Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026
Rydym am gael eich barn ar newidiadau i Reoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar newidiadau arfaethedig a fydd yn llywio Rheoliadau newydd, sy'n diwygio ac yn cyfuno Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003.
Nod y diwygiadau yw sicrhau y caiff adnoddau eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw, gan alluogi ysgolion i reoli eu harian yn effeithiol a chyrraedd safonau addysgol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr argyfwng costau byw sy'n rhoi cryn bwysau ar ysgolion ac awdurdodau lleol.
Bydd y diwygiadau hefyd yn sicrhau y caiff polisïau a deddfwriaeth gyfredol eu hadlewyrchu ac yn diweddaru terminoleg yn briodol, er enghraifft diweddariadau sy'n ofynnol o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Byddwn yn ystyried pob ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad, byddwn yn cyhoeddi adroddiad cryno o'r ymatebion ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn darparu ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac yn sefydlu'r fframwaith ariannol ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae awdurdodau lleol yn gosod cyllidebau ar gyfer eu hysgolion, a gaiff eu pennu gan fformiwla gyllido leol. Cânt eu gwneud o dan adrannau 45A, 45AC, 47, 48, 49 a 138(7) ac (8) a pharagraffau 1(7) a 2B o Atodlen 14 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol bennu nifer o gyllidebau. Yn gyntaf, mae angen i awdurdod lleol bennu ei Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys eitemau o wariant y bydd yn parhau i fod yn gyfrifol amdanynt. Caiff yr eitemau sy'n ffurfio'r gyllideb hon eu nodi yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010.
Ar wahân i hynny, mae'n rhaid i awdurdod lleol bennu ei Gyllideb Ysgolion. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys eitemau o wariant sy'n ymwneud â darparu a rhedeg ysgolion. Caiff yr eitemau sy'n ffurfio'r gyllideb hon eu nodi yn rheoliad 6 o Reoliadau 2010.
Ar ôl ffurfio'r Gyllideb Ysgolion, rhaid i'r awdurdod lleol wedyn ddidynnu'r eitemau o wariant a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010 ohoni. Y swm sy'n weddill ar ôl gwneud y didyniadau hynny yw'r Gyllideb Ysgolion Unigol ac mae'n cynrychioli'r gyllideb a fydd, yn ei thro, yn cael ei dyrannu i bob ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol.
Yn olaf, rhaid i'r awdurdod lleol ddyrannu'r Gyllideb Ysgolion Unigol gyfan i Gyfrannau Cyllideb Ysgolion, sef y gyllideb wirioneddol y bydd pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol yn ei chael ganddo.
Mae Rheoliadau 2010 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y broses o bennu'r gyllideb y mae'n rhaid i awdurdod lleol ymgymryd â hi, ac amserlen y broses honno.
Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 (rheoliad 23) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, pan fydd yn paratoi ei fformiwla gyllido, sicrhau bod 70% o'i Gyllideb Ysgolion Unigol (y gyllideb y bydd yn ei dyrannu i'r ysgolion a gynhelir ganddo) yn cael ei ddyrannu ar y sail y bydd 70% ar gyfer cyllid a arweinir gan ddisgyblion. Mae hynny'n golygu y caiff y 70% ei ddyrannu i ysgolion unigol ar sail un maen prawf neu fwy a nodwyd yn Rheoliadau 2010, sef nifer y disgyblion, ffactorau eraill sy'n ymwneud â nifer y disgyblion, lleoedd meithrin ac anghenion addysgol arbennig disgyblion.
Bydd y cyfeiriad at anghenion addysgol arbennig bellach yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at anghenion dysgu ychwanegol hefyd. Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i rannu'r 30% sy'n weddill fel y gallant ystyried amgylchiadau ysgolion unigol, megis maint a chyflwr adeiladau ysgolion. .
Yn ogystal, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gynnal cynllun ariannol yn amlinellu'r gydberthynas ariannol rhwng yr awdurdod a'i ysgolion. Mae'r cynllun hwn yn nodi cyfrifoldebau penaethiaid a chyrff llywodraethu mewn perthynas â rheoli'r gyllideb ac yn gosod amodau ar gyfer dirprwyo ariannol.
Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 yn nodi ffurf datganiadau cyllideb ac alldro a ddarperir gan yr awdurdod lleol, ynghyd â'r wybodaeth y dylent ei chynnwys a sut y dylid eu cyhoeddi. Caiff y rheoliadau hynny eu gwneud hefyd o dan ddarpariaethau yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Y sefyllfa bresennol
Caiff penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion a gwasanaethau eraill eu gwneud gan bob awdurdod lleol wrth bennu ei gyllideb gyffredinol a'i dreth gyngor.
Daeth Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 i rym ar 1 Medi 2010 ar gyfer blwyddyn ariannol 2011 i 2012 a phob blwyddyn ddilynol. Cawsant eu gwneud gan ddefnyddio pwerau yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Gwnaeth Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 gyfuno a disodli'r Rheoliadau canlynol:
- Rheoliadau Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003.
- Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004.
- Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol Awdurdod Lleol) (Cymru) 2004.
Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cyllidebau canlynol:
- Mae'r Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion (sef y Gyllideb AALl yn flaenorol) yn ymwneud â swyddogaethau canolog awdurdodau lleol ac yn cynnwys costau darpariaeth o natur arbenigol, gwelliannau ysgolion, mynediad at addysg, addysg bellach a hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion a rheolaeth strategol.
- Mae'r Gyllideb Ysgolion yn cwmpasu gwariant sydd â'r nod uniongyrchol o gefnogi ysgolion a gall yr awdurdod lleol gadw cyllid ar ei gyfer yn ganolog, megis gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), prydau ysgol a llaeth. Caiff swm y gwariant a gedwir yn ganolog ei ddidynnu o'r Gyllideb Ysgolion a'r Gyllideb Ysgolion Unigol yw'r swm sy'n weddill.
- Caiff y Gyllideb Ysgolion Unigol ei rhannu rhwng yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol a chaiff ei dirprwyo i ysgolion.
Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddyrannu a phennu cyllidebau ysgolion a hysbysu ysgolion a Gweinidogion Cymru o hyn. Maent yn nodi dosbarthiadau neu ddisgrifiad o wariant at ddibenion y cyllidebau a nodir yn y Rheoliadau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i 70% o Gyllideb Ysgolion Unigol awdurdod lleol fod yn gyllid a arweinir gan ddisgyblion ac yn amlinellu'r hyn sy'n ofynnol o ran cynllun ariannol awdurdod lleol, y trefniadau cyhoeddi a chamau i gymeradwyo diwygiadau.
Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 yn rhagnodi ffurf datganiadau cyllideb a ddarperir gan yr awdurdod lleol, ynghyd â'r wybodaeth y dylent ei chynnwys a sut y dylid eu cyhoeddi. Mae'r datganiadau hyn ar gyfer gwariant a gyllidebwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod .
Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 yn rhagnodi ffurf datganiadau alldro a ddarperir gan yr awdurdod lleol, ynghyd â'r wybodaeth y dylent ei chynnwys a sut y dylid eu cyhoeddi. Mae'r datganiadau hyn ar gyfer gwariant gwirioneddol a chronfeydd wrth gefn.
Rhesymau dros y newidiadau arfaethedig
Ers sawl blwyddyn, mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch lefel gwariant ysgolion fesul disgybl, gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol a rhwng ysgolion ac a yw lefelau cyllido yn ddigonol i ddiwallu anghenion disgyblion.
O ganlyniad i hyn, lansiodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i gyllido ysgolion yng Nghymru. Roedd adroddiad Cyllido Ysgolion yng Nghymru y Pwyllgor yn cynnwys 21 o argymhellion, gan gynnwys argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r pwerau statudol sydd ar gael i awdurdodau lleol o dan Reoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.
Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, comisiynodd Llywodraeth Cymru Luke Sibieta, sef ymgynghorydd annibynnol, i ymgymryd â dadansoddiad o'r system cyllido ysgolion a gwneud argymhellion er mwyn gwella. Roedd yr Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru yn cynnwys 12 o argymhellion. Adroddodd ar y cymhlethdodau niferus o ran cyllido ysgolion ledled Cymru, gan argymell fod angen i'n prosesau cyllido fod yn fwy tryloyw a chyson.
Yn ddiweddar, aeth Llywodraeth Cymru ati i adolygu fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol. Argymhellodd yr Adolygiad o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion y dylid diwygio Rheoliadau 2010.
Rydym wedi ystyried y dystiolaeth yn yr adroddiadau uchod a bwriedir i'r diwygiadau arfaethedig fynd i'r afael â nifer o'r argymhellion.
Ni fydd y diwygiadau arfaethedig yn arwain at newid i gyllideb addysg gyffredinol yr awdurdod lleol.
Nod y newidiadau arfaethedig yw sicrhau yr ymdrinnir â chyllid ysgolion mewn ffordd fwy tryloyw, cyson a theg ar draws awdurdodau lleol, gan ar yr un pryd gynnal egwyddorion prosesau gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd democrataidd lleol.
Newidiadau cynnig
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 newydd a fydd yn cyfuno ac yn ymgorffori diwygiadau i Reoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”), Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”).
Nodir bwriad polisi'r cynigion isod.
Ysgolion ffederal
Rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau 2010 fel y gellir cyfuno cyllidebau ysgolion ffederal, er mwyn creu un gyllideb ffederal ar gyfer pob ysgol sy'n rhan o'r ffederasiwn. Mae hyn yn debyg i ddeddfwriaeth yn Lloegr, Rheoliadau Cyllid Ysgolion a'r Blynyddoedd Cynnar (Lloegr) 2025. Caniateir camau i gyfuno cyllidebau os ceir cais can ffederasiwn i wneud hynny, hynny yw, gall ffederasiwn ddewis cael ei gyllidebau unigol fel un gyfran gyllideb gyfunol. Proses yw ffedereiddio sy'n galluogi mwy nag un ysgol i ffedereiddio o dan un corff llywodraethu. Rhaid gwneud hyn yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014.
Ar hyn o bryd, o dan Reoliadau 2010, mae'n rhaid i awdurdodau lleol bennu cyllideb ddirprwyedig unigol ar gyfer pob ysgol. Yn Rheoliadau 2010, cyfeirir at hyn fel Cyfran yr Ysgol o'r Gyllideb. Mae hyn yn gymwys i ysgolion mewn ffederasiwn. Mae ysgolion mewn ffederasiwn yn cael cyllidebau dirprwyedig unigol ac mae'n rhaid i unrhyw wariant ar weithgarwch ar y cyd gan y ffederasiwn gael ei ddosbarthu i gyllideb yr ysgol briodol. Deallwn y gall hyn greu biwrocratiaeth a gwaith gweinyddol ychwanegol i ysgolion gan fod yn rhaid i ffederasiwn o ysgolion roi cyfrif am eu cyllidebau dirprwyedig yn unigol.
O dan y diwygiadau arfaethedig, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i bennu cyllidebau dirprwyedig ysgolion (h.y. Cyfran yr Ysgol o'r Gyllideb) yn unigol, gan ddefnyddio'r un fformiwla â'r hyn a ddefnyddir ar gyfer ysgolion unigol. Fodd bynnag, bydd gan y ffederasiwn yr opsiwn wedyn i gael ei gyllidebau dirprwyedig fel un gyfran o'r gyllideb ac yna adrodd yn erbyn yr un gyfran o'r gyllideb. Gallai hyn helpu ffederasiynau i ddefnyddio eu cyllidebau yn fwy effeithiol, lleihau eu gwaith gweinyddol ac adrodd, a chefnogi dull mwy strategol o dan eu corff llywodraethu unigol.
Cynigir diwygio Rheoliadau 2003 hefyd fel y gall ysgolion ffederal sydd wedi dewis cael un gyllideb ffederal adrodd ar yr un gyllideb ffederal honno, yn hytrach nag ar gyllidebau ysgolion unigol.
Pe bai ysgol yn gadael y ffederasiwn sydd ag un gyfran gyfunol o'r gyllideb, caiff y broses ei nodi yn Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 ac yn nogfen Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir: canllawiau i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu corff llywodraethu dros dro, dyrannu cyllideb i'r corff hwnnw a throsglwyddo unrhyw dir, eiddo, hawliau neu rwymedigaethau. Os na ellir dod i gytundeb o ran dosrannu unrhyw warged neu ddiffyg yng nghyllideb yr ysgol, bydd y Rheoliadau diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu fel y bo'n briodol.
O ran gosod cyllideb pan fydd un ysgol neu fwy yn gadael ffederasiwn y dyrannwyd un gyfran o'r gyllideb iddo, rhaid i'r awdurdod lleol wneud y canlynol:
- pennu'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer pob un o'r ysgolion sy'n gadael, ac
- ailbennu'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer y ffederasiwn
Nifer y disgyblion
Mae Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i 70% o'r cyllid ar gyfer cyllidebau ysgolion gael ei ddosbarthu ar sail ffactorau sy'n ymwneud yn fras â nifer y disgyblion. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn defnyddio ystod o ddata gwahanol, a gaiff eu casglu ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn, er mwyn pennu nifer y disgyblion.
Yn gryno, mae Rheoliadau 2010 (rheoliad 23) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, pan fydd yn paratoi ei fformiwla gyllido, sicrhau bod 70% o'i Gyllideb Ysgolion Unigol (h.y. y gyllideb y bydd yn ei dyrannu i'r ysgolion a gynhelir ganddo) yn cael ei ddyrannu ar y sail y bydd 70% ar gyfer cyllid a arweinir gan ddisgyblion. Mae hynny'n golygu y caiff y 70% ei ddyrannu i ysgolion unigol ar sail un maen prawf neu fwy a nodwyd yn Rheoliadau 2010. Y meini prawf hynny yw nifer y disgyblion, ffactorau eraill sy'n ymwneud â nifer y disgyblion, lleoedd meithrin ac anghenion addysgol arbennig disgyblion. Bydd y cyfeiriad at anghenion addysgol arbennig bellach yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at anghenion dysgu ychwanegol hefyd. Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i rannu'r 30% sy'n weddill fel y gallant ystyried amgylchiadau ysgolion unigol, megis maint a chyflwr adeiladau ysgolion.
Yn unol ag argymhellion yn yr Adolygiad o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion, rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau 2010 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio data o'r CYBLD mis Ionawr diweddaraf fel y data a ddefnyddir i gyfrifo nifer y disgyblion mewn penderfyniadau cychwynnol am y gyllideb. Nod hyn yw cysoni dyddiadau casglu a data awdurdodau lleol mewn perthynas â nifer y disgyblion er mwyn cynyddu cymharedd ac felly dryloywder ar gyfer trafodaethau ar sail gwybodaeth am gyllidebau ysgolion. Bydd data sydd wedi'u diffinio'n glir yn helpu ysgolion i ragfynegi cyllidebau yn y dyfodol a chynllunio'n unol â hynny.
Bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio ffactorau ychwanegol o hyd os bydd angen iddynt ailbennu Cyfran Ysgol o'r Gyllideb oherwydd ffactorau megis gwaharddiad parhaol, derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir neu unrhyw gynnydd yng Nghyfran yr Ysgol o'r Gyllideb o ganlyniad i gynnydd yn nifer y disgyblion yn ystod y cyfnod cyllido hwnnw.
Mae Rheoliadau 2010 hefyd yn nodi meini prawf lle caiff o leiaf 70% o'r Gyllideb Ysgolion Unigol ei dyrannu yn seiliedig ar nifer y disgyblion yn rheoliad 23. Rydym yn cynnig dirymu rheoliad 23(1)(d) o Reoliadau 2010, sy'n cyfeirio at ‘blant ag anghenion addysgol arbennig nad oes ganddynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ond hyd at 5% yn unig o'r cyfanswm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i ysgolion cynradd ac uwchradd o'i gyllideb ysgolion unigol.
’Mae'r derminoleg wedi dyddio o gymharu â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gan ei bod yn ofynnol i bob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gael cynllun datblygu unigol. Nid yw'r terfyn o 5% yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru mwyach ac nid yw cyfyngu'r cyllid hwn i ganran o fewn y 70% yn cynnig unrhyw fudd.
Amddifadedd
Ar hyn o bryd, mae rheoliad 18(2) o Reoliadau 2010 yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath. Fodd bynnag, dim ond ychydig o awdurdodau lleol sydd â ffactorau amddifadedd clir yn eu fformiwla, a gall y rhain fod o swm dibwys.
Mae rhai awdurdodau yn defnyddio ffactorau amddifadedd, megis cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim, fel meini prawf dyrannu mewn perthynas ag athrawon ac ADY. Bydd llinell glir ar gyfer amddifadedd yn helpu i sicrhau eglurder ac yn galluogi ysgolion i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau 2010 drwy ddarparu, wrth benderfynu ar Gyfrannau Ysgolion o'r Gyllideb o dan reoliad 18(2), fod yn rhaid i'r awdurdod lleol ystyried yn ei fformiwla, swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â:
- chymhwystra disgybl i gael prydau ysgol am ddim, neu
- breswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Rydym hefyd yn cynnig diwygio'r datganiad cyllideb sydd wedi'i gynnwys yn Rheoliadau 2002 ar hyn o bryd, fel bod awdurdodau lleol yn nodi'r ffactorau cyllido yn seiliedig ar amddifadedd a ddefnyddiwyd yn eu fformiwla gyllido (Atodiad B, nodiadau rhan 2, pwynt bwled 2).
Mae'n amlwg mewn tystiolaeth helaeth fod anfantais economaidd-gymdeithasol yn gysylltiedig â deilliannau addysgol gwaeth ymhlith plant. Byddai lefelau uwch o gyllid ar gyfer disgyblion dan anfantais yn helpu i leihau'r bwlch cyrhaeddiad. Mater i awdurdodau lleol unigol o hyd fydd penderfynu faint o gyllid y byddant yn dewis ei ddyrannu er mwyn diwallu'r angen hwn. Fodd bynnag, bydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud cyllid ar gyfer amddifadedd yn fwy tryloyw yn eu fformiwlâu cyllido yn helpu ysgolion i ddeall y cyllid sydd ar gael iddynt ac yn arwain at drafodaethau mwy gwybodus ynghylch y lefelau priodol o gyllid sydd ei angen.
Rydym yn cydnabod bod amrywiaeth o anghenion am ddata ar anfantais economaidd-gymdeithasol ar draws y system ysgolion ac rydym wedi comisiynu gwaith parhaus i ystyried cyfyngiadau ac addasrwydd data gwahanol o ran diwallu'r anghenion hyn, gan gynnwys y defnydd presennol o ddata ar gymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim fel dangosydd anfantais economaidd-gymdeithasol dirprwyol. Fel rhan o'r prosiect hwn, caiff ffynonellau data sydd eisoes yn bodoli a ffynonellau data amgen eu hadolygu a chaiff eu potensial i ddiwallu anghenion gwahanol ei ystyried. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn helpu i lywio trefniadau yn y dyfodol a fydd yn hwyluso ymdrechion i ddosbarthu cyllid yn effeithiol ymhlith yr anghenion niferus eraill am y math hwn o ddata.
Trothwyon ar gyfer gwargedion yng nghyllidebau ysgolion
Mae Rheoliadau 2010 yn caniatáu i awdurdodau lleol gyfarwyddo corff llywodraethu ysgol o ran sut i wario gwarged ym malans yr ysgol ar gyfer cyfnod cyllido, os yw'r gwarged yn £50,000 neu'n fwy ar gyfer ysgol gynradd, neu'n £100,000 neu'n fwy ar gyfer ysgol uwchradd neu ysgol arbennig. Os na fydd corff llywodraethu'r ysgol yn cydymffurfio â chyfarwyddyd yr awdurdod lleol, gall yr awdurdod lleol adennill rhan o'r gwarged hwnnw neu'r gwarged cyfan a'i ddyrannu i Gyllideb Ysgolion gyffredinol yr awdurdod i'w ail-neilltuo i ysgolion neu er budd ysgolion fel y'i pennir gan yr awdurdod.
Nid ydym yn credu bod pennu gwerth ariannol sefydlog o ran pryd y gall awdurdod lleol ymyrryd yn adlewyrchu ysgolion o feintiau gwahanol ac ysgolion sydd â chyllidebau gwahanol. Rydym felly'n cynnig newid y gwerth ariannol presennol i werth canrannol er mwyn adlewyrchu ysgolion o feintiau gwahanol ac ysgolion sydd â chyllidebau gwahanol ledled Cymru. Y gwerth hwn yw'r trothwy pan y gall awdurdod lleol gymryd camau gweithredu. Byddai awdurdodau lleol yn parhau i weithio gydag ysgolion i reoli eu cyllideb ac yn ystyried amgylchiadau unigol wrth wneud unrhyw benderfyniadau.
Rydym yn cynnig diwygio'r trothwyon ar gyfer gwargedion i 5%, yn hytrach na gwerth ariannol, er mwyn adlewyrchu meintiau gwahanol ysgolion. Hefyd, ni fydd chwyddiant yn effeithio ar ganran yn yr un ffordd â gwerth ariannol. Rydym hefyd yn bwriadu cynnwys ysgolion meithrin ac ysgolion canol ochr yn ochr ag ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.
Ar hyn o bryd, dylai cynllun ariannol yr awdurdod lleol ragnodi am ddatganiad gan y corff llywodraethu ar gynlluniau ar gyfer gwarged yn y gyllideb os bydd yn uwch na 5% neu £10,000, pa un bynnag sydd fwyaf (paragraff 19 o Atodlen 4 i Reoliadau 2010). Rydym yn cynnig tynnu'r cyfeiriad at £10,000 ond cadw'r trothwy o 5%. Rydym hefyd yn cynnig bod yn rhaid i gynllun ariannol yr awdurdod lleol hefyd gynnwys datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro'r ffordd y bydd corff llywodraethu'n defnyddio'r gwarged sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw ddatganiad. Credwn y bydd hyn yn cryfhau'r broses a thryloywder.
Cyllidebau ysgolion lle ceir diffyg
Rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau 2010 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys yn eu cynlluniau ariannol ddarpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gyflwyno i'r awdurdod lleol gynllun i adennill unrhyw ddiffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfran yr ysgol o'r gyllideb (“cynllun adennill diffyg”) er mwyn i'r awdurdod ei gymeradwyo.
At hynny, rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau 2010 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys yn ei gynllun ariannol ddatganiad yn nodi'r broses mewn perthynas â chynllun adennill diffyg drafft:
- Erbyn pryd y mae'n rhaid i'r corff llywodraethu gyflwyno cynllun drafft i'r awdurdod lleol er mwyn ei gymeradwyo.
- Enw a chyfeiriad ar gyfer ble y dylai'r corff llywodraethu anfon cynllun adennill diffyg.
- Ffurf y cynllun adennill diffyg a'r materion y mae'n rhaid ymdrin â nhw ynddo.
- Hyd cynllun adennill diffyg.
- Faint o amser fydd ar gael i'r awdurdod lleol ystyried cynllun adennill diffyg drafft.
- Canlyniadau peidio â chyflwyno cynllun adennill diffyg drafft i'r awdurdod lleol.
- Unrhyw ofynion i adolygu a diwygio'r cynllun adennill diffyg cymeradwy.
- Canlyniadau peidio â chydymffurfio â chynllun adennill diffyg cymeradwy.
Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod cyllideb ysgol yn cael ei monitro'n briodol ac y caiff cymorth ei ddarparu mewn modd amserol.
Cynlluniau ariannol
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi cynllun ariannol sy'n amlinellu'r gydberthynas ariannol rhwng yr awdurdod a'r ysgolion a gynhelir ganddo. Caiff y cynlluniau hyn eu mandadu gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac maent yn rhwymo'r awdurdod lleol a'r ysgolion.
Mae Rhan 4 ac Atodlen 4 i Reoliadau 2010 yn nodi materion mewn perthynas â chynlluniau o'r fath.
Mae Rheoliad 27 yn amlinellu'r dull cyhoeddi ar gyfer y cynllun. Ar hyn o bryd, mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu bod copi o'i gynllun ariannol ar gael er mwyn cyfeirio ato yn ddi-dâl naill ai ym mhob ysgol a gynhelir ganddo neu ar ei wefan; a darparu copi i'r ysgolion a gynhelir ganddo. Rydym yn cynnig gwneud y diwygiadau a nodir isod gan gynnwys bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi copi o'u cynllun ar eu gwefan yn hytrach na darparu copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddynt.
Yn y Rheoliadau newydd, bydd Rheoliad 27 yn gwneud y canlynol yn ofynnol:
- At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi cynlluniau) rhaid i awdurdod lleol erbyn y dyddiad y daw'r cynllun i rym fan bellaf gyhoeddi'r cynllun ar wefan sydd ar gael i'r cyhoedd.
- Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi electronig o'r cynllun at gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
- Pan fydd awdurdod lleol yn diwygio rhan o'i gynllun neu'r cynllun cyfan, rhaid iddo gyhoeddi'r cynllun fel y'i diwygiwyd yn unol â pharagraffau (1) a (2) erbyn y dyddiad y bwriedir i'r diwygiadau ddod i rym fan bellaf, ynghyd â datganiad yn nodi bod y cynllun diwygiedig yn dod i rym ar y dyddiad hwnnw.
Dirprwyo
Mae swyddogion yn dymuno cynnwys darpariaeth a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi yn eu cynllun ariannol cyhoeddedig feysydd o'u Cyllideb Ysgolion nad ydynt wedi'u dirprwyo i ysgolion.
Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn o ran p'un a fyddant yn dirprwyo'r penawdau gwariant yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010. O ganlyniad, mae penawdau gwariant y mae'r cyfrifoldeb amdanynt wedi'i ddirprwyo i ysgolion mewn rhai awdurdodau lleol, ond a gedwir yn ganolog mewn awdurdodau eraill. Mae hyn yn golygu nad yw lefelau cyllideb ysgolion mewn un awdurdod lleol yn wirioneddol gymaradwy â'r rhai mewn awdurdod lleol gwahanol.
Felly, cynigir diwygiadau er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys y meysydd o'u Cyllideb Ysgolion nad ydynt wedi'u dirprwyo i ysgolion ond a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol i wario ar ysgolion, er mwyn bod yn fwy tryloyw. Yn unol â'r gofynion i gymeradwyo cynigion i ddiwygio cynlluniau ariannol (rheoliad 28 o Reoliadau 2010), byddai hyn yn amodol ar gytundeb gan y fforwm ysgolion neu Weinidogion Cymru.
Fformiwla gyllido
Rydym hefyd yn cynnig cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyhoeddi eu fformiwla cyllido ysgolion ar eu gwefan er mwyn cefnogi tryloywder. Bydd y ddyletswydd hon yn gymwys i bob awdurdod lleol. Bydd awdurdodau lleol yn gallu dewis pa fformat y byddant yn ei ddefnyddio, ond rhagwelir y byddai pob awdurdod lleol yn defnyddio templed a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, fel y nodir isod.
Cynigir defnyddio'r un ddogfen ar gyfer y datganiad cyllideb a thempled y fformiwla gyllido. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu taenlen electronig i awdurdodau lleol yn unol â'r templedi a nodir yn y Rheoliadau newydd. Byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio'r templed safonol fel y'i darperir. Bydd hyn yn sicrhau y defnyddir dull cyson, yn cefnogi cymharedd ac yn lleihau'r llwyth gwaith gweinyddol.
Felly, cynigir bod gofyniad newydd yn cael ei ychwanegu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi ei fformiwla gyllido ar wefan sydd ar gael i'r cyhoedd a rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi electronig o'r fformiwla gyllido at gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol. Pan fydd awdurdod lleol yn ailbennu'r fformiwla a bennwyd, ni chaiff gyhoeddi'r fformiwla a ailbennwyd yn hwyrach na'r dyddiad y bwriedir i'r fformiwla a ailbennwyd ddod i rym. Rhaid ei chyhoeddi ar ei wefan ac anfon copi electronig at gyrff llywodraethu a phenaethiaid yr ysgolion a gynhelir ganddo, ynghyd â datganiad yn nodi y daw'r fformiwla a ailbennwyd i rym ar y dyddiad hwnnw
.
Atodlenni 1, 2 a 3 i Reoliadau 2010
Mae Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn nodi dosbarthiadau neu ddisgrifiadau ar gyfer Cyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion (Cyllideb ALl) awdurdod lleol. Eitemau o wariant yw'r rhain y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i fod yn gyfrifol amdanynt. Fel y cyfryw, ni chânt eu dirprwyo i ysgolion ac ni chânt eu cynnwys yn y Gyllideb Ysgolion.
Mae Atodlen 2 i Reoliadau 2010 yn nodi dosbarthiadau neu ddisgrifiadau y gall awdurdod lleol eu didynnu o'r Gyllideb Ysgolion. Mae'r Gyllideb Ysgolion yn cynnwys eitemau o wariant sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chost rhedeg ysgolion. Fel y nodwyd uchod, bydd yr awdurdod lleol yn didynnu o'r Gyllideb Ysgolion yr eitemau gwariant yn Atodlen 2 y bydd yn dewis eu cadw'n ganolog i'r awdurdod lleol wario ar gefnogi ysgolion, er mwyn cyrraedd ei Gyllideb Ysgolion Unigol a fydd, yn ei thro, yn cael ei rhannu a'i dyrannu i bob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol (Cyfran yr Ysgol o'r Gyllideb).
Mae Atodlen 3 i Reoliadau 2010 yn nodi ffactorau ychwanegol y gellir eu hystyried yn fformiwla awdurdod lleol.
Mae Rheoliadau 2010 felly'n rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol o ran p'un a fyddant yn dirprwyo nifer mawr o benawdau gwariant i ysgolion a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010.
O ganlyniad, mae penawdau gwariant y mae'r cyfrifoldeb amdanynt wedi'i ddirprwyo gan awdurdodau lleol i ysgolion mewn rhai awdurdodau, ond a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol mewn awdurdodau eraill. Mae hyn yn golygu nad yw lefelau cyllideb ysgolion mewn un awdurdod lleol yn wirioneddol gymaradwy â'r rhai mewn awdurdod lleol gwahanol. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, rydym yn ceisio sicrhau tryloywder o ran pa benawdau gwariant y mae awdurdod lleol yn dewis eu dirprwyo, a pha rai sy'n cael eu cadw gan yr awdurdod lleol.
Dylid dilyn yr egwyddor y dylid dirprwyo cyllid i ysgolion lle y bo modd (y Gyllideb Ysgolion Unigol). Byddai'r Gyllideb Ysgolion a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol i'w gwario ar gefnogi ysgolion yn cynnwys eitemau gwariant yr ystyrir y gallai fod:
- yn anaddas eu dirprwyo am eu bod y tu hwnt i ddylanwad pennaeth neu gorff llywodraethu
- yn rhy fiwrocrataidd
- yn cynnwys lefelau annerbyniol o risg
- yn elwa ar arbedion maint
- yn gofyn am arbenigedd proffesiynol penodol, neu'n
- gymhleth eu natur
Er mwyn helpu i wella cymharedd a thryloywder, cynigir y dylai'r Rheoliadau newydd ddiwygio'r templed datganiad cyllideb (sydd yn Rheoliadau 2002 ar hyn o bryd) er mwyn cynnwys colofnau ar gyfer Dirprwyad Craidd, Dirprwyad Dewisol a Dirprwyad ADY. Bydd Dirprwyad ADY yn cynnwys gwariant ym mharagraffau 2 i 10 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010 y mae awdurdod lleol yn ei ddirprwyo i ysgolion. Bydd Dirprwyad Dewisol yn cynnwys unrhyw wariant arall yn Atodlen 2 y mae awdurdod lleol yn ei ddirprwyo i ysgolion. Bydd Dirprwyad Craidd yn cynnwys yr holl wariant yn y Gyllideb Ysgolion nad yw wedi'i restru yn Atodlen 2 h.y. yr hyn y mae'n rhaid ei ddirprwyo i ysgolion o'r Gyllideb Ysgolion.
Fel y nodwyd o dan y pennawd Dirprwyo yn gynharach, rydym hefyd yn cynnig y byddai'n ofynnol i awdurdodau lleol nodi a rhestru meysydd o'r Gyllideb Ysgolion nad ydynt wedi'u dirprwyo i ysgolion, yn eu cynllun ariannol cyhoeddedig. Bydd diwygiad i'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 ar hyn o bryd yn adlewyrchu hyn.
Heblaw am ddiwygiadau canlyniadol i sicrhau bod Rheoliadau 2010 yn gyson â deddfwriaeth arall a diweddaru terminoleg fel y bo angen, dim ond mân ddiwygiadau rydym yn eu cynnig i Atodlenni 1, 2 a 3. Mae'r rhain wedi'u nodi isod.
Rydym yn cynnig cynnwys ardrethi annomestig yn Atodlen 1, sy'n nodi'r Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion. Ar hyn o bryd, mae ardrethi wedi'u cynnwys yn Atodlen 3, paragraff 8 i Reoliadau 2010. Mae'r gwariant hwn y tu hwnt i ddylanwad ysgolion. Fe'i telir yn naturiol i ysgolion ond i'r awdurdod lleol ei adennill ar yr un gyfradd. Mae hefyd yn ffactor camystumiol o ran cyllido ysgolion gan nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng ardrethi annomestig a maint ysgol, boed hynny o ran nifer y disgyblion ar y gofrestr neu arwynebedd yr adeilad.
Mae Atodlen 2, paragraff 26 o Reoliadau 2010 yn cynnwys ‘Gwariant ar ffi trwyddedau neu danysgrifiadau a delir ar ran ysgolion ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.2 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.’ Rydym yn cynnig dileu'r cyfeiriad at 0.2% gan nad ydym o'r farn bod hyn yn ofynnol.
Rydym yn cynnig dileu Atodlen 3. Felly, bydd awdurdodau lleol yn gallu ystyried unrhyw ffactor neu feini prawf yn eu fformiwla sy'n ymwneud yn briodol â gwariant yn eu barn nhw o dan y diffiniad o'r Gyllideb Ysgolion. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw ffactor neu feini prawf a ddefnyddir fod yn seiliedig ar y fformiwla.
Er y caiff Atodlen 3 ei dileu, caiff paragraffau 19 a 25 o Atodlen 3 eu cadw yn y Rheoliadau newydd. Byddai paragraff 19 o Atodlen 3 yn cael ei gadw a'i ehangu er mwyn ategu'r pwynt na ellir cymhwyso gwerth negatif mewn perthynas ag incwm a geir gan ysgol (a fyddai'n cynnwys prydau ysgol, llaeth a lluniaeth arall ymhlith pethau eraill). Felly, ni ellir lleihau cyllideb ysgol mewn unrhyw ffordd er mwyn cyfrif am yr incwm y mae'r ysgol yn ei gael (a ddeddfir drwy fformiwla gyllido'r awdurdod lleol neu fel arall). Ni chaiff yr ymadrodd “gwerth negatif” ei ddiffinio yn Rheoliadau 2010 ond mae'n golygu na ddylid gwneud unrhyw ddidyniad o gyfran ysgol benodol o'r gyllideb o ganlyniad i unrhyw incwm a geir yn sgil darparu'r eitemau hyn.
Hefyd, caiff paragraff 25 (Atodlen 3) ei gadw, er mwyn caniatáu'r canlynol yn ffurfiol: “Ysgolion y câi eu cyfrannau o'r gyllideb eu gostwng fel arall flwyddyn ar ôl blwyddyn â mwy na phump y cant: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod”. Cedwir hyn yn bennaf er mwyn sicrhau y caiff graddfeydd eu cyhoeddi er mwyn cynnal tryloywder.
Cynigir symud y ddau eithriad hyn i'r adran ‘Ffactorau neu feini prawf ychwanegol’ (Rheoliad 18 ar hyn o bryd). Cynigir diwygio Rheoliad 18 er mwyn dileu cyfeiriadau at Atodlen 3.
Gellir cynnwys enghreifftiau o ffactorau a meini prawf priodol ar gyfer fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol mewn canllawiau cysylltiedig.
Datganiadau cyllideb
Rydym yn cynnig gwneud rhai diwygiadau cyfyngedig i Reoliadau 2002.
Fodd bynnag, rydym yn ceisio gwella eglurder, cysondeb a chymharedd. Mae'r newidiadau yn ymwneud i raddau helaeth â'r ffordd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno, yn hytrach na sylwedd yr wybodaeth a ddarperir.
Caiff Rhan 1 o'r datganiad cyllideb yn Atodlen 1 i Reoliadau 2002 ei diwygio er mwyn cynnwys y ffaith bod ‘Cyfran o'r Gyllideb fesul Ysgol’ yn cael ei rhannu ymhellach i golofnau ar gyfer Dirprwyad Craidd, Dirprwyad Dewisol a Dirprwyad ADY. Byddai'r gwerthoedd ym mhob un o'r colofnau hyn yn adio i gyfanswm ‘Cyfran o'r Gyllideb fesul Ysgol’. Bydd yr un peth yn gymwys i ‘Cyfran o'r Gyllideb fesul Disgybl’. Fel y nodwyd yn gynharach, bydd Dirprwyad ADY yn cynnwys gwariant ym mharagraffau 2-10 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010 y mae awdurdod lleol yn ei ddirprwyo i ysgolion. Bydd Dirprwyad Dewisol yn cynnwys unrhyw wariant arall yn Atodlen 2 y mae awdurdod lleol yn ei ddirprwyo i ysgolion. Bydd Dirprwyad Craidd yn cynnwys yr holl wariant yn y Gyllideb Ysgolion nad yw wedi'i restru yn Atodlen 2.
Er mwyn cefnogi tryloywder ymhellach, rydym hefyd yn cynnig ychwanegu dwy golofn arall at y datganiad cyllideb er mwyn cofnodi'r amcangyfrif o Gyfran yr Ysgol o'r Gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido canlynol (fel sy'n ofynnol o dan reoliad 9(2) o Reoliadau 2010).
Ar hyn o bryd, mae Rhan 2 o'r datganiad cyllideb yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002 yn darparu ar gyfer yr wybodaeth mewn perthynas â'r fethodoleg ar gyfer pennu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb a Rhan 3 o'r datganiad cyllideb yn Atodlen 3 i Reoliadau 2002 mewn perthynas â'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer pob un o ysgolion yr awdurdod.
Rydym yn cynnig diwygio hyn fel bod Rhan 2, yn ei hanfod, yn darparu ar gyfer y fethodoleg er mwyn pennu cyfran ysgolion o'r gyllideb a chyfran pob meithrinfa, ysgol gynradd, ysgol ganol ac ysgol uwchradd yn yr awdurdod lleol o'r gyllideb.
Byddai Rhan 3 yn ailadrodd Rhan 2 ond mewn perthynas â phob ysgol arbennig yn yr awdurdod lleol yn unig.
Mae'r templedi arfaethedig a'r nodiadau cysylltiedig wedi'u hatodi i'r ddogfen hon fel Atodiad A a B.
Nodau'r diwygiadau hyn yw helpu i wneud y system yn fwy cyson a'i gwneud yn haws i randdeiliaid ddeall eu cyllidebau, sut y cânt eu cyfrifo a chymharu yn erbyn ysgolion tebyg.
Rydym hefyd yn cynnig cynnwys gofyniad i awdurdodau lleol baratoi a chyflwyno eu datganiadau cyllideb o dan Adran 52 i Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio taenlen meddalwedd electronig.
Fel yr amlinellwyd yn gynharach, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu taenlen electronig i awdurdodau lleol yn unol â'r templedi a nodir yn y Rheoliadau newydd. Byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio'r templed safonol fel y'i darperir. Bydd hyn yn sicrhau y defnyddir dull cyson, yn cefnogi cymharedd ac yn lleihau'r llwyth gwaith gweinyddol.
Rydym hefyd yn cynnig moderneiddio'r gofynion cyhoeddi fel bod yn rhaid cyhoeddi pob datganiad cyllideb drwy wneud y canlynol:
- darparu copi i Weinidogion Cymru, a
- sicrhau bod copi ar gael i'w archwilio ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod lleol ac sydd ar gael i'r cyhoedd
Rhaid i bob datganiad cyllideb gael ei ddarparu i Weinidogion Cymru drwy e-bost hefyd.
Datganiadau alldro
Rydym hefyd yn cynnig diwygio'r dyddiad ar gyfer cyflwyno datganiadau alldro i Lywodraeth Cymru i 31 Gorffennaf er mwyn caniatáu ar gyfer gwaith casglu a dilysu fel y gellir cyhoeddi data ym mis Hydref. Dyma'r drefn a ddilynwyd dros y 6 blynedd diwethaf yn dilyn diwygiadau i Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 a newidiodd y dyddiad cau ar gyfer datganiad o gyfrifon awdurdodau lleol i 30 Mehefin. Yn gryno, mae hynny'n golygu bod yn rhaid cyhoeddi datganiad alldro (a'i anfon at Weinidogion Cymru) cyn 31 Gorffennaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n gysylltiedig â hi.
Cafodd y dyddiad cau ar gyfer datganiadau alldro Adran 52 ei symud ymlaen ochr yn ochr â'r dyddiad cau ar gyfer datganiadau Alldro Refeniw fel y gellid casglu a dilysu data'n effeithiol. Mae'r dyddiad cynharach yn caniatáu ar gyfer gwaith casglu a dilysu fel y gellir cyhoeddi data ym mis Hydref ac mae'n golygu bod data amserol ar gael ar gyfer y setliad. Bydd y Rheoliadau newydd yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir hefyd.
Rydym hefyd yn cynnig diwygio'r gofynion cyhoeddi fel eu bod yn cyd-fynd â gofynion cyhoeddi datganiadau cyllideb fel y nodwyd uchod.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
- A ydych yn cytuno â'r cynnig i ganiatáu i gyllidebau ysgolion ffederal gael eu cyfuno er mwyn creu un gyllideb ar gyfer y ffederasiwn cyfan?
- A ydych yn cytuno â'r cynnig i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio data o'r CYBLD mis Ionawr diweddaraf i gyfrifo nifer y disgyblion mewn penderfyniadau cychwynnol am gyfrannau o'r gyllideb?
- A ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig i'w gwneud yn ofynnol i'r ffactor amddifadedd yn fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol ystyried swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â chymhwystra disgybl ar gyfer prydau ysgol am ddim?
- A ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig i'w gwneud yn ofynnol i'r ffactor amddifadedd yn fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol ystyried swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â phreswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru?
- A ydych yn cytuno â'r cynigion i ddiwygio'r gwerthoedd rhifol presennol ar gyfer gwarged lle gall awdurdod gyfarwyddo corff llywodraethu mewn perthynas â gwarged i 5% o gyllideb yr ysgol ar gyfer pob ysgol?
- A ydych yn cytuno â'r cynnig y dylai cynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro defnydd y corff llywodraethu o falansau gwarged?
- A ydych yn cytuno y dylai cynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gyflwyno cynllun adennill diffyg i'w hawdurdod lleol er mwyn iddo ei gymeradwyo?
- A ydych yn cytuno y dylai cynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys ffurf, proses, personau cysylltiedig ac amserlenni cynlluniau adennill diffyg?
- A ydych yn cytuno y dylai cynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys rhestr o ddisgrifiadau neu feini prawf gwariant (o Gyllideb Ysgolion yr awdurdod lleol) na chânt eu dirprwyo i ysgolion ond a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol i'w gwario ar ysgolion?
- A ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gael eu cyhoeddi ar eu gwefan, ac i gopi electronig gael ei ddarparu i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddynt?
- A ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig sy'n ei gwneud yn ofynnol i fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol gael eu cyhoeddi ar eu gwefan?
- A ydych yn cytuno â'r diwygiad arfaethedig i Atodlen 1 i Reoliadau 2010 (y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau ar gyfer y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion, neu'r Gyllideb Awdurdod Lleol gynt) i gynnwys ardrethi annomestig?
- A oes unrhyw beth y dylid ei ychwanegu at Atodlen 1 i Reoliadau 2010 neu ei ddileu o'r Atodlen yn eich barn chi?
- A ydych yn cytuno â'r diwygiad arfaethedig i Atodlen 2 i Reoliadau 2010 i ddileu'r terfyn o 0.2% ar gyfer ffioedd trwyddedau neu danysgrifiadau?
- A oes unrhyw beth y dylid ei ychwanegu at Atodlen 2 i Reoliadau 2010 neu ei ddileu o'r Atodlen yn eich barn chi?
- A ydych yn cytuno â'r diwygiadau arfaethedig i Atodlen 3 i Reoliadau 2010, fel y'u nodir yn y ddogfen ymgynghori?
- A ydych yn cytuno â'n diwygiadau arfaethedig i Ran 1, fel y'u nodir yn Atodiad A?
- Rydym wedi cynnwys nodiadau diwygiedig arfaethedig i gyd-fynd â Rhan 1 yn Atodiad A. A ydych yn cytuno â'r nodiadau arfaethedig ar gyfer Rhan 1?
- A ydych yn cytuno â'r diwygiadau i Ran 2 a Rhan 3, fel y'u nodir yn Atodiad B?
- Rydym wedi cynnwys nodiadau diwygiedig arfaethedig i gyd-fynd â Rhan 2 a Rhan 3 yn Atodiad B. A ydych yn cytuno â'r nodiadau arfaethedig ar gyfer Rhan 2 a Rhan 3?
- A ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig bod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau alldro i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddiwygio i 31 Gorffennaf?
- A oes gennych unrhyw farn ar effeithiau posibl ein cynigion ar hawliau dynol a'r 9 nodwedd warchodedig, fel y'u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010?
- A oes unrhyw gostau, buddion neu risgiau eraill yn gysylltiedig â'r cynigion?
- Beth yn eich barn chi fyddai effeithiau tebygol y newidiadau arfaethedig ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
- Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r newidiadau arfaethedig er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar y defnydd o'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.
