â'i ysgolion a chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo.

Y fformiwla yw'r mecanwaith ar gyfer dosbarthu cyllid, nid y cyllid ydyw. Felly, nid yw'n ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori ar unrhyw ail-benderfyniad ynghylch cyfrannau cyllideb pan wneir yr ail-benderfyniad yn unol â'r fformiwla bresennol, mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys ail-benderfyniadau ynghylch gwaharddiadau disgyblion, dosbarthu unrhyw ddyraniad a gedwir (yn y Gyllideb Ysgolion Unigol) a dyrannu unrhyw gyllid a ddyroddir gan y Comisiwn.

Rhaid i unrhyw ymgynghoriad a gynhelir roi digon o amser i'r canlyniad allu cael ei ystyried wrth benderfynu ar fformiwla'r awdurdod lleol, y mae'n rhaid i hynny, yn ei dro, ddigwydd gan roi digon o amser i'r penderfyniad cychwynnol ynghylch cyfrannau ysgolion o'r gyllideb allu cael ei wneud (gweler rheoliad 11 o Reoliadau Rhif 2).

Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu pob ymgynghorai o ganlyniad unrhyw ymgynghoriad a gynhelir mewn perthynas â'i fformiwla gyllido (gweler rheoliad 11 o Reoliadau Rhif 2).

Pan fydd awdurdod lleol yn ailbennu'r fformiwla a bennwyd, ni chaiff gyhoeddi'r fformiwla a ailbennwyd ar ei wefan yn hwyrach na'r dyddiad y bwriedir i'r fformiwla a ailbennwyd ddod i rym yn unol â pharagraffau (1) A (2), ynghyd â datganiad y daw'r fformiwla a ailbennwyd i rym ar y dyddiad hwnnw. Efallai y bydd yr awdurdod lleol am ddefnyddi'r Datganiad Cyllideb i arddangos ei fformiwla gyllido. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai gwneud hynny yn bodloni'r gofyniad ac y byddai hyn, mewn llawer o achosion, yn lleihau'r baich gweinyddol ar yr awdurdod lleol (gweler rheoliad 12 o Reoliadau Rhif 2).

Cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ffederasiynau ysgolion

Cyn i Reoliadau Rhif 2 ddod i rym, roedd pob ysgol yn cael ei chyfran ei hun o'r gyllideb, yn ei rheoli ac yn adrodd arni, p'un a oedd yn rhan o ffederasiwn ai peidio. Bellach, caiff ffederasiwn gael cyfran gyfunol o'r gyllideb.

Nid effeithir ar y ffordd y caiff cyllideb ysgol unigol ei chyfrifo, mae cyllideb pob ysgol yn y ffederasiwn yn parhau i gael ei phennu gan ddefnyddio fformiwla gyllido'r awdurdod lleol ar gyfer pob ysgol (gweler rheoliad 24 o Reoliadau Rhif 2). Rhaid i'r awdurdod lleol o hyd allu pennu cyllideb ar gyfer pob ysgol yn y ffederasiwn a rhannu'r gyllideb petai unrhyw un o'r ysgolion yn y ffederasiwn yn gadael.

Fodd bynnag, ar ôl i'r cyllidebau gael eu pennu, gall yr awdurdod ddyroddi un gyfran o'r gyllideb ar gyfer y ffederasiwn, y bydd yn adrodd yn ei herbyn wedyn. Yn bwysig ddigon, wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pob ysgol mewn ffederasiwn, rhaid i'r awdurdod ei thrin ar y sail o fewn ei fformiwla ag unrhyw ysgol annibynnol.

Bydd hyn yn helpu ffederasiynau i ddefnyddio eu cyllidebau yn fwy effeithiol, lleihau eu gwaith gweinyddol ac adrodd, a chefnogi dull mwy strategol o dan eu corff llywodraethu unigol.

Dim ond os bydd ffederasiwn yn gofyn am hynny a bod yr awdurdod lleol o'r farn y gall y corff llywodraethu reoli un gyfran o'r gyllideb ar draws y ffederasiwn y caiff cyfran gyfunol o'r gyllideb ei dyroddi ar ei gyfer.

Pan fydd un neu fwy o ysgolion yn bwriadu gadael ffederasiwn y mae un gyfran o'r gyllideb wedi'i dyrannu ar ei gyfer, rhaid i'r awdurdod lleol bennu'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer pob un o'r ysgolion sy'n gadael ac ailbennu'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer y ffederasiwn. Fel arfer, byddai'r swm hwn yn gymesur â nifer y misoedd o'r flwyddyn ariannol y mae pob un o'r trefniadau yn bodoli, ond caiff yr awdurdodau lleol ddefnyddio dull gwahanol os bydd yr amgylchiadau yn cyfiawnhau hynny.

Os na ellir dod i gytundeb ynghylch sut i ddosrannu unrhyw warged neu ddiffyg a ddelir gan y ffederasiwn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol berthnasol, bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu sut i ddosrannu'r gwarged neu'r diffyg fel sy'n briodol, yn ei farn ef.

Datganiadau cyllideb

Rhan 1: crynodeb

Ers mis Ebrill 2011, mae Rheoliadau 2010 wedi'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol bennu cyllideb flynyddol ar gyfer pob ysgol a rhoi cyllidebau amcangyfrifedig i bob ysgol ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol. Bydd y system dreigl hon o gyllideb benodedig ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf, gydag amcangyfrifon ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol yn sicrhau bod gan ysgolion wybodaeth am gyllid ar gyfer tair blynedd, gan roi mwy o sefydlogrwydd a chefnogi gwaith cynllunio ariannol hirdymor mwy effeithiol.

Nid yw'r amcangyfrifon ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 yn gyfrwymol ar yr awdurdod lleol. Bydd yr awdurdod lleol yn pennu cyfrannau cyllidebau gwirioneddol bob blwyddyn.

Dosrannu'r dyraniad a gedwir

Yn hytrach na dyrannu ei Gyllideb Ysgolion Unigol gyfan i ysgolion ar ddechrau blwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gadw swm at ddibenion wneud ail-benderfyniadau neu gywiro gwallau.

Mae Atodlen 5 i Reoliadau Rhif 2 yn defnyddio'r term ‘Cyllideb Ysgolion Unigol Heb ei Dyrannu’ i olygu'r un peth â'r term ‘Dyraniad a Gedwir’ a ddefnyddir yn rheoliad 8(2).

Rhaid i unrhyw gyllid a ddyroddir o'r ‘dyraniad a gedwir’ gael ei ddosbarthu yn unol â ffactorau yn fformiwla gyllido'r awdurdod lleol.

Mae'r defnyddiau a ganiateir o'r ‘dyraniad a gedwir’, oni chaiff ei ganiatáu gan Weinidogion Cymru ar gais penodol gan awdurdod lleol fel a ganlyn:

  • Cywiro gwallau yn unol â rheoliad 27.
  • Er mwyn adlewyrchu gwaharddiad parhaol disgybl a'i dderbyn wedi hynny i ysgol yn unol â rheoliad 26. Nodir y fformiwla sydd i'w defnyddio wrth gyfrifo cyllid sy'n ymwneud â'r gwaharddiad parhaol a (neu) dderbyn y disgybl i ysgol yn rheoliad 26.

Os bydd awdurdod lleol yn ystyried defnyddio'r ‘dyraniad a gedwir’ at unrhyw ddiben arall, rhaid iddo geisio caniatâd Gweinidogion Cymru yn unol â rheoliad 28.

Rhan 2: manylion

Cyfuno Rhannau 2 a 3

Mae Rhan 2 o ddatganiad cyllideb yn cyfateb i'r hyn a oedd wedi'i rannu'n flaenorol rhwng Rhannau 2 a 3. Mae hyn yn egluro y bydd y wybodaeth yn yr un fformat ar lefel awdurdod lleol a lefel ysgol a'i bod yn gyson rhwng pob sector ysgolion. Mae adrannau a arweinir gan ddisgyblion ac a arweinir gan leoedd wedi'u cynnwys ar gyfer pob sector ysgolion.

Mae'r adran sy'n ymwneud yn benodol â safleoedd wedi'i dileu. Dylid dangos unrhyw gyllid a ddyrennir yn unol â ffactor sy'n ymwneud â safle ysgol yn yr adran sy'n ymwneud yn benodol â safleoedd.

Am fod gan y dyraniad tybiannol ar gyfer ADY dabl ar wahân yn y templed, mae adran AAA o'r hen dempled wedi'i dileu yn hytrach na chael ei hailenwi yn yr adran ar ADY.

Templed cyffredin

Diffinnir cynllun y wybodaeth sydd ei hangen yn y datganiad cyllideb yn glir yn Rheoliadau Rhif 2. Bydd templed a ddosberthir bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau cydymffurfedd â Rheoliadau Rhif 2 ond nid yw'n orfodol ei ddefnyddio. Caiff awdurdodau lleol ddewis llunio eu templedi eu hunain i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, ond rhaid i'r templedi hynny gydymffurfio â'r fformat yn Rheoliadau Rhif 2. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf y dylai pob awdurdod lleol ddefnyddio'r templed a ddarperir.

Caiff yr un cynllun ei ddefnyddio ar sawl lefel ar gyfer sawl endid. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer pob ysgol unigol ac ar gyfer cyfansymiau'r awdurdod lleol. O fewn pob un o'r rhain, fe'i defnyddir hefyd ar gyfer cyllid prif ffrwd craidd, cyllid prif ffrwd dewisol, cyllid tybiannol craidd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a chyllid tybiannol dewisol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Cyllid fesul disgybl a chyllid fesul lle

Mae gan sectorau ysgolion cyllid fesul disgybl a chyllid fesul lle yn y templed. Mae hyn yn cydnabod y gallai'r ddau fath o gyllid fodoli ym mhob sector ysgolion.

Nid yw'r rheoliadau sy'n ymwneud â chyfrif nifer y disgyblion yn gymwys i ysgolion arbennig, dosbarthiadau chwech na lleoedd a neilltuir i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu sydd mewn dosbarthiadau meithrin.

Cyllid a arweinir gan ddisgyblion

Mae gan dempled y datganiad cyllideb linell cyfanswm benodol ar gyfer cyllid a arweinir gan ddisgyblion. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddirprwyo o leiaf 70% o gyfanswm eu cyllideb ysgolion unigol mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac uwchradd ar seiliau a arweinir gan ddisgyblion yn unol â rheoliad 14. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r gwerth yn y llinell a arweinir gan ddisgyblion ar y templed gyfateb i o leiaf 70% o'r cyfanswm wrth gyfuno cyfansymiau'r cyllidebau a ddyrennir i bob ysgol gynradd a phob ysgol uwchradd.

Dylid cynnwys unrhyw bwysoli o ran cyllid fesul disgybl yn yr adran arall o'r templed sydd ar gyfer cyllid a arweinir gan ddisgyblion. Rhaid i bob gwerth yn yr adran cyllid fesul disgybl barhau'n gyson rhwng pob ysgol.

Dylai unrhyw gyllid a arweinir gan ddisgyblion gael ei ategu (a gallu cael ei ategu) gan restr benodol a chynhwysfawr o ddisgyblion sy'n bodloni maen prawf penodol neu set benodol o feini prawf. Gallai enghreifftiau gynnwys cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim, bod ag anghenion dysgu ychwanegol a chael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fformiwlâu dangosadwy

Rhaid i awdurdod lleol ystyried dymunoldeb cael fformiwla sy'n syml, yn wrthrychol, yn fesuradwy ac yn rhagweladwy o ran effaith ac sy'n cael ei mynegi'n glir. Dylai pob elfen o gyllid yng nghyfran ysgol o'r gyllideb gael ei chyfrifo gan ddefnyddio fformiwla a'i mynegi felly yn y datganiad cyllideb.

Y dull sylfaenol yw bod y gwerth ariannol a bennir i eitem a luosir â nifer yr eitemau yn cyfateb i gyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer yr elfen honno o'r fformiwla. Ar gyfer pob ffactor rhaid i waith cyfrif yr eitemau fod yn rhywbeth sy'n adnabyddadwy i'r darllenydd, yn hawdd yn y fformiwla ei hun os oes modd neu fel naratif ategol clir. Fodd bynnag, ni all ffactorau ymwneud â chyllid a geir drwy grant gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i'r fformiwla gynnwys dull o ddarparu ar gyfer pryd mae statws sefydliadol ysgol yn newid.

Proses y gyllideb

Amserlen

Erbyn 14 Chwefror fan bellaf, rhaid i'r awdurdod lleol wneud penderfyniad cychwynnol o ran ei Gyllideb Ysgolion (gweler rheoliad 5 o Reoliadau Rhif 2). Diffinnir y Gyllideb Ysgolion yn rheoliad 6 o Reoliadau Rhif 2. Dyma'r cyllid a ddyrennir i ysgolion yn bennaf ond mae hefyd yn cynnwys unrhyw gyllid a gedwir gan yr awdurdod lleol ar gyfer y penawdau gwariant a nodir yn Atodlen 3. Mae hyn yn net o unrhyw grantiau ac nid yw'n cynnwys y grant ôl-16.

Erbyn 14 Chwefror fan bellaf, rhaid i'r awdurdod lleol hefyd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r penderfyniad cychwynnol hwnnw. Os na fydd yr awdurdod lleol yn gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru bennu Cyllideb Ysgolion yr awdurdod lleol. Os bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu Gweinidogion Cymru am Gyllideb Ysgolion y mae ei gwerth yn llai na'r hyn sy'n dderbyniol iddynt, caiff Gweinidogion Cymru bennu Cyllideb Ysgolion yr awdurdod lleol â gwerth sy'n dderbyniol, yn eu barn nhw.

Os bydd awdurdod lleol yn ailbennu ei Gyllideb Ysgolion, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo ei fod wedi'i hailbennu o fewn 28 diwrnod i wneud hynny (gweler adran 45B o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998).

Erbyn 14 Chwefror fan bellaf, rhaid i'r awdurdod lleol hefyd hysbysu corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo o'r penderfyniad cychwynnol hwnnw (gweler rheoliad 5 o Reoliadau Rhif 2).

Erbyn 14 Chwefror fan bellaf, rhaid i'r awdurdod lleol wneud penderfyniad cychwynnol o ran y gyfran o'i Gyllideb Ysgolion y mae'n bwriadu ei chadw at ddibenion y penawdau gwariant a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2. Daw unrhyw ran o'r penderfyniad cychwynnol ynghylch y Gyllideb Ysgolion nas cedwir felly yn Gyllideb Ysgolion Unigol yr awdurdod lleol.

Erbyn 31 Mawrth fan bellaf, ar gyfer pob ysgol a gynhelir ganddo, rhaid i'r awdurdod lleol wneud penderfyniad cychwynnol o ran ei chyfran o'r gyllideb (gweler rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau Rhif 2).

Erbyn 31 Mawrth fan bellaf, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo am gyfran pob ysgol o'r gyllideb. Rhaid i'r hysbysiad a roddir i gorff llywodraethu gynnwys esboniad o'r ffordd y cafodd cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb ei phennu. Rhaid i'r hysbysiad hefyd gynnwys amcangyfrif o gyfrannu'r ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod dilynol (gweler rheoliad 9 o Reoliadau Rhif 2).

Gofynion ymgynghori a chyhoeddi

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi Datganiad Cyllideb erbyn diwedd 31 Mawrth. Ni ddylid diwygio Datganiad Cyllideb ac eithrio i gywiro gwallau (gweler rheoliad 34 o Reoliadau Rhif 2).

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei Ddatganiad Cyllideb ar ei wefan gyhoeddus. Ni chaniateir i'r awdurdod lleol godi tâl am weld y fformiwla gyllido nac ychwaith am ei lawrlwytho. Rhaid iddo hefyd anfon copi electronig ohoni at gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo a Gweinidogion Cymru (gweler rheoliad 33 o Reoliadau Rhif 2).

Caiff y data a gesglir ar y datganiad cyllideb a ddarperir i Weinidogion Cymru eu defnyddio wrth lunio datganiadau ystadegol a hefyd i friffio Gweinidogion. Pan fydd y set ddata gyfan wedi’i chwblhau, caiff data i’w cymharu â phob awdurdod lleol arall eu cyhoeddi ar ein gwefan StatsCymru. Bydd data hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan FyYsgolLeol.

Datganiadau alldro

Ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, bydd Llywodraeth Cymru yn dyroddi templed ar gyfer cwblhau'r datganiad alldro. Bydd cwblhau'r templed yn gywir yn sicrhau cydymffurfedd â'r rheoliadau. Caiff awdurdod lleol gyflwyno'r wybodaeth ofynnol ar ei dempled ei hun, ond rhaid i'r templed hwnnw fodloni'r gofynion a nodir yn Rheoliadau Rhif 2 (gweler Rhan 6 o Reoliadau Rhif 2).

Mae'r datganiad alldro yn ceisio nodi gwerth adnoddau ariannol sydd wedi bod ar gael i'r ysgol eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol (sy'n cynnwys cronfa wrth gefn agoriadol yr ysgol, cyllid a ddirprwywyd i'r ysgol gan yr awdurdod lleol ac incwm a gafwyd gan yr ysgol), y gwariant gros y mae'r ysgol wedi mynd iddo yn ystod y flwyddyn ariannol a'r ffordd y mae'r gydberthynas rhwng y ddau werth hyn wedi effeithio ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan yr ysgol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mewn perthynas â ffederasiwn sydd wedi dewis rheoli cyfrannau pob un o'i ysgolion o'r gyllideb fel un gyfran o'r gyllideb, rhaid i'r awdurdod lleol gwblhau'r datganiad alldro ar lefel ffederasiwn. Mewn perthynas ag unrhyw ysgol arall, p'un a yw'r ysgol honno mewn ffederasiwn ai peidio, rhaid i'r awdurdod lleol gwblhau'r datganiad alldro ar lefel ysgol. Mae cwblhau datganiadau alldro ar lefel ffederasiwn yn newid a gyflwynwyd gan Reoliadau Rhif 2.

Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu copi o'i ddatganiad alldro i Weinidogion Cymru drwy e-bost a sicrhau bod copi o'r datganiad alldro ar gael am ddim ar wefan a gynhelir ganddo ac sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Rhaid i'r awdurdod lleol gwblhau'r tasgau hyn cyn 31 Gorffennaf.

Caiff y data a gesglir ar y datganiad alldro a ddarperir i Weinidogion Cymru eu defnyddio wrth lunio datganiadau ystadegol a hefyd i friffio Gweinidogion. Pan fydd y set ddata gyfan wedi’i chwblhau, caiff data i’w cymharu â phob awdurdod lleol arall eu cyhoeddi ar ein gwefan StatsCymru. Bydd data hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan FyYsgolLeol.

Ar wahân i adrodd ar lefel ffederasiwn o dan rai amgylchiadau a symud y dyddiad cau ar gyfer ei gwblhau, nid yw'r datganiad alldro yn cael ei newid gan Reoliadau Rhif 2.

Atodiad A: Ffactorau neu feini prawf ychwanegol fformiwlâu cyllido

Caiff awdurdod lleol ddefnyddio unrhyw ffactorau yr ystyrir bod eu hangen i ddyrannu cyfrannau ysgolion mewn ffordd deg a phriodol.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Caiff awdurdod lleol ddefnyddio ffactorau ychwanegol, er enghraifft petai gan ysgol neu ysgolion angen penodol nas rhestrir neu petai angen swyddogaethau ysgol ychwanegol.

Rhoddir enghreifftiau o ffactorau a meini prawf priodol isod:

  • Pennir anghenion dysgu ychwanegol disgyblion mewn modd sy'n briodol, ym marn yr awdurdod, fel dull o asesu anghenion o'r fath.
  • Disgyblion nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
  • Maint a chyflwr adeiladau a thir ysgol o gymharu ag adeiladau a thir ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod.
  • Ysgol sydd ar ddau safle.
  • Ceir cyfleusterau, ar gyfer addysgu disgyblion, mewn rhai ysgolion yn unig.
  • Y math o danwydd a ddefnyddir mewn ysgol.
  • Yr angen i bennu manylebau glanhau a (neu) gynnal a chadw gwahanol ar gyfer rhai rhannau o ysgol.
  • Y pellter rhwng yr ysgol a lleoliad gweithgaredd addysgol.
  • Cyflogau mewn ysgol: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.
  • Yr angen i daliadau sengl gael eu dyrannu i ysgolion cynradd, uwchradd neu ysgolion arbennig, neu unrhyw gyfuniad o'r fath ysgolion, waeth beth fo'u maint.
  • Yr angen i daliadau gael eu dyrannu i ysgolion, o faint a bennir gan yr awdurdod a (neu) sy'n bodloni amodau eraill a bennir ganddo.
  • Nifer y dosbarthiadau a lleoedd meithrin y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u neilltuo i blant ag anghenion addysgol arbennig.
  • Nifer yr Athrawon Newydd Gymhwyso.
  • Nifer y staff sydd wedi'u cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
  • Nifer y disgyblion sydd â'r hawl i brydau ysgol am ddim (ac eithrio o dan ddarpariaeth gyffredinol).
  • Preswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
  • Unrhyw fesur arall o amddifadedd cymdeithasol neu nodwedd debyg mewn perthynas â disgyblion penodol.
  • Cyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy'n cofrestru ag ysgol.
  • Categori pennaeth yr ysgol.
  • Unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill nad ydynt yn seiliedig ar fformiwla ond y mae sail resymegol glir drostynt ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyrennir yng nghyfran unrhyw ysgol benodol o'r gyllideb, yn unol â fformiwla'r awdurdod, gan ystyried hefyd ffactorau neu feini prawf o'r fath, yn fwy na 0.5 y cant o gyfran yr ysgol honno o'r gyllideb.