Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Medi 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar newidiadau i Reoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ystyried newidiadau posibl i nifer o Reoliadau mewn perthynas â chyllido ysgolion, datganiadau cyllideb ysgolion a datganiadau alldro.
Nod y newidiadau yw:
- darparu mwy o hyblygrwydd fel y gall awdurdodau lleol roi cymorth gwell i ysgolion reoli eu cyllidebau
- sicrhau bod y system yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel y gellir cael trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel
Mae'r ymgynghoriad hwn yn casglu barn rhanddeiliaid a fydd yn llywio Rheoliadau newydd. Bydd y rhain yn diwygio ac yn cyfuno Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 yn un gyfres o Reoliadau.
