Mae cymorth ychwanegol ar gael i bobl mewn argyfwng ariannol sy'n wynebu anawsterau gyda chost cynyddol olew gwresogi yng Nghymru.
Rydym eisoes yn darparu cymorth i'r rhai sy'n prynu tanwydd ar gyfer eiddo nad yw ar y grid ac sy'n profi tlodi tanwydd, trwy ein Cronfa Gymorth yn ôl Disgresiwn. Mae'r Gronfa hon yn galluogi unrhyw un sydd â chyfeiriad yng Nghymru ac sydd dros un ar bymtheg oed ac yn profi argyfwng ariannol annisgwyl i wneud cais am gyfraniad tuag at eu costau tanwydd oddi ar y grid.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ar unwaith swm y cyllid sydd ar gael ar gyfer olew gwresogi.
Mae'r swm sydd ar gael fesul dyfarniad ar gyfer olew gwresogi yn cael ei godi dros dro o £500 i £750, tra bo'r prisiau'n uwch.
Mae'r amlder o ran darparu'r taliadau hyn hefyd yn cynyddu, o unwaith i ddwywaith mewn cyfnod treigl o ddeuddeg mis, o leiaf dri mis ar wahân. Mae hyn yn cydnabod y ffaith y gallai fod angen cymorth eto ar rai pobl a dderbyniodd gymorth yn gynharach yn y gaeaf.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
Gan fod y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol yn creu ansicrwydd ar draws marchnadoedd y byd rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn wynebu anawsterau o ran eu costau byw, yn enwedig aelwydydd sy'n dibynnu ar olew i wresogi eu cartrefi.”
Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am £3.8 miliwn i Gymru yn 2026 i 2027 ac yn ystyried y ffordd orau i'w ddefnyddio.
Bydd y cyhoeddiad heddiw yn darparu cymorth ychwanegol ar unwaith i'r rhai sydd â'r angen mwyaf i ddelio â'r cynnydd mewn prisiau olew.
Mae'r Gronfa yn un o nifer o gynlluniau yng Nghymru sy'n helpu pobl gyda chostau byw.
Bydd angen sicrhau cefnogaeth gyda thanwydd oddi ar y grid trwy bartneriaid u Gronfa, mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol.
