Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r canllawiau hyn yn darparu cyngor a gwybodaeth i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ac i awdurdodau lleol ar y prosesau o sefydlu corff llywodraethu ysgol ffederal ac ar agweddau ymarferol hynny. Mae hon yn fersiwn ddiwygiedig o'r canllawiau a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2014.

Amcan polisi Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio rhwng pob rhan o'r system addysg er mwyn sicrhau gwell deilliannau. Mae ffedereiddio ysgolion yn ffordd fwy ffurfiol o estyn cydweithio a hyrwyddo cydberthnasau gwaith agosach. Hon yw’r brif fenter ar gyfer sicrhau gwaith partneriaeth ffurfiol rhwng ysgolion i wella deilliannau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr difreintiedig.

Nid oes unrhyw newidiadau polisi yn y canllawiau newydd hyn. Fe’u darperir i egluro'r broses ffedereiddio ar gyfer cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol. Darperir gwybodaeth hefyd am ddiwygiadau diweddar i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (Rheoliadau 2014).

Ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn neu faterion ffedereiddio

Dylid anfon unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn, neu ynghylch unrhyw agwedd ar y broses ffedereiddio at y Gangen Deddfwriaeth a Llywodraethiant.

Yr hyn sydd wedi newid ers y fersiwn ddiwethaf o'r canllawiau

Mae'r prosesau ar gyfer sefydlu, diddymu a newid ffederasiwn wedi'u gwahanu rhwng y rhai a arweinir gan gyrff llywodraethu (adran 4) a'r rhai a arweinir gan awdurdodau lleol (adran 5). Bwriedir i hyn roi eglurder i bob grŵp.

Yn ogystal â gwahanu'r prosesau rhwng ffederasiynau a arweinir gan gyrff llywodraethu a’r rhai a arweinir gan awdurdodau lleol, darparwyd canllaw gam wrth gam newydd ar gyfer y prosesau yn adrannau 4 a 5.

Yn adran 2, ceir gwybodaeth am ddiwygiadau diweddar i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 a sut mae hyn yn effeithio ar gyrff llywodraethu ffederal.

Mae adran Cwestiynau Cyffredin y canllawiau hyn wedi'i dileu a'i chyhoeddi ar wahân ar wefan Llywodraeth Cymru. Y bwriad yw cadw'r ddogfen ganllaw hon mor gryno â phosibl a’i gwneud yn hawdd cael gafael ar y Cwestiynau Cyffredin pan fo angen.

Mae rhai atodiadau i'r ddogfen hon wedi'u had-drefnu a'u hailfformadu er hwylustod.

1. Cyflwyniad

Mae ffedereiddio ysgolion yn broses gyfreithiol sy'n galluogi ysgolion i gydweithio trwy strwythur ffurfiol, trwy rannu un corff llywodraethu, a fydd yn gwneud penderfyniadau er budd pennaf yr holl ysgolion, staff a dysgwyr o fewn y ffederasiwn hwnnw.

Gall ysgolion mewn ffederasiwn gydweithio gan rannu arfer da, arbenigedd ac adnoddau er budd pob ysgol o fewn y ffederasiwn, gyda'r nod cyffredinol o godi safonau.

Yn y canllawiau hyn, darperir cyngor cam wrth gam ar y broses ffedereiddio fel y'i pennir yn Rheoliadau 2014. Mae’n cynnwys cyfres o atodiadau sy'n rhoi mwy o fanylion am y canlynol:

  • yr hyn y mae ffedereiddio yn ei olygu
  • llunio cynnig i ffedereiddio
  • y gofynion i gasglu safbwyntiau rhanddeiliaid
  • sefydlu corff llywodraethu ar gyfer ffederasiwn o ysgolion

2. Y fframwaith deddfwriaethol

Darperir y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ffedereiddio ysgolion gan Ddeddf Addysg 2002, Mesur Addysg (Cymru) 2011 a Rheoliadau 2014. Mae'r rhain yn nodi sut y dylid ffurfio corff llywodraethu ysgol ffederal, sut y gall ysgolion ymuno neu adael ffederasiwn a sut y gellir diddymu ffederasiwn. 

O dan Reoliadau 2014, bydd y gallu i ffedereiddio'u hysgolion, os dymunant wneud hynny, yn parhau ar gael i gyrff llywodraethu. Yn ychwanegol, mae’r rheoliadau yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion.

Mae Rheoliadau 2014 hefyd yn cynnwys proses gyflymach i'r awdurdodau lleol ffedereiddio ysgolion bach, a ddiffinnir yng Ngorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) 2014 fel ysgolion sydd â llai na 91 o ddysgwyr (rhoddir mwy o wybodaeth am ffedereiddio ysgolion bach yn adran 7).

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws ac yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2020, diwygiwyd Rheoliadau 2014 er mwyn rhoi eglurder ynghylch sut y gellir cynnal busnes cyrff llywodraethu yn rhithiol neu'n electronig.

Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021 yn darparu cafeat ar gyfer cyfansoddiad cyrff llywodraethu ffederal sy'n cwmpasu 2 ysgol yn unig. O ran athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr, mae'r gwelliant yn ei gwneud yn haws i bob corff llywodraethu ffederal gydymffurfio.

Ymdrinnir â materion staffio gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (Rheoliadau Staffio 2006) a'r gwelliant dilynol a wnaed arnynt yn 2014.

3. Ystyr ffederasiwn

Mae'r term ffederasiwn yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae nifer o ysgolion (rhwng 2 a 6) yn rhannu trefniadau llywodraethu ac yn meddu ar gorff llywodraethu sengl. Gall ffederasiynau gynnwys cymysgedd o ysgolion cymunedol a chymunedol arbennig sydd naill ai'n ysgolion meithrin, cynradd, arbennig neu uwchradd a gynhelir, yn ogystal â chyfuniad o ysgolion Cymraeg, Saesneg neu ddwy ffrwd.

Ni chaiff ysgolion a sefydlwyd ar sail ffydd a/neu ymddiriedolaeth, megis ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir neu ysgolion gwirfoddol a reolir, ffedereiddio ac eithrio gydag ysgolion o'r un categori neu gydag ysgolion o'r un statws ymddiriedolaeth elusennol a/neu'r un ethos crefyddol. Ni chaniateir ffedereiddio ysgolion sefydledig ac eithrio gydag ysgolion sefydledig eraill.

Nid oes unrhyw lasbrint penodol ar gyfer ffedereiddio a bydd cynllun neu weithrediad unrhyw ffederasiwn yn dibynnu'n llwyr ar amgylchiadau'r ysgolion unigol a ffocws neu ddiben y cydweithio, ond mae rhai manteision amlwg i ffedereiddio.

Rhaid i’r rheswm pwysicaf dros ystyried ffedereiddio fod y byddai trefniant o'r fath yn sicrhau manteision i'r plant a'r bobl ifanc yn yr ysgolion sy'n ffedereiddio drwy wella'r ddarpariaeth addysgol.

Yr hyn sy'n gwneud ffederasiwn llwyddiannus

Er mwyn llwyddo, rhaid i ffederasiwn fod yn seiliedig ar ymrwymiad i gydweithio fel grŵp o ysgolion a'r parodrwydd i wneud pethau mewn ffordd wahanol er mwyn ychwanegu at fudd cyffredinol, lles a chyflawniad pob un o'r dysgwyr. Mae sicrhau un weledigaeth y mae pawb yn ei rhannu, ac sy'n meithrin ymddiriedaeth a chydweithrediad ledled cymuned yr ysgol, yn hanfodol. Mae profiadau ysgolion sydd wedi ffedereiddio yn dangos y gall datblygiad pob un o'r ysgolion a'u cymunedau o fewn y ffederasiwn, a rhannu'r arferion gorau, helpu i godi'r safonau a gwella deilliannau dysgwyr.

Mae ysgolion sy'n ffedereiddio yn aros yn eu cymunedau ac yn cadw eu hunaniaeth unigol. Mae enw, cymeriad, gwisg ysgol ac ethos yr ysgolion unigol yn aros yr un fath. Mae ysgolion sy’n rhan o ffederasiwn yn cynnal y gyllideb a ddirprwywyd iddynt, ond gallant ystyried manteision rhannu adnoddau, gan gynnwys cyfleusterau, TG, staff ac adeiladau ysgol. Fodd bynnag, bydd y cyrff llywodraethu presennol yn cael eu diddymu, ac bydd un corff llywodraethu newydd yn cymryd eu lle, a fydd yn goruchwylio ac yn ymgymryd â chyfrifoldeb cyfartal am waith pob un o'r ysgolion o fewn y ffederasiwn.

Bydd aelodaeth corff llywodraethu ar gyfer ffederasiwn o ysgolion bron yr un fath ag aelodaeth corff llywodraethu cyffredin, gyda chynrychiolaeth ar gyfer pob rhanddeiliad, ond caniateir mwy o hyblygrwydd yng nghyfrannau'r gynrychiolaeth gan bob categori o lywodraethwr. Mae hynny’n golygu y caiff corff llywodraethu ffederasiwn ddewis cyfansoddiad ac aelodaeth sy'n addas i'w amgylchiadau penodol, ar yr amod bod ganddo 15 i 27 o lywodraethwyr, a'i fod yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn y rheoliadau.

Mae ymgorffori'r cysyniad o ffedereiddio a chynnwys y staff yn y gwaith hwnnw ar bob lefel yn hollbwysig i lwyddiant y ffederasiwn. Rôl uwch aelodau o'r staff yn yr ysgolion sy'n ffedereiddio fydd esbonio'r manteision posibl wrth y staff, megis cyfle i wella cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol athrawon a gwella'u harbenigedd yn eu pwnc er mwyn ehangu a chyfoethogi'r cwricwlwm i'r holl ddysgwyr.

Bydd angen i'r ysgolion ddangos parodrwydd hefyd i weld potensial a manteision partneriaeth ffurfiol, gan gydnabod y bydd y bartneriaeth yn cryfhau rhinweddau’r ysgolion unigol o fewn y ffederasiwn.

Mae Rheoliadau 2014 yn pennu’r broses ffurfiol y mae’n rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol ei dilyn ar gyfer casglu safbwyntiau'r rhanddeiliaid. Y rhanddeiliaid yw'r rhieni a’r gofalwyr, y penaethiaid a'r staff, y dysgwyr (gan gynnwys trwy gyngor yr ysgol), yr awdurdod lleol, undebau ysgolion ac athrawon, awdurdodau esgobaethol a phersonau priodol eraill megis ymddiriedolwyr.

Ystyrir ffederasiwn yn drefniant tymor canolig neu dymor hir, ac yn aml bydd angen amser i’w sefydlu. Oherwydd hynny, dylai cyrff llywodraethu ffederal ac awdurdodau lleol feddwl yn ofalus iawn cyn cynnig tynnu ysgol neu ysgolion allan o ffederasiwn, neu ddiddymu'r ffederasiwn rywfodd arall.

4. Sefydlu ffederasiwn a gynigir gan gyrff llywodraethu

Rhaid i gyrff llywodraethu sy’n penderfynu ffedereiddio wneud hynny yn unol â phroses sydd wedi’i rhagnodi yn Rheoliadau 2014, ar ôl ymgynghori â'r rhieni, y gofalwyr, y staff, y dysgwyr, yr awdurdod lleol (neu'r awdurdodau lleol os bydd ysgolion o wahanol awdurdodau lleol yn cymryd rhan), pob undeb staff ysgol, pob llywodraethwr sefydledig (os yw'n briodol), awdurdodau esgobaethol neu unrhyw gorff crefyddol priodol arall (os yw’n berthnasol), ac unrhyw un arall yng nghymuned yr ysgol.

Er mwyn gwneud y broses ffedereiddio yn haws i'w rheoli, dylai’r cyrff llywodraethu ystyried sefydlu cydbwyllgor i oruchwylio a rheoli'r broses.

Wrth drafod a gwneud penderfyniadau ynglŷn ag a ddylent fynd ymlaen i ffedereiddio, mae'n hanfodol bwysig bod cyrff llywodraethu yn gwneud y canlynol: 

  • ystyried yn fanwl y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â sefydlu ffederasiwn o ran yr effaith ar gyflawniadau plant a phobl ifanc ac ansawdd addysg yn neu ar draws yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau
  • ceisio ac ystyried gwybodaeth am bob ysgol sy'n rhan o’r trafodaethau, yn enwedig o ran perfformiad, cyllid, cyfleusterau ac adeiladau ysgolion, er mwyn sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud yn agored ac ar sail tystiolaeth gadarn
  • sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau ac yn cymryd rhan yn y datblygiadau hynny
  • sicrhau bod y broses o ymgynghori a gwneud penderfyniadau yn cydymffurfio â Rheoliadau 2014

Darperir isod fanylion pellach am bob cam i'w dilyn.

Canllaw cam wrth gam i sefydlu ffederasiynau

Cam 1: Ystyried

  • Gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan ysgolion, a allai ofyn am wybodaeth ac arweiniad gan yr awdurdod lleol. Mae’r awdurdodau lleol yn cynnal trafodaethau cynnar gyda'r ysgolion a nodwyd ar gyfer ffedereiddio. 
  • Cyrraedd cytundeb cyffredinol i ystyried opsiynau ffedereiddio. (Dylai'r ysgolion sy'n ddarostyngedig i ymyriad gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol ddod i gytundeb yn gyntaf gyda Gweinidogion Cymru neu'r awdurdod lleol).
  • Cytuno ar ffactorau sbarduno a diben ffedereiddio. 
  • Sicrhau bod y cyrff llywodraethu neu'r awdurdodau lleol yn hysbysu'r staff ac undebau staff yr ysgolion ynglŷn â'r broses ac unrhyw oblygiadau.
  • Sefydlu gweithgor o lywodraethwyr sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob ysgol i arwain y broses, er mwyn osgoi cyfarfodydd arferol o'r cyrff llywodraethu, a fyddai'n arafu'r broses. 
  • Pennu dyddiad i’r ffederasiwn ddechrau gweithredu. 
  • Sicrhau bod awdurdodau lleol a/neu ysgolion yn ystyried holi neu ymweld ag ysgolion eraill sydd wedi ffedereiddio. 

Cam 2: Paratoi

Dylai’r gweithgor llywodraethwyr gytuno i lunio adroddiad ar y cynnig er mwyn ymgynghori gyda'r rhanddeiliaid (er cysondeb, dylid defnyddio'r un cynnig ar gyfer pob ysgol, gydag adrannau ar faterion sy'n ymwneud ag ysgolion penodol).

Dylai’r gweithgor llywodraethwyr benderfynu ar y strwythur llywodraethu, gan ymgynghori â’r awdurdod lleol – sef aelodaeth a chyfansoddiad y corff llywodraethu ffederal (dylai cyrff llywodraethu ofyn am gyngor gan yr awdurdod lleol). 

  • Cytuno ar enw ar gyfer y ffederasiwn – os nad oes modd i'r awdurdod lleol a'r gweithgor llywodraethwyr gytuno ar enw i'r ffederasiwn (y bydd rhaid ei gynnwys yn yr offeryn llywodraethu), yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu'n derfynol. 
  • Dylai’r gweithgor llywodraethwyr, gan ymgynghori â’r awdurdod lleol, ystyried strwythur staffio a datblygiad tymor hirach strwythur y ffederasiwn. 
  • Dylai’r awdurdodau lleol a'r cyrff llywodraethu ystyried a thrafod unrhyw faterion ariannol a materion adnoddau dynol. 
  • Dylai’r gweithgor llywodraethwyr ystyried amserlen ar gyfer ethol a phenodi llywodraethwyr i'r corff llywodraethu ffederal, i hwyluso symud ymlaen yn ddiweddarach. 
  • Pennu dyddiad a lleoliad niwtral ar gyfer y cyfarfod gweithredu (gweler cam 6).

Cam 3: Y cynnig

Dylai cyrff llywodraethu ofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol ynglŷn â'r broses ar gyfer cyhoeddi cynigion, gan gynnwys yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid, a ddylai barhau am o leiaf 6 wythnos. Er na phennir hynny'n benodol mewn rheoliadau, mae'n arfer da hepgor gwyliau o'r cyfnod hwnnw. 

Rhaid i'r adroddiad drafft ar y cynnig fod yn eitem ar agenda cyfarfod o'r corff llywodraethu, y rhoddwyd o leiaf 5 diwrnod gwaith clir o rybudd o'i gynnal. Pan fo cyfarfod nesaf y corff llywodraethu wedi ei drefnu ar gyfer dyddiad pell yn y dyfodol, gellir trefnu cyfarfod arbennig i drafod y mater uchod yn unig. Rhaid i bob corff llywodraethu unigol benderfynu a yw'n dymuno mynd ymlaen ai peidio.

Y rhanddeiliaid yw:

  • yr awdurdodau lleol
  • rhieni a gofalwyr
  • penaethiaid a staff pob ysgol
  • dysgwyr a chynghorau ysgol
  • undebau staff ysgolion
  • yr esgobaeth neu gorff perthnasol arall os oes natur grefyddol i’r ysgol
  • llywodraethwyr sefydledig neu ymddiriedolwyr lle bo hynny'n berthnasol
  • unrhyw bersonau eraill yr ystyrir eu bod yn briodol, er enghraifft y gymuned leol gan gynnwys ysgolion lleol nad ydynt yn rhan o’r ffederasiwn

Dylai'r adroddiad ar y cynnig: 

  • gynnwys manylion llawn y cynnig, gan gynnwys maint neu gyfansoddiad ac enw'r corff llywodraethu sengl, y trefniadau a'r strwythur staffio, a’r awdurdodau derbyniadau 
  • cynnwys y terfyn amser ar gyfer sylwadau, sef 6 wythnos
  • esbonio'r rhesymau dros y ffedereiddio a’i fanteision (a sut yr ymdrinnid â heriau posibl) 
  • cynnwys y dyddiad ffedereiddio – mae'n rhaid iddo fod o leiaf 125 o ddiwrnodau calendr o'r dyddiad y caiff y cynigion eu cyhoeddi (h.y. eu hanfon at randdeiliaid)
  • cynnwys unrhyw faterion eraill yr ystyrir yn briodol eu hanfon at y rhanddeiliaid

Cam 4: Casglu safbwyntiau rhanddeiliaid

Rhaid cyhoeddi cynigion i ffedereiddio drwy eu hanfon at y rhanddeiliaid canlynol:

  • unrhyw awdurdod lleol perthnasol
  • pennaeth pob ysgol a gynhwysir yn y cynigion
  • cyngor ysgol pob un o’r ysgolion
  • yr holl staff a gyflogir i weithio yn yr ysgolion
  • rhieni neu ofalwyr dysgwyr cofrestredig
  • yr holl undebau llafur
  • yr esgobaeth neu'r corff crefyddol priodol (os yw'n berthnasol)
  • y llywodraethwyr sefydledig ac unrhyw ymddiriedolwyr yn achos ysgolion sydd â sefydliad
  • unrhyw bersonau perthnasol eraill y mae'r corff llywodraethu o'r farn y dylent weld y cynigion

Yn ogystal: 

  • rhaid i'r cynigion fod ar gael i'w harchwilio ar ffurf copi caled yn yr ysgolion a gynhwysir yn y cynigion ffedereiddio
  • rhaid anfon copïau o'r cynigion at awdurdodau lleol perthnasol eraill (os oes ysgolion yn y ffederasiwn sydd ar draws ffin yr awdurdod lleol), at bob pennaeth, at awdurdodau esgobaethol neu gyrff crefyddol eraill (os yw’n berthnasol), ac at y llywodraethwyr sefydledig neu ymddiriedolwyr (os yw'n briodol)

Bydd angen ystyried sut y bydd y dysgwyr a'r cynghorau ysgol yn cael gwybodaeth. Oherwydd bod cynigion ffedereiddio yn fater cymhleth, gellid cyflawni hyn trwy gael aelod o gorff llywodraethu'r ysgol (y pennaeth fyddai'r dewis gorau):

  • i esbonio'r cynigion wrth gyngor yr ysgol
  • paratoi taflen wybodaeth mewn fformat sy'n hawdd i'w ddarllen
  • rhoi gwybod i bob dysgwr fod copi llawn o'r cynnig i ffedereiddio ar gael i bawb sy'n gofyn am ei weld

Yn ogystal:

  • dylai ysgolion ddarparu taflen wybodaeth ar ffurf rhestr o gwestiynau ac atebion i'r rhieni a’r gofalwyr ynglŷn â'r mathau o faterion a phryderon y gallai rhieni a gofalwyr eu codi
  • pan fo llywodraethwyr yn rhoi fersiwn gryno o'r cynigion ffedereiddio i rieni, gofalwyr, staff, dysgwyr a chynghorau ysgol, rhaid iddynt eu hysbysu hefyd fod copi cyflawn o'r cynnig ar gael os gofynnir amdano (byddai'n fuddiol hefyd darparu dolen uniongyrchol i wefan yr awdurdod lleol neu wefan yr ysgol)
  • pennu dyddiad (cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad cau) ar gyfer cyfarfod ar y cyd o gyrff llywodraethu pob ysgol sy'n ffedereiddio i ystyried yr ymatebion i'r cynnig

Cam 5: Diffinio

Dylai arweinwyr ysgolion, yr awdurdod lleol a’r cyrff llywodraethu, ar ôl ymgynghori â’i gilydd:

  • ddechrau ystyried a diffinio rolau’r arweinwyr ledled y ffederasiwn 
  • dechrau llunio disgrifiadau swydd a chontractau ar gyfer unrhyw swyddi a rolau newydd
  • llunio strwythur staffio arfaethedig

Cam 6: Camau i'w cymryd ar ôl ymgynghori â'r rhanddeiliaid

  • Cynnal cyfarfod ar y cyd o'r cyrff llywodraethu llawn i ystyried ymatebion.
  • Dylai’r gweithgor llywodraethwyr lunio adroddiad cryno o'r ymatebion ar gyfer ei ystyried gan y cyrff llywodraethu llawn. Os nad yw hyn yn ymarferol, efallai y gofynnir i'r awdurdod lleol lunio'r adroddiad hwn.

Er mwyn gwneud y rhan hon o’r broses yn haws, pan fydd cyrff llywodraethu yn sefydlu ffederasiwn awgrymir bod gweithgor yn cael ei sefydlu, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r cyrff llywodraethu. Bydd y gweithgor yn ystyried yr ymatebion i’r cynnig a pharatoi crynodeb ar gyfer yr awdurdodau lleol a’r rhiant-gyrff llywodraethu perthnasol. Gall fod yn union yr un grŵp â'r un a luniodd y cynnig cychwynnol i ffedereiddio.

Rhaid i weithgorau a sefydlwyd i ystyried cynigion ffedereiddio a arweinir gan gyrff llywodraethu adrodd yn ôl i bob un o’r cyrff llywodraethu mewn cydgyfarfod fel sy'n ofynnol gan Reoliadau 2014. Os na cheir unrhyw ymatebion ynglŷn â'r cynnig, rhaid cynnal cydgyfarfod o'r cyrff llywodraethu, er mwyn penderfynu a yw'r ysgolion yn dymuno mynd ymlaen â'r ffedereiddio ai peidio. 

Cam 7: Gweithredu

  • Rhaid i'r cyrff llywodraethu unigol gyfarfod ar y cyd i benderfynu'n derfynol a ddylid mynd ymlaen ai peidio, neu a ddylid addasu'r cynnig. Rhaid i unrhyw addasiadau beidio â chynnwys newid yr ysgolion sy'n ffedereiddio (tynnu ysgol allan a chynnwys un newydd). Gellid gwneud addasiad megis newid nifer y llywodraethwyr, neu newid y dyddiad ffedereiddio, ar yr amod na fyddai llai o rybudd na 125 diwrnod.
  • Rhaid hysbysu awdurdodau lleol o'r penderfyniad.
  • Rhaid i gyrff llywodraethu gwblhau'r broses oni fydd awdurdodau lleol yn cynnig bod ysgol neu ffederasiwn arall yn ymuno â'r ffederasiwn sydd dan ystyriaeth. Os bydd hynny’n digwydd hynny, bydd yr awdurdod lleol yn dechrau arwain y broses ffedereiddio. 
  • Er na phennir hynny mewn rheoliadau, dylai'r llywodraethwyr hysbysu rhanddeiliaid eraill o'r penderfyniad yn ogystal. 
  • Dylai awdurdodau lleol drafod eu cynllun gweithredu gyda llywodraethwyr a phenaethiaid yr ysgolion perthnasol, fel bod pawb yn gyfarwydd â'r gwahanol gamau yn natblygiad y ffederasiwn.
  • Unwaith y bydd penderfyniad i ffedereiddio wedi ei wneud, dylai'r llywodraethwyr ymgynghori â'r awdurdod lleol a'r esgobaeth (os yw'n briodol) ynghylch yr offeryn llywodraethu newydd, ac ynghylch ethol a phenodi llywodraethwyr newydd. Rhaid anfon copi o'r offeryn llywodraethu newydd at Weinidogion Cymru (gweler adran 10).
  • Dylai’r awdurdod lleol ystyried trefniadau i ddarparu cymorth i lywodraethwyr yn yr ysgolion sy'n ffedereiddio yn y cyfamser cyn bod y corff llywodraethu wedi ei sefydlu. 
  • Ffurfioli rolau a chyfrifoldebau uwch arweinwyr. 
  • Dod i gytundeb gyda chymorth i lywodraethwyr yn yr awdurdod lleol, i sicrhau dilyniant ledled yr ysgolion ffederal.

Cam 8: Datblygu

  • Fel corff llywodraethu newydd cyfun, cyfarfod i ethol cadeirydd ac is-gadeirydd.
  • Dechrau rhoi rolau newydd y staff ar waith (strwythur a phroses rheoli perfformiad).
  • Rhoi cynllun gwella ysgolion ar waith i dargedu adnoddau ac arbenigedd er mwyn codi safonau ledled y ffederasiwn.
  • Cysoni'r calendrau a'r prosesau proffesiynol.
  • Ystyried sut y gall technolegau newydd gynorthwyo'r ffederasiwn i ddatblygu.

Cam 9: Ymgorffori

  • Defnyddio cyfleoedd i ddefnyddio'r adnoddau a'r staff yn hyblyg er mwyn codi safonau ysgolion ar draws y ffederasiwn.
  • Rhoi contractau i aelodau newydd o'r staff i ysgolion mewn ffederasiwn sy'n cynnwys cymalau symudedd i'w galluogi i weithio mewn gwahanol ysgolion. Yn achos y staff presennol, byddai angen negodi gyda'r staff a'r undebau sy'n eu cynrychioli er mwyn cyrraedd cytundeb cilyddol ar drefniant cludadwy o'r fath.
  • Trwy ddefnyddio'r systemau monitro, dylai penaethiaid adeiladu trosolwg ar effeithiolrwydd y ffederasiwn. Os penodwyd pennaeth gweithredol i fod yn gyfrifol am y ffederasiwn, y pennaeth hwnnw fydd yn gyfrifol am lunio’r trosolwg. Os na phenodwyd pennaeth gweithredol o’r fath, dylai pennaeth pob ysgol yn y ffederasiwn gydweithio i fonitro effeithiolrwydd y ffederasiwn.
  • Dylai’r llywodraethwyr, gyda chymorth yr awdurdod lleol, adolygu'r ffederasiwn ac yn sefydlu systemau a strwythurau sy'n sicrhau gwybodaeth dda am ysgolion unigol. 
  • Dylai llywodraethwyr gytuno ar strwythurau pwyllgorau a chalendr cyfarfodydd.

Cam 10: Datblygu strategol

  • Dylai swyddogion allweddol consortia rhanbarthol neu awdurdodau lleol (swyddog sydd wedi’i enwi’n ddelfrydol) allu cynnig cymorth gwybodus.
  • Llunio trosolwg o drefniadau'r ffederasiwn a'r effaith ar safonau'r ysgolion a'u gallu i wella. 
  • Darparu cyfleoedd ehangach i ddysgu a datblygu’n broffesiynol i bob aelod o'r staff.
  • Rhoi arferion, prosesau, polisïau a dogfennau enghreifftiol ar waith.

Rôl yr awdurdodau lleol mewn ffederasiynau a arweinir gan gyrff llywodraethu

Mae gan yr awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol am gynllunio darpariaeth ysgolion. Wrth gyflawni'r cyfrifoldeb hwn mae'n bwysig bod gan yr awdurdodau lleol wybodaeth ac ymwybyddiaeth lawn o ran unrhyw ddatblygiadau ynglŷn â ffedereiddio o fewn eu hardal.

Dylai awdurdodau lleol ddarparu cyngor a chymorth i'r holl gyrff llywodraethu sy'n ystyried ffedereiddio, gan gynnwys:

  • nodi a chynnal cyswllt rhwng swyddog awdurdod lleol, un cyswllt penodol os oes modd er cysondeb, a'r cyrff llywodraethu sy’n gysylltiedig
  • helpu i ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani gan y cyrff llywodraethu megis gwybodaeth am yr ysgolion, a pharatoi’r cynnig sydd i’w ystyried gan y cyrff llywodraethu
  • sicrhau bod cyrff llywodraethu ysgolion ffederal wedi eu cynnwys mewn trefniadau cymorth a rhaglenni hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr

Er mwyn hwyluso’r broses ffedereiddio a sicrhau bod yr ysgolion sy’n rhan o’r broses yn derbyn ac yn cefnogi'r bwriad, pan gaiff y cynnig ei wneud gan yr awdurdod lleol, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r awdurdodau lleol ymgysylltu'n llawn â'r ysgolion a'u rhanddeiliaid mor fuan ag y bo modd, er mwyn trafod y cynigion ac ymateb i unrhyw bryderon. Dylent esbonio pam y mae ffedereiddio dan ystyriaeth a'r manteision a enillir drwy ffedereiddio.

Rhaid i'r awdurdodau lleol gadw mewn cof na fydd unrhyw benderfyniad i ffedereiddio yn dileu’r angen i awdurdod lleol ymyrryd neu weithredu mewn materion gwella ysgolion neu drefniadaeth ysgol.

Ysgolion sy'n gadael ffederasiwn a weithredir gan gyrff llywodraethu

Ni chaiff ysgolion a gynhwyswyd mewn ffederasiwn a weithredir gan gyrff llywodraethu adael y ffederasiwn ac eithrio pan fo'r corff llywodraethu ffederal yn cydsynio i gais ysgrifenedig, neu pan fo'r corff llywodraethu ffederal yn gwneud y cynnig ei hunan. Os yw'r ysgol yn ddarostyngedig i ymyriad gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol, ni chaiff wneud cais am gael gadael ffederasiwn oni fydd y personau hynny wedi cydsynio ymlaen llaw.

Rhaid i'r ysgol neu'r ysgolion sy'n dymuno gadael y ffederasiwn sicrhau bod y cais ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 neu ragor o lywodraethwyr
  • un o bob 5 o rieni a gofalwyr dysgwyr cofrestredig yn yr ysgol neu’r ysgolion perthnasol 
  • 2 o bob 5 o’r staff a gyflogir i weithio yn yr ysgol neu’r ysgolion perthnasol
  • yr awdurdod lleol
  • ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r ysgolion (os yw'n berthnasol)
  • y corff sydd â hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig (os yw'n berthnasol)

Unwaith y bydd y corff llywodraethu ffederal wedi cael y cais, rhaid iddo anfon hysbysiad o'r cais at y personau canlynol o fewn 5 diwrnod gwaith clir ar ôl y dyddiad y cafwyd y cais:

  • yr holl awdurdodau lleol perthnasol,
  • pennaeth neu bennaeth dros dro y ffederasiwn os penodwyd un, neu os na wnaed penodiad o'r fath, pennaeth neu bennaeth dros dro pob ysgol yn y ffederasiwn 
  • pob aelod o'r staff a gyflogir yn yr ysgol neu ysgolion sy’n gadael y ffederasiwn
  • rhieni neu ofalwyr pob dysgwr cofrestredig yn yr ysgol neu ysgolion sy'n dymuno gadael y ffederasiwn
  • yr holl undebau llafur perthnasol
  • ymddiriedolwyr unrhyw ysgol yn y ffederasiwn (nid yr ysgolion hynny'n unig sy'n dymuno gadael y ffederasiwn) (os yw'n berthnasol) 
  • yr esgobaeth neu gorff crefyddol priodol arall yn achos ysgol neu ysgolion ffydd (os yw'n berthnasol)
  • y corff sydd â hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig (os yw'n berthnasol)
  • unrhyw berson arall a ystyrir yn briodol gan y corff llywodraethu

Bydd y corff llywodraethu wedi cael copi o'r hysbysiad os anfonir neu os rhoddir ef i gadeirydd y llywodraethwyr neu i glerc y corff llywodraethu.

Caniateir o leiaf 14 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cafwyd y cais, i'r corff llywodraethu ystyried y cynnig. O fewn y cyfnod hwnnw, rhaid i'r corff llywodraethu ystyried hefyd unrhyw sylwadau a wnaed neu a gyflwynwyd iddo gan unrhyw barti a hysbyswyd yn ffurfiol o'r cynigion.

Rhaid i'r penderfyniad i wneud cais ffurfiol am i ysgol adael ffederasiwn gael ei drafod gan y corff llywodraethu ffederal fel eitem ar yr agenda, mewn cyfarfod y rhoddir o leiaf 5 diwrnod gwaith o rybudd ohono ymlaen llaw.

Unwaith y bydd penderfyniad wedi ei wneud, rhaid i'r corff llywodraethu ffederal, o fewn 5 diwrnod gwaith, hysbysu'n ffurfiol yn ysgrifenedig yr holl bersonau hynny a restrir uchod, naill ai:

  • y dylai'r ysgol neu'r ysgolion adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad

neu os mai dwy ysgol yn unig sydd yn y ffederasiwn

  • ar ba ddyddiad y diddymir y ffederasiwn

neu

  • na ddylai'r ysgol neu'r ysgolion adael y ffederasiwn

Os cytunir y dylai ysgol neu ysgolion adael ffederasiwn, rhaid i'r dyddiad dadffedereiddio fod ymhen cyfnod o 125 diwrnod calendr, o leiaf, ar ôl y dyddiad y gwneir y penderfyniad.

Unwaith y penderfynir bod ysgol i adael ffederasiwn a sefydlwyd gan awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol sefydlu corff llywodraethu dros dro ar gyfer yr ysgolion a ddadffedereiddiwyd yn unol â Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 a Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd ystyried rhoi cyllideb ddirprwyedig i'r ysgolion a ddadffedereiddiwyd yn unol â'i gynllun ar gyfer ariannu ysgolion, a throsglwyddo unrhyw dir, eiddo, hawliau neu rwymedigaethau.

Diddymu ffederasiwn a arweinir gan gorff llywodraethu

Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu diddymu'r ffederasiwn neu'n penderfynu y dylai un o'r unig 2 ysgol mewn ffederasiwn ymadael, rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r personau canlynol o hynny o fewn 14 diwrnod ar ôl y penderfyniad:

  • yr holl awdurdodau lleol perthnasol 
  • pennaeth neu bennaeth dros dro y ffederasiwn os penodwyd un, neu os na wnaed penodiad o'r fath, pennaeth neu bennaeth dros dro pob ysgol yn y ffederasiwn
  • pob aelod o’r staff a gyflogir i weithio yn yr ysgolion yn y ffederasiwn
  • rhieni neu ofalwyr pob dysgwr cofrestredig yn yr ysgolion yn y ffederasiwn
  • y llywodraethwyr sefydledig (os yw'n berthnasol)
  • unrhyw ymddiriedolwyr ysgol sydd ag ymddiriedolaeth (os yw'n briodol)
  • yr esgobaeth berthnasol neu gorff crefyddol arall (os yw'n briodol)
  • yr holl undebau llafur perthnasol
  • unrhyw berson arall a ystyrir yn briodol

Rhaid i'r hysbysiad gynnwys dyddiad y diddymiad arfaethedig, a rhaid i'r dyddiad hwnnw fod ymhen 125 diwrnod calendr, o leiaf, ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, er mwyn i'r awdurdod lleol gael digon o amser i sefydlu cyrff llywodraethu dros dro.

Pan fo awdurdod lleol yn cael hysbysiad bod ffederasiwn i gael ei ddiddymu rhaid iddo sefydlu corff llywodraethu dros dro yn unol â Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 a Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005, a dyroddi offeryn llywodraethu newydd ar gyfer pob ysgol. Ar y dyddiad diddymu, bydd corff llywodraethu dros dro pob ysgol yn cael ei ymgorffori fel y corff llywodraethu. Rhaid i'r awdurdodau lleol hefyd benderfynu swm y gyllideb ddirprwyedig y dylai pob ysgol ei chael, a datrys materion ynglŷn ag unrhyw drosglwyddiadau tir, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau. 

5. Sefydlu ffederasiwn a gynigir gan awdurdod lleol

Mae'r broses y byddai awdurdod lleol yn ei defnyddio i ffedereiddio ysgolion bron yn union yr un fath â'r broses a ddilynid gan gyrff llywodraethu. Os yw awdurdod lleol yn ystyried ffedereiddio ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig, dylai yn gyntaf gysylltu â'r Comisiwn Elusennau i drafod y cynigion. Dylai hefyd gael cydsyniad yr awdurdod esgobaethol neu'r ymddiriedolwyr perthnasol neu'r personau sy'n gyfrifol am benodi'r llywodraethwyr sefydledig, cyn mynd ymlaen i gymryd y camau isod.

Yn benodol, dylai awdurdodau lleol:

  • ystyried ffedereiddio fel opsiwn yn eu cynlluniau strategol ar gyfer darpariaeth ysgolion effeithiol ac effeithlon mewn neu ar draws cymunedau
  • sicrhau bod cynlluniau trefniadaeth ysgolion yn ddigon manwl a thryloyw i lywio penderfyniadau ynghylch ffedereiddio mewn ac ar draws cyrff llywodraethu ysgolion
  • ystyried effaith eu rhaglen ffedereiddio ar ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion sefydledig nad ydynt bob amser yn hawdd i’w ffedereiddio
  • nodi unrhyw ysgolion bach sydd â llai na 91 o ddysgwyr, gan fod y broses o ymgynghori â rhanddeiliaid yn fyrrach ar gyfer ffedereiddio'r ysgolion bach hyn

Roedd Mesur Addysg (Cymru) 2011 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol wneud cynigion ar gyfer ffedereiddio. Mae Rheoliadau 2014 yn nodi manylion ynghylch y modd y caiff awdurdodau lleol gynnig a chyflawni'r broses ffedereiddio ar gyfer:

  • 2 ond dim mwy na 6 o ysgolion cymunedol, cymunedol arbennig neu ysgolion meithrin a gynhelir
  • 2 ond dim mwy na 6 ysgol wirfoddol a gynorthwyir
  • 2 ond dim mwy na 6 ysgol wirfoddol a reolir
  • 2 ond dim mwy na 6 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir
  • 2 ond dim mwy na 6 ysgol sefydledig
  • ehangu ffederasiwn presennol drwy ychwanegu un neu ragor o ysgolion a gynhelir ar yr amod na fydd cyfanswm nifer yr ysgolion yn fwy na 6
  • uno 2 neu ragor o ffederasiynau presennol ar yr amod na fydd cyfanswm nifer yr ysgolion yn fwy na 6 

Ym mhob achos o ffedereiddio dan arweiniad awdurdod lleol, gwneir y penderfyniad a ddylid ffedereiddio ai peidio gan yr awdurdod lleol, ar ôl ystyried yn ofalus a ddylid defnyddio ffedereiddio fel offeryn strategol i sbarduno gwell deilliannau ac er mwyn defnyddio adnoddau'n effeithlon o fewn ei ardal. Gydol y broses ffedereiddio, o'r cyfnod ystyried dechreuol hyd at gyflawni ac ymgorffori, mae'n hollbwysig bod yr awdurdodau lleol yn ymgysylltu â'r cyrff llywodraethu sy'n ffedereiddio, gan roi cyfle iddynt wneud sylwadau a meithrin yr ymdeimlad o berchnogaeth o'r broses ac o'r ffederasiwn newydd.

Fel yn achos ffederasiynau a arweinir gan gyrff llywodraethu, mae'n ofynnol bod yr awdurdod lleol hefyd yn ymgynghori'n ffurfiol ar gynigion gyda'r rhieni, gofalwyr, y staff, y dysgwyr, holl undebau staff yr ysgolion, llywodraethwyr sefydledig, awdurdodau lleol eraill (yn achos ffederasiynau trawsffiniol) ac awdurdodau esgobaethol neu bersonau sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig (os gofynnwyd am eu cydsyniad ymlaen llaw ar gyfer ffedereiddio). 

Gydol y broses ar gyfer ffederasiynau a arweinir gan awdurdodau lleol, bydd y llywodraethwyr yn parhau i gyflawni rôl bwysig o ran sefydlu'r cynigion. Yn dra thebyg i'r broses ar gyfer cynigion ffedereiddio a arweinir gan gorff llywodraethu, mae'n hollbwysig bod yr awdurdod lleol:

  • yn ystyried y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â sefydlu ffederasiwn, a sut y gallai hynny effeithio ar ansawdd addysg a chyflawniadau plant a phobl ifanc yn yr ysgolion, ac ar draws yr ysgolion sy'n ffedereiddio
  • yn sicrhau bod y staff, y rhieni, y gofalwyr a'r dysgwyr yn cael gwybod yn gyson am ddatblygiadau yn y broses ffedereiddio, a'u cynnwys yn y datblygiadau hynny

Rhoddir canllaw cam wrth gam isod i'r broses y dylai awdurdodau lleol ei dilyn wrth ffedereiddio ysgolion.

Y broses ffedereiddio a arweinir gan awdurdodau lleol

Cam 1: Ystyried

  • Cytuno ar ffactorau sbarduno a diben ffedereiddio
  • Cynnal trafodaethau cynnar gyda'r ysgolion a nodwyd ar gyfer ffedereiddio
  • Cefnogi gweithgor o lywodraethwyr sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob ysgol
  • Pennu dyddiad i'r ffederasiwn ddechrau gweithredu
  • Ymweld â ffederasiynau sefydledig i ddysgu gwersi

Cam 2: Paratoi

  • Paratoi cynnig i ymgynghori â rhanddeiliaid
  • Penderfynu ar y strwythur llywodraethu
  • Cytuno ar enw ar gyfer y ffederasiwn
  • Cefnogi cyrff llywodraethu i ystyried strwythurau staffio, a materion ariannol ac adnoddau dynol
  • Cefnogi cyrff llywodraethu i ystyried amserlen ar gyfer ethol a phenodi llywodraethwyr

Cam 3: Y cynnig

  • Paratoi cynnig sy'n cynnwys cydsyniad awdurdodau lleol eraill (lle bo'n berthnasol)
  • Cynnwys cydsyniad yr awdurdodau esgobaethol perthnasol (lle bo'n berthnasol) yn y cynnig hefyd

Cam 4: Casglu safbwyntiau

  • Anfon cynigion a gwahodd adborth gan randdeiliaid (o leiaf 6 wythnos)
  • Cyhoeddi'r cynnig ar wefan(nau) yr awdurdodau lleol
  • Darparu copi 'hawdd ei ddarllen' o'r cynnig i gynghorau ysgolion a phob dysgwr
  • Darparu taflen wybodaeth ar ffurf cwestiynau ac atebion i rieni a gofalwyr

Cam 5: Diffinio

  • Cefnogi cyrff llywodraethu i ystyried a diffinio rolau'r arweinwyr a'r strwythur staffio
  • Cefnogi cyrff llywodraethu i baratoi disgrifiadau swydd ar gyfer swyddi newydd

Cam 6: Camau i'w cymryd ar ôl ymgynghori

  • Ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid a mireinio'r cynnig lle bo angen

Cam 7: Gweithredu

  • Rhannu’r penderfyniad gyda'r cyrff llywodraethu
  • Rhannu’r penderfyniad gyda'r rhanddeiliaid a'i gyhoeddi ar wefannau’r awdurdodau lleol
  • Ymgynghori ag unrhyw awdurdod lleol arall a'r esgobaeth (os yw'n briodol) ynghylch yr offeryn llywodraethu newydd, ac ynghylch ethol a phenodi llywodraethwyr newydd
  • Anfon copi o'r offeryn llywodraethu newydd at Lywodraeth Cymru
  • Cefnogi cyrff llywodraethu i sefydlu strwythur a rolau'r uwch-arweinwyr

Cam 8: Datblygu

  • Cefnogi cyrff llywodraethu i sefydlu un corff llywodraethu newydd cyfun, gan ethol cadeirydd ac is-gadeirydd
  • Cefnogi'r corff llywodraethu newydd i sefydlu strwythur a rolau newydd y staff ac sicrhau bod y cynllun gwella ysgolion yn targedu adnoddau ac arbenigedd er mwyn codi safonau pob ysgol yn y ffederasiwn
  • Cefnogi'r corff llywodraethu newydd i fanteisio ar TGCh i hwyluso cydweithio yn ogystal â dysgu ac addysgu ar draws y ffederasiwn

Cam 9: Ymgorffori

  • Cefnogi'r corff llywodraethu newydd i fanteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio'r adnoddau a'r staff yn hyblyg ar draws y ffederasiwn
  • Cefnogi'r corff llywodraethu newydd i sicrhau trosolwg penaethiaid o effeithiolrwydd ar draws y ffederasiwn a sicrhau bod systemau ar waith i fonitro ysgolion unigol yn ogystal â'r ffederasiwn cyfan
  • Cefnogi'r corff llywodraethu newydd i gytuno ar strwythurau pwyllgorau a pha mor aml y cynhelir cyfarfodydd

Cam 10: Datblygu strategol

  • Trosolwg o drefniadau'r ffederasiwn a'i effaith ar safonau a'r gallu i wella
  • Cefnogi'r corff llywodraethu newydd i sicrhau cyfleoedd ehangach ar gyfer datblygiad proffesiynol pob aelod staff
  • Cefnogi'r corff llywodraethu newydd i wirio bod arferion, prosesau, polisïau a dogfennau enghreifftiol ar waith

6. Ffedereiddio ysgolion newydd

Caiff awdurdodau lleol ffedereiddio unrhyw ysgol newydd (naill ai ysgol a adeiledir neu ysgol newydd a grëwyd drwy uno neu gau ysgolion blaenorol) gydag ysgol arall neu ysgolion eraill, neu ei ffedereiddio i ffederasiwn sy'n bodoli eisoes. Os nad oes corff llywodraethu dros dro wedi ei sefydlu ar gyfer yr ysgol newydd, bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol am weithredu'r broses y byddai cyrff llywodraethu yn ei dilyn er mwyn ffedereiddio. Os oes corff llywodraethu dros dro wedi ei sefydlu ar gyfer yr ysgol neu ysgolion newydd arfaethedig, y corff llywodraethu dros dro hwnnw sy'n gyfrifol am reoli'r broses ffedereiddio.

Os yw awdurdod lleol yn cynnig y dylai 2 neu ragor o ysgolion newydd ffedereiddio, neu y dylent ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion eraill, neu y dylent ymuno â ffederasiwn presennol, caiff yr awdurdod lleol sefydlu un corff llywodraethu dros dro ar gyfer yr ysgolion newydd. Os cynhelir y 2 ysgol newydd gan wahanol awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau lleol hynny gytuno rhyngddynt pa un ohonynt gaiff wneud trefniadau ar gyfer cyfansoddi un corff llywodraethu dros dro.

Pan fo awdurdod lleol yn cynnig ffedereiddio ysgol wirfoddol newydd, rhaid iddo gael cydsyniad yr hyrwyddwyr yn gyntaf, cyn cymryd unrhyw gamau, a rhoi gwybod i'r hyrwyddwyr ar ba ddyddiad y mae'r awdurdod lleol yn cynnig cychwyn y broses ffedereiddio.

7. Ffedereiddio ysgolion bach

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Mesur 2011) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn Ysgolion Bach sy'n diffinio maint ysgol fach. Diffinnir ysgol fach fel ysgol sydd â llai na 91 o ddisgyblion ar yr ail ddydd Mawrth yn Ionawr (oni bai bod 1 Ionawr yn dilyn dydd Llun) yn union cyn y dyddiad y gwneir cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011 (sef dyddiad cyhoeddi'r cynigion i ffedereiddio) i ffedereiddio’r ysgol dan sylw. Dewiswyd y dyddiad hwn i gyd-daro â'r dyddiad yn Ionawr pan fydd ysgolion yn cwblhau'r ystadegau a'r wybodaeth ar gyfer y datganiad Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Ceir ffedereiddio unrhyw ysgol sy'n dod o dan y maen prawf hwn, ond bydd y broses o ffedereiddio ychydig yn fyrrach ac yn gwahaniaethu oddi wrth y broses ffedereiddio reolaidd yn y ffyrdd a ganlyn:

  • ni fydd gofyn i'r awdurdod lleol ymgynghori ac eithrio gyda'r corff llywodraethu a chyngor yr ysgol 
  • bydd y cyfnod ymgynghori wedi ei gwtogi o 6 wythnos i 20 diwrnod ysgol 
  • ar ôl cyhoeddi’r cynigion, bydd y cyfnod tan y dyddiad ffedereiddio wedi’i gwtogi o 125 diwrnod calendr i 100 diwrnod calendr

Ar ôl cyhoeddi’r cynnig, pe bai nifer y dysgwyr mewn ysgol a oedd yn ysgol fach yn cynyddu i fwy na 90, caiff yr awdurdod lleol barhau i ffedereiddio'r ysgol honno fel pe bai'n ysgol fach.

Pan fo cynnig i ffedereiddio yn cynnwys ysgolion bach ynghyd ag ysgolion o faint cyffredin, rhaid dilyn y broses ffedereiddio arferol, sy'n cynnwys ymgynghori ar y cynigion gyda grŵp ehangach o randdeiliaid am gyfnod o 6 wythnos, ac aros am gyfnod hwy (125 diwrnod calendr) cyn ffedereiddio.

Rhaid anfon cynigion cyhoeddedig yr awdurdod lleol ar gyfer ffedereiddio at gorff llywodraethu a chyngor ysgol pob un o'r ysgolion, a rhaid iddynt gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • enw neu enwau'r cyrff llywodraethu y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio
  • maint arfaethedig y corff llywodraethu ffederal 
  • y niferoedd arfaethedig ym mhob categori o lywodraethwr 
  • y trefniadau staffio arfaethedig ar gyfer pob ysgol yn y ffederasiwn 
  • y dyddiad ffedereiddio arfaethedig, a fydd o leiaf 100 diwrnod calendr ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad o'r cynigion i ffedereiddio 
  • enw awdurdod neu awdurdodau derbyniadau’r ysgolion o fewn y ffederasiwn 
  • y dyddiad, heb fod yn llai na 6 wythnos ar ôl cyhoeddi'r cynigion, ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r awdurdod lleol ynghylch y cynigion a'r cyfeiriad lle dylid eu hanfon
  • cadarnhad y cafwyd cydsyniad unrhyw awdurdod lleol arall os yw'r ffederasiwn sydd dan ystyriaeth yn croesi ffin yr awdurdod lleol 
  • cadarnhad y cafwyd cydsyniad unrhyw esgobaeth, ymddiriedolaeth neu berson sy'n penodi'r llywodraethwyr sefydledig
  • unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol

Dylai'r awdurdodau lleol ystyried gwneud yr wybodaeth ar gyfer cynghorau ysgol mor ‘gyfeillgar i'r defnyddiwr’ ac mor addas ar gyfer oedran y dysgwyr. Efallai y byddai'n fanteisiol hefyd pe bai aelod o'r awdurdod lleol ar gael i annerch cyngor yr ysgol ac ateb yn uniongyrchol unrhyw bryderon sydd gan y dysgwyr ynghylch ffedereiddio a'i effaith arnynt hwy, a'r hyn y gallent ei ddisgwyl ar ôl ffedereiddio. Yn yr un modd, efallai y bydd yr awdurdodau lleol am ystyried paratoi fersiwn gryno o'r cynigion ar gyfer rhieni a gofalwyr. Os gwneir hynny, rhaid i'r awdurdod lleol esbonio ym mhle ar wefan yr awdurdod lleol y gellir gweld copi o'r cynigion llawn, neu fod copïau o'r cynigion llawn ar gael i'w harchwilio yn yr ysgol.

Yn ogystal â chyhoeddi'r cynigion ar wefan yr awdurdod lleol a rhoi copïau o'r hysbysiad cyhoeddedig ym mhob ysgol o fewn y ffederasiwn, rhaid i'r awdurdod lleol anfon copïau ohono at:

  • unrhyw awdurdod lleol perthnasol
  • pennaeth pob un o’r ysgolion 
  • llywodraethwyr sefydledig ac ymddiriedolwyr (os yw'n berthnasol)
  • awdurdodau esgobaethol neu gyrff crefyddol eraill (os yw'n berthnasol)

Ar ôl ymgynghori ar y cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried yr ymatebion a gafwyd a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â'r cynigion ffedereiddio fel y'u cyhoeddwyd, ynteu eu diwygio neu'u haddasu, ynteu peidio â mynd ymlaen. Ni chaiff addasiad gynnwys tynnu ysgol allan o'r cynigion, nac ychwanegu ysgol nad oedd yn rhan o'r cynigion gwreiddiol. Rhaid anfon y penderfyniad hwn at y personau hynny a restrir uchod ac at unrhyw berson arall a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol, gan gynnwys cyrff llywodraethu'r ysgolion dan sylw.

Mae'r 20 diwrnod ysgol, y mae’n ofynnol yn y rheoliadau bod awdurdodau lleol yn eu caniatáu ar gyfer anfon ymatebion i'r cynigion at yr awdurdod lleol, yn cynnwys y diwrnodau hynny’n unig pan fo'r ysgol yn agored, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddiwrnodau HMS. Yn ymarferol, mae 20 diwrnod ysgol fel arfer yn gyfystyr â 4 wythnos ysgol. Ni cheir sefydlu ffederasiwn o ysgolion bach cyn diwedd cyfnod o 100 diwrnod calendr ar ôl cyhoeddi'r cynigion i ffedereiddio. Ar ôl caniatáu 20 diwrnod ysgol ar gyfer ymgynghori, defnyddir gweddill yr amser gan yr awdurdod lleol i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gwneud trefniadau i sefydlu'r corff llywodraethu a throsglwyddo adnoddau, eiddo, tir, asedau a rhwymedigaethau.

Ysgolion sy'n gadael ffederasiwn a weithredir gan awdurdod lleol

Ni chaiff ysgolion sydd wedi eu cynnwys mewn ffederasiwn a weithredir gan awdurdod lleol adael y ffederasiwn ac eithrio pan fo'r awdurdod lleol arweiniol yn cydsynio i gais ysgrifenedig. Fodd bynnag, os yw'r ysgol yn ddarostyngedig i ymyriad gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol, rhaid gofyn am ganiatâd i adael y ffederasiwn gan y personau hynny.

Wrth ofyn yn ffurfiol am ganiatâd gan yr awdurdod lleol i ysgol adael ffederasiwn, rhaid i gorff llywodraethu sicrhau bod y cais ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 neu ragor o lywodraethwyr
  • yr awdurdod lleol ac un rhan o 5 o rieni a gofalwyr dysgwyr cofrestredig yn yr ysgol dan sylw
  • dwy ran o 5 o’r staff o dan gontract cyflogaeth yn yr ysgol dan sylw 
  • ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r ysgolion (os yw'n berthnasol)
  • y corff sydd â hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig (os yw'n berthnasol)

Wrth wneud cais ffurfiol i awdurdod lleol am gael gadael ffederasiwn, rhaid i'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol sicrhau o fewn 5 diwrnod clir ar ôl cael y cais am gael gadael y ffederasiwn y rhoddir hysbysiad o'r cais i bob un o'r personau canlynol:

  • yr holl awdurdodau lleol perthnasol, 
  • pennaeth neu bennaeth dros dro y ffederasiwn os penodwyd un, neu os na wnaed penodiad o'r fath, pennaeth neu bennaeth dros dro pob ysgol yn y ffederasiwn 
  • pob aelod o'r staff a gyflogir i weithio yn yr ysgol neu ysgolion sy'n dymuno gadael y ffederasiwn 
  • rhieni neu ofalwyr pob dysgwr cofrestredig yn yr ysgol neu ysgolion sy’n dymuno gadael y ffederasiwn 
  • pob undeb llafur perthnasol
  • ymddiriedolwyr unrhyw ysgol yn y ffederasiwn (nid yr ysgolion hynny’n unig sy’n dymuno gadael y ffederasiwn) (os yw’n berthnasol) 
  • yr esgobaeth neu gorff crefyddol priodol arall os yw’r ysgol yn ysgol ffydd (os yw’n berthnasol)
  • y corff sydd â hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig (os yw'n berthnasol)
  • unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol

Bydd yr awdurdod lleol wedi cael copi o'r cais os anfonir ef at y Prif Swyddog Addysg.

Caniateir o leiaf 14 diwrnod gwaith i'r awdurdod lleol, ar ôl y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad o'r cais am gael gadael y ffederasiwn, i ystyried y cynigion ac unrhyw sylwadau a wneir gan unrhyw barti a hysbyswyd yn ffurfiol o'r cynigion, fel yr amlinellir uchod.

Unwaith y bydd penderfyniad wedi ei wneud, dylai'r awdurdod lleol, o fewn 5 diwrnod gwaith, hysbysu'n ffurfiol yn ysgrifenedig yr holl bobl berthnasol, fel y disgrifir uchod:

  • a ddylai'r ysgol neu'r ysgolion adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad

neu os 2 ysgol yn unig sydd yn y ffederasiwn ar yr adeg y gwneir y cais

  • ar ba ddyddiad y diddymir y ffederasiwn

neu

  • na ddylai'r ysgol neu'r ysgolion adael y ffederasiwn

Os cytunir y dylai ysgol adael ffederasiwn, neu y dylai ffederasiwn gael ei ddiddymu rywfodd arall, dylai'r awdurdod lleol gytuno ar y dyddiad y bydd hynny'n digwydd, a rhaid i'r dyddiad hwnnw fod ymhen 125 diwrnod calendr, o leiaf, ar ôl y dyddiad y gwneir y penderfyniad. Mae'r cyfnod hwn o 125 diwrnod yn gymwys hefyd yn achos ysgolion bach sy'n gadael ffederasiwn, gan y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio'r amser i sefydlu corff llywodraethu dros dro.

Unwaith y penderfynir bod ysgol i adael ffederasiwn, neu fod ffederasiwn i gael ei ddiddymu, dylai'r awdurdod lleol sefydlu corff llywodraethu dros dro ar gyfer yr ysgolion a ddadffedereiddiwyd yn unol â Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 a Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. Rhaid i'r awdurdod lleol ystyried hefyd faint y gyllideb y dylid ei dyrannu i gorff llywodraethu dros dro, a throsglwyddo unrhyw dir, eiddo, hawliau neu rwymedigaethau. Caiff y corff llywodraethu dros dro ei ymgorffori fel corff llywodraethu'r ysgol ar y dyddiad dadffedereiddio.

Diddymu ffederasiwn a weithredir gan awdurdod lleol

Ystyrir bod ffederasiwn wedi ei sefydlu gan awdurdod lleol naill ai os ysgogwyd y cam cyntaf yn y broses ffedereiddio gan awdurdod lleol, neu os oedd awdurdod lleol wedi ychwanegu ysgol at ffederasiwn a oedd yn bodoli eisoes ac a sefydlwyd gan gyrff llywodraethu. Pan fo awdurdod lleol yn dymuno diddymu'r ffederasiwn neu'n penderfynu y dylai un o'r unig 2 ysgol mewn ffederasiwn adael y ffederasiwn, rhaid iddo yn gyntaf roi hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny o fewn 14 diwrnod ar ôl ei benderfyniad. Rhaid anfon yr hysbysiad at:

  • yr holl awdurdodau lleol perthnasol
  • pennaeth neu bennaeth dros dro y ffederasiwn os penodwyd un, neu os na wnaed penodiad o'r fath, pennaeth neu bennaeth dros dro pob ysgol yn y ffederasiwn
  • pob aelod o’r staff a gyflogir i weithio yn yr ysgolion yn y ffederasiwn
  • rhieni neu ofalwyr pob dysgwr cofrestredig yn yr ysgolion yn y ffederasiwn
  • y llywodraethwyr sefydledig (os yw'n gymwys)
  • unrhyw ymddiriedolwyr mewn ysgol sydd ag ymddiriedolaeth (os yw'n briodol)
  • yr esgobaeth berthnasol neu gorff crefyddol perthnasol arall (os yw'n briodol)
  • y corff sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig 
  • yr holl undebau llafur perthnasol
  • unrhyw berson arall a ystyrir yn briodol

Ar ôl cyfnod o 14 diwrnod o leiaf rhaid i awdurdod lleol ystyried yr holl ymatebion i'r cynigion i ddiddymu a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen i ddiddymu ai peidio, ac os eir ymlaen, pennu dyddiad y diddymu. Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r bobl a restrir uchod o fewn pum diwrnod o'i benderfyniad a chwblhau'r broses fel y nodir isod.

Nid oes terfyn amser wedi ei bennu yn y rheoliadau i awdurdodau lleol ar gyfer diddymu ffederasiwn a sefydlu corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion. Y rheswm am hyn yw y byddai awdurdod lleol yn gwybod ymlaen llaw am ei gynlluniau ei hunan i ddiddymu unrhyw ffederasiwn, byddai wedi cael cais i ddiddymu ffederasiwn gan gorff llywodraethu, a byddai'r cais hwnnw'n rhoi digon o amser iddo wneud y trefniadau angenrheidiol i sefydlu cyrff llywodraethu dros dro.

Y broses pan fydd corff llywodraethu yn awgrymu diddymu ffederasiwn a sefydlwyd gan awdurdod lleol

Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn a sefydlwyd gan awdurdod lleol yn penderfynu y dylid diddymu'r ffederasiwn, neu'n penderfynu y dylai un o'r unig 2 ysgol yn y ffederasiwn ymadael, rhaid i'r corff llywodraethu yn gyntaf gael cydsyniad yr awdurdod lleol sy'n cynnal.

Os rhoddir y cydsyniad, rhaid i'r corff llywodraethu roi hysbysiad o hynny ac o'r dyddiad diddymu arfaethedig (y mae'n rhaid iddo fod ymhen 125 diwrnod, o leiaf, ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad) i'r personau canlynol, o fewn 14 diwrnod wedi i'r awdurdod lleol roi ei gydsyniad:

  • yr holl awdurdodau lleol perthnasol 
  • pennaeth neu bennaeth dros dro y ffederasiwn os penodwyd un, neu os na wnaed penodiad o'r fath, pennaeth neu bennaeth dros dro pob ysgol yn y ffederasiwn
  • pob aelod o’r staff a gyflogir i weithio yn yr ysgolion yn y ffederasiwn
  • rhieni neu ofalwyr pob dysgwr cofrestredig yn yr ysgolion yn y ffederasiwn
  • y llywodraethwyr sefydledig (os yw'n gymwys)
  • unrhyw ymddiriedolwyr mewn ysgol sydd ag ymddiriedolaeth (os yw'n briodol)
  • yr esgobaeth berthnasol neu gorff crefyddol perthnasol arall (os yw'n briodol)
  • yr holl undebau llafur perthnasol
  • unrhyw berson arall a ystyrir yn briodol

8. Ffedereiddio ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion sefydledig

Nid oes pwerau gan awdurdodau lleol nac ychwaith gan gyrff llywodraethu i ffedereiddio ysgolion gwirfoddol (ysgolion a gynorthwyir neu a reolir) nac ysgolion sefydledig gydag ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol a meithrinfeydd a gynhelir. Esbonnir isod pam na chaniateir trefniant o'r fath.

Crëwyd cyrff llywodraethu yr ysgolion sefydledig a gwirfoddol, a chyrff sefydledig penodol eraill, o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a oedd yn darparu bod cyrff llywodraethu'r ysgolion sefydledig a gwirfoddol yn elusennau esempt.

Mewn cyfraith, corff llywodraethu'r ysgol sefydledig neu wirfoddol yw'r elusen (yr ysgol ei hunan yw gweithgaredd yr elusen honno). Mae Deddf Elusennau 2011 hefyd yn cadarnhau statws cyrff llywodraethu'r ysgolion sefydledig a gwirfoddol fel elusennau esempt. Ar 1 Awst 2011, penodwyd Gweinidogion Cymru yn brif reoleiddiwr ar gyfer yr elusennau hyn yng Nghymru, ac fel y cyfryw mae dyletswydd arnynt i wneud popeth a allant yn rhesymol i hyrwyddo cydymffurfiaeth yr elusennau hyn â chyfraith elusennau.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai awdurdodau lleol, oherwydd y trosolwg sydd ganddynt ar ddatblygiad addysg yn eu hardaloedd, sydd yn y sefyllfa orau i weld ffedereiddio yn ei gyd-destun strategol llawn. Gallant weld opsiynau a chyfleoedd na fyddai modd i ysgolion a chyrff llywodraethu unigol eu gweld. Fodd bynnag, prif ddyletswydd ymddiriedolwyr elusen bob amser yw gweithredu yn unig er budd elusen a'i buddiolwyr, a defnyddio adnoddau'r elusen i'r unig ddiben o hyrwyddo'i hamcanion elusennol. Felly, yn achos corff llywodraethu elusennol, rhaid i ymddiriedolwyr yr elusen roi sylw i'r ystyriaethau hynny, yn unig, sy'n berthnasol i fudd pennaf eu helusen, ei buddiolwyr a'i darpar fuddiolwyr. Gallai rhai o'r ystyriaethau ehangach, sydd o bwys i awdurdodau lleol, fod yn faterion y byddai'r ymddiriedolwyr o dan ddyletswydd i'w hanwybyddu fel materion amherthnasol.

Pe bai awdurdod lleol neu gorff llywodraethu yn ffedereiddio ysgol, effaith hynny fyddai diddymu ac ailgyfansoddi cyrff llywodraethu. Yn achos corff llywodraethu ysgol sefydliadol neu wirfoddol, byddai hynny'n gyfystyr â diddymu ac ailgyfansoddi'r elusen ei hunan.

Byddai unrhyw lywodraethwyr a benodid i gorff llywodraethu ffederal ar gyfer ysgolion sefydledig neu wirfoddol yn dod yn ymddiriedolwyr elusen, gan ymgymryd â holl gyfrifoldebau cyfreithiol ymddiriedolwyr elusen mewn perthynas ag adnoddau'r ysgolion hynny. Eu dyletswydd flaenaf fyddai gweithredu er budd yr elusen a'i buddiolwyr. Mewn cyfraith, fodd bynnag, mae'n amhosibl i endid fod yn rhannol elusennol, neu'n elusen a heb fod yn elusen ar yr un pryd. Dyna fyddai'r sefyllfa pe bai awdurdod lleol yn diddymu cyrff llywodraethu cymysgedd o ysgolion gwirfoddol a/neu sefydledig ac ysgolion cymunedol, ac yn cyfansoddi un corff llywodraethu ar eu cyfer.

Byddai unrhyw gynigion, felly, i ganiatáu i awdurdodau lleol ffedereiddio’r ysgolion hyn yn arwain at greu strwythur a fyddai'n anghydnaws â statws elusennol cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig a gwirfoddol sy’n elusennau.

Caiff elusennau gydweithio gyda chyrff nad ydynt yn elusennau (megis ysgolion cymunedol) a defnyddio'u hadnoddau ar y cyd â chyrff o'r fath, ond dim ond i'r graddau y bodlonir ymddiriedolwyr yr elusen (sef aelodau'r corff llywodraethu yn yr achos hwn) fod hynny'n hyrwyddo amcanion eu helusen. Pe bai awdurdod lleol yn penderfynu ffedereiddio un neu ragor o ysgolion gwirfoddol, byddai'n gosod ei farn ei hunan yn lle barn ymddiriedolwyr yr elusen. Gallai beri goblygiadau cyfreithiol i'r awdurdod lleol, a gallai trefniadau o'r fath i ffedereiddio'r ysgolion hyn wneud sefyllfa'r corff llywodraethu yn anghynaladwy.

Nid yw Rheoliadau 2014, felly, yn caniatáu ffedereiddio ysgolion, ac eithrio rhwng ysgolion cyffelyb o ran eu statws elusennol a/neu eu hethos crefyddol. Wrth wneud hynny rhaid i'r awdurdodau lleol a'r cyrff llywodraethu gydweithio â'r ymddiriedolaethau a'r awdurdodau esgobaethol perthnasol i sicrhau bod pob ystyriaeth gyfreithiol wedi cael sylw, o ran uno ymddiriedolaethau elusennol a'r posibilrwydd o drosglwyddo asedau. Cynghorir awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn daer i ofyn am gyngor gan y Comisiwn Elusennau wrth ystyried trefniant o'r fath.

Pan fo awdurdod lleol yn dymuno cynnwys ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig yn ei gynigion ffedereiddio, rhaid iddo yn gyntaf gael cydsyniad yr esgobaeth a/neu'r ymddiriedolaeth berthnasol, cyn cymryd unrhyw gam pellach.

Ni chaniateir ffedereiddio ysgolion sefydledig ac eithrio gydag ysgolion sefydledig eraill.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod llawer o'r ysgolion hyn eisoes yn cydweithio'n agos, a bod dysgwyr yn trosglwyddo rhwng yr ysgolion yn aml. Gallai'r anallu i ffedereiddio ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion sefydledig gydag ysgolion cymunedol effeithio ar gynigion i ad-drefnu ysgolion a gynlluniwyd gan yr awdurdodau lleol, a threfniadau a gytunwyd eisoes i ysgolion o gategorïau cymysg gydweithio o dan ffederasiwn.

9. Pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd i ffedereiddio ysgolion sy'n peri pryder

O dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Deddf 2013) mae pŵer gan Weinidogion Cymru i ymyrryd yn y modd y cynhelir ysgol sy'n peri pryder, a rhoi cyfarwyddyd i ffedereiddio ysgol o'r fath pan fo un neu ragor o'r seiliau isod ar gyfer ymyrryd yn gymwys, a'r ysgol wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad rhybuddio a ddyroddwyd gan yr awdurdod lleol:

  1. Mae safonau perfformiad dysgwyr yn yr ysgol yn annerbyniol o isel.
  2. Mae methiant yn y ffordd y rheolir neu y llywodraethir yr ysgol.
  3. Mae ymddygiad neu weithredoedd dysgwyr yn yr ysgol, eu rhieni neu’u gofalwyr yn peryglu'n ddifrifol, neu'n debygol o beryglu'n ddifrifol, addysg unrhyw ddysgwyr yn yr ysgol.
  4. Mae diogelwch dysgwyr neu staff yr ysgol dan fygythiad (boed oherwydd methiant mewn disgyblaeth neu fel arall).
  5. Mae’r corff llywodraethu neu'r pennaeth wedi methu, neu'n debygol o fethu, cydymffurfio â dyletswydd o dan y Deddfau Addysg.
  6. Mae’r corff llywodraethu neu'r pennaeth wedi gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau o dan y Deddfau Addysg.

Yn ychwanegol, caiff Gweinidogion Cymru ymyrryd heb roi hysbysiad rhybuddio os oes un o’r canlynol wedi digwydd:

  • os bodlonir hwy fod un neu ragor o'r seiliau a restrir yn 1 i 6 uchod yn bodoli, a bod perygl cysylltiedig i iechyd a diogelwch sy'n galw am ymyrryd ar frys
  • os ystyriwyd, gan Estyn, fod gofyn i'r ysgol wella'n sylweddol neu weithredu mesurau arbennig

Ni fydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio'u pwerau i ymyrryd, oni fydd yr awdurdod lleol wedi methu ag ymyrryd, neu wedi ymyrryd yn annigonol.

Cyn dyroddi cyfarwyddyd ysgrifenedig, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r holl randdeiliaid perthnasol, a ddiffinnir yn adran 15 o Ddeddf 2013 fel y canlynol:

  • yr awdurdod lleol
  • y cyrff llywodraethu perthnasol
  • y person sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig (os yw'n gymwys)
  • corff crefyddol priodol (os yw'n gymwys). 

Unwaith y bydd cyfarwyddyd wedi ei roi, rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol neu'r awdurdod lleol sicrhau y cydymffurfir ag ef.

10. Cyfansoddiad ac aelodaeth cyrff llywodraethu ffederal

Nodir manylion aelodaeth y gwahanol fodelau ffedereiddio yn Atodiad 6, a dyma’r prif nodweddion:

  • gosodir terfyn o ddim mwy na 2 riant-lywodraethwr i bob ysgol, ar gyfer pob ysgol ar wahân i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
  • gosodir terfyn o ddim mwy na 4 llywodraethwr awdurdod lleol 
  • gosodir terfyn o ddim mwy na 4 llywodraethwr cymunedol
  • er mwyn cadw'r mwyafrif o lywodraethwyr sefydledig a sicrhau nad eir dros ben yr uchafswm o 27 o lywodraethwyr, ni chaniateir i ffederasiwn o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir gael noddwr-lywodraethwr 
  • y pennaeth-lywodraethwr fydd naill ai pennaeth neu bennaeth dros dro y ffederasiwn, os oes un wedi ei benodi. Neu, os na phenodwyd person o'r fath, pennaeth neu bennaeth dros dro pob ysgol yn y ffederasiwn (hepgorir o hyn unrhyw berson nad yw'n bennaeth cymwysedig a benodwyd yn briodol)

Rhiant-lywodraethwyr

Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf un rhiant-lywodraethwr o bob ysgol yn y ffederasiwn yn aelod o'r corff llywodraethu. Os nad oes rhiant- lywodraethwr yn sefyll i'w ethol, caiff corff llywodraethu'r ffederasiwn benodi: 

a) rhiant-lywodraethwr sy'n rhiant neu’n ofalwr i ddysgwr cofrestredig yn yr ysgol y mae'r lle yn wag ynddi

b) rhiant neu ofalwr dysgwr cofrestredig arall mewn unrhyw ysgol yn y ffederasiwn

c) rhiant neu ofalwr plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol (neu o dan oedran ysgol gorfodol yn achos ysgol feithrin) o unrhyw le yn ardal yr awdurdod lleol

Rhaid i gyrff llywodraethu beidio â phenodi (b) neu (c) oni fyddant yn gyntaf wedi sicrhau nad oes unrhyw riant neu ofalwr o'r ysgol y mae'r lle yn wag ynddi yn dymuno cael ei benodi fel yn (a) uchod.

Yn achos categorïau eraill o lywodraethwyr, nid oes modd cael niferoedd teg heb wneud maint y corff llywodraethu yn rhy fawr ac anhylaw, yn enwedig pan fo ffederasiwn yn cynnwys hyd at 6 ysgol. O ganlyniad, bydd rhaid i'r cyrff llywodraethu a'r awdurdodau lleol benderfynu ynglŷn â'r modd y penodir neu yr etholir llywodraethwyr eraill. Rhaid i gyrff llywodraethu gadw mewn cof fod yr holl ysgolion mewn ffederasiwn i'w hystyried yn gyfartal, waeth beth fo niferoedd y dysgwyr neu'r staff. Yr egwyddor yw fod rhaid i bob llywodraethwr ar gorff llywodraethu ffederal weithio er budd yr holl ddysgwyr ac aelodau staff yn yr ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r dull a fabwysiedir fod yn deg. Wrth wneud dewisiadau, gall y cyrff llywodraethu a'r rhai sy'n penodi llywodraethwyr gadw mewn cof hefyd y manteision o gael llywodraethwyr sy'n meddu ar sgiliau penodol, a allai wella ac ychwanegu at effeithiolrwydd y corff llywodraethu.

Athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr a etholir

Efallai na fydd modd cael athro-lywodraethwr a staff-lywodraethwr o bob ysgol yn y ffederasiwn. Bydd rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ofyn i staff yr holl ysgolion yn y ffederasiwn a ydynt yn dymuno sefyll ar gyfer eu hethol, a chymryd gofal i sicrhau cynrychiolaeth deg ar draws yr ysgolion yn y ffederasiwn cyn belled ag y bo'n ymarferol.

Mae Rheoliadau 2014 yn cydnabod yr anhawster hwn. Mae rheoliad 36(5) yn pennu mai 2 flynedd yn hytrach na 4 blynedd fydd cyfnod swydd pob athro-lywodraethwr a staff-lywodraethwr. Nid yw rheoliadau 15 a 16 yn caniatáu ethol athrawon neu aelodau eraill o'r staff yn llywodraethwyr:

  • os buont yn llywodraethwr ar y corff llywodraethu dan sylw o fewn y 2 flynedd flaenorol
  • os cyflogir hwy i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw athro neu aelod o'r staff a etholwyd yn llywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw o fewn y 2 flynedd flaenorol

Nid yw'r amodau hyn yn gymwys i ffederasiynau sy'n cynnwys 2 ysgol yn unig, gan y byddai’n ei gwneud yn ddiangen o anodd i'r cyrff llywodraethu hynny gydymffurfio â'r Rheoliadau. Mae'r gwelliant hwn i'w weld yn Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021.

Dylai'r trefniadau hyn ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd i ffederasiynau, a byddant yn gymorth i sicrhau rota a chyfleoedd i athrawon a staff ym mhob un o'r ysgolion i sefyll ar gyfer eu hethol yn llywodraethwyr.

Llywodraethwyr awdurdod lleol a llywodraethwyr sefydledig

Mater i'r awdurdod lleol ac i'r corff sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig yw pennu meini prawf ar gyfer penodi llywodraethwyr i gynrychioli eu buddiannau. Pan fo'r nifer sy'n gymwys i'w penodi'n llywodraethwyr yn fwy na'r nifer sydd ei angen, rhaid i'r penodwyr ystyried sut y gellir dewis y llywodraethwyr hynny gan ddefnyddio meini prawf cyfartal a theg, a chan gymryd i ystyriaeth anghenion y corff llywodraethu a'r sgiliau a fyddai'n eu helpu i fod yn effeithiol.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol

Enwebir y llywodraethwyr hyn gan y cyngor cymuned i gynrychioli ei fuddiannau ar gorff llywodraethu ffederasiwn, pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion cynradd neu feithrin, o unrhyw gategori, a leolir o fewn ardal y cyngor cymuned. Mae'r llywodraethwyr hyn o dan ddyletswydd i ganolbwyntio ar wella ansawdd bywyd a'r amgylchedd lleol i breswylwyr o fewn yr ardal. Maent yn cyflawni rôl cwbl wahanol i i'r llywodraethwyr awdurdod lleol a'r llywodraethwyr cymunedol penodedig.

Mae aelodaeth corff llywodraethu ffederasiwn yn cynnwys cynrychiolaeth ar gyfer un llywodraethwr cymunedol ychwanegol. Os oes mwy nag un cyngor cymuned yn gwasanaethu ffederasiwn, ac felly mwy nag un person yn gymwys i'w enwebu i'r corff llywodraethu, caiff y corff llywodraethu wahodd enwebiadau gan bob un o'r cynghorau cymuned ac yna dewis llywodraethwr. 

Llywodraethwyr cymunedol a llywodraethwyr partneriaeth

Mae'n anochel y bydd ffederasiwn yn cwmpasu mwy nag un gymuned ysgol, a chyda'r niferoedd o lywodraethwyr a bennir yn y rheoliadau, efallai na fydd yn bosibl cael llywodraethwyr cymunedol i gynrychioli buddiannau pob un o'r cymunedau. Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen llywodraethwyr medrus ar bob corff llywodraethu. Mae penodi llywodraethwyr cymunedol yn un ffordd i’r corff llywodraethu ychwanegu gwerth at gronfa sgiliau'r llywodraethwyr, a rheoli pwy all ddod yn llywodraethwr. Cyn penodi'r llywodraethwr cymunedol, byddai'n fuddiol pe bai'r corff llywodraethu'n cynnal archwiliad o sgiliau'r llywodraethwyr presennol, er mwyn canfod pa sgiliau ychwanegol sydd eu hangen arnynt i'w helpu i gyflawni eu swyddogaethau.

Yn yr un modd, pan fo corff llywodraethu yn gwahodd enwebiadau ar gyfer llywodraethwyr partneriaeth gan rieni a gofalwyr dysgwyr cofrestredig a'r gymuned ysgol, yr un egwyddorion sy'n gymwys a dylai'r corff llywodraethu fod yn gwbl eglur ynglŷn â'r meini prawf cymhwystra ar gyfer enwebu.

Llywodraethwyr dros ben

Wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â'r niferoedd o lywodraethwyr yr hoffent eu cael, neu'r niferoedd y mae'r Rheoliadau yn caniatáu iddynt eu cael, efallai y bydd y llywodraethwyr yn pryderu bod y cyfyngiad ar niferoedd yn eu rhwystro rhag cynnwys pob person y byddent yn dymuno. Fodd bynnag, nid oes raid i'r corff llywodraethu golli arbenigedd ac adnoddau dynol ychwanegol o'r fath oherwydd gellid gwneud defnydd ohonynt mewn pwyllgorau. 

Mae llywodraethwyr yn gwybod bod llawer o'r trafod a'r gwaith yn digwydd ar lefel pwyllgor, er mwyn gadael i'r corff llywodraethu ganolbwyntio ar ei rôl strategol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn ffederasiwn. Er mwyn gwneud hynny'n llwyddiannus, bydd y corff llywodraethu'n dibynnu ar strwythur o bwyllgorau cefnogol a dibynadwy, a fydd yn cynnwys llywodraethwyr ac efallai eraill, nad ydynt yn llywodraethwyr ond sy'n meddu ar y cymhelliad, yr arbenigedd a'r wybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau ac i adrodd yn ôl arnynt. Efallai y byddai defnyddio cyn-lywodraethwyr o bob un o'r ysgolion unigol yn y modd hwn yn helpu aelodau'r corff llywodraethu ffederal newydd i gydweithio yn fwy effeithiol.

11. Offerynnau llywodraethu

Mae'n ofynnol bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod gan ffederasiwn o ysgolion offeryn llywodraethu wedi ei fabwysiadu erbyn y dyddiad ffedereiddio, sef dyddiad ymhen 125 diwrnod calendr, o leiaf, ar ôl y dyddiad y cyhoeddir y cynigion i ffedereiddio, neu 100 diwrnod calendr o leiaf os yw'r ffederasiwn a sefydlir yn ffederasiwn o ysgolion bach.

Mae rheoliad 43 o Reoliadau 2014 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chofnodi yn yr offeryn llywodraethu, sy'n cynnwys enw'r ffederasiwn ac enwau a chategorïau'r ysgolion a ffedereiddir.

Mae rheoliad 46 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn anfon copïau o'r offeryn llywodraethu, yn ddi-dâl, at Weinidogion Cymru a’r canlynol:

  • pob aelod o gorff llywodraethu’r ffederasiwn 
  • pennaeth y ffederasiwn os penodwyd pennaeth (os na wnaed penodiad o'r fath, pennaeth pob ysgol yn y ffederasiwn, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio)
  • yr esgobaeth neu'r corff crefyddol perthnasol (os yw'n briodol)

Rhaid rhoi gwybod hefyd i'r personau hyn am unrhyw amrywiadau yn yr offeryn, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • newidiadau yn niferoedd y llywodraethwyr
  • newid i enw’r ffederasiwn
  • enw unrhyw ysgol sy'n gadael y ffederasiwn, a'r dyddiad ymadael
  • y dyddiad y mae'r ffederasiwn i gael ei ddiddymu

Disgwylir i'r awdurdod lleol a'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ar unrhyw newidiadau yn yr offeryn llywodraethu. Fodd bynnag, mae rheoliad 44 (6) o Reoliadau 2014 yn ei gwneud yn eglur, pe digwyddai unrhyw anghydfod ynglŷn â'r wybodaeth a gynhwysir yn yr offeryn, mai'r awdurdod lleol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Er mwyn bodloni'r gofyniad i anfon copïau o'r offeryn llywodraethu at Weinidogion Cymru, dylid anfon copïau electronig mewn e-bost neu anfon copïau papur i:

Y Gangen Deddfwriaeth a Llywodraethiant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeirnod ffederasiwn i'r awdurdod lleol y mae'n rhaid ei roi ar ddatganiad CYBLD bob ysgol yn y ffederasiwn.

12. Penodi penaethiaid a dirprwy benaethiaid

Swyddi'r pennaeth a'r dirprwy bennaeth mewn ysgol yw'r penodiadau pwysicaf y mae'n rhaid i'r llywodraethwyr eu gwneud. Mae sicrhau pennaeth a dirprwy bennaeth sy'n meddu ar y profiad, yr wybodaeth a'r sgiliau priodol yn fater critigol os yw'r ysgol i wella, yn enwedig mewn ffederasiwn lle y gall un pennaeth a'i ddirprwy fod yn gyfrifol am nifer o ysgolion.

Er mwyn cynorthwyo ysgolion sy'n ffedereiddio i greu strwythur uwch reoli sy'n addas i'w hanghenion, bydd cyrff llywodraethu am sicrhau mai'r personau mwyaf addas a benodir i'r swyddi hyn. Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2014 yn caniatáu i gyrff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu swyddi penaethiaid a dirprwy benaethiaid yn genedlaethol o dan rai amgylchiadau, fel y nodir isod.

Penodi pennaeth a dirprwy bennaeth gweithredol ffederasiwn

Lle y caiff un pennaeth a dirprwy bennaeth gweithredol eu penodi fel rhai a fydd yn gyfrifol am yr holl ysgolion sy’n rhan o’r ffederasiwn, gallai pennaeth neu ddirprwy bennaeth presennol o fewn yr ysgolion sy’n cael eu ffedereiddio fynegi diddordeb mewn ymgeisio am y swyddi pennaeth neu ddirprwy bennaeth gweithredol. Pan fo mwy nag un pennaeth neu ddirprwy bennaeth presennol yn mynegi diddordeb mewn ymgeisio am y swydd wag o bennaeth neu ddirprwy bennaeth gweithredol, dylid cyfweld yr ymgeiswyr er mwyn dewis y person mwyaf priodol. Caiff yr ysgolion sy'n ffedereiddio sefydlu cyd-banel cyfweld a fyddai'n cynnwys llywodraethwyr o'r ysgolion sy'n ffedereiddio. Os nad oes ond un pennaeth neu ddirprwy bennaeth o'r ysgolion sydd i'w ffedereiddio yn mynegi diddordeb mewn ymgeisio am y swyddi, dylai'r cyrff llywodraethu, er gwaethaf hynny, ystyried cyfweld y person hwnnw er mwyn sicrhau y dewisir yr ymgeisydd cywir. 

Os nad oes pennaeth neu ddirprwy bennaeth yn mynegi diddordeb mewn ymgeisio am swyddi'r pennaeth a'r dirprwy bennaeth gweithredol, rhaid hysbysebu'r swyddi hynny yn genedlaethol yn unol â Rheoliadau Staffio 2006. Os bydd y pennaeth neu'r dirprwy bennaeth unigol yn gadael y swyddi ar ôl ffedereiddio, rhaid hysbysebu'r swyddi'n genedlaethol hefyd. Byddai angen i gyrff llywodraethu'r ysgolion sydd i'w ffedereiddio ffurfio panel penodi, a allai gynnwys llywodraethwyr sy'n cynrychioli'r ysgolion sy'n ffedereiddio, i sifftio'r ymgeiswyr a chynnal cyfweliadau.

Nid yw'r broses addasedig a nodir uchod yn caniatáu i ddirprwy bennaeth neu bennaeth dros dro ysgol yn y ffederasiwn, sydd wedi mynegi diddordeb yn swydd y pennaeth gweithredol, gael ei gyfweld ar gyfer y swydd honno. Er mwyn i ddirprwy bennaeth neu bennaeth dros dro ymgeisio am swydd pennaeth, rhaid hysbysebu'r swydd yn genedlaethol.

Penodi penaethiaid a dirprwy benaethiaid ym mhob un o'r ysgolion a ffedereiddiwyd

Pan fo cyrff llywodraethu'r ysgolion sydd i'w ffedereiddio yn penderfynu eu bod yn dymuno cadw pennaeth a dirprwy bennaeth ym mhob ysgol yn y ffederasiwn, a bod un o’r penaethiaid neu ddirprwy benaethiaid yn gadael y swydd ar ôl y ffedereiddio, ac mae un o’r penaethiaid neu’r dirprwy benaethiaid o fewn ysgol arall sy’n rhan o’r ffederasiwn â’r gallu i gamu i mewn i swydd wag y pennaeth neu’r dirprwy bennaeth, efallai y bydd y corff llywodraethu yn penderfynu peidio â hysbysebu’r swyddi hynny’n genedlaethol. Nid yw’r broses hon yn caniatáu i ddirprwy bennaeth drosglwyddo i swydd pennaeth sy’n wag. 

Os na fydd unrhyw bennaeth (neu ddirprwy bennaeth) o fewn un o’r ysgolion eraill sy’n rhan o’r ffederasiwn yn mynegi diddordeb yn y swyddi gwag, yna rhaid i'r swyddi pennaeth a dirprwy bennaeth ym mhob un o'r ysgolion unigol gael eu hysbysebu yn genedlaethol pan fyddant yn dod yn wag. Bydd rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn ffurfio panel penodi yn unol â Rheoliadau Staffio 2006 i sifftio'r ymgeiswyr a chynnal cyfweliadau.